llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 4

Mae eich ymgynghorwyr ailgylchu cymunedol newydd yma i helpu!

Mae hi’n flwyddyn fawr i ailgylchu! Mae’n rhaid i bob Cyngor ailgylchu o leiaf 64% o’u gwastraff cartref i osgoi cosbau gan Lywodraeth Cymru.  Diolch i ymrwymiad a gwaith caled y criwiau casglu gwastraff, swyddogion ailgylchu ac aelodau'r cyhoedd, mae Sir Ddinbych wedi cyrraedd y targed ers sawl blwyddyn bellach – ond mae hyn yn mynd yn anoddach oherwydd mae pwysau gwastraff ailgylchadwy yn ein sbwriel yn lleihau drwy’r amser.   Mae gwneuthurwyr yn gwneud poteli gwydr a photeli plastig yn ysgafnach, ac mae'r oes electronig yn golygu fod llai o alw am ddeunydd wedi'i argraffu. Mae’n rhaid i ni felly weithio'n galetach er mwyn casglu eitemau ailgylchadwy a gaiff eu taflu.  Er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn ailgylchu 64% o'n gwastraff eleni, rydym wedi recriwtio tri ymgynghorwr ailgylchu ychwanegol. 

Ers mis Gorffennaf, mae Katie (ar y chwith), Ryan (yn y canol) a Paul (ar y dde) wedi bod yn ymweld â chartrefi trigolion sy’n ansicr ynglŷn â pha finiau i’w defnyddio ar gyfer gwahanol wastraff, neu drigolion nad ydynt yn ailgylchu llawer ar hyn o bryd.   Maent yn ymuno â thîm profiadol o dri swyddog arall i gynnig cyngor mewn perthynas â storio ac amseroedd casgliadau, maent yn gwirio fod gan bob cartref y cynwysyddion priodol yn ogystal â helpu pobl i ddeall pa fin i'w ddefnyddio ar gyfer gwahanol fathau o sbwriel.

Mae gennym hefyd 10,000 o gadis gwastraff bwyd i'w dosbarthu dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau fod pawb yn ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae chwarter y bin gweddilliol du (yn ôl pwysau) yn cynnwys bwyd a deflir, er bod y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd ar ymyl y palmant wythnosol ar gael i’r rhan fwyaf o gartrefi ar draws y sir.

Ein hawdurdod lleol ni yw’r trydydd gorau yng Nghymru o ran faint o wastraff bwyd yr ydym yn ei gasglu diolch i ymdrechion yr holl ailgylchwyr brwd yn Sir Ddinbych.  Ond mae’n rhaid i bawb wneud eu gorau glas i sicrhau nad ydym yn rhoi ein gwastraff bwyd yn y bin du o gwbl.  Mae llawer gormod o wastraff bwyd heb eu hagor yn cael eu taflu i’r bin du, sy’n golygu fod y bwyd neu'r pecyn yn cael eu gwastraffu, yn hytrach na'u gwahanu a'u hailgylchu.  Gan amlaf, gellir ailgylchu pecynnau plastig, metel a chardbord i greu cynnyrch newydd, a gellir troi gwastraff bwyd yn wrteithiwr pridd i greu maethynnau gwerthfawr ac angenrheidiol i'n pridd lleol.  Mae’r broses ailgylchu gwastraff bwyd hefyd yn creu ynni adnewyddadwy. Mae ein cyfleuster Treulio Anaerobig yn Llanelwy yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi pŵer mewn 2000 o gartrefi.

Os ydych yn cynhyrchu gwastraff bwyd, ac os nad ydych yn eu hailgylchu, cysylltwch â ni ar unwaith a gallwn ddarparu cadi cegin, cadi ymyl palmant a bagiau compostadwy ar eich cyfer.  Mae pwerau cyfreithiol yn caniatáu i’r Cyngor gosbi cartrefi sy’n dewis peidio ag ailgylchu, felly mae'n bwysig fod gan bawb y cynwysyddion hanfodol ar gyfer rhoi gwastraff y cartref allan i'w casglu yn gywir.  Gallwch wneud cais am gyfarpar ailgylchu gwastraff bwyd ar unrhyw bryd drwy lenwi ffurflen ar-lein ar wefan y Cyngor, neu ffoniwch 01824 706000 yn ystod oriau gwaith arferol.

Mae nifer fechan o gartrefi nad ydym yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd iddynt ar hyn o bryd gan eu bod mewn lleoliadau gwledig.  Fodd bynnag, rydym yn ceisio am gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn i ni allu cynnig y gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd i’r lleoliadau hyn yn hwyrach yn y flwyddyn.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...