llais y sir

Gwiriadau pwysau am ddim i garafanau a chartrefi modur

Anogir preswylwyr yn Sir Ddinbych, ac unrhyw un arall sy’n teithio drwy’r sir, sydd yn berchen ar garafanau neu gartrefi modur, i gymryd mantais o wiriadau pwysau rhad ac am ddim a chyngor ar ddiogelwch gan Safonau Masnach - er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at y gyfraith.

 

Pam ydym ni’n cynnal y diwrnodau gwirio pwysau hyn?

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych eisiau addysgu holl ddefnyddwyr y ffyrdd am y peryglon o orlwytho. Mae gorlwytho cerbydau yn achosi difrod i ffyrdd ac eich cerbyd ac mae hefyd yn peryglu defnyddwyr eraill y ffyrdd.

Nid dal pobl yn gorlwytho eu cerbydau yw ein bwriad, byddai'n well gennym pe na bai pobl yn gwneud hynny yn y lle cyntaf.

Pwy sydd yn cynnal y gwiriadau pwysau?

Bydd Swyddogion Safonau Masnach Sir Ddinbych ar y safle i gynnal y gwiriadau pwysau a chynghori’r perchennog yn unol â hynny. Bydd Swyddog o adran Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru yn bresennol i gynghori ar ddiogelwch carafanau. Ni fydd unrhyw asiantaeth arall yn bresennol.

Os wyf yn dewis mynychu un o’r sesiynau ar y bont bwyso, beth fydd hyn yn ei gynnwys?

Galwch heibio gyda’ch carafán neu eich cartref modur yn llawn, fel petaech yn mynd ar wyliau, a byddwn yn gwirio’r pwysau gros neu’r pwysau trymaf (car a charafán deithiol) a phwysau’r echelau. Rydym eisiau gwneud yn siŵr nad yw’r pwysau yn uwch nag uchafswm pwysau eich cerbyd.

Beth os yw fy ngharafán neu fy ngherbyd modur wedi gorlwytho?

Byddwn yn gweithio gyda chi i’ch cynghori a lleihau’r llwyth i swm derbyniol a diogel. Ni fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn eich erbyn. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod eich cerbyd yn gyfreithiol a ddiogel ar gyfer eich taith ac eich bod yn deall beth yw’r uchafswm pwysau y gallwch ei gario yn ddiogel.

A fyddaf yn derbyn unrhyw ddogfennaeth?

Byddwch yn derbyn copi o dystysgrif y bont bwyso ar ôl i’ch cerbyd gael ei bwyso er mwyn i chi gael cofnod o’r pwysau a rhywbeth i’ch atgoffa o faint o bwysau ychwanegol y gallwch ei roi ar eich cerbyd.

A oes angen i mi ddod â rhywbeth arall i’r sesiwn?

Sicrhewch eich bod yn dod ag unrhyw lawlyfr ar gyfer eich car/ cartref modur neu garafán – rhag ofn nad ydym yn gallu canfod lleoliad y platiau pwysau. Gallwch hefyd ddod â’ch trwydded yrru os ydych yn ansicr am eich cymhwysedd a chyfyngiadau pwysau tynnu.

Bydd y sesiynau “Gwirio eich Pwysau” rhad ac am ddim hyn yn cael eu cynnal ar y Bont Bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Mercher, 4 Medi: 12pm - 4pm
  • Dydd Gwener, 20 Medi: 9pm - 1pm
  • Dydd Gwener, 27 Medi: 9pm - 1pm

Nid oes rhaid gwneud apwyntiad, galwch heibio ar unrhyw un o’r dyddiadau a nodir a dewch i wybod os yw eich cerbyd chi o fewn ei bwysau cyfreithiol. Cewch hefyd gyfle i sgwrsio am ddiogelwch eich carafán / cartref modur gyda Swyddog o Dîm Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru  Gallwch ddod o hyd i’r bont bwyso ar ffordd Rhuddlan i Lanelwy A525, tua ¾ milltir o Ruddlan, mewn cilfan. Bydd arwyddion yn dangos bod y bont bwyso yn weithredol.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid