llais y sir

Tymor o lwyddiannau i Gronant a'r môr-wenoliaid bach

“O bosib y diwrnod GORAU ERIOED!”, “Dwi ddim isio gadael!” “Diolch yn fawr i chi am ddod â ni yma!”

Dim ond rhai o’r pethau sydd wedi cael ei ddweud y tymor hwn gan y grwpiau o blant ysgol sydd wedi ymweld â Gronant a’r môr-wenoliaid bach.

Y tymor hwn dechreuodd ffocws newydd ar y nythfeydd môr-wenoliaid yng Ngronant a hynny o ganlyniad i drosglwyddiad cyllid EULife+ i Gynllun Cymunedol Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae hyn yn golygu mai y rôl eleni oedd cyflwyno’r safle hwn a’i holl ryfeddodau i gymunedau lleol Y Rhyl a Phrestatyn i’n helpu ni gyda chadwraeth y môr-wenoliaid bach a rhywogaethau eraill ar y safle.

Er mwyn i’r gymuned allu helpu i ddiogelu twyni Gronant a’r rhywogaethau sy’n byw yno, mae’n rhaid i ni yn gyntaf eu haddysgu amdano. Mae’r safle yn un bach cudd nad ydi hyd yn oed rhai pobl sydd wedi byw yno ar hyd eu hoes yn gwybod amdano. Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy’r ysgolion gan mai nhw yw conglfeini’r gymuned leol gyda’u heffeithiau’n bellgyrhaeddol, oherwydd os gallwch chi ysbrydoli plant a disgyblion, bydd y negeseuon yn cael eu trosglwyddo i’r rhieni a thu hwnt. Cyfrannodd cyfanswm o 5 ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd gyda thri neu bedwar dosbarth o bob un wedi ymweld â’r safle, sef cyfanswm o 450 o blant ac athrawon. I blant yr oed yma mae popeth yn gyffrous ac mae’r brwdfrydedd hwn yn allweddol i ddysgu. Felly yn hytrach na dangos a dweud wrthyn nhw am y môr-wenoliaid, roeddent yn cael eu hannog i ddysgu drwy wneud.

Roedd y dosbarth awyr agored yn canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar y traeth. Rhoddodd y môr-wenoliaid ffocws da i’r diwrnod. Ar ôl dangos y nythfeydd iddyn nhw aethon nhw lawr i’r traeth i wneud gweithgareddau oedd yn caniatáu rhyddid creadigol iddyn nhw ar yr un pryd a gadael iddyn nhw fod yn blant ac i chwarae. Roedd hyn yn cynnwys chwilio am bethau diddorol ar y traeth a gwneud cistiau dal trysor allan o focsys wyau, adeiladu nythod môr-wenoliaid bach, gwneud murluniau o’r mor-wenoliaid ar y tywod, peintio cerrig Gronant, crefftau gwneud creaduriaid y môr a gemau ar y traeth seiliedig ar y mor-wenoliaid bach

Rydym wedi cychwyn effaith ‘tonnau’. Mae mwy a mwy o deuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd allan yn mwynhau’r awyr agored gan annog datblygiad agwedd sy’n dangos mwy o barch tuag at yr amgylchedd o’n cwmpas a’r dymuniad i fod yn rhan o’i gadwraeth.

Ac wrth gwrs, beth am y môr-wenoliaid?

Ydyn nhw wedi cael tymor gystal â ni? Does dim dwywaith mai’r ateb yw ‘do’.   Mae hwn wedi bod yn un o’r tymhorau gorau eto; gyda lefelau da o amddiffyniad gan 3 cilomedr o ffens drydan a osodwyd gan staff y Cyngor a gwirfoddolwyr Grŵp y Fôr-wennol Fach Gogledd Cymru, a wardeinio heb ei ail gan y ddau grŵp, rydym yn awr yn gweld lefelau isel o ysglyfaethu sydd, ochr yn ochr ag amodau tywydd ffafriol, wedi ein rhoi ni ar y trywydd iawn ar gyfer niferoedd mwy nag erioed o’r blaen o adar bach sy’n llwyddo i adael y nyth.

Felly dyna haf llwyddiannus drwyddi draw!

I’r gwaith hwn barhau, y peth pwysig yw hyrwyddo cydberchnogaeth o’n mannau agored naturiol a'r amgylchedd, y rhain yw ein llefydd ni i’w mwynhau a’u diogelu. Nid gwaith awdurdodau lleol, NGOs neu berchnogion tir yn unig yw hyn, mae’n waith i bob un ohonom sy’n defnyddio ac yn mwynhau’r mannau hyn. Mae’r gymuned a’r môr-wenoliaid yn byw mewn symbiosis yng Ngronant, mae manteision i'r naill a’r llall o bresenoldeb ei gilydd, gan wneud y cyllid gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru mor bwysig i’r ddau. Mae’r llefydd naturiol hyn yn perthyn i bob un ohonom, er budd natur a'r gymuned, a dyna’r hyn yr ydym yn gobeithio ei ddangos.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid