Mân newidiadau i bortffolios Cabinet Sir Ddinbych
Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans OBE wedi cyhoeddi mân newidiadau i bortffolios ei Gabinet.
Tra bod pob aelod blaenorol o’r Cabinet wedi derbyn portffolios, mae rhai newidiadau i’r meysydd cyfrifoldebau.
Y deiliaid portffolios yw:
Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol: Y Cynghorydd Hugh Evans: Cefnogaeth/Datblygiad Economaidd a Busnes ; Strategaeth Economaidd Ranbarthol (yn cynnwys y Fargen Dwf); Cyflogadwyedd a Sgiliau; Adfywio’r Rhyl; Strategaeth Twristiaeth; Strategaeth Ddigidol; Partneriaethau Strategol; Prosiectau a Digwyddiadau Mawr; Llywodraethu Corfforaethol; Rheolaeth y Cabinet
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: Cynghorydd Julian Thompson-Hill: Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf; Deddfwriaeth Ariannol a Rheoli’r Trysorlys; Cyfrif Refeniw Tai; Refeniw a Budd-daliadau; Risg Corfforaethol; Cynllun Corfforaethol a pherfformiad cyffredinol y Cyngor a Chynllunio Strategol; Iechyd a Diogelwch; Caffael; Archwilio Mewnol; Rheolaeth Asedau Corfforol y Cyngor; Contractau a Chyfleusterau (yn cynnwys Gwasanaethau Arlwyo); Cwmnïau ‘Hyd Braich’; Strategaeth Fasnachol
Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth: Cynghorydd Bobby Feeley: Gofal Cymdeithasol Oedolion; Tai Gofal Ychwanegol; Byw’n Annibynnol gyda Chymorth; Digartrefedd; Gwrthdlodi; Swyddog Arweiniol y Bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru; Integreiddio’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd; Strategaeth Hamdden; Diwylliant a Threftadaeth
Aelod Cabinet Arweiniol dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts: Addysg (Gwella Ysgolion); Gwasanaethau Plant; GwE; Ysgolion yr 21 Ganrif; Polisi Cludiant Ysgolion; Gwasanaethau Ieuenctid; Y Blynyddoedd Cynnar; Strategaeth yr Iaith Gymraeg; Strategaeth Cyfathrebu a Marchnata; Ymgysylltu â’r Cyhoedd; Rheoli Enw Da; Rhianta a Diogelu Corfforaethol.
Aelod Cabinet Arweiniol dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: Cynghorydd Brian Jones: Effeithiau Amgylcheddol (yn cynnwys Mentrau Carbon Isel, Effeithlonrwydd/Cadwraeth); Priffyrdd; Traffig, Parcio, Diogelwch y Ffyrdd; Atebion Cludiant Cynaliadwy, Y Parth Cyhoeddus a Strydoedd Glân a Thaclus; Rheoli’r Fflyd; Gwastraff ac Ailgylchu; Rheoli Risg Llifogydd
Aelod Cabinet Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol :Cynghorydd Richard Mainon: Polisïau a Strategaeth Adnoddau Dynol; Perthynas ag Undebau; Datblygu Polisi; Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd; Cydraddoldeb ac Amrywiaeth; Cynllunio rhag Argyfwng; TGCh a Datblygu’r Wefan; Hyfforddiant a Datblygiad Aelodau; Perthnasoedd Trydydd Sector; Cefnogwr y Lluoedd Arfog.
Aelod Cabinet Arweiniol dros Dai a Chymunedau: Cynghorydd Tony Thomas: Strategaeth Tai (yn cynnwys Tai Fforddiadwy, darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, Tai Sector Preifat, Tai Gwag, Grantiau/Benthyciadau Tai); Tai Sir Ddinbych yn cynnwys Partneriaeth â Thenantiaid; Strategaeth Llyfrgelloedd; Cefn Gwlad (yn cynnwys AHNE); Cadwraeth Natur a Bioamrywiaeth; Datblygu Gwledig; Perthnasoedd â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned; Cyllido Cymunedau.
Aelod Cabinet Arweiniol dros Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Diogelach: Cynghorydd Mark Young: Cynllunio ar gyfer y Defnydd o Dir (i gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol); Rheoli Adeiladu; Cadwraeth Adeiledig; Diogelu’r Cyhoedd a Gorfodaeth (yn cynnwys Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach,; Trwyddedu, Troseddau Amgylcheddol, Gorfodaeth Tai); Cymunedau Diogelach; Cam-drin Domestig.
Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans OBE “Rydym yn falch iawn o allu rhannu’r portffolios, yn dilyn adolygiad o’r meysydd gwaith.
“Mae nifer o faterion sy’n dod yn fwy amlwg ar gyfer cynghorau ar draws Cymru, yn cynnwys sut rydym yn rheoli egni, lleihau allyriadau carbon, tai a’r agenda digidol.
“Gwneir hyn gyda’r bwriad o barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i drigolion y sir."