1 - 7 Gorffennaf: Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dechrau heddiw, 1 Gorffennaf.
Mae cystadleuwyr o bob cwr o’r byd yn dyfod ynghyd yn nhref Llangollen am wythnos o gystadlu brwd, gweithgareddau llawn hwyl a pherfformiadau rhagorol. Y prif artist eleni fydd Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm a Blues, a bydd yna lwythi o berfformwyr gwych eraill yn ymuno ag o, gan gynnwys Rolando Villazon, Gipsy Kings a’r dathliad rhyngwladol poblogaidd gyda Mabon.
Ac i goroni’r cyfan, yn dilyn wythnos o berfformiadau syfrdanol, bydd Llanfest yn cael ei gynnal ar benwythnos olaf yr Eisteddfod. Mae’r perfformwyr yn cynnwys The Fratellis, The Coral, The Pigeon Detectives a Dodgy.
Gallwch prynu tocynnau i'r holl cyngherddau ac yn y blaen ar ei gwefan.
20 Gorffennaf: Diwrnod Hwyl i’r Teulu yng Nghoed Moel Famau
Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf
10:30-16:00 Maes parcio Coed Moel Famau SJ 174 613
Diwrnod o weithgareddau hwyliog! Bydd cyfle i rwydo yn y nant, crefftau i blant, adeiladu cuddfan, teithiau tywys, arddangosfeydd, gwybodaeth a chynnyrch bwyd lleol.
£2 i barcio car.
15 Awst: Sioe Dinbych a Fflint
Mae'n amser i'r Sioe
Yr adeg hon o'r flwyddyn yr ydym yn brysur yn paratoi ar gyfer Sioe Dinbych a Fflint, un o ddigwyddiadau mwyaf calendr amaethyddol Gogledd Cymru.
Cynhelir y digwyddiad eleni ar ddydd Iau, 15 Awst yn y Green ar gyrion Dinbych. Felly, cadwch y dyddiad yn glir yn eich dyddiadur.
Mae'r Cyngor yn rhannu pabell gyda chydweithwyr o Sir y Fflint a'r thema eleni yw darganfod – bydd digon o arddangosfeydd a gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu i gyd.
Bydd manylion ein digwyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar y cyfryngau cymdeithasol cyn y sioe.
Croesi bysedd am dywydd braf ar gyfer diwrnod y Sioe!
Am wybodaeth bellach am y sioe ei hun, ewch i: www.denbighandflintshow.com.

18 Awst: Cyngerdd am ddim yn Arena Digwyddiadau y Rhyl
Yn dilyn llwyddiant ' Seaside Soul ' yn 2016, mae thema'r ‘enaid’ yn dychwelyd i arena ddigwyddiadau'r Rhyl ar ddydd Sul 18 Awst ar gyfer y gyngerdd am ddim blynyddol.
Bydd y digwyddiad eleni yn cynnwys adloniant byw gan Jimmy James & The Vagabonds, band Edwin Starr, ' the Team ' sy'n cynnwys Angelo Starr, Precious Wilson, Midnight Soul a chyflwynwyr amrywiol.
Dechreuodd Jimmy James ei yrfa gerddorol, yn cyfansoddi a chanu, yn ifanc yn 16 oed. Yn 1964 gofynnwyd iddo ymuno fel y Prif Ganwr ag un o fandiau blaenllaw Jamaica ' The Vagabonds' a gyda'i gilydd gadawsant Jamaica am yr hyn a oedd fod yn daith chwe mis o amgylch y DU. Yn 1966 fe recordiodd The Vagabonds eu halbwm chwedlonol, ' The New Religion’. Rhoddodd recordiad Jimmy o gân ' Red Red Wine ' Neil Diamond yn 1969, a gymerwyd o’r ail albwm The Vagabonds, eu record boblogaidd gyntaf iddynt.
Yn 1970, arwyddodd i Biddu of the Subbidu Music Corporation a chyda'i gilydd, fe grewyd caneuon poblogaidd megis ' Now is the Time ' ac ' I’ll Go Where the Music Takes Me '.
Mae Angelo Starr yn ganwr a chynhyrchydd recordiau Americanaidd. Mae hefyd yn frawd iau i'r canwr diweddar Edwin Starr.
Cychwynnodd Precious Wilson fel canwr cefnogi i'r grŵp dynion Eruption ac yn 1977 tra ar y ffordd yn teithio’r yr Almaen y dewiswyd y band i gefnogi Boney M. Roedd eu fersiwn disgo o gân Ann Peebles, "I Can’t Stand the Rain" yn llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a drefnir gan y Cyngor ac a gefnogir gan Gyngor Tref y Rhyl, yn dathlu cerddoriaeth rhai bandiau eiconig.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans OBE, sy'n aelod arweiniol ar gyfer yr economi: "Rydym yn falch iawn o gael cyhoeddi'r perfformwyr ar gyfer yr Ŵyl eleni. Dyma un o brif ddigwyddiadau'r haf yn y Rhyl ac mae disgwyl i gefnogwyr cerddoriaeth gael gwledd.
"Mae rhaglen yr haf o ddigwyddiadau yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref, gan wneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol ac rydym yn sicr y bydd sioe Seaside Soul yn un wych".
Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Ellie Chard: "Bydd yr Arena Ddigwyddiadau yn dod â diwrnod o gerddoriaeth yr enaid i'r Rhyl. Gyda llinell fawr arall o fandiau a DJs, mae'r digwyddiad yn addo l rhywbeth at ddant pawb a Glan y môr y Rhyl yn bendant yw'r lle i fod yr haf hwn gyda digwyddiadau lu. Mae Cyngor Tref y Rhyl yn falch iawn o fod yn cefnogi dydd Sul mawr arall ac edrychwn ymlaen at groesawu trigolion ac ymwelwyr i faes y digwyddiadau. "
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â chanolfan groeso'r Rhyl, ar 01745 355068.
24 - 25 Awst: Sioe Awyr Y Rhyl
Dydd Sadwrn 24 a dydd Sul 25 Awst 2019
Promenâd y Rhyl
Digwyddiad deuddydd llawn gweithgareddau a hwyl, gydag arddangosfeydd syfrdanol yn yr awyr ac ar y ddaear. Mae'r sioe, sy’n miloedd o bobl y flwyddyn, yn dathlu ei 11fed flwyddyn lwyddiannus yn 2019.
Mae'n agor am 11am gyda’r arddangosfa hedfan yn cychwyn am 2pm.
Pris Mynediad: Am ddim
Am fwy o wybodaeth ac i weld yr amserlen pan fydd wedi cyhoeddi, ewch i'n gwefan

Beth sy' Mlaen?
Edrychwch ar lyfryn diweddaraf ‘Beth sy’ Mlaen’ i weld beth yw'r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Sir Ddinbych tan fis Medi 2019.
Mae copïau papur o rifyn mis Mehefin – Medi 2019 ar gael am ddim mewn llyfrgelloedd lleol, canolfannau croeso a busnesau lleol.
