llais y sir

Sir Ddinbych yn bwriadu mynd i'r afael â chartrefi gwag

Mae cynllun arloesol i ddod â 500 o gartrefi gwag yn Sir Ddinbych yn ôl i ddefnydd wedi ei lansio.

Bydd y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth, yn cymryd agwedd ragweithiol er mwyn mynd i’r afael â safleoedd sy’n achosi trafferthion, a gweithio'n agos gyda landlordiaid er mwyn lleihau'r niferoedd o gartrefi gwag yn y sir fel rhan o Gynllun Cyflawni Cartrefi Gwag y Sir.

Mae’n bosib fod cartrefi yn wag am nifer o resymau, gan gynnwys trafferthion yn olrhain neu ddarganfod pwy yw’r perchenogion, methu gwerthu, anghydfod teuluol, ac mewn achosion eraill mae’n bosib y bydd yr eiddo angen gwaith sylweddol arno, neu mae'n bosib fod gan y perchennog syniad afrealistig am ei werth.

Bwriad y cynllun hwn yw dad-gloi potensial tai y cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnodau hir. Mae gennym becyn cymorth ariannol sy’n darparu grantiau a benthyciadau. Gallwn hefyd gynnig cyngor a chymorth. Er hyn, mae’n bosib y bydd angen defnyddio camau gorfodi mewn rhai achosion, yn enwedig pan fydd perchnogion yn amharod i ymgysylltu â ni.

Mae dod â’r cartrefi hyn yn ôl i ddefnydd yn gymorth i ddarparu mwy o dai i breswylwyr y sir, mater sy'n un o'n blaenoriaethau.

Fel rhan o’r cynllun, bydd y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth o’r cartrefi gwag yn y Sir, ac yn hyrwyddo'r ffyrdd y gall y Cyngor helpu i ddod â 'r cartrefi hyn yn ôl i ddefnydd buddiol.

Bydd hyn yn cynnwys yr opsiynau cyngor a chymorth sydd ar gael i berchnogion, ynghyd â thaclo cartrefi gwag sydd wedi dod yn ganolbwynt i drosedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol neu wedi eu hesgeuluso.

Bydd y Cyngor yn defnyddio nifer o opsiynau o ran pwerau gorfodi. Gall y rhain gynnwys pryniant gorfodol o eiddo sy’n achosi'r difrod mwyaf i’r ardaloedd o’u hamgylch.

Bydd y cynllun hwn yn ein cynorthwyo i leihau’r nifer o gartrefi gwag hirdymor, yn arwain at ostyngiad yn y defnydd o lety dros dro a lefelau digartrefedd drwy gynyddu mynediad at dai yn y sector rhentu preifat ac adnewyddu ein cymunedau.

Byddwn yn gobeithio y bydd ein cymunedau'n llefydd mwy atyniadol i fyw ynddynt, yn rhai mwy cynaliadwy, ac y bydd gostyngiad yn lefelau y fandaliaeth, y defnydd o gyffuriau a’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy’n digwydd o ganlyniad i dai gwag.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid