llais y sir

Drewyn y cawr yn deffro yng Nghorwen

Ddydd Sadwrn 23 Mawrth daeth cymuned leol ac ymwelwyr Corwen ynghyd i gymryd rhan yn nigwyddiad Deffro Cawr Corwen.

Fel rhan o ddathliadau ‘Blwyddyn Darganfod’ Croeso Cymru, roedd hwn yn gyfle i fwynhau mythau a chwedlau’r ardal a stori Drewyn y cawr. Daeth dros 200 o bobl i Gorwen i helpu â’r gwaith o ddeffro’r cawr a gwylio celf tir yn cael ei greu gyda chyfres o ffrwydradau.

Cafodd ymwelwyr eu tywys i fyny i olygfan Pen-y-Pigyn yn barod ar gyfer y digwyddiad rhyfeddol, ac ar y ffordd buont yn darganfod gwrthrychau anferth a ollyngwyd yno gan Drewyn y cawr.

Ar ôl cyrraedd yr olygfan, cyfrifoldeb y dorf oedd deffro Drewyn trwy wneud cymaint o sŵn â phosibl gyda chlychau eglwys, chwibanau a thrwy ganu. Ac ar ôl deffro Drewyn cafodd yr ymwelwyr weld cyfres o ffrwydradau ar draws y tirlun a oedd yn creu’r cysyniad a’r ddelwedd o olion troed enfawr. I gloi ymddangosodd amlinelliad o’r cawr Drewyn yn Nôl Corwenna yng nghanol Corwen wrth iddo gael ei roi yn ôl i orffwys.

Mae Deffro Cawr Corwen yn cael ei arwain gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy mewn partneriaeth â’r gymuned leol ac mae wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cysyniad y tu ôl i Ddeffro Cawr Corwen ei ddatblygu a’i ddylunio gan yr artist Gordon Rogers o Structure & Agency ochr yn ochr â’r peiriannydd John Kettles. ‘Ymddangosodd Drewyn gyda’r un egni sy'n siapio'r dirwedd a'r un parchedig ofn sy'n troi atgofion yn chwedlau. Yn ffodus i drigolion Corwen mae’n greadur llawer mwy caredig na nifer o’r cewri eraill a oedd yn arfer byw yn Nyffryn Dyfrdwy. Hefyd yn wahanol i nifer o’i gymdogion ni chafodd ei ladd gan gleddyf sant neu frenin. Wrth ddeffro mae’r cawr wedi dechrau’r bennod nesaf yn ei stori ac mae’n bosibl y bydd y gwrthrychau a ollyngodd yn rhoi rhywfaint o gliwiau i’w ddyfodol.'

Meddai Ceri Lloyd, Swyddog Datblygu Cynaliadwy AHNE ‘Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu’r cysyniad o Drewyn a'r digwyddiad hwn yn benodol, ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl allan yng Nghorwen yn mwynhau gweld y gwaith celf unigryw hwn yn cael ei greu. Mae Drewyn wedi ymddangos eto yn Nôl Corwenna yng nghanol Corwen a bydd yn parhau i fod yn rhan o’r dirwedd ac yn newid gyda’r tymhorau. Rydym yn annog ymwelwyr i fynd draw i Ben-y-Pigyn i fwynhau’r olygfa a'r gwaith celf enfawr chwedlonol hwn.”

Bydd blodau gwyllt amrywiol yn cael eu plannu ar y gwaith celf a bydd yn newid gyda threigl y tymhorau. Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i fynd draw i Ben-y-Pigyn i weld y gwaith celf a byddant hefyd yn gallu canfod y gwrthrychau enfawr y gadawodd Drewyn ar ei ôl ar y daith i fyny. Am fwy o wybodaeth am sut i gyrraedd yno ewch i wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid