Y cyfrif wedi dechrau tan Cyhoeddi’r Eisteddfod
Dewch i weld Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd a fydd yn cael ei gynnal ym Mhrestatyn, ddydd Sadwrn 5 Hydref.
Bydd yr orymdaith yn dechrau ar safle canolfan hamdden ac ysgol uwchradd y dref, cyn teithio tuag at y Stryd Fawr ac i lawr tuag at y Nova ac i Gaeau Bastion.
Yno, bydd y Cyngor a llu o sefydliadau eraill yn cynnal gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan. Bydd ysgolion yn perfformio ar lwyfan a ddarperir gan yr Urdd.
Dyma gyfle gwych i ddangos Sir Ddinbych ac i gyhoeddi’n swyddogol y bydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r sir ym mis Mai 2020.
I gael rhagor o wybodaeth am y seremoni cyhoeddi, ewch i: http://www.urdd.org/