llais y sir

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Help llaw i greu cartrefi newydd ar gyfer Pathewod

Bu gwirfoddolwyr o brosiect Natur er Budd Iechyd yn helpu i adeiladu 20 o focsys nyth ar gyfer pathewod yng Nghoed y Morfa, Prestatyn. Mynychodd oddeutu 15 o wirfoddolwyr y digwyddiad i helpu ceidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i greu'r bocsys.

Mae pathewod yn rhywogaethau mewn perygl ar draws y DU. Mae colli perthi a'r newid mewn rheolaeth coetir wedi arwain at ostyngiad dramatig mewn niferoedd, 72% rhwng 1993 a 2014. Drwy greu’r bocsys nyth, gobeithiwn gefnogi cynnydd mewn niferoedd dros y blynyddoedd nesaf. Gwnaed y bocsys gan ddefnyddio pren lleol, a chânt eu gosod a’i monitro ar safle sy’n bwysig i bathewod yn Sir Ddinbych.

Mae Natur er Budd Iechyd yn rhan o waith y Cyngor i ddiogelu a gwella’r amgylchedd a’r nod yw gwella bywydau pobl drwy weithgareddau iechyd a lles, gan helpu unigolion a chymunedau yn Sir Ddinbych i gysylltu gyda chefn gwlad a mabwysiadu arferion iach.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â Thai Sir Ddinbych i ddarparu'r prosiect, gyda chefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor.

Diolch i bawb a ddaeth i helpu i greu'r bocsys!

Os hoffech fod yn rhan o Natur er Budd Iechyd yn y Rhyl neu ym Mhrestatyn, cysylltwch â 01824 706998.

Creu Cartrefi i Ddreigiau ar Dwyni Sir Ddinbych

Mae rhan fechan o forlin Sir Ddinbych yn gartref i boblogaeth fechan o ddreigiau Cymreig bach. Ers eu difodiant yn y 1960au a’u hail-gyflwyniad diweddar i’n systemau twyni, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn ddiweddar i ddod a phoblogaeth madfall y tywod yn Sir Ddinbych yn ôl i’w llawn ogoniant.

Yn ddiweddar, aeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych gyda Mick Brummage (cofnodydd ymlusgiaid y Sir) a rhai o wirfoddolwyr ymroddedig, i'r twyni, i gyflawni gwaith rheoli cynefin hanfodol.

Bu ychydig o oedi yn y gwaith yn ystod y bore oherwydd bod y tymheredd yn oerach na'r disgwyl. Mae madfallod y tywod, fel holl ymlusgiaid, yn ectothermig, ac yn dibynnu ar eu hamgylchedd i reoli tymheredd eu cyrff. Pan mae’r tywydd yn oer maent yn cuddio o fewn eu twyni, sy’n golygu bod palu yn y tywod yn risg. Felly, cafodd y gwaith ei ohirio nes i'r tywydd gynhesu a'r madfallod allan yn torheulo.

Roedd y gwaith yn cynnwys defnyddio cloddiwr i dynnu a chrafu'r llystyfiant a oedd wedi tyfu’n drwchus ar y twyni. Gwnaed hyn er mwyn gallu datgelu ardaloedd o dywod a lleihau arwynebedd yr ardaloedd cysgodol. Mae hyn yn darparu ardaloedd ychwanegol i fadfallod y tywod dorheulo, tyllu a dodwy.

Yn yr ardaloedd mwy sensitif y twyni, lle nad oedd y cloddiwr yn gallu mynd, defnyddiodd y gwirfoddolwyr rawiau er mwyn tynnu'r llystyfiant yn ofalus, wrth geisio cadw llygad am fadfallod bychain yn torheulo.

Edrychwn ymlaen at fonitro’r twyni a’r ardaloedd tywod newydd dros y blynyddoedd nesaf a gweld y ddraig fach Gymreig gyntaf yn torheulo yn eu llecyn tywod newydd!

Diolch i Mick Brummage am ei arweiniad a’i gymorth ar y diwrnod, Arwyn Parry Construction Services Ltd am eu hagwedd cynnil tuag at y gwaith, ac wrth gwrs, ein grŵp gweithgar o wirfoddolwyr sydd bob amser yn barod am waith gyda gwên ar eu hwynebau

Prosiect 'Natur er Budd iechyd'

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd ar gyfer prosiect newydd o’r enw Natur er budd Iechyd, sef cynllun peilot 18 mis o hyd a’i nod ydi gwella iechyd meddwl a chorfforol cymunedau trwy sicrhau gwell mynediad at natur mewn pedwar prif ardal, Llangollen, Corwen, Rhyl a Phrestatyn. Mae’r tîm Natur er budd Iechyd wedi bod yn gweithio i ddarparu rhaglen o weithgareddau megis teithiau cerdded iach, teithiau dydd, sesiynau cadwraeth ymarferol, celf a chrefftau, arolygon bywyd gwyllt a llawer mwy.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Choed Cadw yn Llangollen ar un o’u safleoedd, sef Pen y Coed, i gysylltu’r gymuned leol â'r adnodd gwych yma. Rydym wedi cynnal sawl digwyddiad yn y coed megis teithiau cerdded i wylio adar, arolygon gloÿnnod byw, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a’r digwyddiad mwyaf poblogaidd – digwyddiad Brecwast a Byw yn y Gwyllt yn y Coed. Yn sgil llwyddiant y digwyddiadau hyd yn hyn, y mis hwn fe aethom gyda’n gwirfoddolwyr i greu ardal ystafell ddosbarth ar y thema coetir lle gallwn gynnal digwyddiadau dros yr haf. Fe wnaethom greu cylch coed, arwydd ar gyfer yr ystafell ddosbarth ar thema coetir a gosod gwesty i bryfed!

Draw yng Nghorwen, mae'r prosiect Natur er budd Iechyd wedi bod yn cefnogi grŵp rhandir Edeyrnion a sefydlwyd yn ddiweddar. Rydym wedi bod yn gwneud tasgau ymarferol gyda gwirfoddolwyr i’w helpu i baratoi’r rhandiroedd, megis gosod rhisglau ar y llwybrau, yn ogystal â chwynnu gan fod y tymheredd wedi cynhesu! Rydym wedi codi llawer o waliau cerrig ar hyd yr hen wal garreg sydd yn rhedeg ar hyd y rhandir. Mae ein gwirfoddolwyr wedi mwynhau dysgu’r grefft draddodiadol hon a bydd y wal yn nodwedd hyfryd yn y rhandir ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau!

Yn y Rhyl, mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn gwneud gwaith ymarferol yn gwella Glan Morfa, hen safle sgipiau sydd bellach wedi cael ei drawsnewid yn gynefin i fywyd gwyllt. Maent wedi bod yn brysur iawn; yn gwella'r amrywiaeth o rywogaethau planhigion trwy blannu pridd bywyd gwyllt, cynnal a chadw'r golygfannau ar hyd yr aber a phlannu 2500 o goed dros y gaeaf yn rhan o ‘Plant!’, menter genedlaethol i blannu coeden ar gyfer pob plentyn a enir yng Nghymru.

Lledaenu pridd blodau gwyllt, Glan Morfa

Ar hen safle tirlenwi arall ym Mhrestatyn, Coed y Morfa, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag Artisans Collective i drawsnewid mynedfa Porth Morfa mewn i fan gwyrdd croesawgar, y gall pobl a bywyd gwyllt ei fwynhau. Trwy gydol y gaeaf, buom yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i blannu gwrych ar hyd un ochr y safle, fel rhan o Brosiect y Goedwig Hir. Mae ein gwrych newydd tua 300 metr o hyd, ac mae gennym gynlluniau i’w ymestyn ymhellach y gaeaf nesaf.

Plannu gwrych, Coed Y Morfa. Llun: Gwyl Roche, Cadwch Gymru’n Daclus

Blodau gwyllt yn ardal Porth Morfa 

                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                    

Gwneud Ffelt yn Artisans Collective, Prestatyn

Rydym yn bwriadu parhau gyda phrosiect Natur er budd Iechyd dros y misoedd nesaf yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Corwen, a’r nod ydi ymgysylltu â mwy o bobl mewn cymunedau lleol. Mae gennym lawer mwy o ddigwyddiadau ar y gweill: gwiriwch dudalen AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar Facebook i weld rhestr o’r digwyddiadau. Cysylltwch ag ellie.wainwright@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 07918224784 i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan ym mhrosiect Natur er budd Iechyd yn Llangollen a Corwen, neu claudia.smith@sirddinbych.gov.uk / 01824 708313 ar gyfer Rhyl a Phrestatyn.

Mae mwy o wybodeth ynglyn a'r prosiect yn y ffilm byr yma.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid