llais y sir

Adran Busnes

Y Mis Mawrth Menter gorau erioed gyfer Sir Ddinbych

Mae cymuned fusnes Sir Ddinbych wedi cymryd rhan yn y mis busnes gorau erioed.

Yn ystod pedwerydd mis Mawrth Menter y Cyngor, bu bron i 530 o bobl gymryd rhan mewn 26 o ddigwyddiadau amrywiol, y ffigyrau uchaf hyd yma.

Gan weithio gyda darparwyr cefnogaeth partneriaeth, roedd mis menter y Cyngor yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddiant, yn cynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau am Fargen Dwf Gogledd Cymru sy'n werth £1bn, a digwyddiad bwyd i arddangos cynnyrch lleol ac uwchgynhadledd ar ganol trefi gydag arbenigwyr y diwydiant.

Penderfynwyd ar ffocws mis Mawrth Menter wedi i ni ofyn i fusnesau pa fath o gymorth yr oeddent ei eisiau. Fel Cyngor, rydym yn gwrando ar ein cymuned fusnes ac rydym yma i gefnogi entrepreneuriaid i dyfu eu busnesau.

Mae’r adborth o fis Mawrth Menter wedi bod yn gadarnhaol iawn a busnesau’n dweud y bydd y gefnogaeth a ddarparwyd o gymorth iddynt wrth symud ymlaen. Gydag amgylchedd masnachu heriol yn wynebu masnachwyr y Stryd Fawr ac ansicrwydd ynghylch Brexit, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddarparu cymorth i fusnesau Sir Ddinbych, er mwyn iddynt allu parhau i dyfu’r economi a chreu swyddi ledled y sir.

Roedd rhai o’r digwyddiadau eraill yn cynnwys sesiwn i fusnesau i fanteisio’n llawn ar Eisteddfod yr Urdd pan fydd yn cael ei chynnal yn Ninbych yn 2020, helpu busnesau â threth yn ogystal â hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol.

Roedd sefydliadau a fu’n gweithio gyda’r Cyngor yn cynnwys Busnes Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Dywedodd Fiona Evans o Snow in Summer: “Mae mis Mawrth Menter yn gyfle gwych i fusnesau fynychu digwyddiadau a gweithdai amrywiol yn rhad ac am ddim a fydd o fudd i’w busnesau.

“Mae’r gweithdai cyfryngau cymdeithasol yr wyf wedi’u mynychu wedi bod yn fuddiol iawn ar gyfer hyrwyddo’r siop, megis y gweithdy Instagram a hefyd digwyddiad yr Urdd.

“Byddwn i’n argymell mis Mawrth Menter, mae’n gyfle gwych i rwydweithio â busnesau lleol eraill.”

Mae Mis Mawrth Menter yn rhan o waith y Cyngor ar ddatblygu’r economi lleol i sicrhau fod cymunedau’r sir yn wydn a bod mynediad gan drigolion at nwyddau a gwasanaethau.

Dywedodd Hannah James, sy’n berchen ar Clwyd Chambers yn y Rhyl: “Roedd digwyddiadau gwych yn ystod mis Mawrth Menter. Mae cyngor marchnata yn hynod werthfawr i fusnesau bach ac mae’r digwyddiadau yn rhoi mynediad at gyngor o safon ar lefel agored a pherthnasol.

“Byddwn i’n argymell bod busnesau yn cymryd mantais o'r hyfforddiant a’r gefnogaeth a ddarperir gan y Cyngor.”

‘Blas Lleol – Cwrdd â’r Cynhyrchydd’ yn arddangos cynhyrchwyr bwyd lleol

Mynychodd mwy na 100 o brynwyr o fusnesau lletygarwch o bob lliw a llun yr arddangosfa cynnyrch lleol.

Trefnwyd y trydydd digwyddiad ‘Blas Lleol – Cwrdd â’r Cynhyrchydd’ gan Glwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy a grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd, mewn cydweithrediad â thîm Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ddinbych. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty Castell Rhuthun fel rhan o fis Mawrth Menter Sir Ddinbych.

Trwy ‘Blas Lleol - Cwrdd â'r Cynhyrchydd’ fe gafodd bwytai, tafarndai, caffis a busnesau manwerthu bwyd ledled Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig y cyfle i flasu bwyd a diod gan fusnesau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.

Eleni roedd 24 o gynhyrchwyr bwyd a diod wedi cymryd rhan gyda stondinau yn arddangos eu cynnyrch, yn fwydydd wedi'u pobi'n draddodiadol, dewisiadau heb glwten, cigoedd, bwydydd fegan, seidr, cwrw, gin a gwirodydd, hufen iâ i gyd wedi'u cynhyrchu'n lleol yn ogystal â llawer mwy.

Roedd stondinau gan sefydliadau cymorth i fusnesau hefyd yn cynnwys Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a Chymraeg ym Myd Busnes. Cefnogwyd y cyfan yn ariannol gan gynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych gan roi’r cyfle i fusnesau drafod syniadau am dwf, datblygiad neu arallgyfeirio.

