llais y sir

Polisi ymylon ffyrdd newydd

Mae ymylon ffyrdd wedi dod yn fwy a mwy pwysig, wrth i bobl ddod yn fwyfwy ymwybodol o'u pwysigrwydd fel hafanau i fywyd gwyllt, planhigion a pheillwyr ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn wahanol i lawer o gynefinoedd glaswelltir eraill, mae ymylon ffyrdd gan amlaf yn cael eu gadael heb eu cyffwrdd gan wrteithwyr, plaladdwyr neu chwynladdwyr a all gael effeithiau niweidiol ar ein rhywogaethau gwyllt.

Mae dros 700 o rywogaethau o blanhigion wedi'u cofnodi ym Mhrydain ar ymylon ffyrdd (45% o'n holl rywogaethau fflora). Mae hyn yn cynnwys rhai enghreifftiau prin iawn, fel y ffacbys rhuddlas (Vicia bithynica) sydd wedi'i rhestru fel rhywogaeth flaenoriaethol Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Sir Ddinbych ac fel un sy'n agored i niwed ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur y DU. Trwy reoli ein hymylon ffyrdd yn gywir rydym yn galluogi ystod o fywyd gwyllt i ffynnu; o infertebratau i ymlusgiaid, amffibiaid, adar a mamaliaid bach.

Ers 1930 mae'r DU wedi colli 97% o'i dolydd blodau gwyllt tra bod gan Gymru a Lloegr lai nag 1% o gyfanswm arwynebedd cyn y rhyfel o ddolydd iseldir heb ei wella. Mae'r golled drychinebus hon o gynefin wedi cael effeithiau niweidiol enfawr ar boblogaethau pryfed a phlanhigion ledled y DU. Er enghraifft, mae nifer y rhywogaethau infertebrat fel y glöyn byw, gwyfyn a’r chwilen ddu yn dangos dirywiad o rhwng 65 - 70% dros y degawdau diwethaf, gyda llawer mwy o rywogaethau bellach dan fygythiad mawr.

Nododd adroddiad o’r enw ‘The State of Britain’s Butterflies, 2015’ fod 76% o rywogaethau gloÿnnod byw ymfudol a rheolaidd y DU wedi dirywio naill ai mewn amlder neu helaethrwydd (neu’r ddau) dros y pedwar degawd diwethaf (Fox et al., 2015). Tra nododd astudiaeth gan Goulson et al. yn 2008, fod tair o'r 25 rhywogaeth cacwn yn y DU wedi diflannu, gydag wyth rhywogaeth arall yn dioddef o ddirywiad difrifol yn eu poblogaeth.

Yn anffodus, nid yw'r rhagolygon ar gyfer gwenyn yn well. Nododd Rhestr Goch o Wenyn Ewrop fod diffyg gwybodaeth wedi cyfyngu'n ddifrifol ar sefydlu statws poblogaethau rhywogaethau gwenyn, gyda 79% o'r rhywogaethau â thueddiadau poblogaeth anhysbys. Yn anffodus nid oes data swyddogol ar hyn o bryd ar gyfer tueddiadau ym mhoblogaethau gwenyn gwyllt yng Nghymru, felly gall poblogaethau fod yn nes at ddifodiant yn gyflymach nag yr ydym yn meddwl.

Polisi ymylon ffyrdd newydd y Cyngor

Yr ydym yn edrych i wyrdroi'r dirywiad mewn peillwyr a rhywogaethau infertebratau eraill trwy greu cynefinoedd sy'n llawn blodau gwyllt ar hyd ein rhwydwaith ymylon ffyrdd trwy weithredu ei bolisi ymylon ffyrdd newydd.

Am y tro cyntaf, mae gan Gynllun Corfforaethol y Cyngor adran ar yr amgylchedd sydd wedi cynnwys gwenyn fel rhywogaeth â blaenoriaeth yn y sir. Gyda hyn mewn golwg, bydd polisi ymylon ffyrdd newydd y cyngor yn ceisio cynyddu'r ffynonellau cynefin a bwyd cyffredinol sydd ar gael i wenyn a pheillwyr eraill wrth gynnal diogelwch ei ddefnyddwyr ffyrdd.

Mae'r polisi newydd wedi'i ddatblygu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Canolfan Sgiliau Coetir Bodfari a grŵp lleol (Life on the Verge) - mae'r cyngor wedi gweithio gyda nhw ers dros 10 mlynedd.

Mae'r polisi ymylon ffyrdd yn canolbwyntio ar ffyrdd y tu allan i'r terfyn 30-40mya a ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd. Bydd y ffyrdd hyn yn cael eu torri unwaith y flwyddyn ar ôl 1 Awst, gyda’r hyn a elwir yn doriad bioamrywiaeth. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cael gwared ar y toriadau (lle bo hynny'n briodol) a fydd yn lleihau'r maetholion sy'n ailymuno â'r pridd ac yn cyfyngu ar dwf mieri, danadl poethion a rhywogaethau eraill sy'n caru maetholion sy'n tyfu'n gyflymach o blaid y rhywogaethau blodau gwyllt sy'n tyfu'n arafach.

Gwneir y toriad hwn ar oddeutu 78% o gyfanswm y rhwydwaith ymylon ffyrdd yn y sir ac mae'n cynnwys dros 1,800km o gynefin blodau gwyllt posibl. Mae'r un toriad bioamrywiaeth yn caniatáu digon o amser i blanhigion flodeuo a hadu wrth sicrhau cyfnod hir o fwydo i beillwyr a phryfed eraill sydd hefyd wedyn yn gallu dodwy eu hwyau mewn cynefinoedd mwy diogel.

Bydd llain ddiogelwch 1m o led yn dal i fod mewn grym (lle bo hynny'n briodol) i sicrhau diogelwch defnyddwyr ffyrdd y Sir tra hefyd yn gwella ac yn datblygu ein hymylon ffyrdd fel coridorau sy'n llawn bywyd gwyllt.

Gofynnwn i holl drigolion y Sir gefnogi'r polisi hwn a'n helpu i gynyddu bioamrywiaeth ein sir trwy beidio â thorri ymylon ffyrdd, hyd yn oed os ydynt yn edrych ychydig yn flêr. Bydd dolydd blodau gwyllt yn edrych yn well ac yn well dros amser wrth iddynt ymsefydlu, felly gallwn ni i gyd edrych ymlaen at gael ymylon ffyrdd hyfryd sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt a pheillwyr ledled ein sir hardd wrth i Sir Ddinbych geisio dod y sir fwyaf ‘Cyfeillgar i Wenyn’ yng Nghymru!

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid