llais y sir

Mae cogydd o Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn cyflwyno dulliau coginio Cymreig i bobl Siapan

Mae cogydd o Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn cyflwyno dulliau coginio Cymreig i bobl Siapan.

Mae Steve Thomas, sy’n rhedeg yr ystafelloedd te yn amgueddfa Plas Newydd yn Llangollen, wedi cymryd rhan mewn rhaglen deledu deithio yn Siapan sy’n sôn am Gymru.

“Mae’n sioe deledu sefydledig sydd wedi ffilmio ledled y byd dros y blynyddoedd," esboniodd Steve.

“Gan fod cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn cael ei chynnal yn Siapan ym mis Medi, maen nhw wedi bod yn ffilmio atyniadau yng Nghymru ac un o’r pethau yr oedden nhw am eu cynnwys oedd ein bwyd traddodiadol.”

Roedd y criw teledu yn cyfweld â phobl yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac fe gawson nhw argymhelliad i ymweld â Steve wrth ei waith yng ngheginau Plas Newydd.

“Cefais alwad ffôn yn gofyn a fyddai'n bosibl iddyn nhw ddod draw yma. Fe gawson nhw groeso cynnes gennym ac fe gyflwynais i ddau bryd iddyn nhw. Cawl cig oen oedd un a chyw iâr gyda chennin mewn saws taragon oedd y llall,” meddai Steve.

“Blasodd y criw y ddau bryd ac roedden nhw’n frwdfrydig iawn, aeth y prydau i lawr yn dda. Roedden nhw wedi mwynhau cymaint nes iddyn nhw brynu sgons a chacennau cri gennym i'w bwyta ar eu siwrnai yn ôl."

Mae Plas Newydd wedi bod yn fwrlwm o weithgarwch ym mis Gorffennaf. Un o’r prif ddigwyddiadau oedd lansiad ap ffôn symudol newydd i hyrwyddo’r Gymraeg a threftadaeth Cymreig i gerddwyr. Mae’n gweithio trwy dynnu sylw at enwau gwreiddiol lleoedd a hanes yr ardal i berchnogion teclynnau symudol.

Roedd Plas Newydd yn hynod falch o gael bod yn un o’r safleoedd a ddefnyddiwyd gan Ŵyl Fringe Llangollen i berfformio cynhyrchiad llawn hiwmor.

Bu tiroedd prydferth yr amgueddfa hefyd yn gefnlen i ddiwrnod artistig arbennig o dan y teitl Y Darlun Mawr – lle roedd artistiaid newydd yn dod at ei gilydd fel grŵp i roi’r tirlun hardd ar bapur.

Mae nifer o leoliadau lleol, gan gynnwys Plas Newydd, wedi uno i gynnig 10 o bethau i’w gwneud yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae’r prosiect yn dathlu deng mlynedd ers i Draphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte gael eu gwneud yn Safle Treftadaeth Y Byd a bwriad y prosiect yw rhoi digonedd o bethau i deuluoedd eu gwneud wrth iddyn nhw fwynhau’r ardal.

Gall cyfranogwyr gymryd rhan mewn her newydd ym mhob cyrchfan sy’n cymryd rhan. Ym Mhlas Newydd gallant fynd i’r afael â llwybr sydd wedi’i osod yn dra-fanwl, gan ddefnyddio map arbennig i ddod o hyd i gliwiau wrth iddyn nhw olrhain cyfres o wrthrychau sydd wedi'u gosod yma ac acw ar y tiroedd.

Mae Plas Newydd wedi derbyn ymateb gwych i fenter ecogyfeillgar sydd yno hefyd. Mae’r safle wedi dechrau tyfu ei blanhigion ei hun gan ddefnyddio compost organig di-fawn mewn twnnel polythen sydd wedi’i adeiladu’n arbennig.

Bydd rhai o’r planhigion yn cael eu defnyddio ar y tiroedd er mwyn ymestyn y cyfnod blodeuo ond bydd eraill ar gael i’w gwerthu i’r cyhoedd.

“Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn hyn, sydd yn wych,” meddai garddwr Plas Newydd, Neil Rowlands.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid