Cyflwynwch gais am Pass Plus Cymru
Mae Plus Cymru yn rhoi hyfforddiant ychwanegol i yrwyr ifanc i'w helpu i leihau'r risg o ddamweiniau.
Mae’r cwrs yn costio £20 ac i ymuno mae’n rhaid i chi fodloni’r canlynol:
- bod yn 17 i 25 oed
- yn meddu ar drwydded yrru lawn
- wedi pasio'ch prawf o fewn y 12 mis diwethaf
- byw yng Nghymru
Mae'r sesiwn hyfforddi nesaf ar gyfer Sir Ddinbych ar ddydd Iau 10 Hydref yng Ngorsaf Dân Y Rhyl, Ffordd yr Arfordir, Y Rhyl LL18 3PL. 5.30pm - 8.00pm.
Ewch i Pass Plus Cymru am fwy o wybodaeth.