llais y sir

Gyrfa newydd i Liam

Penderfynodd Liam Blazey, 36, ei fod am newid gyrfa ar ôl sylweddoli bod y swyddi oedd o ddiddordeb iddo yn galw am sgiliau nad oedd ganddo bryd hynny.

Erbyn hyn, wedi astudio am bedair blynedd ar gampws Llaneurgain Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn astudio Bywyd Gwyllt a Bioleg Planhigion, mae wedi sicrhau swydd gyda'r Cyngor, fel swyddog bioamrywiaeth - ac mae’n gyfrifol am amddiffyn a datblygu ystod eang o rywogaethau ar draws cynefinoedd niferus y sir. 

Dywed: “Efallai am fy mod i rywfaint yn hŷn na rhai myfyrwyr, ac ‘mod i wedi bod mewn swyddi nad oeddwn i’n eu mwynhau, rai blynyddoedd yn ôl roeddwn i’n gwybod fy mod i am newid - roeddwn i am gael swydd ble roeddwn i’n teimlo fy mod i’n gwneud gwahaniaeth.

“Cyn dechrau yn y brifysgol, roeddwn i’n gwybod fy mod i am weithio yn yr amgylchedd. Roeddwn i’n darllen hysbysebion swyddi a doedd gen i ddim y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y math o swyddi oedd yn mynd â’m bryd - felly fe benderfynais i ddechrau adeiladu fy CV. Os ydw i’n meddwl yn ôl chwe blynedd i nawr, rydw i’n berson hollol wahanol. Dod i’r brifysgol oedd y peth gorau wnes i erioed - yn enwedig Glyndŵr a champws Llaneurgain. Does dim campws fel yma unman arall!”

Wrth astudio, ymgymerodd Liam ag ystod o gyfleoedd gwirfoddoli ar draws Gogledd Cymru gyda chymorth y brifysgol i’w trefnu - gan weithio ar arolygon i ystod o fudiadau a chleientiaid. Yn ystod yr amser yna, helpodd i fonitro a chasglu storfa o wybodaeth am fywyd gwyllt Gogledd Cymru - profiad a fu’n fuddiol iawn iddo pan ddaeth hi’n amser sicrhau’r swydd sydd bellach ganddo gyda’r cyngor. Ychwanega: “Roedd gen i ddarlithwyr sydd yn hynod gefnogol a wyddai lawer am eu meysydd ac felly’n barod iawn i helpu, ac fe fues i’n gwirfoddoli ochr yn ochr â chadwraethwyr gwybodus tu hwnt, a staff oedd hefyd yn gefnogol iawn. Rhowch y ddau beth yn gyda’i gilydd ac maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Fe ges i’r swydd union wedi imi raddio o Brifysgol Glyndwr, mis Tachwedd diwethaf. Mae’n waith caled - ond rydw i’n hapus iawn. Yn bendant mae hi wedi bod yn werth pob ymdrech.”

“Does dim ffasiwn beth â diwrnod nodweddiadol. Tros y gaeaf rydw i dan do llawer mwy - yn ystod yr haf mae’r tywydd yn golygu fy mod llawer mwy tebygol o fod allan mewn rhyw fan neu’i gilydd  yn cynnal arolygon ar rywogaethau.

“Mae yna adran flaengar iawn ar yr amgylchedd yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor, ble mae pum prif rywogaeth yn cael eu henwi ac rydw i’n monitro eu poblogaeth a’u hamddiffyn mewn gwahanol rannau o’r sir.

“Y rhain yw Madfall y Twyni, y Wiber, y Rugiar Ddu a’r Fôr-wennol Fach, a’n poblogaethau o wenyn - ac rwy’n cynnwys ein holl beillwyr yn hynny! Mae gennym ni hefyd nifer o rywogaethau arbenigol eraill megis y Pathew a Llyffant y Brwyn sydd hefyd yn galw am fonitro parhaus.

“Mae’r Swyddfa yn Loggerheads ond rwy’n crwydro’r sir i gyd, o draeth Gronant i Erddi Plas Newydd yn Llangollen, neu o Landegla yr holl ffordd i Goed y Morfa yn Y Rhyl.

“Rydw i wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i ddod i helpu mewn digwyddiadau felly mae llawer o ffyrdd gwahanol i bobl ifanc ddod i gymryd rhan.”

Mae helpu i addysgu pobl am y gwaith sy’n cael ei wneud yn Sir Ddinbych yn rhan greiddiol o swydd Liam - boed hynny yn weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr ar y safle, siarad gydag ysgolion am ymgyrch ‘Cyfeillgar i Wenyn’ y sir - neu hyd yn oed ddychwelyd i’r brifysgol i annog eraill i ddilyn yn ôl ei draed. Ychwanega: “Mae wedi bod yn ddiddorol- rydw i eisoes wedi dod yn ôl yma i Brifysgol Glyndŵr ac wedi annerch y myfyrwyr cyfredol er mwyn iddynt ddod i wybod am gyfleoedd sydd ar gael ar rai o’r prosiectau sydd ar fynd ar hyn o bryd yn Sir Ddinbych.”

“Mae’r Cyngor yn bositif tu hwnt o ran cadwraeth - er enghraifft, nhw yw’r cyngor cyntaf i ddynodi gwarchodfa natur ochr y ffordd ar gyfer anifail a nhw yw’r trydydd awdurdod lleol yng Nghymru i dderbyn Statws Cyfeillgar i Wenyn. Nes i mi gael y swydd gyda nhw doeddwn i ddim yn gwybod am bopeth oedd yn digwydd - felly nawr rwy’n dweud wrth bawb!”

Dywed Denise Yorke, sydd yn ddarlithydd mewn Gwyddor Anifeiliaid a Chadwraeth ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae helpu myfyrwyr i adeiladu a datblygu sgiliau newydd, i fynd â’r sgiliau hynny i’r gymuned a’u defnyddio mewn lleoliadau go iawn wrth graidd yr hyn a wnawn yma yn y brifysgol.

“Wrth gyfuno hynny gyda rhai o’r cannoedd o gyfleoedd gallwn helpu i leoli myfyrwyr ar brosiectau ar draws y rhanbarth yn astudio a monitro bywyd gwyllt, mae’n rhoi cyfle gwirioneddol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer yr yrfa o’u dewis.

“Mae Liam yn brawf o hynny - rydym ni wrth ein bodd ei fod wedi sicrhau rôl hanfodol yn hybu bioamrywiaeth Sir Ddinbych, a gwych yw gweld ei lwyddiant.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid