Gogledd Ddwyrain Cymru’n Dathlu Blwyddyn Darganfod
Mae ffilm newydd, ffotograffau a chyfres o fapiau digidol newydd sbon yn arddangos rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi eu rhyddhau fel rhan o ymgyrch Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru. Mae Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint wedi ymuno i lunio'r adnoddau marchnata i ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr i brofi’r rhanbarth.
Mae’r ffilm a ddangoswyd gyntaf yng Nghyfarfod Masnach Flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru yn archwilio cynnig y rhanbarth o ran twristiaeth ac yn cynnwys atyniadau allweddol fel Dyffryn Maes Glas, Castell y Waun a SC2 yn y Rhyl yn ogystal â thirluniau gwledig ac arfordirol Moel Famau a Thraeth Talacre. I’r rhai sy’n hoff o antur yn yr awyr agored mae’n dangos beicio mynydd yng Nghoedwig Nercwys a OnePlanet Adventure, Llandegla a chaiacio ar Afon Dyfrdwy yn Llangollen. Mae’r ffilm yn cychwyn gyda Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte sy’n dathlu 10 mlwyddiant ers derbyn statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Mae’r ffilm yn gychwyn cyfres o ffilmiau bach newydd a fydd yn cael eu rhyddhau drwy gydol y flwyddyn a sy’n cynnwys themâu gwahanol gan gynnwys yr arfordir, cestyll, tirluniau, diwylliant, antur a Safle Treftadaeth y Byd. Mae oriel o ddelweddau proffesiynol hefyd wedi eu rhyddhau er mwyn helpu i ddenu ymwelwyr hen a newydd i’r rhanbarth drwy’r flwyddyn.
Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi’r rhanbarth, ac yn ystod 2017, cyfanswm yr effaith economaidd oedd £867m ac fe wnaed dros 11 miliwn o ymweliadau.
Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych, “Gyda’r prif dymor twristiaeth ar fin cyrraedd; mae'n wych i weld Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn gweithio gyda’i gilydd i lansio amrywiaeth o ddeunyddiau marchnata proffesiynol i arddangos y rhanbarth yn ystod Blwyddyn Darganfod. Fe fyddem yn annog busnesau i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael ar eu cyfer i greu gwell ymwybyddiaeth o'r rhanbarth a hybu'r economi leol drwy gydol y flwyddyn."
Mae saith map digidol newydd sy’n archwilio amrywiaeth o leoliadau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru hefyd wedi eu llunio. Mae’r mapiau’n cydgysylltu gyda Ffordd Gogledd Cymru –sy’n 75 milltir ac yn un o dri llwybr twristiaeth cenedlaethol a lansiwyd gan Croeso Cymru o dan frand Ffordd Cymru. Mae’r mapiau newydd wedi bod yn ymdrech gymunedol, gan fod busnesau wedi eu gwahodd i weithdai ar draws Gogledd Cymru i drafod eu syniadau am lwybrau twristaidd newydd i helpu i hyrwyddo’r rhanbarth a darparu troeon a dargyfeiriadau oddi ar Ffordd Gogledd Cymru.
I weld y ffilm ewch i dudalen Gogledd Ddwyrain Cymru ar Facebook neu YouTube https://www.youtube.com/watch?v=eovLG6cIIAY
I weld y mapiau a’r ffotograffau ac i gael gwybodaeth bellach ar y rhanbarth, ewch i www.northeastwales.wales
Newyddion diweddaraf am dwristiaeth
Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!
Hoffech chi glywed y newyddion diweddaraf am dwristiaeth yn Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru?
Os felly, mae cofrestru yn syml a hawdd … https://www.denbighshire.gov.uk/cy/ymwelydd/pethau-iw-gwneud/be-symlaen/ffurflen-ymaelodi-twristiaeth-sir-ddinbych.aspx
Ydych chi'n chwilio am lefydd newydd i ymweld â nhw dros yr haf?
Am syniadau ynglŷn â phethau i’w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw yr haf hwn, ewch i http://www.gogleddddwyraincymru.cymru/
Dosbarthu
Mae Tîm Twristiaeth Sir Ddinbych yn darparu gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth am ddim ar gyfer busnesau sy’n archebu taflenni a phamffledi. Caiff yr wybodaeth hon ei chynhyrchu i ddenu ymwelwyr i’r ardal a gwella eu profiadau pan fyddant yma.
Mae’r cynnyrch yn cynnwys:
- Taflenni Llwybrau Tref

- Taflen y 5 Taith
- Taflenni SC2 y Rhyl
- Llyfryn Canolfan Grefft Rhuthun
- Taflen dreftadaeth
Pwy all archebu?
Gallwch archebu gan y gwasanaeth dosbarthu taflenni os yw eich busnes yng ngogledd ddwyrain Cymru ac os ydych chi’n dod i gysylltiad ag ymwelwyr.
Sut i archebuDyddiad cau ar gyfer archebu
Gallwch archebu ar-lein a bydd y Gwasanaeth Dosbarth Taflenni Twristiaeth yn eu danfon am ddim
Archebwch ar-lein drwy’r Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth
Archebwch erbyn 16/7/2019 er mwyn i’ch taflenni gyrraedd yr wythnos sy’n dechrau ar 22/7/2019.