llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 2

Ymgyrch baw cŵn yn Sir Ddinbych yn parhau

Mae'r frwydr yn erbyn baw cŵn yn parhau, gyda'r Cyngor yn rhybuddio y bydd yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n caniatáu i'w cwn faeddu yn gyhoeddus heb glirio'r llanastr.

Dengys ffigyrau am nifer y digwyddiadau baw cŵn a gofnodwyd gan y Cyngor ers 2014 fod y nifer uchaf o ddigwyddiadau yn cael eu cofnodi yn ystod misoedd y gaeaf, yn Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.

Cofnodwyd 92 o ddigwyddiadau ym mis Ionawr 2015; 72 yn Ionawr 2017 a 83 yn Ionawr 2018.  Mae'r niferoedd  isaf o ddigwyddiadau yn digwydd dros fisoedd yr haf. 

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod hyn i'w briodoli i'r ffaith bod dyddiau'n dywyll a bod pobl yn tybio y gallant adael i'w cŵn faeddu'n gyhoeddus dan dywyllwch.

Mae'r ffigurau'n dangos tuedd go iawn ac mae'n ymddangos mai misoedd y gaeaf yw'r prif amser i bobl adael i’w cŵn faeddu.  Rydym wedi gweld digon o dystiolaeth o gŵn yn baeddu mewn ardaloedd tywyll lle nad oes goleuadau stryd.  Mae rhai unigolion yn credu y gallant beidio â chlirio ar ôl eu hanifeiliaid dan y clogyn tywyllwch.  Yr unig ffordd y gallwn ddal y rhai sy'n gyfrifol yw drwy dderbyn gwybodaeth gan y cyhoedd.

Mae'r rhan fwyaf o'r cwynion a ddaw i ran y Cyngor yn ymwneud â chŵn yn baeddu, ac mae preswylwyr wedi dweud wrthym yr hoffent weld y mater hwn yn cael ei ddatrys. Maent yn ei ystyried yn wrthgymdeithasol ac yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, yn ogystal â bod yn berygl i iechyd pobl.

Rydym wedi bod yn cynnal ymgyrch gorfodaeth ac addysg dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'r gwaith hwnnw yn parhau.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid ac rydym yn diolch iddynt am hynny.

Rydym yn targedu'r neges hon at y rheini sy'n meddwl ei bod yn dderbyniol gadael llanast eu ci ar ôl.  Nid yw'n dderbyniol a gallai'r rhai sy'n gyfrifol gael hysbysiad cosb benodedig neu ddod o hyd iddynt eu hunain gerbron y llysoedd.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...