Yr Urdd: Paratoi i groesawu Cymru i Sir Ddinbych
Mae’r bwrlwm a’r cyffro wrth i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddychwelyd i’r sir yn 2020 yn parhau ac yn y Cyngor rydym ni'n paratoi i groesawu gweddill Cymru i’n sir brydferth.
Fe fydd gan y Cyngor stondin yn Eisteddfod yr Urdd sydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd dros wyliau'r Sulgwyn. Fe fyddwn yn hyrwyddo lleoedd i aros yn y sir, yn ogystal â lleoedd i ymweld â nhw a phethau i’w gwneud. Rydym yn gobeithio y bydd pobl fydd yn ymweld â'r eisteddfod yn y brifddinas yn meddwl am ddychwelyd i Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf ac y byddant yn trefnu eu llety cyn gynted â phosibl.
Ym Mai 2020 mae disgwyl y bydd dros 120,000 o bobl yn ymweld â'r Eisteddfod am y dydd neu i gystadlu ac rydym yn paratoi i ddarparu croeso mawr. Mae cymunedau ar draws Sir Ddinbych eisoes wedi casglu miloedd o bunnoedd tuag at y gost o gynnal y digwyddiad, gyda channoedd o ddigwyddiadau o bob math wedi eu cynnal i godi arian ar draws y sir.
Yn dilyn yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd bydd ein sylw ar y seremoni gyhoeddi a fydd yn cael ei chynnal ym Mhrestatyn ym mis Hydref.
Am fwy o wybodaeth am yr Urdd ewch i: http://www.urdd.org/