llais y sir

Glanhau strydoedd Y Rhyl

Ymunodd nifer o sefydliadau yn y Rhyl yn ddiweddar fel rhan o ymdrechion i lanhau strydoedd y dref.

Roedd y fenter, dan arweiniad Tai ClwydAlyn a'i chefnogi gan y Cyngor Sir, Cadwch Gymru'n Daclus a'r gymuned leol yn targedu ardal Stryd Edward Henry yn Y Rhyl. Y nôd oedd mynd i'r afael â phroblemau sbwriel, troseddau amgylcheddol, tipio anghyfreithlon ac addysgu'r cyhoedd am yr angen i waredu eu sbwriel yn y ffordd briodol.

Llenwyd nifer o sgipiau yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Laura Collins, Swyddog Tai gyda ClwydAlyn, a gydlynodd y fenter: “Rydym wedi bod yn casglu sbwriel yn yr ardal, yn siarad â thenantiaid ac yn darparu gwybodaeth ar faterion fel ailgylchu. Rydym hefyd wedi clirio rhywfaint o sbwriel o'u cartrefi ac wedi clirio eu hiardiau. Bu'n fater o guro ar ddrysau a rhoi gwybod i bobl beth sy'n digwydd. Cawsom ymateb cadarnhaol gyda nifer o breswylwyr yn cymryd rhan yn y gwaith clirio gwirioneddol.

“Mae'n wych gweld y preswylwyr yn ymfalchïo yn eu hardal leol ac yn cefnogi'r fenter hon i wneud y Rhyl yn lle gwych i fyw ynddo.”

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir Ddinbych: “Mae gwaith helaeth eisoes wedi mynd ymlaen yng Ngorllewin y Rhyl i lanhau'r strydoedd ac mae'r ymdrechion hynny'n talu ar ei ganfed. Mae strydoedd yn lanach nag erioed o'r blaen ac rydym yn gweld gostyngiad yn y tipio anghyfreithlon y mae sbwriel yn cael ei daflu ar y stryd ac yn arbennig mewn lonydd cefn.

“Mae llawer llai o sbwriel ar y strydoedd, mae pobl wedi bod yn ailgylchu mwy ac maen nhw wedi bod yn rhoi gwastraff allan ar ddiwrnodau priodol. Y cam nesaf yw ceisio ymgysylltu â phreswylwyr - er mwyn helpu i wella'r strydoedd ymhellach a cheisio atal tipio anghyfreithlon rhag digwydd.

“Rydym hefyd am i drigolion hysbysu'r Cyngor os ydynt yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am ddympio sbwriel a thipio anghyfreithlon pan fydd yn digwydd”.

Roedd Shane Hughes, Swyddog Prosiect gyda Chadwch Gymru'n Daclus, yn rhan o'r gwaith clirio. Dywedodd: “Rydym yn hoffi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Mae'n beth da i'w wneud, gan weithio gyda'r gymuned, ClwydAlyn a'r Cyngor mewn dull aml-bartner i waredu sbwriel ac mae'n un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â phroblem fel hon pan fyddwch chi'n cael nifer o asiantaethau i gymryd rhan”.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid