llais y sir

Prosiect 'Natur er Budd iechyd'

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd ar gyfer prosiect newydd o’r enw Natur er budd Iechyd, sef cynllun peilot 18 mis o hyd a’i nod ydi gwella iechyd meddwl a chorfforol cymunedau trwy sicrhau gwell mynediad at natur mewn pedwar prif ardal, Llangollen, Corwen, Rhyl a Phrestatyn. Mae’r tîm Natur er budd Iechyd wedi bod yn gweithio i ddarparu rhaglen o weithgareddau megis teithiau cerdded iach, teithiau dydd, sesiynau cadwraeth ymarferol, celf a chrefftau, arolygon bywyd gwyllt a llawer mwy.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Choed Cadw yn Llangollen ar un o’u safleoedd, sef Pen y Coed, i gysylltu’r gymuned leol â'r adnodd gwych yma. Rydym wedi cynnal sawl digwyddiad yn y coed megis teithiau cerdded i wylio adar, arolygon gloÿnnod byw, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a’r digwyddiad mwyaf poblogaidd – digwyddiad Brecwast a Byw yn y Gwyllt yn y Coed. Yn sgil llwyddiant y digwyddiadau hyd yn hyn, y mis hwn fe aethom gyda’n gwirfoddolwyr i greu ardal ystafell ddosbarth ar y thema coetir lle gallwn gynnal digwyddiadau dros yr haf. Fe wnaethom greu cylch coed, arwydd ar gyfer yr ystafell ddosbarth ar thema coetir a gosod gwesty i bryfed!

Draw yng Nghorwen, mae'r prosiect Natur er budd Iechyd wedi bod yn cefnogi grŵp rhandir Edeyrnion a sefydlwyd yn ddiweddar. Rydym wedi bod yn gwneud tasgau ymarferol gyda gwirfoddolwyr i’w helpu i baratoi’r rhandiroedd, megis gosod rhisglau ar y llwybrau, yn ogystal â chwynnu gan fod y tymheredd wedi cynhesu! Rydym wedi codi llawer o waliau cerrig ar hyd yr hen wal garreg sydd yn rhedeg ar hyd y rhandir. Mae ein gwirfoddolwyr wedi mwynhau dysgu’r grefft draddodiadol hon a bydd y wal yn nodwedd hyfryd yn y rhandir ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau!

Yn y Rhyl, mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn gwneud gwaith ymarferol yn gwella Glan Morfa, hen safle sgipiau sydd bellach wedi cael ei drawsnewid yn gynefin i fywyd gwyllt. Maent wedi bod yn brysur iawn; yn gwella'r amrywiaeth o rywogaethau planhigion trwy blannu pridd bywyd gwyllt, cynnal a chadw'r golygfannau ar hyd yr aber a phlannu 2500 o goed dros y gaeaf yn rhan o ‘Plant!’, menter genedlaethol i blannu coeden ar gyfer pob plentyn a enir yng Nghymru.

Lledaenu pridd blodau gwyllt, Glan Morfa

Ar hen safle tirlenwi arall ym Mhrestatyn, Coed y Morfa, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag Artisans Collective i drawsnewid mynedfa Porth Morfa mewn i fan gwyrdd croesawgar, y gall pobl a bywyd gwyllt ei fwynhau. Trwy gydol y gaeaf, buom yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i blannu gwrych ar hyd un ochr y safle, fel rhan o Brosiect y Goedwig Hir. Mae ein gwrych newydd tua 300 metr o hyd, ac mae gennym gynlluniau i’w ymestyn ymhellach y gaeaf nesaf.

Plannu gwrych, Coed Y Morfa. Llun: Gwyl Roche, Cadwch Gymru’n Daclus

Blodau gwyllt yn ardal Porth Morfa 

                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                    

Gwneud Ffelt yn Artisans Collective, Prestatyn

Rydym yn bwriadu parhau gyda phrosiect Natur er budd Iechyd dros y misoedd nesaf yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Corwen, a’r nod ydi ymgysylltu â mwy o bobl mewn cymunedau lleol. Mae gennym lawer mwy o ddigwyddiadau ar y gweill: gwiriwch dudalen AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar Facebook i weld rhestr o’r digwyddiadau. Cysylltwch ag ellie.wainwright@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 07918224784 i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan ym mhrosiect Natur er budd Iechyd yn Llangollen a Corwen, neu claudia.smith@sirddinbych.gov.uk / 01824 708313 ar gyfer Rhyl a Phrestatyn.

Mae mwy o wybodeth ynglyn a'r prosiect yn y ffilm byr yma.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid