llais y sir

Twristiaeth

Ffilm yn dangos cyrchfannau poblogaidd i dwristiaid yn Sir Ddinbych

Mae ffilm newydd sbon sy’n hyrwyddo profiadau ac atyniadau twristiaeth allweddol yn Sir Ddinbych wedi'i lansio i gyd-fynd â Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru.

Mae’r ffilm yn cynnwys cyrchfannau allweddol gan gynnwys yr SC2 newydd sbon yn y Rhyl, Traeth Barkby Prestatyn, Castell Dinbych, Cadeirlan Llanelwy, Nantclwyd y Dre, Carchar Rhuthun, Canolfan Grefft Rhuthun, Dinas Brân, Rheilffordd Llangollen, Plas Newydd ac Abaty Glyn y Groes.  Mae'r fideo hefyd yn hyrwyddo amrywiaeth o brofiadau megis syrffio barcud yn Y Rhyl, seiclo ar Fwlch yr Oernant, paragleidio yn Llangollen, beicio mynydd yn One Planet Adventure a phadlo bwrdd ar droed ar Afon Dyfrdwy. 

Lansiwyd y ffilm yn y Fforwm Twristiaeth diweddar, lle y daeth bron i 100 o bobl ynghyd i wrando ar siaradwyr gwadd, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Banc Datblygu Cymru. Cynhelir y Fforwm ddwywaith y flwyddyn ac mae wedi profi i fod yn llwyddiant enfawr ar gyfer busnesau twristiaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu partneriaethau newydd.

Mae’r ffilm hon wir yn dangos harddwch Sir Ddinbych, o Langollen a Dyffryn Dyfrdwy yn y de i’r trefi arfordirol yn y gogledd megis Prestatyn a’r Rhyl. Gyda’r prif dymor ar gyfer twristiaeth yn agosáu ac agoriad diweddar SC2 yn y Rhyl, rydym yn annog ymwelwyr yn ogystal â phobl leol i ail-ddarganfod ein rhan ni o Ogledd Cymru.

Mae Gogledd Cymru yn prysur ddatblygu'n gyrchfan enwog fel prif leoliad antur, ac mae’r ffilm wir yn amlygu’r profiadau amrywiol a hygyrch sydd ar gael yn y sir ar gyfer pob oedran a diddordeb.

Mae’r ffilm hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’n ffurfio rhan o brosiect Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych a gaiff ei lansio’n fuan. Y nod yw gwella’r profiad i ymwelwyr drwy ddarparu modiwlau hyfforddiant ar-lein ynghylch cynnig twristiaeth Sir Ddinbych.

I weld y ffilm, ymwelwch â thudalen Facebook neu Sianel YouTube Gogledd Ddwyrain Cymru.

Rhuthun yw tref gyntaf Sir Ddinbych i groesawu bysiau

Cyhoeddwyd Rhuthun fel tref gyntaf Sir Ddinbych i groesawu bysiau. Mae’r dref wedi cael statws Tref Croesawu Bysiau gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr (CPT). Mae Rhuthun yn ymuno â dim ond llond llaw o lefydd eraill sydd wedi derbyn y statws yng Nghymru – yn bennaf Betws-y-Coed, Conwy, Llandudno a Chaerdydd.

Meddai Heather Williams, cynghorydd tref Rhuthun a Chadeirydd y gweithgor wedi’i sefydlu i gyflawni’r statws hwn, “Ychydig flynyddoedd yn ôl dyma dîm Digwyddiadau a Marchnata Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd cynrychiolwyr o gynghorau tref/dinas Sir Ddinbych i fynd ar siwrnai addysgol i Fetws-y-Coed. Tra oedden ni yno cafwyd trafodaethau gyda Rheolwr Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynglŷn â sut y mae sir Conwy wedi cyflawni statws croesawu bysiau ar gyfer tair tref.”

“Yn dilyn yr ymweliad fe sefydlodd Cyngor Tref Rhuthun weithgor i asesu sut y gallai Rhuthun gwrdd â’r meini prawf angenrheidiol i gwrdd â statws croesawu bysiau. Rydym bellach yn falch iawn o fod wedi derbyn y teitl mawreddog hwn. Gobeithio y bydd y statws newydd hwn yn golygu y bydd y dref yn atynnu mwy o deithiau bws, ac felly rhagor o ymwelwyr i'r dref hanesyddol a deniadol hon. Mae gan Ruthun gymaint i’w gynnig, fel y Ganolfan Grefft sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, y Carchar diddorol ac adeilad hanesyddol Nantclwyd y Dre.”

Y meini prawf ar gyfer derbyn statws croesawu bysiau yw cynnwys arwyddion clir i fysiau sy’n ymweld, digonedd o lefydd parcio i fysiau, cyfleusterau i grwpiau a gwefan yn darparu gwybodaeth i grwpiau bysiau. Ychwanegodd Cyngor Tref Rhuthun wybodaeth ychwanegol i’w gwefan i roi gwybodaeth ymarferol a manylion ar atyniadau a llwybrau/teithiau i gwmnïau bysiau/trefnwyr grwpiau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan www.visitruthin.wales/about-ruthin

Y gobaith yw bod y teitl i Ruthun yn annog llefydd eraill yn Sir Ddinbych i weithio ar gyflawni statws croesawu bysiau er mwyn annog hyd yn oed mwy o ymwelwyr i'r sir.

Yn y llun:  Urddasolion yn cynnwys Heather Williams, cynghorydd tref Rhuthun a Chadeirydd Gweithgor Cyfeillgar i Fysiau Rhuthun; y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Cyngor Sir; John Pockett, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru; Anne Roberts, cynghorydd tref Rhuthun; Gavin Harris, Dirprwy Faer Cyngor Tref Rhuthun a Peter McDermott o dîm Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau'r Cyngor Sir.

Strategaeth Twristiaeth Cymru: ymunwch yn y sgwrs!

Yn 2020, bydd strategaeth dwristiaeth Cymru yn dod i ben ac mae Croeso Cymru yn dechrau meddwl am olynydd iddi. Cyn datblygu blaenoriaethau twristiaeth y dyfodol a’r economi ymwelwyr ehangach yng Nghymru, mae Croeso Cymru yn dymuno cael eich barn felly maent wedi lansio sgwrs ehangach am dwristiaeth yng Nghymru.

Mae’r sgwrs hon wedi dechrau gyda deg cwestiwn allweddol sy'n nodi rhai o heriau mawr y dyfodol i Gymru. Mae ganddynt ddiddordeb yn eich barn am y cwestiynau hyn... p’un a ydych yn ymwelydd, aelod o’r diwydiant twristiaeth neu unrhyw un sy’n byw yng Nghymru.

Fe allwch rhoi eich adborth yma neu e-bostiwch eich barn at dyfodol.twristiaeth@llyw.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer atebion yw 31 Mai 2019.

Y digwyddiadau diweddaraf: 'Beth sy' Mlaen'?

Edrychwch ar lyfryn diweddaraf ‘Beth sy’ Mlaen’ i weld beth yw'r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Sir Ddinbych tan diwedd fis Mai 2019.

Bydd copïau papur o rifyn Mehefin – Medi 2019 ar gael am ddim yn fuan mewn llyfrgelloedd lleol, canolfannau croeso a busnesau lleol. Fel arall edrychwch ar-lein ar wefan Gogledd Ddwyrain Cymru.

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

A hoffech chi glywed y newyddion diweddaraf am dwristiaeth yn Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru?

Os hoffech chi, mae’n syml a hawdd i gofrestru >>> https://www.denbighshire.gov.uk/cy/ymwelydd/pethau-iw-gwneud/be-symlaen/ffurflen-ymaelodi-twristiaeth-sir-ddinbych.aspx

Ydych chi'n chwilio am leoedd newydd i ymweld â nhw eleni?

Oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch? Am syniadau ynglŷn â phethau i’w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw yn ein cornel drawiadol o Ogledd Cymru, ewch i www.gogleddddwyraincymru.cymru.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid