Cwrs Sgiliau Coetir ar gyfer cyfranogwyr Sir Dinbych yn Gweithio
Yn ddiweddar mynychodd nifer o gyfranogwyr 'Sir Ddinbych yn Gweithio' gwrs hyfforddi wedi’i drefnu’n arbennig ar eu cyfer yn y Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.
Mae’r prosiect 'Sir Ddinbych yn Gweithio' yn darparu cefnogaeth un i un gan weithio ochr yn ochr ag unigolion i wireddu eu nodau personol drwy amrywiaeth o weithgareddau.
Mae’r Ganolfan Sgiliau Coetir wedi’i lleoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a chafodd y rhai a fynychodd gyfle i feithrin hunanhyder a hunan-barch a’r gallu i weithio'n unigol ac fel rhan o dîm ar y cyd â dysgu sgiliau newydd.
Cwblhaodd yr holl gyfranogwyr gwrs Cymorth Cyntaf Brys Lefel 3 a chawsant i gyd dystysgrifau am Grefftau Coedlan a Gwaith Coed Gwyrdd.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu a meithrin cymunedau cryf ar draws yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gyda ffocws ar drechu tlodi drwy ddarparu cymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith, cyfleoedd gwirfoddoli neu addysg, a chael gwared ar y rhwystrau i gyflogaeth.
Datblygodd y cyfranogwyr berthynas dda o'r cychwyn, gan ffurfio grŵp cefnogol a oedd yn rhyngweithio ac yn cyfathrebu'n dda, yn helpu ei gilydd ac yn gweithio fel tîm. Maen nhw wedi ennill sgiliau a phrofiadau newydd, mae eu hyder a'u hunan barch wedi cynyddu a gwelwyd gwelliant cyffredinol yn eu lles.
Cyfranogwyr o’r Rhyl a Dinbych a staff Sir Ddinbych yn Gweithio.