llais y sir

Cynlluniau ar gyfer manwerthu, bwyd a gofod marchnad ar gyfer Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl

Mae disgwyl i Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl fod yn rhan ganolog o adfywiad parhaus y dref.

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid datblygu sector preifat i ystyried sut i drawsnewid y safle yn gymysgedd bywiog o fanwerthu, bwyd a diod, marchnad gyfoes, gofod swyddfa a phreswyl wrth wella hygyrchedd o'r glannau a'r promenâd i ganol y dref.

Gallai cynlluniau hefyd gynnwys iard agored a gofod cyhoeddus yn y datblygiad £ 30 miliwn a mwy, sy'n cynnwys Gwesty'r Savoy gynt ac adeiladau Marchnad y Frenhines.

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo ar ddyluniadau, costau a hyfywedd cychwynnol y prosiect, sy'n rhan o weledigaeth hirdymor Canol Tref Y Rhyl gafodd ei rannu gyda’r cyhoedd yn yr hen Siop Awyr Agored Granite ddechrau Ebrill, cyn cyflwyno cais cynllunio yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a Pherfformiad Cyhoeddus y Cyngor: “Rydym yn gweld Adeiladau'r Frenhines yn allweddol yn y gwaith o adfywio'r Rhyl. Bydd y safle hwn yn ganolog i gysylltu'r adfywio ar y glannau â chanol y dref a darparu cynnig gwych ynddo'i hun. Gall y prosiect hwn drawsnewid canol y dref.

“Ar ôl 12 mis o weithio gyda busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr â'r Rhyl,  yr adborth oedd bod angen gofod marchnad fywiog ar ganol y dref i ddenu pobl i ganol y dref a chynyddu nifer yr ymwelwyr. Bydd hyn yn helpu i gefnogi a thyfu busnesau ac mae ein gweledigaeth yn gweld masnachwyr lleol, annibynnol yn ganolog i hyn, gan greu swyddi a chyfleoedd yn lleol.

“Mae rhannau o'r adeiladau mewn cyflwr gwael iawn ac er y byddwn yn ceisio cadw cymaint o'r bensaernïaeth wreiddiol â phosibl, mae'n anochel y bydd angen dymchwel rhai ardaloedd.”

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop.  Ion Developments yw partner datblygu'r Cyngor ar gyfer y safle 97,000 tr sg.

Bydd y safle ar agor yn ystod y misoedd nesaf gyda deiliaid presennol yn parhau i fasnachu.

Yn ddiweddar, agorodd y Cyngor yr atyniad SC2 gwerth £ 15 miliwn ac mae buddsoddiad arall yn cynnwys bwyty 1891 ac ailfodelu Theatr y Pafiliwn, tra bod buddsoddiad y sector preifat a anogwyd gan y Cyngor wedi arwain at agor dau westy newydd.

Nid yw'r Cyngor a'r perchnogion blaenorol wedi dod o hyd i unrhyw rannau sy'n weddill o'r hen atyniad Little Venice,  er gwaethaf gwaith helaeth yn cael ei wneud ar yr adeilad dros nifer o flynyddoedd. Wrth i'r prosiect ddatblygu bydd gwaith cloddio pellach yn digwydd ar y safle.

Bydd ymgynghoriad cyn-gynllunio yn cael ei lansio yn ddiweddarach yr haf hwn gan gynnig cyfle i drigolion a busnesau ddweud eu dweud ar y cynlluniau mwy manwl fel rhan o'r ymgynghoriad prosiect parhaus.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid