llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 4

Corwen yn cofio Eisteddfod Heddwch 1919

Eleni bydd can mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Eisteddfod Heddwch gael ei chynnal yng Nghorwen yn 1919.

Roedd yn achlysur arbennig iawn gan mai hon oedd yr Eisteddfod gyntaf i gael ei chynnal ar ôl y Rhyfel Mawr ac roedd yn arbennig o bwysig i dref Corwen gael bod yn gartref i’r digwyddiad arbennig hwn. I nodi’r achlysur, ariannodd y Loteri Genedlaethol y prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, a fu’n gweithio’n galed gydag artistiaid lleol i gefnogi'r gymuned mewn digwyddiad coffaol.

Bu disgyblion Ysgol Caer Drewyn yn dysgu am draddodiadau’r Eisteddfod a’r hyn a ddigwyddodd yng Nghorwen yn 1919. Er enghraifft:

  • cafodd ffordd yr A5 ei chau am wythnos yr Eisteddfod;
  • codwyd 4 platfform yng ngorsaf drenau Corwen; ac
  • ar ôl deffro’n hwyr fe gyrhaeddodd y delynores Nansi Richards yn ei choban a'i chôt fawr i chwarae'r delyn a bu'n gwisgo'r dillad hynny trwy'r dydd a hithau’n ddiwrnod poeth o fis Awst!

Roedd y plant wedi mwynhau defnyddio eu dychymyg i ddyfalu beth ddigwyddodd i Gadair Eisteddfod Genedlaethol Corwen 1919 gan nad oes unrhyw un yn gwybod ble mae hi hyd heddiw.

Cafwyd digwyddiad coffaol cymunedol ar ddydd Mercher 10fed Gorffennaf lle cafodd gorymdaith ei harwain gan y disgyblion yn dechrau o Ganolfan Ni i gylch yr Orsedd yng Nghoed Pen y Pigyn. Daeth aelodau o’r gymuned i ymuno a’r plant i gofio am Eisteddfod Corwen 1919.

Creuwyd pypedau enfawr o’r Derwyddion gan ddisgybion Ysgol Caer Drewyn a rhai o’r rhieni. Fe wnaeth plant 7-11 oed, ffurfio band offerynnau taro i greu awyrgylch dathliadol ar gyfer yr orymdaith yn ogystal â pherfformiadau drama yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn yn Eisteddfod 1919, a chafodd ei pherfformio yn yr Orsedd ym Mhen y Pigyn. Daeth y gymuned leol i gymryd rhan hefyd gyda grŵp MIND Dyffryn Clwyd a’r clwb cinio ynghyd â phlant yr ysgol feithrin, a oedd wedi bod yn defnyddio technegau printio i greu baneri a fflagiau i addurno’r orymdaith. A’r ddiwedd y dathliad cafodd y gymuned luniaeth ac amser i fwynhau yr arddangosfeydd yn Amgueddfa Corwen.

Cafodd y digwyddiad ei ffilmio er mwyn atgoffa pobl ymhen 100 mlynedd sut y cafodd y canmlwyddiant pwysig hwn ei ddathlu yng Nghorwen. Cewch weld y ffilm ar dudalen Facebook Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy AHNE.

Ar ôl y digwyddiad ym mis Gorffennaf, aeth aelodau o'r gymuned a gymerodd ran yn y prosiect a phypedau’r Derwyddon i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst i atgoffa pobl o ganmlwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Heddwch 1919 ac i annog pobl i ddod i ymweld â Chorwen.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...