llais y sir

Cyngor yn lansio cyfleoedd gwych ar gyfer lleoliadau gwaith

Mae cynllun lleoliad gwaith newydd sbon yn cael ei gyflwyno, i helpu pobl ddi-waith i ddychwelyd i fyd gwaith.

Bydd y cynllun Gweithio Gyda’n Gilydd yn cynnig 15 o leoliadau gwaith â thâl, am 16-30 awr yr wythnos am gyfnod o dri mis. Bydd 15 o leoliadau di-dâl ar gael hefyd, sy'n para rhwng chwech ac wyth wythnos. Bydd y swyddi hyn yn amrywiol iawn gyda'r potensial i arwain at swydd barhaol i'r ymgeisydd cywir a byddant ar gael ym mhrif wasanaethau'r Cyngor.

Mae'r cynllun yn rhan o brosiect Gweithio Sir Ddinbych, sy'n helpu pobl i gael gwaith trwy ddarparu cefnogaeth ac arweiniad gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys: cymhelliant a hyder; cyngor ac arweiniad un i un; cyfleoedd hyfforddi; gwirfoddoli; Ysgrifennu CV; profiad gwaith; technegau cyfweld; gwneud cais am swyddi; cyllid personol; cyfrifoldebau gofalu ac unrhyw beth arall sy'n eich atal rhag mynd i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant

Mae'r cynllun hwn ar gael i gyfranogwyr presennol a newydd cynllun Gweithio Sir Ddinbych sy'n golygu y byddwch yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i'ch tywys trwy eich lleoliad.

Anogir pobl i gadw llygad ar wefan Sir Ddinbych a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol am fanylion pryd y bydd y lleoliadau ar gael.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Mae hwn yn gyfle gwych i unigolion allan o waith ennill profiad a chefnogaeth werthfawr a fydd yn eu cael ar ysgol yrfa ac yn gwella eu rhagolygon o gael gwaith pellach yn y dyfodol.

“Er nad oes sicrwydd o swydd gyda'r Cyngor, gallai fod y cam cyntaf erioed i yrfa newydd sbon neu newid cyfeiriad. Bydd pob lleoliad yn cael ei fonitro'n ofalus, er mwyn sicrhau bod pob unigolyn sy'n cymryd rhan yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle i ennill cymaint â phosibl o'r profiad ”.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â'r tîm ar 01824 706489. Mae rhagor o fanylion am y cynllun Gweithio Sir Ddinbych ar gael yn: www.sirddinbych.gov.uk/gweithioynsirddinbych

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid