llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Drewyn y cawr yn deffro yng Nghorwen

Ddydd Sadwrn 23 Mawrth daeth cymuned leol ac ymwelwyr Corwen ynghyd i gymryd rhan yn nigwyddiad Deffro Cawr Corwen.

Fel rhan o ddathliadau ‘Blwyddyn Darganfod’ Croeso Cymru, roedd hwn yn gyfle i fwynhau mythau a chwedlau’r ardal a stori Drewyn y cawr. Daeth dros 200 o bobl i Gorwen i helpu â’r gwaith o ddeffro’r cawr a gwylio celf tir yn cael ei greu gyda chyfres o ffrwydradau.

Cafodd ymwelwyr eu tywys i fyny i olygfan Pen-y-Pigyn yn barod ar gyfer y digwyddiad rhyfeddol, ac ar y ffordd buont yn darganfod gwrthrychau anferth a ollyngwyd yno gan Drewyn y cawr.

Ar ôl cyrraedd yr olygfan, cyfrifoldeb y dorf oedd deffro Drewyn trwy wneud cymaint o sŵn â phosibl gyda chlychau eglwys, chwibanau a thrwy ganu. Ac ar ôl deffro Drewyn cafodd yr ymwelwyr weld cyfres o ffrwydradau ar draws y tirlun a oedd yn creu’r cysyniad a’r ddelwedd o olion troed enfawr. I gloi ymddangosodd amlinelliad o’r cawr Drewyn yn Nôl Corwenna yng nghanol Corwen wrth iddo gael ei roi yn ôl i orffwys.

Mae Deffro Cawr Corwen yn cael ei arwain gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy mewn partneriaeth â’r gymuned leol ac mae wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cysyniad y tu ôl i Ddeffro Cawr Corwen ei ddatblygu a’i ddylunio gan yr artist Gordon Rogers o Structure & Agency ochr yn ochr â’r peiriannydd John Kettles. ‘Ymddangosodd Drewyn gyda’r un egni sy'n siapio'r dirwedd a'r un parchedig ofn sy'n troi atgofion yn chwedlau. Yn ffodus i drigolion Corwen mae’n greadur llawer mwy caredig na nifer o’r cewri eraill a oedd yn arfer byw yn Nyffryn Dyfrdwy. Hefyd yn wahanol i nifer o’i gymdogion ni chafodd ei ladd gan gleddyf sant neu frenin. Wrth ddeffro mae’r cawr wedi dechrau’r bennod nesaf yn ei stori ac mae’n bosibl y bydd y gwrthrychau a ollyngodd yn rhoi rhywfaint o gliwiau i’w ddyfodol.'

Meddai Ceri Lloyd, Swyddog Datblygu Cynaliadwy AHNE ‘Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu’r cysyniad o Drewyn a'r digwyddiad hwn yn benodol, ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl allan yng Nghorwen yn mwynhau gweld y gwaith celf unigryw hwn yn cael ei greu. Mae Drewyn wedi ymddangos eto yn Nôl Corwenna yng nghanol Corwen a bydd yn parhau i fod yn rhan o’r dirwedd ac yn newid gyda’r tymhorau. Rydym yn annog ymwelwyr i fynd draw i Ben-y-Pigyn i fwynhau’r olygfa a'r gwaith celf enfawr chwedlonol hwn.”

Bydd blodau gwyllt amrywiol yn cael eu plannu ar y gwaith celf a bydd yn newid gyda threigl y tymhorau. Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i fynd draw i Ben-y-Pigyn i weld y gwaith celf a byddant hefyd yn gallu canfod y gwrthrychau enfawr y gadawodd Drewyn ar ei ôl ar y daith i fyny. Am fwy o wybodaeth am sut i gyrraedd yno ewch i wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Gofal Cymunedol yn y Goedwig

Mae llwybr newydd dymunol iawn wedi ei greu yn Rhos y Coed sydd yn uno'r Ganolfan Gymuned yn Nhrefor ger Llangollen, â'r Gamlas ger Pont Postles. Mae llawer o breswylwyr wedi bod yn gobeithio cael llwybr trwy’r coetir hwn ers sawl blwyddyn.

