llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 2

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cefnogi Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

 

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cychwyn ar fenter gyffrous newydd i gynorthwyo pobl nad ydynt yn siarad Saesneg na Chymraeg fel iaith gyntaf ar y llwybr tuag at gyflogaeth a lleoliadau gwirfoddoli ac i'w helpu nhw gyda chyfeiriadedd diwylliannol ac i integreiddio yn eu cymuned leol fel nad ydynt mor ynysig yn gymdeithasol. Mae’r cyrsiau ESOL yn cael eu darparu mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru.

Mae’r dosbarthiadau ESOL yn darparu awyrgylch dysgu anffurfiol, cyfeillgar a hwyliog. Cynhaliwyd dwy sesiwn flasu ym mis Chwefror i godi ymwybyddiaeth ac i roi cyfle i ddarpar fyfyrwyr gyfarfod y tiwtor. Dechreuodd y cwrs 12 wythnos, rhad ac am ddim, ar 1 Mawrth ac mae'n hyrwyddo'r defnydd o'r Saesneg mewn lleoliadau gwaith.

Caiff y Cyrsiau ESOL eu darparu gan Anna Gomes o Addysg Oedolion Cymru. Meddai Anna:  "Mae dysgu'r unigolion hyn yn rhoi mwynhad mawr i mi. Mae’n wych gweld sut mae dysgu Saesneg yn helpu'r cyfranogwyr a'u teuluoedd i integreiddio yn y gymuned ac i gael mynediad at y farchnad swyddi leol. Mae fy ngwersi’n cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar heb roi unrhyw un dan bwysau.

"Mae llawer o’r rhai sy’n mynychu, gan gynnwys ffoaduriaid o Syria, nad ydynt erioed wedi cael addysg o unrhyw fath o’r blaen. Mae wedi bod yn bleser eu cefnogi nhw gydag elfennau sylfaenol yr iaith er mwyn iddyn nhw a'u plant addasu i fywyd yn y DU ac ymhen amser i fod â digon o Saesneg i fynd ati i chwilio am waith. Hyd yma rydym wedi gweithio gyda naw o ddysgwyr o dras Pwylaidd, Twrcaidd, Tsieineaidd a Syriaidd (Arabaidd). Maent yn dysgu drwy sillafu, dysgu'r Wyddor ffonetig a chanu'r Wyddor, i gyd yn nghyd-destun gwneud cais am swydd.

"Rydw i’n defnyddio senarios a chwarae rôl gyda’r nod y bydd y dysgwyr wedi cynhyrchu CV erbyn diwedd y cwrs. Byddant hefyd yn dysgu am brosesau iechyd a diogelwch cyffredinol yn y gwaith ac am gyfyngiadau cyflymder ac arwyddion o rybudd (allanfeydd tân, dim ysmygu ayyb). Un o’r nodau hirdymor pwysicaf i’r bobl hyn yw gallu bod yn ariannol annibynnol.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau ESOL cysylltwch â Sir Ddinbych yn Gweithio ar 01745 331438, anfonwch e-bost at: sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk neu ewch i lyfrgell y Rhyl.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...