llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 4

Gentleman Jack a Ladis Llangollen

Daeth Anne Lister (1791–1840), sydd bellach yn cael ei chydnabod fel y ‘lesbiad modern cyntaf’, i ymweld â Sarah Ponsonby wrth deithio Gogledd Cymru ym 1822. Roedd hi’n deithiwr brwd a chofnododd lawer am ei phrofiad ym Mhlas Newydd yn ei dyddiadur.

Mae Ladis Llangollen yn rhan fawr o’r gwaith ymchwil cychwynnol a’r dylanwad ar gyfer drama’r BBC / HBO, Gentleman Jack. Wedi’i gosod yn Ngorllewin Swydd Efrog ym 1832, mae Gentleman Jack wedi’i hysbrydoli gan stori wir a dyddiaduron côd Anne Lister (wedi’i phortreadu gan Suranne Jones), ac mae’n dilyn ei hanes wrth geisio adnewyddu ei chartref etifeddol, Shibden Hall.

Cafodd Ladis Llangollen ddylanwad arbennig ar Tom Pye, dylunydd gwisgoedd y gyfres, wrth iddo ddylunio’r gwisgoedd anhygoel ar gyfer Suranne Jones.

Dywedodd: “Roedd fy ngwaith ymchwil ar Anne Lister yn dweud ei bod hi’n gwisgo cap du bach, meddal, o felfed yn ôl pob tebyg.

"Mi roddais gynnig ar ambell siâp tebyg, ond doedden nhw ddim i’w gweld yn cyfleu i gynulleidfa fodern y pŵer a’r statws y gallai het uchel ei ddangos.

"Roedd Ladis Llangollen, Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, yn ddylanwad penodol arnaf i.

"Fel Anne, roedden nhw hefyd yn gwisgo du i gyd ac yn gwisgo hetiau uchel. Dydi Anne ddim yn sôn am het uchel yn ei dyddiadur, ond dydi hynny ddim yn golygu nad oedd ganddi un.”

Gallwch weld cofnodion dyddiadur Anne Lister, ynghyd â chopïau o frasluniau a byrddau syniadau cychwynnol y gwisgoedd, saith diwrnod yr wythnos yn Nhŷ Hanesyddol Plas Newydd, Llangollen.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...