Mae’r llwybr yn creu cyswllt uniongyrchol i’r gymuned at y Safle Treftadaeth y Byd trwy hen ardal ddiwydiannol lle mae natur wedi ymgartrefu a choetir wedi adfywio’n naturiol. Mae’r llwybr newydd wedi cael ei enwi yn “Llwybr Clincer” gan fod carreg glincer fawr ger y gamlas sy’n ein hatgoffa o orffennol diwydiannol. Mae nifer o gerrig glincer llai yn y coetir hefyd. Clincer yw cynnyrch gwastraff y broses fwyndoddi a ddefnyddiwyd yn y diwydiant haearn. Mae’r garreg glincer fawr yn edrych fel awyrfaen enfawr neu byddai’n hawdd ei chamgymryd am wreiddyn coeden – mae’n siŵr bod llawer o bobl wedi cerdded heibio heb ddeall arwyddocâd ei bodolaeth mewn gwirionedd. Y bwriad yw cadw’r llystyfiant o amgylch y garreg glincer a darparu dehongliad a mainc i roi siawns i bobl graffu’n dawel arni wrth ochr y gamlas.

Llwyddwyd i gael y llwybr newydd hwn o ganlyniad i brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ sy’n canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Mae’n defnyddio’r thema teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn nodwedd o'r ardal sy’n cynnwys y Gamlas, Ffordd A5 Telford ac Afon Dyfrdwy. Bydd y prosiect pum mlynedd yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol ac yn cynnwys cymunedau yn ei werthfawrogiad a'i reolaeth, wrth ail-ddehongli'r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Yn dilyn creu y llwybr newydd, mae’r grwpiau Sgowtiaid lleol (Cubs a Beavers) o Drefor wedi bod yn rhan o gynllun i blannu 47 coeden newydd yn lle’r 10 goeden a gafodd eu symud i greu’r llwybr. Bu i un ar ddeg o blant a’u rhieni dreulio bore yn eu gwyliau hanner tymor yn gwneud eu rhan i wella eu hamgylchedd leol, a gefnogwyd gan eu harweinyddion gwych. Dywedodd Elaine Anderson, Arweinydd Grŵp Sgowtiaid “Cafodd y plant amser da ac maent yn edrych ymlaen at wylio eu coed yn tyfu, bydd yr ymdrech y maent wedi'i roi yn mynd tuag at eu bathodyn helpu'r gymuned, cawsom fore da iawn."

Mae’r coetir wedi profi problemau â thipio anghyfreithlon yn y gorffennol a daethpwyd o hyd i bob math o sbwriel yn cynnwys boneti ceir a photiau blodau. Daeth gwir raddau’r broblem sbwriel i’r amlwg pan grëwyd y llwybr newydd drwy’r coetir yn cysylltu’r ganolfan gymunedol â’r gamlas a galluogi pobl i fynd yn agos at y clincer anferth, sydd yn enghraifft o dipio anghyfreithlon hanesyddol ynddo’i hun, sy’n dyddio’n ôl i 1870 ac yn un o olion y diwydiant dur lleol!

Ar ôl canfod y sbwriel, cysylltodd ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ â ‘Cadwch Gymru'n Daclus’, i drefnu digwyddiad glanhau cymunedol fel rhan o’u hymgyrch flynyddol ‘Gwanwyn Glân Cymru’, sydd yn annog pobl ar draws Gymru i ddod ynghyd er mwyn helpu i lanhau ein gwlad. Daeth 10 o unigolion lleol , yn cynnwys 4 o blant, ynghyd ar fore Sadwrn i lanhau’r coetir a’i wella ar gyfer pobl a bywyd gwyllt ac erbyn y diwedd casglwyd 20 o fagiau sbwriel llawn ac eitemau mawr eraill.

Dywedodd Sallyanne Hall, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Ein Tirlun Darluniadwy - "Roedd yn braf gweld y gymuned leol yn bod yn rhan o'r broses o blannu coed a hel sbwriel, ac rwy'n falch o ddweud bod ein Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy wedi gallu darparu llwybr dymunol drwy’r goedwig. Mae tim y prosiect yn gobeithio fydd hyn yn ddechrau i nifer o gyfleoedd i bobl Trefor ddod at ei gilydd a mwynhau'r amgylchedd gwych sydd ar stepen eu drws “.

Elaine Anderson, Arweinydd Sgowtiaid gydag Olly, Sgowt ‘Cub’ ifanc a’i ŵyr Toby yn plannu coeden bedwen arian

Y pentwr sbwriel terfynol

Llwybr y Clinker

O Gwmpas

Y chi a’r olygfa. Weithiau dyna’r cyfan sydd ei angen arnoch a chael diwrnod yn yr awyr agored. 

