llais y sir

Celf wedi’i ysbrydoli gan y tirlun

Mae Tîm y Prosiect Ein Tirlun Darluniaidd a noddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yn brysur dros ben yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion i ennyn diddordeb a hyder pobl i greu gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan y tirlun.

Ar hyn o bryd mae grwpiau MIND Clwyd yn Llangollen a Chorwen yn creu dau fosaig cydweithredol o’r nodweddion hynny yn y tirlun lleol sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae pobl ifanc Clybiau Ieuenctid Llangollen a Chorwen yn cyfarfod gwahanol artistiaid ac yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o wahanol dechnegau artistig i ddathlu tirlun hardd eu cynefin.

Mae myfyrwyr celf blwyddyn naw Ysgol Dinas Bran wedi bod yn chwalu’r rhwystrau rhag lluniadu drwy ystyried yr haenau gweladwy ac anweladwy sy’n siapio’r tirlun lleol, ac maent wedi bod yn edrych ar amrywiol ffyrdd o fynd ati i dynnu llun. Aeth y myfyrwyr ar ymweliad â Glanfa Llangollen gan dreulio amser yn astudio manylion y tirlun ac yn creu eu dehongliadau personol eu hunain.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y grwpiau cymunedol Cefn Creates, The Dee Boys, Cefn Crochets a Knit and Natter yn dod at ei gilydd i greu eitemau addurniadol â themâu camlas i addurno llwybr y gamlas ar gyfer digwyddiad cymunedol i ddathlu deng mlynedd ers arysgrifio Pontcysyllte a’r Gamlas ar y rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd ddydd Sadwrn 29 Mehefin.

Dros y misoedd i ddod bydd llawer mwy o weithgareddau’n digwydd gydag ysgolion cynradd lleol a grwpiau cymunedol ar y thema celf a’r tirlun darluniaidd gyda ffocws ar Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a’r Gamlas. Digwyddiad sydd ar agor i bawb am £2.50 y pen yw’r BIG DRAW ym Mhlas Newydd sydd i’w gynnal ddydd Sul 21 Gorffennaf. Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect a chyfarfod y tîm, dewch i ymweld â’n stondin yn y digwyddiad dathlu pen-blwydd y Safle Treftadaeth y Byd ym Masn Trefor ddydd Sadwrn 29 Mehefin. neu cysylltwch â ni ar e-bost: our.picturesque.landscape@sirddinbych.gov.uk.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid