llais y sir

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Pennod newydd yn hanes cynllun llyfrau ar bresgripsiwn

Mae llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cefnogi cynllun ddwyieithog Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl gafodd ei lansio yn Eisteddfod Sir Conwy yn Llanrwst fis Awst.

Bellach, gall gweithwyr iechyd proffesiynol Cymru roi presgripsiwn am lyfrau llyfrgell am ddim i helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae'r arbenigwyr y tu ôl i'r cynllun yn galw'r dull yn 'bibliotherapi'.

Mae'r cynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl wedi'i ddatblygu gan yr Asiantaeth Ddarllen a llyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau iechyd blaenllaw gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Mind, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Cymdeithas Seicolegol Prydain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, yn ogystal ag unigolion sydd â phrofiad personol o anghenion iechyd meddwl a'u perthnasau a'u gofalwyr.

Mae copïau o'r llyfrau bellach ar gael i'r cyhoedd i'w benthyg am ddim gan lyfrgelloedd cyhoeddus pob un o'r 22 awdurdod yng Nghymru. Gall y llyfrau gael eu hargymell gan weithiwr iechyd proffesiynol a'u benthyg am ddim gan lyfrgell leol, neu gall defnyddwyr hunanatgyfeirio a benthyg y llyfrau fel y bydden nhw'n benthyg unrhyw lyfr llyfrgell arall.

Meddai Bethan M. Hughes, Prif Lyfrgellydd y Cyngor: "Gall llyfrgelloedd gynnig lle diogel i bobl yn eu cymunedau lleol i fynd a darllen amrywiaeth o lyfrau pwysig, ac mae'r cynllun Darllen yn Well yn enghraifft wych o hyn.

"Cryfder yr ymgyrch yma yw bod cymaint o bartneriaid credadwy yn gefn iddi, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

"Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r casgliad yma'n fwy na rhestr o lyfrau – mae'n cynrychioli'r grym a'r effaith y gall darllen ei chael ar newid bywydau."

Mae'r casgliad yn darparu cymorth a gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae hefyd yn cynnwys straeon personol ysbrydoledig gan bobl sy'n byw gyda rhywun sydd ag anghenion iechyd meddwl neu sy'n gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n cynnwys Reasons to Stay Alive gan yr awdur arobryn Matt Haig, sy'n ymchwilio i'w brofiad personol o ddod yn agos at ladd ei hun pan oedd yn 24 oed, a The Recovery Letters, sef casgliad o lythyrau teimladwy a ysgrifennwyd gan bobl sydd wedi gwella o iselder neu sydd wrthi'n gwella ohono.

Gan fod cyflyrau iechyd meddwl yn cynrychioli'r achos unigol mwyaf o anabledd yng ngwledydd Prydain, mae'r Asiantaeth Ddarllen o'r farn ei bod yn hanfodol bod y cymorth yma ar gael i bawb, ac felly mae'n gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i gyfieithu'r llyfrau i'r Gymraeg.

Nod y cynllun yw sicrhau bod cymorth a gwybodaeth am iechyd meddwl o safon ar gael i'r cyhoedd yn rhwydd. Mae'r cynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl wedi'i lansio gan yr Asiantaeth Ddarllen a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth am Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl ewch i: https://reading-well.org.uk/wales

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid