llais y sir

Newyddion

Mân newidiadau i bortffolios Cabinet Sir Ddinbych

Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans OBE wedi cyhoeddi mân newidiadau i bortffolios ei Gabinet.

Tra bod pob aelod blaenorol o’r Cabinet wedi derbyn portffolios, mae rhai newidiadau i’r meysydd cyfrifoldebau.

Y deiliaid portffolios yw:

Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Economi a Llywodraethu  Corfforaethol: Y Cynghorydd Hugh EvansCefnogaeth/Datblygiad Economaidd a Busnes ; Strategaeth Economaidd Ranbarthol  (yn cynnwys y Fargen Dwf); Cyflogadwyedd a Sgiliau; Adfywio’r Rhyl; Strategaeth Twristiaeth; Strategaeth Ddigidol; Partneriaethau Strategol; Prosiectau a Digwyddiadau Mawr; Llywodraethu Corfforaethol; Rheolaeth y Cabinet

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:  Cynghorydd Julian Thompson-HillCyllidebau Refeniw a Chyfalaf; Deddfwriaeth Ariannol a Rheoli’r Trysorlys; Cyfrif Refeniw Tai; Refeniw a Budd-daliadau; Risg Corfforaethol; Cynllun Corfforaethol a pherfformiad cyffredinol y Cyngor a Chynllunio Strategol; Iechyd a Diogelwch; Caffael; Archwilio Mewnol; Rheolaeth Asedau Corfforol y Cyngor; Contractau a Chyfleusterau (yn cynnwys Gwasanaethau Arlwyo); Cwmnïau ‘Hyd Braich’; Strategaeth Fasnachol

Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth: Cynghorydd Bobby FeeleyGofal Cymdeithasol Oedolion; Tai Gofal Ychwanegol; Byw’n Annibynnol gyda Chymorth; Digartrefedd; Gwrthdlodi; Swyddog Arweiniol y Bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru; Integreiddio’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd; Strategaeth Hamdden; Diwylliant a Threftadaeth

Aelod Cabinet Arweiniol dros  Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: Cynghorydd Huw Hilditch-RobertsAddysg (Gwella Ysgolion); Gwasanaethau Plant; GwE; Ysgolion yr 21 Ganrif; Polisi Cludiant Ysgolion; Gwasanaethau Ieuenctid; Y  Blynyddoedd Cynnar; Strategaeth yr Iaith Gymraeg; Strategaeth Cyfathrebu a Marchnata; Ymgysylltu â’r Cyhoedd; Rheoli Enw Da; Rhianta a Diogelu Corfforaethol.

Aelod Cabinet Arweiniol dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: Cynghorydd Brian JonesEffeithiau Amgylcheddol (yn cynnwys Mentrau Carbon Isel, Effeithlonrwydd/Cadwraeth); Priffyrdd; Traffig, Parcio, Diogelwch y Ffyrdd; Atebion Cludiant Cynaliadwy, Y Parth Cyhoeddus a Strydoedd Glân a Thaclus; Rheoli’r Fflyd;  Gwastraff ac Ailgylchu; Rheoli Risg Llifogydd

Aelod Cabinet  Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol :Cynghorydd Richard MainonPolisïau a Strategaeth Adnoddau Dynol; Perthynas ag Undebau; Datblygu Polisi; Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd; Cydraddoldeb ac Amrywiaeth; Cynllunio rhag Argyfwng; TGCh a Datblygu’r Wefan; Hyfforddiant a Datblygiad Aelodau; Perthnasoedd Trydydd Sector; Cefnogwr y Lluoedd Arfog.

Aelod Cabinet Arweiniol dros Dai a Chymunedau: Cynghorydd Tony ThomasStrategaeth Tai (yn cynnwys Tai Fforddiadwy, darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, Tai Sector Preifat, Tai Gwag, Grantiau/Benthyciadau Tai); Tai Sir Ddinbych yn cynnwys Partneriaeth â Thenantiaid; Strategaeth Llyfrgelloedd; Cefn Gwlad (yn cynnwys AHNE); Cadwraeth  Natur a Bioamrywiaeth; Datblygu Gwledig; Perthnasoedd â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned; Cyllido Cymunedau.

Aelod Cabinet Arweiniol dros Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd  a Chymunedau Diogelach: Cynghorydd Mark YoungCynllunio ar gyfer y Defnydd o Dir (i gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol); Rheoli Adeiladu; Cadwraeth Adeiledig; Diogelu’r Cyhoedd a Gorfodaeth (yn cynnwys Iechyd Amgylcheddol, Safonau Masnach,; Trwyddedu, Troseddau Amgylcheddol, Gorfodaeth Tai); Cymunedau Diogelach; Cam-drin Domestig.

Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans OBE  “Rydym yn falch iawn o allu rhannu’r portffolios, yn dilyn adolygiad o’r meysydd gwaith.

“Mae nifer o faterion sy’n dod yn fwy amlwg ar gyfer cynghorau ar draws Cymru, yn cynnwys sut rydym yn rheoli egni, lleihau allyriadau carbon, tai a’r agenda digidol.

“Gwneir hyn gyda’r bwriad o barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i drigolion y sir."

Mae Eisteddfod yr Urdd ar ei ffordd

Mae'r cyfrif wedi dechrau wrth i Sir Ddinbych baratoi i groesawu ieuenctid Cymru i'r sir.

Mae'r sir yn cynnal yr Eisteddfod yr Urdd, i'w chynnal ar Fferm Kilford ar gyrion Dinbych o 25-30 Mai, 2020.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn trefnu'r digwyddiad ac yn cael eu cefnogi gan gymunedau lleol sydd eisoes wedi trefnu a chynnal digwyddiadau codi arian di-ri. Mae'r Cyngor hefyd yn cefnogi'r Eisteddfod gyda threfniadau.

Mae'r ŵyl yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gystadlu mewn ystod eang o gystadlaethau, yn amrywio o ganu, adrodd, cerdd dant, drama, dawns, celf, crefft, gwyddoniaeth a choginio - nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Bydd cyfleoedd i'r ieuenctid yn Sir Ddinbych gystadlu mewn digwyddiadau lleol a sirol. Yna mae'r enillydd ym mhob cystadleuaeth ar lefel sirol yn cynrychioli Sir Ddinbych yn yr eisteddfod genedlaethol.

Tra bod paratoadau ar y gweill ar gyfer y brif Eisteddfod, y cam mawr nesaf fydd y Seremoni Gyhoeddi sy'n cael ei chynnal ym Mhrestatyn ddydd Sadwrn, Hydref 5ed. Cadwch y dyddiadau'n glir yn eich dyddiaduron.

Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei rhannu dros y misoedd nesaf.

Am fanylion pellach am yr Urdd, ewch i'w gwefan sef www.urdd.cymru.

Cyngor yn lansio cyfleoedd gwych ar gyfer lleoliadau gwaith

Mae cynllun lleoliad gwaith newydd sbon yn cael ei gyflwyno, i helpu pobl ddi-waith i ddychwelyd i fyd gwaith.

Bydd y cynllun Gweithio Gyda’n Gilydd yn cynnig 15 o leoliadau gwaith â thâl, am 16-30 awr yr wythnos am gyfnod o dri mis. Bydd 15 o leoliadau di-dâl ar gael hefyd, sy'n para rhwng chwech ac wyth wythnos. Bydd y swyddi hyn yn amrywiol iawn gyda'r potensial i arwain at swydd barhaol i'r ymgeisydd cywir a byddant ar gael ym mhrif wasanaethau'r Cyngor.

Mae'r cynllun yn rhan o brosiect Gweithio Sir Ddinbych, sy'n helpu pobl i gael gwaith trwy ddarparu cefnogaeth ac arweiniad gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys: cymhelliant a hyder; cyngor ac arweiniad un i un; cyfleoedd hyfforddi; gwirfoddoli; Ysgrifennu CV; profiad gwaith; technegau cyfweld; gwneud cais am swyddi; cyllid personol; cyfrifoldebau gofalu ac unrhyw beth arall sy'n eich atal rhag mynd i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant

Mae'r cynllun hwn ar gael i gyfranogwyr presennol a newydd cynllun Gweithio Sir Ddinbych sy'n golygu y byddwch yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i'ch tywys trwy eich lleoliad.

Anogir pobl i gadw llygad ar wefan Sir Ddinbych a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol am fanylion pryd y bydd y lleoliadau ar gael.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Mae hwn yn gyfle gwych i unigolion allan o waith ennill profiad a chefnogaeth werthfawr a fydd yn eu cael ar ysgol yrfa ac yn gwella eu rhagolygon o gael gwaith pellach yn y dyfodol.

“Er nad oes sicrwydd o swydd gyda'r Cyngor, gallai fod y cam cyntaf erioed i yrfa newydd sbon neu newid cyfeiriad. Bydd pob lleoliad yn cael ei fonitro'n ofalus, er mwyn sicrhau bod pob unigolyn sy'n cymryd rhan yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle i ennill cymaint â phosibl o'r profiad ”.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â'r tîm ar 01824 706489. Mae rhagor o fanylion am y cynllun Gweithio Sir Ddinbych ar gael yn: www.sirddinbych.gov.uk/gweithioynsirddinbych

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Ymunwch hefo’r Ras Ofod yn eich llyfrgell yr haf yma

Mae llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn galw ar blant i ymuno hefo’r her o ddarllen chwech llyfr dros yr haf fel rhan o’r Ras Ofod, Sialens Ddarllen yr Haf 2019.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gofyn i blant fenthyg a darllen chwech llyfr llyfrgell dros yr haf. Thema’r Sialens eleni yw Ras Ofod, wedi ei ysbrydoli gan 50iant y glaniad cyntaf ar y lleuad.

Bydd plant yn ymuno hefo’r teulu o’r dyfodol, y Rocedi, ar gyfer antur ofod cyffrous wrth iddyn nhw chwilota am lyfrau sydd wedi eu bachu gan griw o ofodwyr drwg. Wrth i blant ddarllen y llyfrau llyfrgell ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf, byddant yn derbyn sticeri arbennig, rhai gyda arogleuon dirgel. Wrth osod y sticeri ar eu ffolderi ymgyrch, bydd darllenwyr ifanc yn helpu’r Rocedi i ddatrys cliwiau, osgoi asteroids a darganfod y llyfrau coll, a chael llwyth o hwyl ac antur ar hyd y ffordd.

I gymryd rhan yn y Ras Ofod, y cwbl sydd raid gwneud yw ymuno am ddim yn y lyfrgell agosaf, i dderbyn ffolder gasglu i gofnodi eu taith trwy Sialens Ddarllen yr Haf. Mae’r Sialens yn hwyl ac yn helpu plant i ddatblygu cariad at lyfrau a’r arfer o ddarllen er mwyn pleser.

 

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Flailbot (peiriant ffustio rheoli o bell)

Y gaeaf hwn rydym wedi bod yn treialu Flailbot (peiriant ffustio a reolir o bell) yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Sicrhawyd cyllid trwy Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chadwyn Clwyd i weld sut y gallai defnyddio Flailbot fod o fudd posibl i’r AHNE.

Un o brif bryderon y rheiny sy’n gysylltiedig â rheoli cynefinoedd ar dir uchel yn ardaloedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw'r gostyngiad mewn da byw sy’n cael eu troi allan i bori’r bryniau. Mae gostyngiad mewn da byw pori yn yr ardaloedd ucheldirol hyn yn achosi i ormod o lystyfiant ucheldirol dyfu. Mae hyn wedyn yn gwneud y cynefin yn llai ffafriol i ffawna megis Y Grugiar Ddu. Gan hynny mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o annog pori rheolaidd yn yr ardaloedd hyn neu eu rheoli’n effeithiol gyda dulliau amgen.

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyfle i ni weld manteision posibl y peiriant hwn i ddulliau rheoli cynefinoedd yn yr ucheldiroedd. Rydym wedi bod yn defnyddio’r Flailbot i dorri eithin a grug mewn ardaloedd ucheldirol nad oedd modd cael mynediad atynt gyda pheiriannau confensiynol nac er mwyn eu llosgi yn y gorffennol oherwydd bod y llethrau mor serth. Mae’r peiriant Flailbot fodd bynnag yn gallu ymdopi â llethrau ar onglau hyd at 55 gradd ac mae’n llawer mwy addas ar gyfer y tirwedd uchel ac yn llawer mwy sefydlog. Nid oes angen gyrrwr ar gyfer y peiriant felly mae’n llawer mwy diogel os oes damwain yn digwydd ac mae hynny’n nodwedd sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer y tirwedd hwn.

Mae llogi’r peiriannau Flailbot wedi ein galluogi i dorri ardaloedd o grug ac eithin, agor ardaloedd ychwanegol o dir pori ar gyfer da byw trwy adael i anifeiliaid symud yn rhydd. Mae traciau ychwanegol wedi cael eu torri yn y prysgwydd er mwyn gallu rheoli a chasglu diadell yn haws. Ar y rhostiroedd grug mae rhwystrau tân wedi cael eu torri er mwyn helpu i reoli ucheldir grug yn y dull traddodiadol sef llosgi. Fodd bynnag, bydd hynny hefyd yn fuddiol er mwyn lleihau effeithiau difrodus tanau mynydd damweiniol sy’n digwydd yn fwy a mwy aml.

Jac Y Neidiwr

Mae Jac y Neidiwr yn gallu ymddangos fel planhigyn deniadol â blodyn porffor sy’n cyrraedd ei lawn dwf yn ystod yr haf ar hyd glannau afon a thir gwastraff yn bennaf. Fodd bynnag, yn anffodus nid yw’n blanhigyn cynhenid ac mae’n ymwthiol ac yn gallu tagu llystyfiant arall yn gyflym. Ar ôl tagu llystyfiant arall sy’n tyfu o’i amgylch, mae planhigyn Jac y Neidiwr yn marw yn y gaeaf gan adael pridd moel. Yn aml mae afonydd yn gorlifo ac yna’n golchi'r pridd i ffwrdd sy'n achosi erydiad ar lannau'r afon. Gall yr erydiad hwn achosi i waddod gasglu yn yr afonydd a chael effaith andwyol ar fywyd gwyllt sy'n byw yn yr afonydd. Gall pob planhigyn gynhyrchu hyd at 800 o hadau – mae’r rhain yn ffrwydro o’u codennau ar ôl aeddfedu a gallant wasgaru hyd at 4 metr i ffwrdd o'r planhigyn. Yn aml maent yn glanio ger cyrsiau dŵr sy'n eu helpu i wasgaru'r hadau hyd yn oed ymhellach. Gan hynny, mae Jac y Neidiwr yn ymwthiol dros ben a gall gael effaith andwyol ar fflora cynhenid ar hyd glannau afonydd a hefyd ar fywyd gwyllt sy’n byw yn yr afonydd.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Wildground i gael gwared ar Jac y Neidiwr ar hyd Afon Alyn o’i tharddiad yn Llandegla i’r Wyddgrug.

Rydym yn rheoli Jac y Neidiwr yn bennaf trwy gael grwpiau o wirfoddolwyr i'w dynnu â llaw ond rydym hefyd yn defnyddio contractwyr i drin ardaloedd mwy dwys. Ar ôl ei dynnu, mae angen ‘crensian’ Jac y Neidiwr er mwyn ei ddinistrio’n gyfan gwbl ac yna rydym yn ei osod mewn pentyrrau bach ar hyd glan yr afon sy’n pydru yn gyflym. Mae angen ei dynnu cyn iddo ddechrau hadu felly mae angen gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith cyn mis Awst. Fodd bynnag, gellir gweld planhigion yn blodeuo mor hwyr â mis Tachwedd felly mae’n bwysig dal ati i gerdded ar hyd rhannau i chwilio am unrhyw dyfiant newydd.

Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld gostyngiad mawr yn niferoedd y planhigyn hwn a'r gobaith yw sicrhau bod Jac y Neidiwr yn cael ei glirio’n gyfan gwbl o Afon Alyn. Ar un adeg, roedd llawer iawn o'r planhigyn yn tyfu ar y rhan hon o'r afon. Ond rydym bellach wedi llwyddo i’w ostwng i ychydig o ardaloedd problemus yr ydym yn canolbwyntio arnynt eleni. Ar ôl hyn, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ostwng faint o Jac y Neidiwr sy’n tyfu ymhellach i lawr yr afon.

Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw un o’r diwrnodau gwirfoddolwyr sy’n canolbwyntio ar Jac y Neidiwr yr haf hwn, mae croeso i chi gysylltu â John Morris ym Mharc Gwledig Loggerheads (01824 712757).

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae gwirfoddolwyr o ardd gymunedol ac adarwr brwd wedi derbyn gwobrau. Bob blwyddyn mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cyflwyno dwy wobr i anrhydeddu'r rhai sy'n cyfrannu at y dirwedd a chymunedau yn yr ardal.

Eleni rhoddwyd Gwobr yr AHNE i Ardd Gymunedol Corwen a chyflwynwyd Gwobr Gwirfoddolwr yr AHNE i John Lawton Roberts. Mae Mr Roberts o Langollen wedi treulio rhan helaeth o'i fywyd yn cofnodi, gwylio ac adrodd ar adar yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae wedi cynorthwyo i lunio darlun manwl o'r newidiadau i boblogaethau adar yn yr ardal sy'n cwmpasu cyfnod o dros 40 mlynedd.

Mae nifer o’i bapurau gwyddonol wedi eu cyhoeddi ac mae wedi cofnodi’r newidiadau o ran yr adar ar Rostir Rhiwabon a Chreigiau Eglwyseg, gyda’i waith wedi cyfrannu at lwyddiant nifer o brosiectau gan gynnwys Rhaglen Adfer y Rugiar Ddu Gymreig.

Mae Gardd Gymunedol Corwen wedi ei lleoli yn y berllan gymunedol ger canol y dref, ac mae’n adnodd i holl aelodau’r gymuned. Mae’r grŵp yn cwrdd bob dydd Mercher, gan ddarparu cyfle cymdeithasol a gwneud cyfraniad i iechyd a lles y rhai sy’n cymryd rhan. Datblygwyd y safle yng ngwanwyn 2016 gyda chyllid Llywodraeth Cymru a sicrhawyd gan Age Concern ac unwaith y daeth y cyllid i ben, fe aeth grŵp bach o wirfoddolwyr ati i barhau â'r gwaith. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf maent wedi trawsnewid y cae yn ardd hardd a chynhyrchiol.

Dywedodd Cadeirydd Cydbwyllgor yr AHNE, y Cynghorydd Tony Thomas “Hoffwn longyfarch John a'r gwirfoddolwyr o Ardd Gymunedol Corwen ar eu gwobrau.

“Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn elwa o bawb sy’n rhoi eu hamser ac ymdrech i helpu i wella'r dirwedd a chymunedau. Mae ymdrechion John a’r aelodau o Ardd Gymunedol Corwen wedi bod yn eithriadol tu hwnt.”

O’r chwith i’r dde

Swyddog Partneriaeth Gymunedol yr AHNE, Ros Stockdale, aelodau o Grŵp Cymunedol Corwen

Swyddog yr AHNE Howard Sutcliffe, Swyddog Cyfathrebu’r AHNE Karen Weaver, Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE, David Shiel, Cadeirydd Partneriaeth yr AHNE Andrew Worthington OBE, Rhes flaen, aelod o Grŵp Cymunedol Corwen Jane Marsden, Uwch Warden Cefn Gwlad yr AHNE, Rhun Jones, John Lawton Roberts a'i wraig, Is Gadeirydd Partneriaeth yr AHNE y Cyng Paul Cunningham, Cadeirydd Cydbwyllgor yr AHNE y Cyng Tony Thomas

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Help llaw i greu cartrefi newydd ar gyfer Pathewod

Bu gwirfoddolwyr o brosiect Natur er Budd Iechyd yn helpu i adeiladu 20 o focsys nyth ar gyfer pathewod yng Nghoed y Morfa, Prestatyn. Mynychodd oddeutu 15 o wirfoddolwyr y digwyddiad i helpu ceidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i greu'r bocsys.

Mae pathewod yn rhywogaethau mewn perygl ar draws y DU. Mae colli perthi a'r newid mewn rheolaeth coetir wedi arwain at ostyngiad dramatig mewn niferoedd, 72% rhwng 1993 a 2014. Drwy greu’r bocsys nyth, gobeithiwn gefnogi cynnydd mewn niferoedd dros y blynyddoedd nesaf. Gwnaed y bocsys gan ddefnyddio pren lleol, a chânt eu gosod a’i monitro ar safle sy’n bwysig i bathewod yn Sir Ddinbych.

Mae Natur er Budd Iechyd yn rhan o waith y Cyngor i ddiogelu a gwella’r amgylchedd a’r nod yw gwella bywydau pobl drwy weithgareddau iechyd a lles, gan helpu unigolion a chymunedau yn Sir Ddinbych i gysylltu gyda chefn gwlad a mabwysiadu arferion iach.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â Thai Sir Ddinbych i ddarparu'r prosiect, gyda chefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor.

Diolch i bawb a ddaeth i helpu i greu'r bocsys!

Os hoffech fod yn rhan o Natur er Budd Iechyd yn y Rhyl neu ym Mhrestatyn, cysylltwch â 01824 706998.

Creu Cartrefi i Ddreigiau ar Dwyni Sir Ddinbych

Mae rhan fechan o forlin Sir Ddinbych yn gartref i boblogaeth fechan o ddreigiau Cymreig bach. Ers eu difodiant yn y 1960au a’u hail-gyflwyniad diweddar i’n systemau twyni, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn ddiweddar i ddod a phoblogaeth madfall y tywod yn Sir Ddinbych yn ôl i’w llawn ogoniant.

Yn ddiweddar, aeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych gyda Mick Brummage (cofnodydd ymlusgiaid y Sir) a rhai o wirfoddolwyr ymroddedig, i'r twyni, i gyflawni gwaith rheoli cynefin hanfodol.

Bu ychydig o oedi yn y gwaith yn ystod y bore oherwydd bod y tymheredd yn oerach na'r disgwyl. Mae madfallod y tywod, fel holl ymlusgiaid, yn ectothermig, ac yn dibynnu ar eu hamgylchedd i reoli tymheredd eu cyrff. Pan mae’r tywydd yn oer maent yn cuddio o fewn eu twyni, sy’n golygu bod palu yn y tywod yn risg. Felly, cafodd y gwaith ei ohirio nes i'r tywydd gynhesu a'r madfallod allan yn torheulo.

Roedd y gwaith yn cynnwys defnyddio cloddiwr i dynnu a chrafu'r llystyfiant a oedd wedi tyfu’n drwchus ar y twyni. Gwnaed hyn er mwyn gallu datgelu ardaloedd o dywod a lleihau arwynebedd yr ardaloedd cysgodol. Mae hyn yn darparu ardaloedd ychwanegol i fadfallod y tywod dorheulo, tyllu a dodwy.

Yn yr ardaloedd mwy sensitif y twyni, lle nad oedd y cloddiwr yn gallu mynd, defnyddiodd y gwirfoddolwyr rawiau er mwyn tynnu'r llystyfiant yn ofalus, wrth geisio cadw llygad am fadfallod bychain yn torheulo.

Edrychwn ymlaen at fonitro’r twyni a’r ardaloedd tywod newydd dros y blynyddoedd nesaf a gweld y ddraig fach Gymreig gyntaf yn torheulo yn eu llecyn tywod newydd!

Diolch i Mick Brummage am ei arweiniad a’i gymorth ar y diwrnod, Arwyn Parry Construction Services Ltd am eu hagwedd cynnil tuag at y gwaith, ac wrth gwrs, ein grŵp gweithgar o wirfoddolwyr sydd bob amser yn barod am waith gyda gwên ar eu hwynebau

Prosiect 'Natur er Budd iechyd'

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a Gwasanaeth Tai Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd ar gyfer prosiect newydd o’r enw Natur er budd Iechyd, sef cynllun peilot 18 mis o hyd a’i nod ydi gwella iechyd meddwl a chorfforol cymunedau trwy sicrhau gwell mynediad at natur mewn pedwar prif ardal, Llangollen, Corwen, Rhyl a Phrestatyn. Mae’r tîm Natur er budd Iechyd wedi bod yn gweithio i ddarparu rhaglen o weithgareddau megis teithiau cerdded iach, teithiau dydd, sesiynau cadwraeth ymarferol, celf a chrefftau, arolygon bywyd gwyllt a llawer mwy.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Choed Cadw yn Llangollen ar un o’u safleoedd, sef Pen y Coed, i gysylltu’r gymuned leol â'r adnodd gwych yma. Rydym wedi cynnal sawl digwyddiad yn y coed megis teithiau cerdded i wylio adar, arolygon gloÿnnod byw, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a’r digwyddiad mwyaf poblogaidd – digwyddiad Brecwast a Byw yn y Gwyllt yn y Coed. Yn sgil llwyddiant y digwyddiadau hyd yn hyn, y mis hwn fe aethom gyda’n gwirfoddolwyr i greu ardal ystafell ddosbarth ar y thema coetir lle gallwn gynnal digwyddiadau dros yr haf. Fe wnaethom greu cylch coed, arwydd ar gyfer yr ystafell ddosbarth ar thema coetir a gosod gwesty i bryfed!

Draw yng Nghorwen, mae'r prosiect Natur er budd Iechyd wedi bod yn cefnogi grŵp rhandir Edeyrnion a sefydlwyd yn ddiweddar. Rydym wedi bod yn gwneud tasgau ymarferol gyda gwirfoddolwyr i’w helpu i baratoi’r rhandiroedd, megis gosod rhisglau ar y llwybrau, yn ogystal â chwynnu gan fod y tymheredd wedi cynhesu! Rydym wedi codi llawer o waliau cerrig ar hyd yr hen wal garreg sydd yn rhedeg ar hyd y rhandir. Mae ein gwirfoddolwyr wedi mwynhau dysgu’r grefft draddodiadol hon a bydd y wal yn nodwedd hyfryd yn y rhandir ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau!

Yn y Rhyl, mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn gwneud gwaith ymarferol yn gwella Glan Morfa, hen safle sgipiau sydd bellach wedi cael ei drawsnewid yn gynefin i fywyd gwyllt. Maent wedi bod yn brysur iawn; yn gwella'r amrywiaeth o rywogaethau planhigion trwy blannu pridd bywyd gwyllt, cynnal a chadw'r golygfannau ar hyd yr aber a phlannu 2500 o goed dros y gaeaf yn rhan o ‘Plant!’, menter genedlaethol i blannu coeden ar gyfer pob plentyn a enir yng Nghymru.

Lledaenu pridd blodau gwyllt, Glan Morfa

Ar hen safle tirlenwi arall ym Mhrestatyn, Coed y Morfa, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag Artisans Collective i drawsnewid mynedfa Porth Morfa mewn i fan gwyrdd croesawgar, y gall pobl a bywyd gwyllt ei fwynhau. Trwy gydol y gaeaf, buom yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i blannu gwrych ar hyd un ochr y safle, fel rhan o Brosiect y Goedwig Hir. Mae ein gwrych newydd tua 300 metr o hyd, ac mae gennym gynlluniau i’w ymestyn ymhellach y gaeaf nesaf.

Plannu gwrych, Coed Y Morfa. Llun: Gwyl Roche, Cadwch Gymru’n Daclus

Blodau gwyllt yn ardal Porth Morfa 

                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                    

Gwneud Ffelt yn Artisans Collective, Prestatyn

Rydym yn bwriadu parhau gyda phrosiect Natur er budd Iechyd dros y misoedd nesaf yn y Rhyl, Prestatyn, Llangollen a Corwen, a’r nod ydi ymgysylltu â mwy o bobl mewn cymunedau lleol. Mae gennym lawer mwy o ddigwyddiadau ar y gweill: gwiriwch dudalen AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar Facebook i weld rhestr o’r digwyddiadau. Cysylltwch ag ellie.wainwright@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 07918224784 i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan ym mhrosiect Natur er budd Iechyd yn Llangollen a Corwen, neu claudia.smith@sirddinbych.gov.uk / 01824 708313 ar gyfer Rhyl a Phrestatyn.

Mae mwy o wybodeth ynglyn a'r prosiect yn y ffilm byr yma.

Twristiaeth

Gogledd Ddwyrain Cymru’n Dathlu Blwyddyn Darganfod

Mae ffilm newydd, ffotograffau a chyfres o fapiau digidol newydd sbon yn arddangos rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi eu rhyddhau fel rhan o ymgyrch Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru. Mae Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint wedi ymuno i lunio'r adnoddau marchnata i ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr i brofi’r rhanbarth.

Mae’r ffilm a ddangoswyd gyntaf yng Nghyfarfod Masnach Flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru yn archwilio cynnig y rhanbarth o ran twristiaeth ac yn cynnwys atyniadau allweddol fel Dyffryn Maes Glas, Castell y Waun a SC2 yn y Rhyl yn ogystal â thirluniau gwledig ac arfordirol Moel Famau a Thraeth Talacre. I’r rhai sy’n hoff o antur yn yr awyr agored mae’n dangos beicio mynydd yng Nghoedwig Nercwys a OnePlanet Adventure, Llandegla a chaiacio ar Afon Dyfrdwy yn Llangollen. Mae’r ffilm yn cychwyn gyda Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte sy’n dathlu 10 mlwyddiant ers derbyn statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Mae’r ffilm yn gychwyn cyfres o ffilmiau bach newydd a fydd yn cael eu rhyddhau drwy gydol y flwyddyn a sy’n cynnwys themâu gwahanol gan gynnwys yr arfordir, cestyll, tirluniau, diwylliant, antur a Safle Treftadaeth y Byd. Mae oriel o ddelweddau proffesiynol hefyd wedi eu rhyddhau er mwyn helpu i ddenu ymwelwyr hen a newydd i’r rhanbarth drwy’r flwyddyn.

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi’r rhanbarth, ac yn ystod 2017, cyfanswm yr effaith economaidd oedd £867m ac fe wnaed dros 11 miliwn o ymweliadau.

Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych, “Gyda’r prif dymor twristiaeth ar fin cyrraedd; mae'n wych i weld Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn gweithio gyda’i gilydd i lansio amrywiaeth o ddeunyddiau marchnata proffesiynol i arddangos y rhanbarth yn ystod Blwyddyn Darganfod. Fe fyddem yn annog busnesau i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael ar eu cyfer i greu gwell ymwybyddiaeth o'r rhanbarth a hybu'r economi leol drwy gydol y flwyddyn."

Mae saith map digidol newydd sy’n archwilio amrywiaeth o leoliadau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru hefyd wedi eu llunio. Mae’r mapiau’n cydgysylltu gyda Ffordd Gogledd Cymru –sy’n 75 milltir ac yn un o dri llwybr twristiaeth cenedlaethol a lansiwyd gan Croeso Cymru o dan frand Ffordd Cymru. Mae’r mapiau newydd wedi bod yn ymdrech gymunedol, gan fod busnesau wedi eu gwahodd i weithdai ar draws Gogledd Cymru i drafod eu syniadau am lwybrau twristaidd newydd i helpu i hyrwyddo’r rhanbarth a darparu troeon a dargyfeiriadau oddi ar Ffordd Gogledd Cymru.

I weld y ffilm ewch i dudalen Gogledd Ddwyrain Cymru ar Facebook neu YouTube https://www.youtube.com/watch?v=eovLG6cIIAY

I weld y mapiau a’r ffotograffau ac i gael gwybodaeth bellach ar y rhanbarth, ewch i www.northeastwales.wales

 

Newyddion diweddaraf am dwristiaeth

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

Hoffech chi glywed y newyddion diweddaraf am dwristiaeth yn Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru?

Os felly, mae cofrestru yn syml a hawdd … https://www.denbighshire.gov.uk/cy/ymwelydd/pethau-iw-gwneud/be-symlaen/ffurflen-ymaelodi-twristiaeth-sir-ddinbych.aspx

Ydych chi'n chwilio am lefydd newydd i ymweld â nhw dros yr haf?

Am syniadau ynglŷn â phethau i’w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw yr haf hwn, ewch i http://www.gogleddddwyraincymru.cymru/

Dosbarthu

Mae Tîm Twristiaeth Sir Ddinbych yn darparu gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth am ddim ar gyfer busnesau sy’n archebu taflenni a phamffledi. Caiff yr wybodaeth hon ei chynhyrchu i ddenu ymwelwyr i’r ardal a gwella eu profiadau pan fyddant yma.

Mae’r cynnyrch yn cynnwys:

  • Taflenni Llwybrau Tref
  • Taflen y 5 Taith
  • Taflenni SC2 y Rhyl
  • Llyfryn Canolfan Grefft Rhuthun
  • Taflen dreftadaeth

Pwy all archebu?

Gallwch archebu gan y gwasanaeth dosbarthu taflenni os yw eich busnes yng ngogledd ddwyrain Cymru ac os ydych chi’n dod i gysylltiad ag ymwelwyr.

Sut i archebuDyddiad cau ar gyfer archebu

Gallwch archebu ar-lein a bydd y Gwasanaeth Dosbarth Taflenni Twristiaeth yn eu danfon am ddim

Archebwch ar-lein drwy’r Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth

Archebwch erbyn 16/7/2019 er mwyn i’ch taflenni gyrraedd yr wythnos sy’n dechrau ar 22/7/2019.

Ein Tirlun Darluniaidd

Celf wedi’i ysbrydoli gan y tirlun

Mae Tîm y Prosiect Ein Tirlun Darluniaidd a noddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yn brysur dros ben yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion i ennyn diddordeb a hyder pobl i greu gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan y tirlun.

Ar hyn o bryd mae grwpiau MIND Clwyd yn Llangollen a Chorwen yn creu dau fosaig cydweithredol o’r nodweddion hynny yn y tirlun lleol sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae pobl ifanc Clybiau Ieuenctid Llangollen a Chorwen yn cyfarfod gwahanol artistiaid ac yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o wahanol dechnegau artistig i ddathlu tirlun hardd eu cynefin.

Mae myfyrwyr celf blwyddyn naw Ysgol Dinas Bran wedi bod yn chwalu’r rhwystrau rhag lluniadu drwy ystyried yr haenau gweladwy ac anweladwy sy’n siapio’r tirlun lleol, ac maent wedi bod yn edrych ar amrywiol ffyrdd o fynd ati i dynnu llun. Aeth y myfyrwyr ar ymweliad â Glanfa Llangollen gan dreulio amser yn astudio manylion y tirlun ac yn creu eu dehongliadau personol eu hunain.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y grwpiau cymunedol Cefn Creates, The Dee Boys, Cefn Crochets a Knit and Natter yn dod at ei gilydd i greu eitemau addurniadol â themâu camlas i addurno llwybr y gamlas ar gyfer digwyddiad cymunedol i ddathlu deng mlynedd ers arysgrifio Pontcysyllte a’r Gamlas ar y rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd ddydd Sadwrn 29 Mehefin.

Dros y misoedd i ddod bydd llawer mwy o weithgareddau’n digwydd gydag ysgolion cynradd lleol a grwpiau cymunedol ar y thema celf a’r tirlun darluniaidd gyda ffocws ar Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a’r Gamlas. Digwyddiad sydd ar agor i bawb am £2.50 y pen yw’r BIG DRAW ym Mhlas Newydd sydd i’w gynnal ddydd Sul 21 Gorffennaf. Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect a chyfarfod y tîm, dewch i ymweld â’n stondin yn y digwyddiad dathlu pen-blwydd y Safle Treftadaeth y Byd ym Masn Trefor ddydd Sadwrn 29 Mehefin. neu cysylltwch â ni ar e-bost: our.picturesque.landscape@sirddinbych.gov.uk.

Addysg

Ysgol Gatholig Crist y Gair ar y ffordd

Mae Ysgol Gatholig Crist y Gair, ar fin agor ei drysau ym mis Medi mewn adeilad newydd sbon yn y Rhyl. Bydd yr ysgol newydd yn cymryd lle Ysgol Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones a fydd yn cau eu drysau i ddisgyblion ar ddiwedd tymor yr haf.

Mae staff a disgyblion y ddwy ysgol yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i ddathlu'r cyfraniad y mae pob ysgol wedi'i wneud i'r gymuned dros y degawdau diwethaf wrth iddynt edrych ymlaen at bennod newydd yn y dref.

Ym mis Medi bydd disgyblion o'r ddwy ysgol yn ymuno fel Ysgol Gatholig Crist y Gair wrth i bennod newydd ddechrau ar gyfer addysg yn y dref. Fel rhan o'r paratoadau trefnwyd bod disgyblion yn gweld eu hamgylchedd dysgu newydd cyn i’r adeilad newydd agor.

Dywedodd Gill Greenland, Cadeirydd y Corff Llywodraethol Dros Dro - “Hoffwn ddiolch i holl staff yn y ddwy ysgol o’r gorffennol a'r presennol am eu holl waith caled a'u cyfraniadau i gymunedau ysgol ac rydym yn cofleidio ac yn edrych ymlaen at yr amseroedd cyffrous o'n blaenau yn ein hysgol newydd. Rydym i gyd yn gyffrous i groesawu'r disgyblion ym mis Medi i'w cartref newydd. ”

Dywedodd Amanda Preston, pennaeth Ysgol Gatholig Crist y Gair:  “Mae'r plant a'r staff i gyd yn gyffrous iawn ynglŷn â symud i'n cymuned ddysgu newydd wych. Mae'r cyfleoedd y mae'r adeilad newydd yn eu cynnig o ran datblygu sgiliau ein dysgwyr ifanc ar draws yr ystod oedran yn wych. “

Bydd yr ysgol a fydd yn rhan o ddarpariaeth Esgobaeth Wrecsam yn darparu ar gyfer 420 o ddisgyblion 3-11 oed a 500 o ddisgyblion 11-16 oed ac yn cael ei hariannu mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Cliciwch y ddolen sydd yn dangos y model 3D o Ddosbarth Uwch Ysgol Cyffredin a gynhyrchwyd gan Kier:  https://my.matterport.com/show/?m=NZtobzRJhbt

Beth sydd ymlaen

1 - 7 Gorffennaf: Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dechrau heddiw, 1 Gorffennaf.

Mae cystadleuwyr o bob cwr o’r byd yn dyfod ynghyd yn nhref Llangollen am wythnos o gystadlu brwd, gweithgareddau llawn hwyl a pherfformiadau rhagorol. Y prif artist eleni fydd Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm a Blues, a bydd yna lwythi o berfformwyr gwych eraill yn ymuno ag o, gan gynnwys Rolando Villazon, Gipsy Kings a’r dathliad rhyngwladol poblogaidd gyda Mabon.

Ac i goroni’r cyfan, yn dilyn wythnos o berfformiadau syfrdanol, bydd Llanfest yn cael ei gynnal ar benwythnos olaf yr Eisteddfod. Mae’r perfformwyr yn cynnwys The Fratellis, The Coral, The Pigeon Detectives a Dodgy.

Gallwch prynu tocynnau i'r holl cyngherddau ac yn y blaen ar ei gwefan.

20 Gorffennaf: Diwrnod Hwyl i’r Teulu yng Nghoed Moel Famau

Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf

10:30-16:00 Maes parcio Coed Moel Famau SJ 174 613

Diwrnod o weithgareddau hwyliog! Bydd cyfle i rwydo yn y nant, crefftau i blant, adeiladu cuddfan, teithiau tywys, arddangosfeydd, gwybodaeth a chynnyrch bwyd lleol.

£2 i barcio car.

15 Awst: Sioe Dinbych a Fflint

Mae'n amser i'r Sioe

Yr adeg hon o'r flwyddyn yr ydym yn brysur yn paratoi ar gyfer Sioe Dinbych a Fflint, un o ddigwyddiadau mwyaf calendr amaethyddol Gogledd Cymru.

Cynhelir y digwyddiad eleni ar ddydd Iau, 15 Awst yn y Green ar gyrion Dinbych. Felly, cadwch y dyddiad yn glir yn eich dyddiadur.

Mae'r Cyngor yn rhannu pabell gyda chydweithwyr o Sir y Fflint a'r thema eleni yw darganfod – bydd digon o arddangosfeydd a gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu i gyd.

Bydd manylion ein digwyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar y cyfryngau cymdeithasol cyn y sioe.

Croesi bysedd am dywydd braf ar gyfer diwrnod y Sioe!

Am wybodaeth bellach am y sioe ei hun, ewch i: www.denbighandflintshow.com.

18 Awst: Cyngerdd am ddim yn Arena Digwyddiadau y Rhyl

Yn dilyn llwyddiant ' Seaside Soul ' yn 2016, mae thema'r ‘enaid’ yn dychwelyd i arena ddigwyddiadau'r Rhyl ar ddydd Sul 18 Awst ar gyfer y gyngerdd am ddim blynyddol. 

Bydd y digwyddiad eleni yn cynnwys adloniant byw gan Jimmy James & The Vagabonds, band Edwin Starr, ' the Team ' sy'n cynnwys Angelo Starr, Precious Wilson, Midnight Soul a chyflwynwyr amrywiol.

Dechreuodd Jimmy James ei yrfa gerddorol, yn cyfansoddi a chanu, yn ifanc yn 16 oed.  Yn 1964 gofynnwyd iddo ymuno fel y Prif Ganwr ag un o fandiau blaenllaw Jamaica ' The Vagabonds' a gyda'i gilydd gadawsant Jamaica am yr hyn a oedd fod yn daith chwe mis o amgylch y DU. Yn 1966 fe recordiodd The Vagabonds eu halbwm chwedlonol, ' The New Religion’.  Rhoddodd recordiad Jimmy o gân ' Red Red Wine ' Neil Diamond yn 1969, a gymerwyd o’r ail albwm The Vagabonds, eu record boblogaidd gyntaf iddynt.

Yn 1970, arwyddodd i Biddu of the Subbidu Music Corporation a chyda'i gilydd, fe grewyd caneuon poblogaidd megis ' Now is the Time ' ac ' I’ll Go Where the Music Takes Me '.

Mae Angelo Starr yn ganwr a chynhyrchydd recordiau Americanaidd.  Mae hefyd yn frawd iau i'r canwr  diweddar Edwin Starr. 

Cychwynnodd Precious Wilson fel canwr cefnogi i'r grŵp dynion Eruption ac yn 1977 tra ar y ffordd yn teithio’r yr Almaen y dewiswyd y band i gefnogi Boney M.  Roedd eu fersiwn disgo o gân Ann Peebles, "I Can’t Stand the Rain" yn llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a drefnir gan y Cyngor ac a gefnogir gan Gyngor Tref y Rhyl, yn dathlu cerddoriaeth rhai bandiau eiconig.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans OBE, sy'n aelod arweiniol ar gyfer yr economi: "Rydym yn falch iawn o gael cyhoeddi'r perfformwyr ar gyfer yr Ŵyl eleni.  Dyma un o brif ddigwyddiadau'r haf yn y Rhyl ac mae disgwyl i  gefnogwyr cerddoriaeth gael gwledd.

"Mae rhaglen yr haf o ddigwyddiadau yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref, gan wneud cyfraniad sylweddol i'r economi leol ac rydym yn sicr y bydd sioe Seaside Soul yn un wych".

Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Ellie Chard: "Bydd yr Arena Ddigwyddiadau yn dod â diwrnod o gerddoriaeth yr enaid i'r Rhyl. Gyda llinell fawr arall o fandiau a DJs, mae'r digwyddiad yn addo l rhywbeth at ddant pawb a Glan y môr y Rhyl yn bendant yw'r lle i fod yr haf hwn gyda digwyddiadau lu. Mae Cyngor Tref y Rhyl yn falch iawn o fod yn cefnogi dydd Sul mawr arall ac edrychwn ymlaen at groesawu trigolion ac ymwelwyr i faes y digwyddiadau. "

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â chanolfan groeso'r Rhyl, ar 01745 355068.

24 - 25 Awst: Sioe Awyr Y Rhyl

Dydd Sadwrn 24 a dydd Sul 25 Awst 2019

Promenâd y Rhyl

Digwyddiad deuddydd llawn gweithgareddau a hwyl, gydag arddangosfeydd syfrdanol yn yr awyr ac ar y ddaear. Mae'r sioe, sy’n miloedd o bobl y flwyddyn, yn dathlu ei 11fed flwyddyn lwyddiannus yn 2019.

Mae'n agor am 11am gyda’r arddangosfa hedfan yn cychwyn am 2pm.

Pris Mynediad: Am ddim

Am fwy o wybodaeth ac i weld yr amserlen pan fydd wedi cyhoeddi, ewch i'n gwefan

ras-dccras-rtc

5 Hydref: Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd

Beth sy' Mlaen?

Edrychwch ar lyfryn diweddaraf ‘Beth sy’ Mlaen’ i weld beth yw'r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Sir Ddinbych tan fis Medi 2019.

Mae copïau papur o rifyn mis Mehefin – Medi 2019 ar gael am ddim mewn llyfrgelloedd lleol, canolfannau croeso a busnesau lleol.

 

Cafe R

Cafe R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun

Mae Café R wedi'i lleoli yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ac yn le delfrydol i fwynhau cynnyrch o Gymru sydd wedi'i baratoi'n ffres, gan gynnwys brecwast, cinio, te prynhawn a byrbrydau ysgafn.

Ar agor yn ddyddiol. Parcio am ddim.

I neilltuo bwrdd ffoniwch 01824 708099 neu galwch i fewn.

Mae na gopi o'r fwydlen ar wefan Canolfan Grefft Rhuthun.

Nodweddion

Alergedd ac anoddefiad bwyd - Canllawiau cyflym i archebu bwyd neu bryd tecawê yn ddiogel

Os oes gennych chi alergedd neu anoddefiad bwyd, mae'n bwysig bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud dewis bwyd diogel. Rydyn ni wedi rhestru rhai pethau y dylech eu hystyried cyn archebu pryd o fwyd.

Bwyta allan mewn bwyty, caffi neu fusnes bwyd

  • Edrychwch ar y fwydlen ar-lein a ffoniwch ymlaen llaw i ofyn beth yw polisi'r busnes ar alergedd ac anoddefiad bwyd. A yw'n cynnig bwyd sy'n addas i chi? Ac os nad ydyw, a yw'r staff yn gallu paratoi pryd arbennig ar eich cyfer chi? (Rhaid i fusnesau bwyd gynnig gwybodaeth am alergenau i chi, ond nid yw'n ofynnol iddynt gynnig pryd gwahanol i chi sy'n addas i'ch angen.)
  • Byddwch yn glir iawn am eich alergedd/anoddefiad bwyd a rhowch enghreifftiau o'r bwydydd sy'n eich gwneud yn sâl.
  • Os nad ydych chi o'r farn bod yr unigolyn yr ydych chi'n siarad ag ef yn deall eich anghenion, gofynnwch i siarad â'r rheolwr neu rywun a all fod o fwy o gymorth.
  • Gofynnwch sut mae'r bwyd yn cael ei drin a'i goginio, a p'un a oes siawns o groeshalogi gan offer coginio neu gynhwysion.
  • Gwiriwch fod yr wybodaeth am alergenau'n gywir. A fu newid munud olaf yn y rysáit neu gyfnewid cynhwysyn?
  • Byddwch yn ofalus iawn os yw'r bwyty'n gweini prydau cymhleth, gan y gallai alergenau fod yn llai amlwg neu'n gudd.
  • Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y staff yn deall pwysigrwydd eich anghenion deietegol, peidiwch â chadw bwrdd yn y bwyty.

Ar ôl cyrraedd

  • Siaradwch â'ch gweinydd neu'r rheolwr. Byddwch yn glir am eich alergedd/anoddefiad bwyd a chadarnhewch eich sgwrs flaenorol gyda'r staff
  • Gwiriwch fod y dewisiadau bwyd yn addas ar eich cyfer chi neu y gallant wneud newidiadau sy'n addas i'ch anghenion dietegol.
  • Atgoffwch nhw i fod yn ofalus o groeshalogi neu alergenau ychwanegol o wahanol fathau o sglein, sawsiau ac olewau coginio, ac atgoffwch nhw i baratoi eich pryd â gofal.
  • Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y staff yn deall pwysigrwydd eich anghenion deietegol, peidiwch â bwyta yno.

Archebu bwyd tecawê dros y ffôn neu ar-lein

  • Mae prydau tecawê yn cael eu hystyried yn brydau a werthir o bell, felly rhaid darparu gwybodaeth ar adeg prynu ac wrth gyflwyno'r bwyd.
  • Dilynwch y camau a restrir yn yr adran 'Bwyta allan mewn bwyty, caffi neu fusnes bwyd', ond hefyd:
  • gwiriwch fod yr wybodaeth am alergenau ar gael ar y fwydlen, ar-lein neu dros y ffôn 
  • wrth archebu i fwy nag un person, gwnewch yn siŵr bod y bwyty'n labelu eich pryd, fel y byddwch chi'n gwybod pa archeb sy'n ddiogel i chi

Cysylltwch a tîm Diogelwch a Safonau Bwyd diogelwch.bwyd@sirddinbych.gov.uk os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â syt mae busness bwyd yn rheoli alerergedd, neu os ydych wedi cael adwaith alergaidd yn dilyn ymweliad i fusnes fwyd neu tecawe.  Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar gwefan Asiantaeth Safonau Bwyd.

Gwenwyn Bwyd – Yr hyn y mae prynwyr angen ei wybod

  • Yn ystod 2018 – 2019, ymchwiliodd Tîm Diogelwch Bwyd Sir Ddinbych i 261 achos o Wenwyn Bwyd
  • Cadarnhawyd mai’r organeb Campylobacter oedd wrth wraidd 60% o’r achosion hyn

Campylobacter ydi’r achos mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd yn y DU. Rhaid i brynwyr fod yn wyliadwrus ac ni ddylent roi eu hunain mewn perygl o Campylobacter gartref. Mae’r ffigurau diweddaraf gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos bod 65% o gywion ieir sy’n cael eu gwerthu yn y DU wedi’u heintio â’r byg cas hwn. Y newyddion da ydi bod modd atal Campylobacter, a thrwy ddilyn canllawiau hylendid syml gartref, fe allwch eich atal chi a’ch teulu rhag bod yn sâl.

Sut y caiff campylobacter ei ledaenu a sut i leihau eich siawns o fwyta bwyd sydd wedi’i heintio â campylobacter

Mae ymchwil yn dangos y daw pedwar allan o bum achos o wenwyn bwyd campylobacter yn y DU o ddofednod wedi’i heintio, yn enwedig cyw iâr.

Un o’r prif ffyrdd o ddal a lledaenu gwenwyn campylobacter ydi trwy groeshalogi o gyw iâr amrwd. Er enghraifft, gall golchi cyw iâr amrwd ledaenu campylobacter trwy ei sblasio ar ddwylo, arwynebau, dillad ac offer coginio.

Mae campylobacter i’w ganfod hefyd mewn cig coch, llaeth heb ei basteureiddio a dŵr heb ei drin. Er nad yw’n tyfu mewn bwyd fel rheol, mae’n lledaenu’n hawdd. Mae gan campylobacter ddos heintus isel, sydd yn golygu y gallwch fod yn sâl ar ôl dod i gyswllt gydag ychydig o facteria. Mae hyn yn bwysig iawn os ydych chi’n ddiamddiffyn, h.y. yn ifanc, yn hŷn neu os oes gennych salwch sylfaenol.

Argymhellion i Atal Campylobacter yn y Cartref

Cofiwch gall croeshalogi ledaenu campylobacter

Ar ôl paratoi cyw iâr amrwd, dylech ddiheintio arwynebau a thaclau (peiriant golchi llestri neu chwistrell diheintio gwrthfacteria)

Mae dillad budr yn gallu trosglwyddo bacteria. Defnyddiwch ddillad y gallwch eu taflu neu golchwch nhw ar 60C.

Peidiwch BYTH â golchi cyw iâr amrwd.

Ymolchwch a golchwch eich dwylo ar ôl trin cyw iâr amrwd. Defnyddiwch bethau y gallwch eu taflu neu golchwch nhw ar 60C

Lawr yng ngwaelod yr oergell y dylid cadw cyw iâr amrwd.

Os nad yw eich cyw iâr wedi cyrraedd 75°C, peidiwch â’i weini

Pass Plus Cymru

Wedi pasio eich prawf gyrru? Rhwng 17 a 25 oed? Byw yng Nghymru? Beth am ddarganfod mwy o dechnegau, awgrymiadau a syniadau gyrru am £20 yn unig ..... a does dim prawf! Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cynhelir y sesiwn hyfforddi nesaf ar gyfer bobl sy'n byw yn Sir Ddinbych ddydd Iau 8 Awst yng ngorsaf Dân y Rhyl, Heol yr Arfordir, Y Rhyl LL18 3PL (5.30pm-8.00pm).

 

Asesiad gyrru i'r rhai sydd yn 65 oed a drosodd

Ydych chi'n byw yn Sir Ddinbych ac yn 65 oed a throsodd?

Mae gennych hawl i gael asesiad gyrru am ddim a gynhelir gan Gwasanaeth Asesu Gyrru a Symudedd Cymru.

Os oes diddordeb gennych ac ishio rhagor o wybodaeth, ffoniwch yr adran diogelwch ffyrdd y Sir ar 01824 706946.

A ydych wedi clywed am ein sianeli cyfryngau cymdeithasol?

Mae gan y Cyngor Sir nifer o gyfrifon cymdeithasol corfforaethol sef Facebook, Twitter, Instagram, LinkedIn ac YouTube.

Facebook

Rydym yn postio ein holl hysbysiadau argyfwng ar y sianel cyfryngau cymdeithasol hon, ynghyd â manylion y rhan fwyaf o'n cyfarfodydd ynghyd â llawer o wybodaeth bwysig arall. Mae gennym dudalen Facebook Cymraeg a Saesneg.

Twitter

Newyddion a digwyddiadau diweddaraf yn y Gymraeg.

Instagram

Mae'r sianel hon ar gyfer delweddau yn unig. Rydyn ni'n ceisio rhoi mwy o ddelweddau yma, felly os oes gennych chi unrhyw beth yr hoffech i ni ei rannu, rhowch wybod i ni.

LinkedIn

Unwaith eto, rydym yn ceisio gwneud mwy o ddefnydd o LinkedIn ar gyfer ein straeon newyddion corfforaethol, a hefyd ar gyfer unrhyw gyfleoedd swyddi sydd gennym.

Youtube

Rydym yn cadw y rhan fwyaf o'n ffilmiau cyfryngau cymdeithasol ar y cyfrif hwn.  Tanysgrifiwch i'n sianel i sicrhau eich bod yn gweld ein holl fideos.

Credyd Cynwysol

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych er mwyn hyrwyddo Credyd Cynwysol. Dyma fideo byr i esbonio mwy.

Ymgyrch annog pobl i beidio a bwydo gwylanod

Mae’r Cyngor  yn cyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth, yn annog pobl i beidio a bwydo gwylanod.

Dyma fideo byr i esbonio mwy.

Tai Sir Ddinbych

Cyflawniadau gwych yn cael eu dathlu mewn gwobrau tai sirol

Mae tenantiaid o bob rhan o Sir Ddinbych wedi cael eu gwobrwyo am eu cyflawniadau yn y seremoni Gwobrau Tai Tenantiaid Cyngor cyntaf erioed a gynhaliwyd yn y Rhyl yr wythnos hon.

Cynhaliwyd y gwobrau, a drefnwyd gan Wasanaethau Tai Sir Ddinbych, ym mwyty 1891 yn y Rhyl ac maent yn cydnabod cyflawniadau a chyfranogiad grwpiau unigol a grwpiau tenantiaid ledled y sir.

Cafodd yr ymgeiswyr eu cynnwys ar y rhestr fer mewn wyth categori. Yr enillwyr oedd:

Gardd y Flwyddyn – Ardal Gymunedol / Gyffredin:  Cymdeithas Preswylwyr Trem y Foel, Rhuthun

Mae tenantiaid Trem y Foel wedi bod yn cydweithio yn plannu planhigion amrywiol, lliwgar a thymhorol, addurniadau, basgedi crog i greu lle y gall pawb ei fwynhau. Mae’r tenantiaid wedi cael cydnabyddiaeth am eu gardd drwy Gymru yn ei Blodau a Sioe Erddi Rhuthun fel Gardd Gymunedol y Flwyddyn.

Gardd y Flwyddyn / Tenant / Unigolyn: Angela Carrington-Roberts

Mae Angela’n adnabyddus yn ei hardal am ei dawn garddio! Mae ei gardd wedi bod yn rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol, sy’n rhoi profiad unigryw i ymwelwyr o’i gerddi, yn ogystal a chodi arian ar gyfer amryw o elusennau iechyd. Mae ei phlannu’n cynnwys planhigion gwydn a thymhorol, gan roi apêl cyffredinol i unrhyw un sy’n cerdded heibio. Mae hi hefyd yn ymwybodol iawn o’r amgylchedd ac felly’n cynaeafu dŵr glaw ac mae ganddi ei chompost ei hyn.

Prosiect Cymunedol y Flwyddyn: Cyfeillion Pengwern, Llangollen

Drwy eu gwaith gyda’r prosiect Natur dros Iechyd, mae Cyfeillion Pengwern wir wedi helpu gwella’r gymuned leol, yr amgylchedd naturiol a’r gymuned ehangach. Mae eu gwaith wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymuned, gan dynnu pobl at ei gilydd i edrych ar ôl eu hamgylchedd lleol a naturiol, ac annog eraill i gymryd balchder yn eu cymuned. Rhai o’r gweithgareddau prosiect yw codi waliau sychion, coetir cymunedol, plethu helyg ac ati. Mae’r grŵp bellach yn arwain ar hyn ac yn gweithio gyda Choed Cadw.

Preswylydd tai/ Grwp Cymunedol y Flwyddyn:  Cymdeithas Trigolion Marsh, Y Rhyl

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys trigolion yr ardal sy’n cynnal Canolfan Phoenix yn wirfoddol ar Rhydwen Drive yn y Rhyl. Maent wedi creu lle diogel a chroesawus i bobl o bob oed yn ogystal â chynnig rhaglen weithgareddau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Maent yn gweithio gyda grwpiau trydydd sector, a’u gweithgareddau yn cynnwys clwb gwaith cartref, nosweithiau ffilmiau, clwb garddio, clwb swyddi ac ati. Mae adborth gan drigolion yn cynnwys; “mae gan wirfoddolwyr wên groesawus bob amser”, “mae pobl yma bob amser yn barod i helpu”, ac “mae’n awyrgylch hwyliog a llon cyn gynted a’ch bod yn cerdded i mewn”.

Gwasanaethau Cwsmeriaid:  Shirley Rippingale

Mae Shirley wedi ymddeol ar ôl gweithio i Gyngor Sir Ddinbych, ac wedi byw mewn tai gwarchod ers 18 mlynedd. Disgrifiwyd ei bod bob amser yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl, ym mhopeth y gwnaeth fel warden. Helpodd ei hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rhagorol i denantiaid gynyddu ymgysylltu â’r gymuned a gwneud i denantiaid deimlo’n ddiogel. Trefnu gweithgareddau cymunedol, yn ei hamser ei hun, sicrhau fod pawb wedi eu cynnwys a bod mynediad ganddynt i wasanaethau a sefydliadau cefnogol.

Tenant y Flwyddyn:  Stuart Nield-Siddall

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Stuart wedi profi rhai heriau yn ei fywyd personol ac mae wedi llwyddo eu goresgyn a mynd benben â nhw. Mae ei ymrwymiad a’i frwdfrydedd dros waith gwirfoddol yn ei gymuned leol, wedi helpu ei gefnogi i fyw bywyd annibynnol a gwneud gwahaniaeth. Mae trigolion a chymunedau lleol wir yn canmol ei waith gwirfoddol yng Ngerddi Coronation y Rhyl a’r Clwb Golff ac mae ganddynt feddwl mawr iawn ohono. Yn ogystal â gwirfoddoli, mae Stuart wir yn mwynhau mynd i ddosbarthiadau coginio hunan-ddatblygu, gan roi’r sgiliau a’r hyder iddo fyw bywyd llawn ac annibynnol.

Tenant Ifanc y Flwyddyn:  Bethan Owen

Rhai o’r rhesymau dros benderfyniad Bethan i redeg ei chlwb carate ei hun yn y Rhyl yw ei hangerdd dros roi cyfle i bobl, gwneud gwahaniaeth a dysgu sgiliau newydd. Roedd eisiau rhoi cyfle i bobl, nad oedd efallai’n gallu fforddio prisiau prif ffrwd na chontractau 12 mis, a oedd eisiau datblygu eu hunain, i gael rhoi cynnig ar rhywbeth newydd a dysgu carate. Mae’r clwb carate’n cynnig man cyfarfod wythnosol i deuluoedd ddod am sgwrs, cadw’n heini yn ogystal â thynnu’r gymuned at ei gilydd. Mae gwirfoddoli yn y gymuned hefyd yn bwysig iawn iddi, a dyna pham ei bod hefyd y gadet heddlu. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau’n genedlaethol, gan gynnwys Gwobr Balchder Chwaraeon, Gwobr Points of Light y Prif Weinidog, dwy wobr Oriel Anfarwolion Crefft Ymladd Rhyngwladol, enillydd Crefft Ymladd y DU i Ferched Dan 16, Oriel Anfarwolion y DU, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Dant a fis mis Mai yma, bydd yn dod yn enillydd yr UK Martial Arts Magazine!

Gina Jones

Cadeirydd Cymdeithas Trigolion Marsh ac aelod uchel ei pharch o’i chymuned, aeth Gina ati dros ei hun i wneud gwahaniaeth yn ei chymuned, gan herio stigma. Cymerodd y Gadeiryddiaeth yn 2017, pan roedd Canolfan Phoenix mewn man tywyll ac mae hi wedi cyflawni gwyrthiau ers hynny. Mae’r ganolfan bellach yn ffynnu ac mae wynebau newydd yn croesi’r trothwy. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau trydydd sector wedi bod yn allweddol wrth ddarparu rhaglen eang o weithgareddau a chyrsiau er budd pawb. Diolch i Gina a’i hangerdd dros wneud gwahaniaeth, mae’r ganolfan yn un bersonol, dymunol ac wedi newid bywydau pobl.

Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai Sir Ddinbych: “Roedd yn fraint i ni gynnal y seremoni wobrwyo gyntaf erioed, i gydnabod a dathlu cyflawniadau ein tenantiaid. Roedd y panel wrth ei fodd ar ansawdd y ceisiadau a oedd yn dangos y gwaith helaeth a oedd yn digwydd mewn cymunedau ledled y sir.

“Mae rhai enghreifftiau gwych yma o denantiaid yn gwneud ymdrech fawr i ofalu am eu heiddo, yn ogystal â rhai prosiectau cymunedol enghreifftiol sy'n helpu i wella bywyd trigolion sy'n byw yn eu cymuned.

“Mae eu gwaith caled, eu hymroddiad, eu hymdrechion a'u hymdrechion anhygoel yn helpu'r tîm tai i ddarparu gwasanaeth gwych i denantiaid”.

Dywedodd Geoff Davies, Swyddog Arweiniol dros Dai Cymunedol wrth y gynulleidfa fod gan Tai Sir Ddinbych weledigaeth i fuddsoddi mewn tai cyngor a chymunedau i’r radd flaenaf, yn gweithio gyda thenantiaid er mwyn cytuno ar flaenoriaethau, tra’n cydnabod bod pobl yn gwneud cymunedau yn lefydd gwych i fyw.

Prif noddwyr y noson oedd Roger W Jones, Rhyl & Jewson. Y noddwyr eraill oedd Alliance Leisure; Hags;  Liberty Gas;  AICO;  SC2;  G Parry Home Improvements;  Capita One; Tim Mannau Gwyrdd, Tai Sir Ddinbych; Torus; Sherratt a Howdens.

Cafwyd perfformiad gan Gôr Sain y Sir yn ystod y seremoni.  Mae aelodau’r côr yn gweithio i Gyngor Sir Ddinbych.

Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych Cyf

Cadw'n heini yr Haf hwn gyda Gwasanaethau Hamdden

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Lansio sesiynau i blant awtistig yn SC2

Mae SC2, y parc dŵr ac antur newydd yn y Rhyl, wedi lansio sesiynau wythnosol i blant ac oedolion ag awtistiaeth, i roi cyfle iddynt fwynhau’r parc mewn awyrgylch fwy hamddenol.

Cynhelir pob sesiwn heb unrhyw gerddoriaeth a bydd mynediad am ddim i ofalwyr. Byddwn yn cyfyngu ar unrhyw gyhoeddiadau dros y system sain ac mae gennym ystafelloedd newid arbenigol sy’n hygyrch ac yn gyfoes, gan gynnwys cyfleusterau gyda theclyn codi ar drac. Dim ond rhai sleidiau dethol fydd ar agor a bydd pawb yn cael llonydd yn y dŵr wrth inni gyfyngu ar y niferoedd yn y pwll a’r lle chwarae pirana.

Gan sicrhau fod yno un gofalwr am bob un sy’n cymryd rhan a heb osod cyfyngiadau oedran, mae’r sesiynau hyn yn cynnig gweithgarwch hygyrch i rai sydd ag anghenion ychwanegol, a hefyd yn rhoi gwerth da am arian gan fod gofalwyr yn cael cymryd rhan yn rhad ac am ddim.

Meddai Jamie Groves, Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai: “Wedi cael ymateb gan gwsmeriaid yn y mis cyntaf ar ôl agor SC2, rydyn ni’n teimlo fod y sesiynau hyn yn arbennig o bwysig er mwyn gwneud yn siŵr fod rhywbeth ar gael i bob aelod o’r gymuned yma, a bod pawb yn medru mwynhau’r parc dŵr mewn awyrgylch addas. Rydyn ni’n gwybod y gallai’r gweithgareddau arferol yn SC2 fod yn ormod i rai cwsmeriaid ag awtistiaeth, ac felly i’r sesiynau yma rydyn ni’n cyfyngu ar y niferoedd yn y pwll, dim ond yn agor rhai o’r sleidiau, ac yn creu sesiwn tawelach heb gerddoriaeth na chyhoeddiadau dros y system sain. Rydyn ni’n ymrwymo i gynnig rhywbeth y gall pawb yn y gymuned ei fwynhau ac elwa arno.”

Cynhelir y sesiynau yn y parc dŵr rhwng 4pm a 5.30pm bob dydd Gwener yn ystod y tymor, a gallwch archebu ar-lein.

Am gyfnod byr bydd cwsmeriaid â chardiau Hamdden Sir Ddinbych yn cael 50% oddi ar y pris wrth ddefnyddio’r cyfeirnod junjulweekday50 ar y wefan a dangos eu cardiau Hamdden wrth y dderbynfa.

Mae modd hefyd ichi logi parc dŵr SC2 ar gyfer grŵp caeedig neu barti pen-blwydd. Rhowch alwad i drafod gyda’r tîm cyfeillgar ar: 01745 777562.

Pad Sblasio SC2 nawr ar agor

Mae'r Pad Sblasio yn SC2 nawr ar agor, gan ddod a cham olaf yr adeiladu yn SC2, parc dŵr a chanolfan antur newydd y Rhyl, i ben.

Bydd y Pad Sblasio awyr agored yn rhoi profiad gwyliau cyflawn i gwsmeriaid ar eu stepen drws, fel ychwanegiad am ddim i’w tocyn parc dŵr.

Mae rhai o nodweddion yr ardal dŵr awyr agored newydd yn cynnwys bwcedi sy'n tywallt dŵr, canonau dŵr a’r llithren paradwys. Tra bo’r plant yn mwynhau’r nodweddion dŵr o’r radd flaenaf, gall oedolion ymlacio yn yr haul ar y teras ac ardaloedd eistedd awyr agored, neu fwynhau diod a byrgyr ym Mar y Teras a’r Caban Byrbrydau.

Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai: “Dyma gam olaf adeiladu SC2 ac rydym yn falch o fod ar y trywydd iawn i agor ar gyfer Gŵyl y Banc. Mae'r Pad Sblasio yn cynnig parc dŵr awyr agored i gwsmeriaid ac ardal wedi'i amgáu ar gyfer teuluoedd i chwarae yn y dŵr ac ymlacio ger y pwll.

“Mae’r Pad Sblasio yn llawn nodweddion lliwgar, hawdd mynd atynt, a bydd yn adloniant i’r rhai bach, wrth fagu eu hyder yn y dŵr ar yr un pryd. Rydym yn ymfalchïo yn yr hyn yr ydym wedi ei gyflawni yn SC2 ac edrychwn ymlaen at gyflwyno'r profiad awyr agored hwn i drigolion y Rhyl."

Mae ystod newydd o fyrgyrs blasus yn cael eu lansio yn yr Ystafell Fwyta Coedwig Law a’r Bar Teras o fewn SC2, sy’n agored i’r cyhoedd yn ystod y penwythnosau a’r gwyliau.

Bydd y Pad Sblasio, Caban Byrbrydau a’r Teras yn dibynnu ar y tywydd ac yn agor yn dymhorol, ceir mynediad atynt fel rhan o unrhyw docyn parc dŵr. Archebwch docynnau ar-lein ar http://sc2rhyl.co.uk/cy/hafan/.

Treftadaeth

Yr Haf yng Ngharchar Rhuthun

Mae’r haf yn sicr wedi cyrraedd Carchar Rhuthun!

Yn “Cludwyd!” ar 30 Mai, cafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau straeon gan garcharorion a anfonwyd o Garchar Rhuthun i lannau poeth a heriol Awstralia. Doedd llawer o’r carcharorion erioed wedi gadael eu pentrefi o’r blaen, ond bu’n rhaid iddynt ddioddef misoedd mewn llongau cyfyng a budr gyda channoedd o bobl eraill. Wynebodd y rhai a fu’n ddigon ffodus o oroesi’r daith, fywyd caled newydd miloedd o filltiroedd i ffwrdd o’u teuluoedd. Roedd tîm y carchar wedi gwisgo fel carcharorion, a chawsant groeso gan y dorf!

Ar 25 Gorffennaf cynhelir ein digwyddiad “Rwyt ti’n Garcharor”! Dewch i brofi a chael blas o fywyd fel carcharor Fictoraidd yng Ngharchar Rhuthun. Ar ôl cyrraedd fel carcharor newydd, fe gewch eich ‘cofrestru’, cael tynnu eich llun, troi eich llaw at lafur caled a chosbau megis pigo Ocwm (arian am hen raff) a gweithio yn y golchdy. Byddwch yn cwrdd â’r wardeiniaid, yn treulio amser yn y celloedd ac yn blasu bwyd y carchar. Peidiwch â phoeni, dydi amser bath ddim ar yr amserlen ar gyfer y diwrnod hwnnw!

Does dim angen archebu lle ymlaen llaw.

Gwyliau Haf yr Ysgolion

Beth bynnag fo’r tywydd, mae’r carchar yn lle gwych i deuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol – cynhelir gweithgareddau celf a chrefft, llwybrau, cwisiau a heriau i bawb o bob oed bob dydd.

Wythnos Calan Gaeaf!

Ac yn olaf, peidiwch ag anghofio ymweld â Charchar Rhuthun yn ystod Hanner Tymor Calan Gaeaf i gael hwyl ddychrynllyd! (Rhwng dydd Sadwrn 26 Hydref 2019 a dydd Gwener 1 Tachwedd 2019)

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan yn www.RuthinGaol.com neu dewch o hyd i ni ar Facebook a Twitter.

Canolfan Grefft Rhuthun

Carped Blodau Hudol

Carped Blodau Hudol

Prosiect Ysgolion:  Mehefin - Medi 2019 yn Stiwdio 5 Gofod y Cwrt

Drwy gydol tymor y gwanwyn fe wahoddwyd ysgolion cynradd yn Sir Ddinbych i ddod i archwilio ein harddangosfa o rygiau cyfoes Dan Eich Traed yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ac yna weithdai ymarferol gyda’r artistiaid lleol Jude Wood, Ben Davis, Ticky Lowe ac Emma Jayne Holmes.

Wedi’u hysbrydoli gan arddangosfeydd yr oriel mae pob ysgol wedi creu ‘llain’ â phlanhigion, blodau, chwyn, pryfed a beth bynnag arall y gallech ddod o hyd iddo mewn gardd hud. Gan ddefnyddio tecstilau lliwgar a deunydd eildro mae pob un o’r disgyblion sy’n ymglymedig â’r prosiect wedi gwneud eu darnau eu hunain i’w hychwanegu at bob llain i greu’r carped mympwyol cydweithredol sydd i’w weld o’ch blaen.

Y 10 ysgol a fu'n cymryd rhan oedd:

Yn gweithio â’r artistiaid Jude Wood & Ben Davis

  • Ysgol Pant Pastynog
  • Ysgol Carreg Emlyn
  • Ysgol Betws Gwerfil Goch
  • Ysgol Stryd y Rhos
  • Ysgol Pentrecelyn

Yn gweithio â’r artistiaid Ticky Lowe & Emma Jayne Holmes

  • Ysgol y Borthyn
  • Ysgol Bryn Clwyd
  • Ysgol Bro Elwern
  • Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd
  • Ysgol Bro Famau

Fe ymgysylltodd y prosiect â 206 o ddisgyblion i gyd.  Dymuna Canolfan Grefft Rhuthun ddiolch i’r holl ddisgyblion ysgol, y cynorthwywyr a’r artistiaid am rannu eu hantur artistig â ni ac am greu’r Carped Blodau Hudol ardderchog hwn o fewn yr ardd gudd.

Gobeithio y byddwch chi i gyd yn mwynhau!

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid