llais y sir

Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych Cyf

Cadw'n heini yr Haf hwn gyda Gwasanaethau Hamdden

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Lansio sesiynau i blant awtistig yn SC2

Mae SC2, y parc dŵr ac antur newydd yn y Rhyl, wedi lansio sesiynau wythnosol i blant ac oedolion ag awtistiaeth, i roi cyfle iddynt fwynhau’r parc mewn awyrgylch fwy hamddenol.

Cynhelir pob sesiwn heb unrhyw gerddoriaeth a bydd mynediad am ddim i ofalwyr. Byddwn yn cyfyngu ar unrhyw gyhoeddiadau dros y system sain ac mae gennym ystafelloedd newid arbenigol sy’n hygyrch ac yn gyfoes, gan gynnwys cyfleusterau gyda theclyn codi ar drac. Dim ond rhai sleidiau dethol fydd ar agor a bydd pawb yn cael llonydd yn y dŵr wrth inni gyfyngu ar y niferoedd yn y pwll a’r lle chwarae pirana.

Gan sicrhau fod yno un gofalwr am bob un sy’n cymryd rhan a heb osod cyfyngiadau oedran, mae’r sesiynau hyn yn cynnig gweithgarwch hygyrch i rai sydd ag anghenion ychwanegol, a hefyd yn rhoi gwerth da am arian gan fod gofalwyr yn cael cymryd rhan yn rhad ac am ddim.

Meddai Jamie Groves, Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai: “Wedi cael ymateb gan gwsmeriaid yn y mis cyntaf ar ôl agor SC2, rydyn ni’n teimlo fod y sesiynau hyn yn arbennig o bwysig er mwyn gwneud yn siŵr fod rhywbeth ar gael i bob aelod o’r gymuned yma, a bod pawb yn medru mwynhau’r parc dŵr mewn awyrgylch addas. Rydyn ni’n gwybod y gallai’r gweithgareddau arferol yn SC2 fod yn ormod i rai cwsmeriaid ag awtistiaeth, ac felly i’r sesiynau yma rydyn ni’n cyfyngu ar y niferoedd yn y pwll, dim ond yn agor rhai o’r sleidiau, ac yn creu sesiwn tawelach heb gerddoriaeth na chyhoeddiadau dros y system sain. Rydyn ni’n ymrwymo i gynnig rhywbeth y gall pawb yn y gymuned ei fwynhau ac elwa arno.”

Cynhelir y sesiynau yn y parc dŵr rhwng 4pm a 5.30pm bob dydd Gwener yn ystod y tymor, a gallwch archebu ar-lein.

Am gyfnod byr bydd cwsmeriaid â chardiau Hamdden Sir Ddinbych yn cael 50% oddi ar y pris wrth ddefnyddio’r cyfeirnod junjulweekday50 ar y wefan a dangos eu cardiau Hamdden wrth y dderbynfa.

Mae modd hefyd ichi logi parc dŵr SC2 ar gyfer grŵp caeedig neu barti pen-blwydd. Rhowch alwad i drafod gyda’r tîm cyfeillgar ar: 01745 777562.

Pad Sblasio SC2 nawr ar agor

Mae'r Pad Sblasio yn SC2 nawr ar agor, gan ddod a cham olaf yr adeiladu yn SC2, parc dŵr a chanolfan antur newydd y Rhyl, i ben.

Bydd y Pad Sblasio awyr agored yn rhoi profiad gwyliau cyflawn i gwsmeriaid ar eu stepen drws, fel ychwanegiad am ddim i’w tocyn parc dŵr.

Mae rhai o nodweddion yr ardal dŵr awyr agored newydd yn cynnwys bwcedi sy'n tywallt dŵr, canonau dŵr a’r llithren paradwys. Tra bo’r plant yn mwynhau’r nodweddion dŵr o’r radd flaenaf, gall oedolion ymlacio yn yr haul ar y teras ac ardaloedd eistedd awyr agored, neu fwynhau diod a byrgyr ym Mar y Teras a’r Caban Byrbrydau.

Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai: “Dyma gam olaf adeiladu SC2 ac rydym yn falch o fod ar y trywydd iawn i agor ar gyfer Gŵyl y Banc. Mae'r Pad Sblasio yn cynnig parc dŵr awyr agored i gwsmeriaid ac ardal wedi'i amgáu ar gyfer teuluoedd i chwarae yn y dŵr ac ymlacio ger y pwll.

“Mae’r Pad Sblasio yn llawn nodweddion lliwgar, hawdd mynd atynt, a bydd yn adloniant i’r rhai bach, wrth fagu eu hyder yn y dŵr ar yr un pryd. Rydym yn ymfalchïo yn yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni yn SC2 ac edrychwn ymlaen at gyflwyno'r profiad awyr agored hwn i drigolion y Rhyl."

Mae ystod newydd o fyrgyrs blasus yn cael eu lansio yn yr Ystafell Fwyta Coedwig Law a’r Bar Teras o fewn SC2, sy’n agored i’r cyhoedd yn ystod y penwythnosau a’r gwyliau.

Bydd y Pad Sblasio, Caban Byrbrydau a’r Teras yn dibynnu ar y tywydd ac yn agor yn dymhorol, ceir mynediad atynt fel rhan o unrhyw docyn parc dŵr. Archebwch docynnau ar-lein ar http://sc2rhyl.co.uk/cy/hafan/.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid