llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 4

Dathlu 10 mlynedd fel safle Treftadaeth

10 mlynedd yn ôl, yn Seville, bu 33ain sesiwn Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn ystyried enwebiad Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas a phenderfynwyd cynnwys y strwythur ar Restr Treftadaeth y Byd.  

Mae ein safle yn sicr yn un arbennig – yn brawf 11 milltir o hyd o allu peirianwyr yr oes, sy’n enghraifft o ddulliau peirianyddol newydd a ddatblygwyd yn y chwyldro diwydiannol ac a ddefnyddiwyd wedyn wrth adeiladu dyfrffyrdd, rheilffyrdd a ffyrdd ar draws y byd.  

Rydyn ni ar y rhestr o 1092 o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Rydyn ni’n un o’r 31 sydd yn y DU ac yn un o’r 3 yng Nghymru.

I ddathlu’r 10 mlwyddiant, mae llu o weithgareddau’n cael eu cynnal eleni. Trefnwyd taith ar y gamlas ar 27 Mehefin, ar ddyddiad y cyhoeddi 10 mlynedd yn ôl, i’r rhai a oedd yn rhan o’r broses yn y lle cyntaf ac i’r rhai sydd ynghlwm â rheoli’r safle heddiw.

Cynhaliwyd diwrnod hwyl Safle Treftadaeth y Byd yn Nhrefor ar 29 Mehefin, a oedd yn ddiwrnod gwych gyda’r gymuned leol a stondinau, a gweithgareddau yn arwain at y digwyddiad fel rhai i greu baneri a bynting trawiadol iawn, yn ogystal chomisiynu perfformiad o ddawns i’w gyflwyno yn y digwyddiad.

Roedd gennym stondin yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a oedd yn lliwgar iawn ac a ddenodd lawer o ddiddordeb. Roedd yn ffordd ddefnyddiol iawn o hyrwyddo bod y safle’n un 11 milltir o hyd ac nad yw’n canolbwyntio’n llwyr ar y Draphont Ddŵr.

Mae wedi bod yn enghraifft wych o gydweithio gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Techniquest Glyndŵr.

Mae llawer mwy o weithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn a bydd popeth yn arwain at gynhadledd Treftadaeth y Byd y DU ym Mhafiliwn Llangollen fis Hydref.

Bydd arddangosfa o’r holl waith celf sydd wedi’i greu gan y gwahanol grwpiau ar gyfer hyn yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam ym mis Tachwedd ac mewn digwyddiad cerddorol unigryw yn Nhŷ Pawb ar 14 Tachwedd, a fydd yn cynnwys barddoniaeth a cherddoriaeth wedi’u comisiynu’n arbennig, wedi’u hysbrydoli gan y Ddyfrbont a’r Gamlas.

Gwyliwch dudalennau cyfryngau cymdeithasol Pontcysyllte am y wybodaeth ddiweddaraf.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...