Y Cynllun Corfforaethol
Nod Cynllun Corfforaethol 2017-2022 y Cyngor yw gwella bywydau trigolion mewn pum maes allweddol. Mae’r Cynllun yn cynnwys £135 miliwn o fuddsoddiad yn:
- Amgylchedd
- Pobl Ifanc
- Tai
- Cymunedau wedi eu cysylltu
- Cymunedau cryf.
Mae’r prosiectau’n cynnwys adeiladu tai cyngor newydd, buddsoddi mewn cludiant a seilwaith digidol, amddiffyn a gwella'r amgylchedd a helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.
Hyd yma, mae dros 3,000 o ddisgyblion wedi elwa ar adeiladau ysgol newydd, ac mae miloedd o goed wedi eu plannu fel rhan o gynllun i greu sawl hafan werdd yn nhrefi’r sir.
Mae’r prosiectau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn y Rhyl a chymorth ychwanegol i’r bobl hynny sy’n chwilio am waith neu eisiau datblygu eu gyrfaoedd.
Yn yr adran hon yn Llais y Sir, gallwch ddarllen am bob prosiect sy’n cyfrannu at y pum maes allweddol dan ein Cynllun Corfforaethol:
Am fwy o wybodaeth ynglyn a'r Cynllun Corfforaethol, ewch i'n gwefan.