Ar y dydd cafwyd sesiynau coginio gan Robert Dowell-Brown sy’n brif gogydd Bwyty Nant Y Felin a bu’n tynnu dŵr o ddannedd pawb wrth ddangos syniadau ar gyfer brecwast, cinio a canapés yn defnyddio cynnyrch lleol.

Meddai Lesley Haythorne o Gin Pant y Foel: “Siaradais gyda 14 o gwsmeriaid posib yn y digwyddiad ac rydym eisoes wedi sicrhau dau werthiant yn barod. Felly gyda dau gwsmer newydd yn barod rydym am gysylltu gyda’r busnesau eraill y gwnaethom eu cyfarfod ar y dydd."

Cynhyrchydd arall oedd Martin Godfrey a’i gwmni Hafod Brewing Company o’r Wyddgrug, meddai: “Roedd yn ddigwyddiad hynod gynhyrchiol i ni ac roedd hi'n grêt cael cyfarfod cwsmeriaid hen a newydd a chael dangos ein cynnyrch wyneb i wyneb."

Dywedodd Robyn Lovelock o Glwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy: “Roedd yn ddigwyddiad gwych ac yn gyfle i ddangos y dewis a safon y cynnyrch sydd gennym yn ein rhanbarth. P’un ai fod prynwyr yn edrych am gytundebau mawr hirdymor neu eisiau newid rhai cynnyrch allweddol gyda chynnyrch lleol yn lle, rydym wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw allu siarad a gwneud busnes gyda'r cynhyrchwyr eu hunain - gan helpu i gadw'r arian yn ein heconomi leol."

Meddai Jane Clough o Grŵp Bryniau Clwyd: “Roedd cynnwrf mawr trwy’r holl ddigwyddiad a'r gobaith yw bod sylfaen wedi’i osod ar gyfer blwyddyn arall wych o fwyd a lletygarwch yn y rhanbarth. Mae busnesau lletygarwch yn prysur sylweddoli’r budd o ddefnyddio cynnyrch lleol wrth i ymwelwyr a phobl leol edrych am flas o’r ardal ac rydym yn eiddgar i wybod tarddiad ein bwyd a'n diod."

Mae’r ddau grŵp a drefnodd y digwyddiad yn gobeithio datblygu'r digwyddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda hyd yn oed mwy o gynhyrchwyr a lleoliad newydd. Maent hefyd yn rhan o dîm sydd yn gyfrifol am ddarparu Blas Gogledd Ddwyrain Cymru, mis cyfan sy'n dathlu bwyd a diod leol i'w lansio yn Hydref 2019.

Busnesau dan Arweiniad y Gymuned a Chynigion Cyfranddaliadau Cymunedol: beth yw’r Opsiynau?

Hoffai Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych eich gwahodd i’r digwyddiad canlynol 

Busnesau dan Arweiniad y Gymuned a Chynigion Cyfranddaliadau Cymunedol: beth yw’r Opsiynau?

Dydd Iau 16 Mai 2019 9.30am – 2pm

Neuadd Tref Dinbych, Lôn Crown, Dinbych, LL16 3TB 

Gall busnesau dan arweiniad y gymuned a chynigion cyfranddaliadau cymunedol drawsnewid ardaloedd, gan alluogi pobl leol i fynd i’r afael â heriau mawr fel unigrwydd a phrinder gwasanaethau. Pobl yn y gymuned sy’n rheoli’r rhain, ac mae’r holl fasnachu’n digwydd yn bennaf er budd y gymuned.

Yn y digwyddiad hwn cyflwynir cyngor arbenigol gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a’r dysg a rannwyd ar sail enghreifftiau lleol o arferion da, i roi darlun gwerth chweil o’r gwahanol ddewisiadau y gellid eu hystyried.

Byddwn hefyd yn cynnal ffair wybodaeth yn y digwyddiad, a bydd pobl o’r mudiadau canlynol wrth law i gael sgwrs am eich syniadau a’r cymorth y gallent ei gynnig gan gynnwys: Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Canolfan Gydweithredol Cymru, Pub is the Hub, Sefydliad Plunkett, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru a Cadwyn Clwyd.

Darperir lluniaeth ysgafn. 

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer Aelodau Cynghorau Tref, Dinas a Chymunedau, Cynghorwyr Sir ac aelodau o grwpiau gwirfoddol sydd â diddordeb mewn archwilio busnesau a arweinir gan y gymuned. 

Os nad ydych yn aelod o grŵp gwirfoddol, ond yn breswylydd yn Sir Ddinbych sydd â diddordeb mewn mynychu, cysylltwch â ni.

Mae gofyn i chi gadarnhau a fyddwch chi’n dod neu beidio drwy anfon e-bost at fran.rhodes@sirddinbych.gov.uk.  Nodwch fod tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn brin, felly cofrestrwch eich diddordeb cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eich siomi.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid