llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 2

Gofal Cymunedol yn y Goedwig

Mae llwybr newydd dymunol iawn wedi ei greu yn Rhos y Coed sydd yn uno'r Ganolfan Gymuned yn Nhrefor ger Llangollen, â'r Gamlas ger Pont Postles. Mae llawer o breswylwyr wedi bod yn gobeithio cael llwybr trwy’r coetir hwn ers sawl blwyddyn.

Mae’r llwybr yn creu cyswllt uniongyrchol i’r gymuned at y Safle Treftadaeth y Byd trwy hen ardal ddiwydiannol lle mae natur wedi ymgartrefu a choetir wedi adfywio’n naturiol. Mae’r llwybr newydd wedi cael ei enwi yn “Llwybr Clincer” gan fod carreg glincer fawr ger y gamlas sy’n ein hatgoffa o orffennol diwydiannol. Mae nifer o gerrig glincer llai yn y coetir hefyd. Clincer yw cynnyrch gwastraff y broses fwyndoddi a ddefnyddiwyd yn y diwydiant haearn. Mae’r garreg glincer fawr yn edrych fel awyrfaen enfawr neu byddai’n hawdd ei chamgymryd am wreiddyn coeden – mae’n siŵr bod llawer o bobl wedi cerdded heibio heb ddeall arwyddocâd ei bodolaeth mewn gwirionedd. Y bwriad yw cadw’r llystyfiant o amgylch y garreg glincer a darparu dehongliad a mainc i roi siawns i bobl graffu’n dawel arni wrth ochr y gamlas.

Llwyddwyd i gael y llwybr newydd hwn o ganlyniad i brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ sy’n canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Mae’n defnyddio’r thema teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn nodwedd o'r ardal sy’n cynnwys y Gamlas, Ffordd A5 Telford ac Afon Dyfrdwy. Bydd y prosiect pum mlynedd yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol ac yn cynnwys cymunedau yn ei werthfawrogiad a'i reolaeth, wrth ail-ddehongli'r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Yn dilyn creu y llwybr newydd, mae’r grwpiau Sgowtiaid lleol (Cubs a Beavers) o Drefor wedi bod yn rhan o gynllun i blannu 47 coeden newydd yn lle’r 10 goeden a gafodd eu symud i greu’r llwybr. Bu i un ar ddeg o blant a’u rhieni dreulio bore yn eu gwyliau hanner tymor yn gwneud eu rhan i wella eu hamgylchedd leol, a gefnogwyd gan eu harweinyddion gwych. Dywedodd Elaine Anderson, Arweinydd Grŵp Sgowtiaid “Cafodd y plant amser da ac maent yn edrych ymlaen at wylio eu coed yn tyfu, bydd yr ymdrech y maent wedi'i roi yn mynd tuag at eu bathodyn helpu'r gymuned, cawsom fore da iawn."

Mae’r coetir wedi profi problemau â thipio anghyfreithlon yn y gorffennol a daethpwyd o hyd i bob math o sbwriel yn cynnwys boneti ceir a photiau blodau. Daeth gwir raddau’r broblem sbwriel i’r amlwg pan grëwyd y llwybr newydd drwy’r coetir yn cysylltu’r ganolfan gymunedol â’r gamlas a galluogi pobl i fynd yn agos at y clincer anferth, sydd yn enghraifft o dipio anghyfreithlon hanesyddol ynddo’i hun, sy’n dyddio’n ôl i 1870 ac yn un o olion y diwydiant dur lleol!

Ar ôl canfod y sbwriel, cysylltodd ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ â ‘Cadwch Gymru'n Daclus’, i drefnu digwyddiad glanhau cymunedol fel rhan o’u hymgyrch flynyddol ‘Gwanwyn Glân Cymru’, sydd yn annog pobl ar draws Gymru i ddod ynghyd er mwyn helpu i lanhau ein gwlad. Daeth 10 o unigolion lleol , yn cynnwys 4 o blant, ynghyd ar fore Sadwrn i lanhau’r coetir a’i wella ar gyfer pobl a bywyd gwyllt ac erbyn y diwedd casglwyd 20 o fagiau sbwriel llawn ac eitemau mawr eraill.

Dywedodd Sallyanne Hall, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Ein Tirlun Darluniadwy - "Roedd yn braf gweld y gymuned leol yn bod yn rhan o'r broses o blannu coed a hel sbwriel, ac rwy'n falch o ddweud bod ein Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy wedi gallu darparu llwybr dymunol drwy’r goedwig. Mae tim y prosiect yn gobeithio fydd hyn yn ddechrau i nifer o gyfleoedd i bobl Trefor ddod at ei gilydd a mwynhau'r amgylchedd gwych sydd ar stepen eu drws “.

Elaine Anderson, Arweinydd Sgowtiaid gydag Olly, Sgowt ‘Cub’ ifanc a’i ŵyr Toby yn plannu coeden bedwen arian

Y pentwr sbwriel terfynol

Llwybr y Clinker

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...