Mae mynd am dro’n ddigymell ar draws gweundir grug yn nannedd y gwynt neu drwy dyffrynnoedd afonydd yn gallu’ch helpu i fwrw’ch blinder, i roi ymdeimlad gwych o dawelwch ichi a’ch rhoi’n ôl mewn cysylltiad â’r chi go iawn.

Ond weithiau efallai yr hoffech rywbeth ychydig mwy trefnus. Efallai eich bod yn dyheu am hwyl a chwmni. Ac efallai eich bod hyd yn oed am ddod â’r plant efo chi.

Dyna paham ein bod yn cynhyrchu rhaglen digwyddiadau o’r enw “O Gwmpas” bob blwyddyn. Mae’n orlawn o ddigwyddiadau teuluol, teithiau cerdded tywysedig a phrosiectau ymarferol. Ac ni fyddant yn costio ceiniog ichi.

Felly os ydych ag eisiau gweld bryngaer, hel llus, gwylio meteoryn, dod o hyd i ystlum neu hela rhywfaint o bryfed, lawrlwythwch y llyfryn isod. 

Mae yna ddigwyddiad ar gyfer pawb ynddo.

I archebu lle neu i gael gwybod mwy, ffoniwch ni ar 01352 810614 neu e-bostiwch loggerheads.countrypark@sirddinbych.gov.uk.

Byddwch yn berchnogion cŵn cyfrifol yng nghefn gwlad Sir Ddinbych

Mae’r Cyngor ac Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi dod at ei gilydd i lansio’r ymgyrch eleni i annog pobl i gadw eu cŵn ar denynnau mewn cefn gwlad agored.

Cynhelir yr ymgyrch Dos a'r Tennyn am y trydydd tro eleni a chaiff ei lansio cyn dechrau gwyliau’r Pasg.  Mae’r ymgyrch yn targedu trigolion lleol ac ymwelwyr i gefn gwlad ac eisiau ychwanegu at lwyddiant cynllun y flwyddyn ddiwethaf.

Cynhyrchwyd fideos i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, erthyglau yn y wasg leol ac ar-lein, a meithrin cyswllt yn uniongyrchol â phobl sy’n ymweld â chefn gwlad godidog y sir.

Roedden ni wrth ein boddau gan lwyddiant ymgyrch y llynedd ac yn ôl pob golwg roedd pobl wedi gwrando ar y neges. Fe welom ni lawer mwy o bobl yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn mynd â’u cŵn ar denynnau yng nghefn gwlad – diolchwn iddynt am eu hymdrechion.

Ond mae hon yn neges sydd angen ei hailadrodd dro ar ôl tro i gael yr effaith fwyaf posibl, felly byddwn yn rhannu negeseuon ein hymgyrch gyda phobl leol ac ymwelwyr ac yn annog y lleiafrif bychan sy'n torri'r gyfraith i newid eu ffyrdd.

Rydym wedi gweld rhai achosion lle mae defaid wedi cael eu hanafu neu eu lladd o ganlyniad i ymosodiadau gan gŵn oddi ar eu tenyn. Rydyn ni wedi siarad â ffermwyr sydd wedi colli defaid neu gael cŵn yn ymosod arnynt.  Mae hyn yn rhywbeth sy’n hawdd inni ei osgoi drwy gydweithio â pherchnogion cŵn a throsglwyddo’r neges y dylid cadw cŵn ar denyn.  Fe allwn ni wneud gwahaniaeth go iawn.

Rydym yn deall yn iawn pam fod pobl eisiau mynd am dro yn ein cefn gwlad godidog yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae llawer o gerddwyr yn dod â chŵn efo nhw ac er ein bod eisiau i hyn barhau, y cyfan rydym yn ei ofyn yw bod pobl yn parchu’r Cod Cefn Gwlad.

Mae digonedd o arwyddion i’w rhybuddio a gwybodaeth am fynd a chŵn ar denynnau a byddwn o gwmpas y lle dros y misoedd nesaf yn siarad â pherchnogion a rhannu ein neges â chynulleidfa mor eang â phosibl.”

Dyma Ceri i esbonio ychydig yn fwy ...

Ein Tirlun Darluniadwy

Dyma’r gacen hyfryd o Gastell Dinas Bran a gafodd eu wneud yn arbenning i lansiad swyddogol prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ yn Ffair y Gwanwyn ym Mhlas Newydd, dydd Sadwrn 13 Ebrill 2019.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid