llais y sir

Newyddion

Creu sblash yn SC2

Mae SC2, atyniad newydd mwyaf cyffrous Gogledd Cymru, wedi agor ei ddrysau i’r cyhoedd.

Yn y dair wythnos arweiniodd at yr agoriad, roedd SC2 wedi croesawu 5,000 o bobl leol i fwynhau atyniadau’r ganolfan antur am ddim cyn yr agoriad swyddogol.

Mae miloedd o bobl leol wedi profi sleidiau gwefreiddiol y parc dŵr ac wedi herio’u hunain yn yr arenâu TAGactive ac agorwyd y ganolfan ar 5 Ebrill.

Mae’r parc dŵr sydd yn werth £15 miliwn yn cynnwys arena chwarae TAGactive cyntaf Cymru, chwaraeon dŵr dan do ac awyr agored i bob oedran a gallu, reidiau cafn, sleidiau nodwedd a bwytai â thema.  Bydd  yno hefyd far a theras a fydd ar agor yn dymhorol.

Rydym wedi cael adborth gwych a byddwn yn gwrando ar unrhyw awgrymiadau am sut y gallwn wneud profiad pobl yn SC2 hyn yn oed yn well.  Rydym wrth ein bodd bod agoriad SC2 wedi ysgogi cymaint o gyffro. Bydd SC2 yn atyniad i breswylwyr a thwristiaid fel ei gilydd ac mae’r ffaith y rhoddwyd cyfle i’r gymuned ymweld â’r safle cyn agor y drysau’n swyddogol yn dangos ymrwymiad Sir Ddinbych tuag at roi preswylwyr lleol yn gyntaf.  Rydym yn hynod o falch o’r atyniad cyffrous  hwn sydd yn  ychwanegiad rhagorol at bortffolio Hamdden Sir Ddinbych, sydd yn cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf.

O ystyried yr ymateb i SC2 hyd yma, mae’n sicr o fod yn llwyddiant ysgubol.  Boed wedi dringo o amgylch TAGactive neu reidio’r sleid bwmerang gydag awch, mae’r rhai a fu’n profi’r atyniad yn llawn canmoliaeth.  Mae’r profiad cyfan wedi cael ei gynllunio’n ofalus gyda gwahanol themâu a bydd y padiau sblash allanol hefyd yn rhoi pleser mawr i bobl yn y Rhyl heulog. Mae hyn yn rhywbeth newydd a chyffrous nid yn unig i’r dref ei hun ond hefyd i ardal arfordirol Gogledd Cymru i gyd. Does dim byd tebyg i hyn am filltiroedd ac mae’r cyffro cyn y diwrnod agoriadol mawr yn cynyddu.

Yn ganolbwynt i raglen ddatblygu glan y môr y Rhyl, disgwylir i SC2 ddenu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r dref bob blwyddyn.

Mae SC2 wedi’i ariannu gan y Cyngor Sir gyda chyfraniadau gan Gyngor Tref y Rhyl a Llywodraeth Cymru.

Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf ar gael i ymwelwyr ar wefan SC2 ac ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Cynlluniau ar gyfer manwerthu, bwyd a gofod marchnad ar gyfer Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl

Mae disgwyl i Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl fod yn rhan ganolog o adfywiad parhaus y dref.

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid datblygu sector preifat i ystyried sut i drawsnewid y safle yn gymysgedd bywiog o fanwerthu, bwyd a diod, marchnad gyfoes, gofod swyddfa a phreswyl wrth wella hygyrchedd o'r glannau a'r promenâd i ganol y dref.

Gallai cynlluniau hefyd gynnwys iard agored a gofod cyhoeddus yn y datblygiad £ 30 miliwn a mwy, sy'n cynnwys Gwesty'r Savoy gynt ac adeiladau Marchnad y Frenhines.

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo ar ddyluniadau, costau a hyfywedd cychwynnol y prosiect, sy'n rhan o weledigaeth hirdymor Canol Tref Y Rhyl gafodd ei rannu gyda’r cyhoedd yn yr hen Siop Awyr Agored Granite ddechrau Ebrill, cyn cyflwyno cais cynllunio yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a Pherfformiad Cyhoeddus y Cyngor: “Rydym yn gweld Adeiladau'r Frenhines yn allweddol yn y gwaith o adfywio'r Rhyl. Bydd y safle hwn yn ganolog i gysylltu'r adfywio ar y glannau â chanol y dref a darparu cynnig gwych ynddo'i hun. Gall y prosiect hwn drawsnewid canol y dref.

“Ar ôl 12 mis o weithio gyda busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr â'r Rhyl,  yr adborth oedd bod angen gofod marchnad fywiog ar ganol y dref i ddenu pobl i ganol y dref a chynyddu nifer yr ymwelwyr. Bydd hyn yn helpu i gefnogi a thyfu busnesau ac mae ein gweledigaeth yn gweld masnachwyr lleol, annibynnol yn ganolog i hyn, gan greu swyddi a chyfleoedd yn lleol.

“Mae rhannau o'r adeiladau mewn cyflwr gwael iawn ac er y byddwn yn ceisio cadw cymaint o'r bensaernïaeth wreiddiol â phosibl, mae'n anochel y bydd angen dymchwel rhai ardaloedd.”

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop.  Ion Developments yw partner datblygu'r Cyngor ar gyfer y safle 97,000 tr sg.

Bydd y safle ar agor yn ystod y misoedd nesaf gyda deiliaid presennol yn parhau i fasnachu.

Yn ddiweddar, agorodd y Cyngor yr atyniad SC2 gwerth £ 15 miliwn ac mae buddsoddiad arall yn cynnwys bwyty 1891 ac ailfodelu Theatr y Pafiliwn, tra bod buddsoddiad y sector preifat a anogwyd gan y Cyngor wedi arwain at agor dau westy newydd.

Nid yw'r Cyngor a'r perchnogion blaenorol wedi dod o hyd i unrhyw rannau sy'n weddill o'r hen atyniad Little Venice,  er gwaethaf gwaith helaeth yn cael ei wneud ar yr adeilad dros nifer o flynyddoedd. Wrth i'r prosiect ddatblygu bydd gwaith cloddio pellach yn digwydd ar y safle.

Bydd ymgynghoriad cyn-gynllunio yn cael ei lansio yn ddiweddarach yr haf hwn gan gynnig cyfle i drigolion a busnesau ddweud eu dweud ar y cynlluniau mwy manwl fel rhan o'r ymgynghoriad prosiect parhaus.

Glanhau strydoedd Y Rhyl

Ymunodd nifer o sefydliadau yn y Rhyl yn ddiweddar fel rhan o ymdrechion i lanhau strydoedd y dref.

Roedd y fenter, dan arweiniad Tai ClwydAlyn a'i chefnogi gan y Cyngor Sir, Cadwch Gymru'n Daclus a'r gymuned leol yn targedu ardal Stryd Edward Henry yn Y Rhyl. Y nôd oedd mynd i'r afael â phroblemau sbwriel, troseddau amgylcheddol, tipio anghyfreithlon ac addysgu'r cyhoedd am yr angen i waredu eu sbwriel yn y ffordd briodol.

Llenwyd nifer o sgipiau yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Laura Collins, Swyddog Tai gyda ClwydAlyn, a gydlynodd y fenter: “Rydym wedi bod yn casglu sbwriel yn yr ardal, yn siarad â thenantiaid ac yn darparu gwybodaeth ar faterion fel ailgylchu. Rydym hefyd wedi clirio rhywfaint o sbwriel o'u cartrefi ac wedi clirio eu hiardiau. Bu'n fater o guro ar ddrysau a rhoi gwybod i bobl beth sy'n digwydd. Cawsom ymateb cadarnhaol gyda nifer o breswylwyr yn cymryd rhan yn y gwaith clirio gwirioneddol.

“Mae'n wych gweld y preswylwyr yn ymfalchïo yn eu hardal leol ac yn cefnogi'r fenter hon i wneud y Rhyl yn lle gwych i fyw ynddo.”

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir Ddinbych: “Mae gwaith helaeth eisoes wedi mynd ymlaen yng Ngorllewin y Rhyl i lanhau'r strydoedd ac mae'r ymdrechion hynny'n talu ar ei ganfed. Mae strydoedd yn lanach nag erioed o'r blaen ac rydym yn gweld gostyngiad yn y tipio anghyfreithlon y mae sbwriel yn cael ei daflu ar y stryd ac yn arbennig mewn lonydd cefn.

“Mae llawer llai o sbwriel ar y strydoedd, mae pobl wedi bod yn ailgylchu mwy ac maen nhw wedi bod yn rhoi gwastraff allan ar ddiwrnodau priodol. Y cam nesaf yw ceisio ymgysylltu â phreswylwyr - er mwyn helpu i wella'r strydoedd ymhellach a cheisio atal tipio anghyfreithlon rhag digwydd.

“Rydym hefyd am i drigolion hysbysu'r Cyngor os ydynt yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am ddympio sbwriel a thipio anghyfreithlon pan fydd yn digwydd”.

Roedd Shane Hughes, Swyddog Prosiect gyda Chadwch Gymru'n Daclus, yn rhan o'r gwaith clirio. Dywedodd: “Rydym yn hoffi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Mae'n beth da i'w wneud, gan weithio gyda'r gymuned, ClwydAlyn a'r Cyngor mewn dull aml-bartner i waredu sbwriel ac mae'n un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â phroblem fel hon pan fyddwch chi'n cael nifer o asiantaethau i gymryd rhan”.

Lansio arolwg i ofalwyr sy’n oedolion yn Sir Ddinbych

Mae arolwg wedi’i lansio er mwyn helpu i wella’r cymorth a roddir i ofalwyr sy’n oedolion yn Sir Ddinbych.

Fel rhan o waith y Cyngor i gefnogi gofalwyr, mae’r arolwg yn holi ynglŷn â mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth gyda’r nod o wella’r hyn sydd ar gael.

Un o flaenoriaethau’r Cyngor yw gweithio gyda phobl a chymunedau i hybu annibyniaeth a chadernid, ac mae cefnogi gofalwyr yn rhan o hynny.

Mae arnom ni eisiau gwella’r gefnogaeth rydym ni’n ei chynnig i ofalwyr yn Sir Ddinbych, ac i wneud hynny mae arnom ni angen eich cymorth chi.

Rydym yn cydnabod bod pobl sy’n gofalu am deulu a ffrindiau yn chwarae rhan bwysig iawn o ran helpu’r bobl hynny i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Rydym eisiau sicrhau bod ein trigolion sy’n gofalu yn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth o’r radd flaenaf i hybu eu canlyniadau llesiant personol, yn ogystal â sicrhau fod gan y Cyngor brosesau cadarn a llwybrau pendant ar gyfer adnabod gofalwyr sydd angen cymorth.

Rydym hefyd am gefnogi’r holl ofalwyr i gyflawni eu targedau addysgol a pharhau â’u datblygiad addysgol os dymunant, a chynnig mynediad at gyfleoedd hamdden addas a chynhwysol.

Mae tua 370,000 o bobl ledled Cymru yn ofalwyr, yn rhoi cymorth i rywun annwyl sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael, ac mae 11,600 o’r gofalwyr hynny yn byw yn Sir Ddinbych.

Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg os ydych chi’n oedolyn sy’n darparu cymorth a chefnogaeth yn rheolaidd heb dâl i aelod o’r teulu, partner neu ffrind sy’n fregus neu’n anabl, sydd â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol, neu sydd â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau.

Mae arolwg ar wahân eisoes wedi’i gynnal ar gyfer gofalwyr dan ddeunaw.

I gwblhau’r arolwg ewch i'n gwefan

Llyfryn treth y cyngor yn fyw ar lein

Mae 'Eich Arian', ein canllaw i bob peth sy'n ymwneud â threth y cyngor bellach wedi mynd yn fyw ar-lein.

Yn ddiweddar, gosododd y Cyngor ei gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. O ran y dreth gyngor, golyga hyn gynnydd o 6.35% ar gyfer trigolion Sir Ddinbych (mae hyn yn cymryd i ystyriaeth y cynnydd yn elfen y cyngor sir, yn ogystal â praeseptau'r cyngor tref / dinas / cymuned a'r Comisiynydd).

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cynhyrchu llyfryn sy'n egluro'r holl ffeithiau a ffigurau y tu ôl i'r setliad treth gyngor, sut y caiff yr arian hwnnw ei wario a manylion ar sut i dalu eich biliau.

Mae'n rhoi gwybodaeth am ardrethi busnes, gostyngiadau rhyddhad busnesau bach a pha fath o gymorth sydd ar gael os yw preswylwyr yn cael trafferth talu eu treth gyngor.

Gellir dod o hyd i'r llyfryn ar ein gwefan.  

Yr Urdd: Paratoi i groesawu Cymru i Sir Ddinbych

Mae’r bwrlwm a’r cyffro wrth i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddychwelyd i’r sir yn 2020 yn parhau ac yn y Cyngor rydym ni'n paratoi i groesawu gweddill Cymru i’n sir brydferth.

Fe fydd gan y Cyngor stondin yn Eisteddfod yr Urdd sydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd dros wyliau'r Sulgwyn. Fe fyddwn yn hyrwyddo lleoedd i aros yn y sir, yn ogystal â lleoedd i ymweld â nhw a phethau i’w gwneud. Rydym yn gobeithio y bydd pobl fydd yn ymweld â'r eisteddfod yn y brifddinas yn meddwl am ddychwelyd i Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf ac y byddant yn trefnu eu llety cyn gynted â phosibl.

Ym Mai 2020 mae disgwyl y bydd dros 120,000 o bobl yn ymweld â'r Eisteddfod am y dydd neu i gystadlu ac rydym yn paratoi i ddarparu croeso mawr. Mae cymunedau ar draws Sir Ddinbych eisoes wedi casglu miloedd o bunnoedd tuag at y gost o gynnal y digwyddiad, gyda channoedd o ddigwyddiadau o bob math wedi eu cynnal i godi arian ar draws y sir.

Yn dilyn yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd bydd ein sylw ar y seremoni gyhoeddi a fydd yn cael ei chynnal ym Mhrestatyn ym mis Hydref.

Am fwy o wybodaeth am yr Urdd ewch i: http://www.urdd.org/

Dewis Cymru

Dewis Cymru YW’R lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.Dewis 2

Wrth sôn am eich llesiant, nid eich iechyd chi yn unig sydd dan sylw. Rydym yn golygu pethau fel ble rydych chi’n byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, mynd allan ac o gwmpas y lle, a chadw mewn cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau.

Nid oes dau unigolyn sydd yr un fath ac mae llesiant yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Felly mae Dewis Cymru yma i’ch helpu i gael gwybod mwy am yr hyn sy’n bwysig i chi.

Mae gennym ni wybodaeth sy’n gallu eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal chi sy’n gallu’ch helpu gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.

Os hoffech chi wybod mwy am sut i ddefnyddio Dewis Cymru i’ch helpu i benderfynu beth sy’n bwysig i chi, cliciwch yma.

Sut i ddefnyddio Dewis Cymru

Os oes gennych chi wasanaeth sy’n helpu pobl gyda’u llesiant, gallwch chi ychwanegu’ch manylion chi at Dewis Cymru, er mwyn i bobl rydych chi am eu helpu a’u cefnogi ddod o hyd i chi’n haws. Does dim gwahaniaeth pa mor fawr neu fach ydych chi, neu ai gwirfoddolwyr ydych chi - os ydych chi’n helpu pobl gyda’u llesiant, mae Dewis Cymru eisiau gwybod amdanoch chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud, er mwyn i ni gyfeirio pobl i gysylltu â chi!

Os hoffech chi ychwanegu manylion eich gwasanaeth chi at Dewis Cymru, cliciwch yma.

Dewis 1 Welsh

Bilio di-bapur

A oeddech yn gwybod y gallwch drefnu i dderbyn eich biliau ar e-bost yn hytrach nag i fersiwn bapur gael ei phostio. Mae hon yn ffordd effeithiol ac effeithlon o ddarparu ac mae hefyd yn ein helpu i leihau gwariant ar bostio a phacio. Unwaith y byddwch wedi eich cofrestru byddwch yn derbyn unrhyw filiau treth cyngor blynyddol, cau biliau ac addasiadau yn eich e-bost.

Bydd angen i chi fewngofnodi neu gofrestru eich cyfrif i dderbyn eu biliau a hysbysiadau drwy eich e-bost. 

Dyma Rhian Hughes i esbonio mwy:

Am fwy o wybodaeth ewch i'n gwefan.

Y Cyngor i gynnal digwyddiadau yn ystod Wythnos Gofalwyr 2019

Wythnos 10 - 16 Mehefin fydd Wythnos Gofalwyr pan fydd nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal.

Ymgyrch flynyddol yw Wythnos Gofalwyr i godi ymwybyddiaeth o ofalu, i amlygu'r heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ar hyd a lled y DU, a’r thema eleni yw Cysylltu Gofalwyr gyda’u Cymunedau.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth a NEWCIS a gofalwyr lleol i ddatblygu cynnyrch newydd ar gyfer gofalwyr sy’n rhoi gwybodaeth iddynt am ffynonellau o gefnogaeth a gwasanaethau lleol.

Mae’r digwyddiad lansio yn cael ei drefnu i gyd-fynd ag Wythnos Gofalwyr, gyda rhagor o fanylion i'w cyhoeddi, gyda sefydliadau trydydd sector hefyd yn cynnal digwyddiadau ar draws y sir.

Fel rhan o’i Gynllun Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr drwy wella’r Gwasanaethau sy’n bodoli eisoes a sicrhau bod gofalwyr ifanc, rhieni ac oedolion yn ymwybodol o’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Bydd manylion am ddigwyddiadau’r Cyngor yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Wythnos Gofalwyr yn www.carersweek.org/about-us-getting-carers-connected

Dweud eich dweud!

Bydd Diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop yn cymryd lle ddydd Iau, 23 Mai.

Mae gan breswylwyr tan ddydd Mawrth, 7 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr. Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer pleidlais drwy'r post yw dydd Mercher, 8 Mai (5.00pm) ac ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy, dydd Mercher, 15 Mai (5.00pm)

Dywedodd Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n hollbwysig bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwn, ac yn osgoi colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru. Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol profiadol ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr.

“Ni ddylai pobl gymryd arnynt y gallent bleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru i bethau eraill megis Treth y Cyngor. Os oes amheuaeth, dylai preswylwyr gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.”

Dim ond ychydig o funudau y mae'n cymryd: cofrestrwch ar-lein neu ffoniwch 01824 706000.

Mae rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael ar wefan Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Cymru.

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid