llais y sir

Lansio sesiynau i blant awtistig yn SC2

Mae SC2, y parc dŵr ac antur newydd yn y Rhyl, wedi lansio sesiynau wythnosol i blant ac oedolion ag awtistiaeth, i roi cyfle iddynt fwynhau’r parc mewn awyrgylch fwy hamddenol.

Cynhelir pob sesiwn heb unrhyw gerddoriaeth a bydd mynediad am ddim i ofalwyr. Byddwn yn cyfyngu ar unrhyw gyhoeddiadau dros y system sain ac mae gennym ystafelloedd newid arbenigol sy’n hygyrch ac yn gyfoes, gan gynnwys cyfleusterau gyda theclyn codi ar drac. Dim ond rhai sleidiau dethol fydd ar agor a bydd pawb yn cael llonydd yn y dŵr wrth inni gyfyngu ar y niferoedd yn y pwll a’r lle chwarae pirana.

Gan sicrhau fod yno un gofalwr am bob un sy’n cymryd rhan a heb osod cyfyngiadau oedran, mae’r sesiynau hyn yn cynnig gweithgarwch hygyrch i rai sydd ag anghenion ychwanegol, a hefyd yn rhoi gwerth da am arian gan fod gofalwyr yn cael cymryd rhan yn rhad ac am ddim.

Meddai Jamie Groves, Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai: “Wedi cael ymateb gan gwsmeriaid yn y mis cyntaf ar ôl agor SC2, rydyn ni’n teimlo fod y sesiynau hyn yn arbennig o bwysig er mwyn gwneud yn siŵr fod rhywbeth ar gael i bob aelod o’r gymuned yma, a bod pawb yn medru mwynhau’r parc dŵr mewn awyrgylch addas. Rydyn ni’n gwybod y gallai’r gweithgareddau arferol yn SC2 fod yn ormod i rai cwsmeriaid ag awtistiaeth, ac felly i’r sesiynau yma rydyn ni’n cyfyngu ar y niferoedd yn y pwll, dim ond yn agor rhai o’r sleidiau, ac yn creu sesiwn tawelach heb gerddoriaeth na chyhoeddiadau dros y system sain. Rydyn ni’n ymrwymo i gynnig rhywbeth y gall pawb yn y gymuned ei fwynhau ac elwa arno.”

Cynhelir y sesiynau yn y parc dŵr rhwng 4pm a 5.30pm bob dydd Gwener yn ystod y tymor, a gallwch archebu ar-lein.

Am gyfnod byr bydd cwsmeriaid â chardiau Hamdden Sir Ddinbych yn cael 50% oddi ar y pris wrth ddefnyddio’r cyfeirnod junjulweekday50 ar y wefan a dangos eu cardiau Hamdden wrth y dderbynfa.

Mae modd hefyd ichi logi parc dŵr SC2 ar gyfer grŵp caeedig neu barti pen-blwydd. Rhowch alwad i drafod gyda’r tîm cyfeillgar ar: 01745 777562.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid