llais y sir

Newyddion

Cau ymgynghoriad y Cynllun Datblygu Lleol

Llawer o ddiolch i bawb a alwodd draw i’n gweld ni yn ein sesiynau galw heibio ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn Llangollen, Rhuthun a'r Rhyl.

Mae’r ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir drafft y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn awr ar y gweill. Bydd y CDLl yn disodli’r un presennol unwaith y caiff ei fabwysiadu (rhagwelir y bydd hyn yn digwydd yn 2021) a bydd yn berthnasol i’r cyfnod 2018 – 2033.

Y Strategaeth a Ffefrir drafft yw’r cam mawr cyntaf yn y broses baratoadol ac mae’n nodi’r lefelau twf arfaethedig hollgynhwysfawr ar gyfer tir cyflogaeth a thai, ac yn rhoi syniad bras hefyd o’r meysydd ble caiff twf ei gyfeirio. Nid oes unrhyw ddyraniadau tir penodol na pholisïau manwl ar y cam hwn. Bydd ymgynghori ar y gwaith mwy manwl yn digwydd yn 2020.

Mae’r gofrestr safleoedd ymgeisiol sy'n cyd-fynd â’r prif ddogfennau ymgynghori yn dangos tir sydd wedi ei gyflwyno gan dirfeddianwyr i’w ystyried yn y CDLl newydd. Ar y cam hwn nid oes unrhyw un o’r safleoedd hyn wedi eu dynodi ar gyfer eu cynnwys yn y CDLl gan y Cyngor ond croesewir sylwadau ac unrhyw wybodaeth leol amdanynt.

Mae’r holl ddogfennau ymgynghori ar gael mewn llyfrgelloedd a siopau un alwad yn ogystal ag ar-lein drwy wefan y Cyngor.

Gall unrhyw un anfon sylwadau atom, hyd at 30 Awst. Gallwch wneud hyn drwy’r porth ymgynghori; drwy e-bost neu ar ffurflen sylwadau.

Mae tîm y CDLl ar gael i ateb unrhyw gwestiynau yn ystod oriau swyddfa arferol drwy e-bost: polisicynllunio@sirddinbych.gov.uk neu ffôniwch nhw ar 01824 706916.

Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cyngor ynghyd â’r newidiadau arfaethedig i’r Strategaeth a Ffefrir drafft erbyn diwedd 2019.

Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Y cyfrif wedi dechrau tan Cyhoeddi’r Eisteddfod

Dewch i weld Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd a fydd yn cael ei gynnal ym Mhrestatyn, ddydd Sadwrn 5 Hydref.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar safle canolfan hamdden ac ysgol uwchradd y dref, cyn teithio tuag at y Stryd Fawr ac i lawr tuag at y Nova ac i Gaeau Bastion.

Yno, bydd y Cyngor a llu o sefydliadau eraill yn cynnal gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan.  Bydd ysgolion yn perfformio ar lwyfan a ddarperir gan yr Urdd.

Dyma gyfle gwych i ddangos Sir Ddinbych ac i gyhoeddi’n swyddogol y bydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r sir ym mis Mai 2020.

I gael rhagor o wybodaeth am y seremoni cyhoeddi, ewch i: http://www.urdd.org/

Byddwch yn barod

Mae mis Medi yn Fis Parodrwydd - #30diwrnod30 ffordd – gyda chanolbwynt ar roi cyngor a gwybodaeth i chi ar ystod eang o faterion am eich iechyd a lles.

Mae pob cyngor, Llywodraeth Cymru, y gwasanaethau brys a chwmnïau gwasanaeth wedi ymuno i gynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y mis, gan ganolbwyntio ar destun gwahanol bob dydd.

Bob dydd bydd yna gyngor a gwybodaeth ar bob math o bethau – o wiriadau cadw’n ddiogel ac yn iach gan y gwasanaeth tân ac achub, creu cynllun brys i’r cartref, gyrru’n ddiogel, manylion am Dewis Doeth y Gaeaf Hwn, cyngor diogelwch tân, beth i’w wneud os na fydd gennych drydan, cyngor ar ddiogelwch trosedd seibr, gyrru yn y gaeaf a llawer mwy.

Gallwch ddilyn y negeseuon o 1 Medi drwy gyfrif Facebook y Cyngor: www.facebook.com/denbighshirecountycouncil neu trydar: www.twitter.com/denbighshirecc Cymerwch ran yn y drafodaeth drwy ddefnyddio’r hashnod #northwalesresilience

Gwiriadau pwysau am ddim i garafanau a chartrefi modur

Anogir preswylwyr yn Sir Ddinbych, ac unrhyw un arall sy’n teithio drwy’r sir, sydd yn berchen ar garafanau neu gartrefi modur, i gymryd mantais o wiriadau pwysau rhad ac am ddim a chyngor ar ddiogelwch gan Safonau Masnach - er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at y gyfraith.

 

Pam ydym ni’n cynnal y diwrnodau gwirio pwysau hyn?

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych eisiau addysgu holl ddefnyddwyr y ffyrdd am y peryglon o orlwytho. Mae gorlwytho cerbydau yn achosi difrod i ffyrdd ac eich cerbyd ac mae hefyd yn peryglu defnyddwyr eraill y ffyrdd.

Nid dal pobl yn gorlwytho eu cerbydau yw ein bwriad, byddai'n well gennym pe na bai pobl yn gwneud hynny yn y lle cyntaf.

Pwy sydd yn cynnal y gwiriadau pwysau?

Bydd Swyddogion Safonau Masnach Sir Ddinbych ar y safle i gynnal y gwiriadau pwysau a chynghori’r perchennog yn unol â hynny. Bydd Swyddog o adran Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru yn bresennol i gynghori ar ddiogelwch carafanau. Ni fydd unrhyw asiantaeth arall yn bresennol.

Os wyf yn dewis mynychu un o’r sesiynau ar y bont bwyso, beth fydd hyn yn ei gynnwys?

Galwch heibio gyda’ch carafán neu eich cartref modur yn llawn, fel petaech yn mynd ar wyliau, a byddwn yn gwirio’r pwysau gros neu’r pwysau trymaf (car a charafán deithiol) a phwysau’r echelau. Rydym eisiau gwneud yn siŵr nad yw’r pwysau yn uwch nag uchafswm pwysau eich cerbyd.

Beth os yw fy ngharafán neu fy ngherbyd modur wedi gorlwytho?

Byddwn yn gweithio gyda chi i’ch cynghori a lleihau’r llwyth i swm derbyniol a diogel. Ni fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn eich erbyn. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod eich cerbyd yn gyfreithiol a ddiogel ar gyfer eich taith ac eich bod yn deall beth yw’r uchafswm pwysau y gallwch ei gario yn ddiogel.

A fyddaf yn derbyn unrhyw ddogfennaeth?

Byddwch yn derbyn copi o dystysgrif y bont bwyso ar ôl i’ch cerbyd gael ei bwyso er mwyn i chi gael cofnod o’r pwysau a rhywbeth i’ch atgoffa o faint o bwysau ychwanegol y gallwch ei roi ar eich cerbyd.

A oes angen i mi ddod â rhywbeth arall i’r sesiwn?

Sicrhewch eich bod yn dod ag unrhyw lawlyfr ar gyfer eich car/ cartref modur neu garafán – rhag ofn nad ydym yn gallu canfod lleoliad y platiau pwysau. Gallwch hefyd ddod â’ch trwydded yrru os ydych yn ansicr am eich cymhwysedd a chyfyngiadau pwysau tynnu.

Bydd y sesiynau “Gwirio eich Pwysau” rhad ac am ddim hyn yn cael eu cynnal ar y Bont Bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Mercher, 4 Medi: 12pm - 4pm
  • Dydd Gwener, 20 Medi: 9pm - 1pm
  • Dydd Gwener, 27 Medi: 9pm - 1pm

Nid oes rhaid gwneud apwyntiad, galwch heibio ar unrhyw un o’r dyddiadau a nodir a dewch i wybod os yw eich cerbyd chi o fewn ei bwysau cyfreithiol. Cewch hefyd gyfle i sgwrsio am ddiogelwch eich carafán / cartref modur gyda Swyddog o Dîm Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru  Gallwch ddod o hyd i’r bont bwyso ar ffordd Rhuddlan i Lanelwy A525, tua ¾ milltir o Ruddlan, mewn cilfan. Bydd arwyddion yn dangos bod y bont bwyso yn weithredol.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid