llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 4

Glasdir: dosbarthiadau byw yn ysbrydoli diddordeb plant mewn natur

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi bod yn gweithio ar bartneriaeth ystafell ddosbarth fyw hynod gyffrous gydag Ysgol Stryd y Rhos.

Rhai blynyddoedd yn ôl, bu i Wasanaeth Cefn Gwlad ymgymryd â’r gwaith o reoli Glastir yn Rhuthun, fel tir lliniaru ar gyfer ystâd dai newydd gerllaw, gyda’r bwriad o greu partneriaeth ag ysgol leol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi gweithio’n galed i drawsnewid yr ardal hon, a oedd yn llawn chwyn, i baradwys ar gyfer bywyd gwyllt.

Rydym wedi bod yn gweithio ar ardal o goed helyg gyda ffosydd, sydd wedi’i nodi’n ardal ddelfrydol ar gyfer llygod y dŵr. Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn helpu i frysgoedio’r coed helyg ar hyd ymylon y ffosydd er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o olau’n taro’r dŵr. Ymhellach i mewn i’r safle, rydym yn parhau i wella’r pwll dŵr a gloddiwyd yn 2017. Bu’r disgyblion yn ein helpu i blannu blodau gwyllt brodorol, cymysgedd o flodau a ddewiswyd yn arbennig oherwydd eu bod yn ffynnu mewn tir gwlyb. Mae’r plant yn mwynhau gwylio’r adar o’r guddfan a adeiladwyd yn 2017.

Cuddfan i wylio adar

Yn ddiweddar, plannodd y disgyblion berllan yn cynnwys eirin Dinbych ac afalau Cox Cymreig a Nant Gwytherin. Ar ôl gosod trapiau camera, cafodd y plant fwynhau edrych ar glipiau o famaliaid, yn cynnwys moch daear a llwynogod, yn archwilio’r safle. Maent hefyd wedi bod yn dysgu am bryfed sy’n peillio wedi i ni osod ein blychau gwenyn unig, sydd yn boblogaidd iawn ymysg saerwenyn a gwenyn tor-ddail. Mae’r pridd bywyd gwyllt hefyd wedi profi’n llwyddiannus iawn, gweler y blodau yn y llun isod.       

             

Pridd bywyd gwyllt yn ei flodau.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom gynnal noson agored yng Nglastir i roi cyfle i deuluoedd y disgyblion gael gweld eu gwaith. Roedd y teuluoedd wrth eu boddau’n archwilio’r safle ac fe gawsant roi cynnig ar ddefnyddio'r synwyryddion ystlumod.

 

Synwyryddion ystlumod yn cael eu defnyddio yn ystod y digwyddiad gyda’r nos i’r teulu

Ym mis Mehefin, fe aeth Maria Golightly o ‘Tyfu’n Wyllt Cymru’ i ymweld â’r Ystafell Ddosbarth Fyw, ynghyd ag arweinwyr prosiect o’r Prosiect Porth Morfa ym Mhrestatyn. Roeddent wedi’u plesio’n arw gyda holl ymdrech y Gwasanaeth Cefn Gwlad a’r ysgol. Yn ystod yr ymweliad, bu i’r disgyblion osod arwyddion ar gyfer coed y berllan a dal gwyfynod.

Dal gwyfynod gyda Maria o Tyfu’n Wyllt

Mae’r plant yn edrych ymlaen at gael mynd allan i'r awyr agored, dysgu am natur a gwneud rhywbeth gwahanol i wersi traddodiadol. “Mae Ysgol Stryd y Rhos yn falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth unigryw hon ac yn frwdfrydig iawn yn ei chylch. Mae’r ‘Ystafell Ddosbarth Fyw’ yn ein galluogi ni i ddarparu tasgau a phrofiadau amgylcheddol ystyrlon a dymunol yng nghefn gwlad. Mae’r profiad ymarferol hwn yn hanfodol i’r plant gydnabod a gwerthfawrogi’r rôl y maent yn ei chwarae wrth lunio dyfodol cynaliadwy.” - Joanne Davies, Cydlynydd Eco, Ysgol Stryd y Rhos. Byddwn yn parhau â’n gwaith gydag Ysgol Stryd y Rhos yng Nglastir yn ystod tymor yr hydref, a gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn tanio diddordeb mewn natur ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...