llais y sir

Newyddion

Cau ymgynghoriad y Cynllun Datblygu Lleol

Llawer o ddiolch i bawb a alwodd draw i’n gweld ni yn ein sesiynau galw heibio ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn Llangollen, Rhuthun a'r Rhyl.

Mae’r ymgynghoriad ar Strategaeth a Ffefrir drafft y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn awr ar y gweill. Bydd y CDLl yn disodli’r un presennol unwaith y caiff ei fabwysiadu (rhagwelir y bydd hyn yn digwydd yn 2021) a bydd yn berthnasol i’r cyfnod 2018 – 2033.

Y Strategaeth a Ffefrir drafft yw’r cam mawr cyntaf yn y broses baratoadol ac mae’n nodi’r lefelau twf arfaethedig hollgynhwysfawr ar gyfer tir cyflogaeth a thai, ac yn rhoi syniad bras hefyd o’r meysydd ble caiff twf ei gyfeirio. Nid oes unrhyw ddyraniadau tir penodol na pholisïau manwl ar y cam hwn. Bydd ymgynghori ar y gwaith mwy manwl yn digwydd yn 2020.

Mae’r gofrestr safleoedd ymgeisiol sy'n cyd-fynd â’r prif ddogfennau ymgynghori yn dangos tir sydd wedi ei gyflwyno gan dirfeddianwyr i’w ystyried yn y CDLl newydd. Ar y cam hwn nid oes unrhyw un o’r safleoedd hyn wedi eu dynodi ar gyfer eu cynnwys yn y CDLl gan y Cyngor ond croesewir sylwadau ac unrhyw wybodaeth leol amdanynt.

Mae’r holl ddogfennau ymgynghori ar gael mewn llyfrgelloedd a siopau un alwad yn ogystal ag ar-lein drwy wefan y Cyngor.

Gall unrhyw un anfon sylwadau atom, hyd at 30 Awst. Gallwch wneud hyn drwy’r porth ymgynghori; drwy e-bost neu ar ffurflen sylwadau.

Mae tîm y CDLl ar gael i ateb unrhyw gwestiynau yn ystod oriau swyddfa arferol drwy e-bost: polisicynllunio@sirddinbych.gov.uk neu ffôniwch nhw ar 01824 706916.

Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cyngor ynghyd â’r newidiadau arfaethedig i’r Strategaeth a Ffefrir drafft erbyn diwedd 2019.

Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Y cyfrif wedi dechrau tan Cyhoeddi’r Eisteddfod

Dewch i weld Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd a fydd yn cael ei gynnal ym Mhrestatyn, ddydd Sadwrn 5 Hydref.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar safle canolfan hamdden ac ysgol uwchradd y dref, cyn teithio tuag at y Stryd Fawr ac i lawr tuag at y Nova ac i Gaeau Bastion.

Yno, bydd y Cyngor a llu o sefydliadau eraill yn cynnal gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan.  Bydd ysgolion yn perfformio ar lwyfan a ddarperir gan yr Urdd.

Dyma gyfle gwych i ddangos Sir Ddinbych ac i gyhoeddi’n swyddogol y bydd yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r sir ym mis Mai 2020.

I gael rhagor o wybodaeth am y seremoni cyhoeddi, ewch i: http://www.urdd.org/

Byddwch yn barod

Mae mis Medi yn Fis Parodrwydd - #30diwrnod30 ffordd – gyda chanolbwynt ar roi cyngor a gwybodaeth i chi ar ystod eang o faterion am eich iechyd a lles.

Mae pob cyngor, Llywodraeth Cymru, y gwasanaethau brys a chwmnïau gwasanaeth wedi ymuno i gynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y mis, gan ganolbwyntio ar destun gwahanol bob dydd.

Bob dydd bydd yna gyngor a gwybodaeth ar bob math o bethau – o wiriadau cadw’n ddiogel ac yn iach gan y gwasanaeth tân ac achub, creu cynllun brys i’r cartref, gyrru’n ddiogel, manylion am Dewis Doeth y Gaeaf Hwn, cyngor diogelwch tân, beth i’w wneud os na fydd gennych drydan, cyngor ar ddiogelwch trosedd seibr, gyrru yn y gaeaf a llawer mwy.

Gallwch ddilyn y negeseuon o 1 Medi drwy gyfrif Facebook y Cyngor: www.facebook.com/denbighshirecountycouncil neu trydar: www.twitter.com/denbighshirecc Cymerwch ran yn y drafodaeth drwy ddefnyddio’r hashnod #northwalesresilience

Gwiriadau pwysau am ddim i garafanau a chartrefi modur

Anogir preswylwyr yn Sir Ddinbych, ac unrhyw un arall sy’n teithio drwy’r sir, sydd yn berchen ar garafanau neu gartrefi modur, i gymryd mantais o wiriadau pwysau rhad ac am ddim a chyngor ar ddiogelwch gan Safonau Masnach - er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at y gyfraith.

 

Pam ydym ni’n cynnal y diwrnodau gwirio pwysau hyn?

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych eisiau addysgu holl ddefnyddwyr y ffyrdd am y peryglon o orlwytho. Mae gorlwytho cerbydau yn achosi difrod i ffyrdd ac eich cerbyd ac mae hefyd yn peryglu defnyddwyr eraill y ffyrdd.

Nid dal pobl yn gorlwytho eu cerbydau yw ein bwriad, byddai'n well gennym pe na bai pobl yn gwneud hynny yn y lle cyntaf.

Pwy sydd yn cynnal y gwiriadau pwysau?

Bydd Swyddogion Safonau Masnach Sir Ddinbych ar y safle i gynnal y gwiriadau pwysau a chynghori’r perchennog yn unol â hynny. Bydd Swyddog o adran Diogelwch Cymunedol Gogledd Cymru yn bresennol i gynghori ar ddiogelwch carafanau. Ni fydd unrhyw asiantaeth arall yn bresennol.

Os wyf yn dewis mynychu un o’r sesiynau ar y bont bwyso, beth fydd hyn yn ei gynnwys?

Galwch heibio gyda’ch carafán neu eich cartref modur yn llawn, fel petaech yn mynd ar wyliau, a byddwn yn gwirio’r pwysau gros neu’r pwysau trymaf (car a charafán deithiol) a phwysau’r echelau. Rydym eisiau gwneud yn siŵr nad yw’r pwysau yn uwch nag uchafswm pwysau eich cerbyd.

Beth os yw fy ngharafán neu fy ngherbyd modur wedi gorlwytho?

Byddwn yn gweithio gyda chi i’ch cynghori a lleihau’r llwyth i swm derbyniol a diogel. Ni fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn eich erbyn. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod eich cerbyd yn gyfreithiol a ddiogel ar gyfer eich taith ac eich bod yn deall beth yw’r uchafswm pwysau y gallwch ei gario yn ddiogel.

A fyddaf yn derbyn unrhyw ddogfennaeth?

Byddwch yn derbyn copi o dystysgrif y bont bwyso ar ôl i’ch cerbyd gael ei bwyso er mwyn i chi gael cofnod o’r pwysau a rhywbeth i’ch atgoffa o faint o bwysau ychwanegol y gallwch ei roi ar eich cerbyd.

A oes angen i mi ddod â rhywbeth arall i’r sesiwn?

Sicrhewch eich bod yn dod ag unrhyw lawlyfr ar gyfer eich car/ cartref modur neu garafán – rhag ofn nad ydym yn gallu canfod lleoliad y platiau pwysau. Gallwch hefyd ddod â’ch trwydded yrru os ydych yn ansicr am eich cymhwysedd a chyfyngiadau pwysau tynnu.

Bydd y sesiynau “Gwirio eich Pwysau” rhad ac am ddim hyn yn cael eu cynnal ar y Bont Bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Mercher, 4 Medi: 12pm - 4pm
  • Dydd Gwener, 20 Medi: 9pm - 1pm
  • Dydd Gwener, 27 Medi: 9pm - 1pm

Nid oes rhaid gwneud apwyntiad, galwch heibio ar unrhyw un o’r dyddiadau a nodir a dewch i wybod os yw eich cerbyd chi o fewn ei bwysau cyfreithiol. Cewch hefyd gyfle i sgwrsio am ddiogelwch eich carafán / cartref modur gyda Swyddog o Dîm Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru  Gallwch ddod o hyd i’r bont bwyso ar ffordd Rhuddlan i Lanelwy A525, tua ¾ milltir o Ruddlan, mewn cilfan. Bydd arwyddion yn dangos bod y bont bwyso yn weithredol.

Gwastraff ac Ailgylchu

Mae eich ymgynghorwyr ailgylchu cymunedol newydd yma i helpu!

Mae hi’n flwyddyn fawr i ailgylchu! Mae’n rhaid i bob Cyngor ailgylchu o leiaf 64% o’u gwastraff cartref i osgoi cosbau gan Lywodraeth Cymru.  Diolch i ymrwymiad a gwaith caled y criwiau casglu gwastraff, swyddogion ailgylchu ac aelodau'r cyhoedd, mae Sir Ddinbych wedi cyrraedd y targed ers sawl blwyddyn bellach – ond mae hyn yn mynd yn anoddach oherwydd mae pwysau gwastraff ailgylchadwy yn ein sbwriel yn lleihau drwy’r amser.   Mae gwneuthurwyr yn gwneud poteli gwydr a photeli plastig yn ysgafnach, ac mae'r oes electronig yn golygu fod llai o alw am ddeunydd wedi'i argraffu. Mae’n rhaid i ni felly weithio'n galetach er mwyn casglu eitemau ailgylchadwy a gaiff eu taflu.  Er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn ailgylchu 64% o'n gwastraff eleni, rydym wedi recriwtio tri ymgynghorwr ailgylchu ychwanegol. 

Ers mis Gorffennaf, mae Katie (ar y chwith), Ryan (yn y canol) a Paul (ar y dde) wedi bod yn ymweld â chartrefi trigolion sy’n ansicr ynglŷn â pha finiau i’w defnyddio ar gyfer gwahanol wastraff, neu drigolion nad ydynt yn ailgylchu llawer ar hyn o bryd.   Maent yn ymuno â thîm profiadol o dri swyddog arall i gynnig cyngor mewn perthynas â storio ac amseroedd casgliadau, maent yn gwirio fod gan bob cartref y cynwysyddion priodol yn ogystal â helpu pobl i ddeall pa fin i'w ddefnyddio ar gyfer gwahanol fathau o sbwriel.

Mae gennym hefyd 10,000 o gadis gwastraff bwyd i'w dosbarthu dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau fod pawb yn ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae chwarter y bin gweddilliol du (yn ôl pwysau) yn cynnwys bwyd a deflir, er bod y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd ar ymyl y palmant wythnosol ar gael i’r rhan fwyaf o gartrefi ar draws y sir.

Ein hawdurdod lleol ni yw’r trydydd gorau yng Nghymru o ran faint o wastraff bwyd yr ydym yn ei gasglu diolch i ymdrechion yr holl ailgylchwyr brwd yn Sir Ddinbych.  Ond mae’n rhaid i bawb wneud eu gorau glas i sicrhau nad ydym yn rhoi ein gwastraff bwyd yn y bin du o gwbl.  Mae llawer gormod o wastraff bwyd heb eu hagor yn cael eu taflu i’r bin du, sy’n golygu fod y bwyd neu'r pecyn yn cael eu gwastraffu, yn hytrach na'u gwahanu a'u hailgylchu.  Gan amlaf, gellir ailgylchu pecynnau plastig, metel a chardbord i greu cynnyrch newydd, a gellir troi gwastraff bwyd yn wrteithiwr pridd i greu maethynnau gwerthfawr ac angenrheidiol i'n pridd lleol.  Mae’r broses ailgylchu gwastraff bwyd hefyd yn creu ynni adnewyddadwy. Mae ein cyfleuster Treulio Anaerobig yn Llanelwy yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi pŵer mewn 2000 o gartrefi.

Os ydych yn cynhyrchu gwastraff bwyd, ac os nad ydych yn eu hailgylchu, cysylltwch â ni ar unwaith a gallwn ddarparu cadi cegin, cadi ymyl palmant a bagiau compostadwy ar eich cyfer.  Mae pwerau cyfreithiol yn caniatáu i’r Cyngor gosbi cartrefi sy’n dewis peidio ag ailgylchu, felly mae'n bwysig fod gan bawb y cynwysyddion hanfodol ar gyfer rhoi gwastraff y cartref allan i'w casglu yn gywir.  Gallwch wneud cais am gyfarpar ailgylchu gwastraff bwyd ar unrhyw bryd drwy lenwi ffurflen ar-lein ar wefan y Cyngor, neu ffoniwch 01824 706000 yn ystod oriau gwaith arferol.

Mae nifer fechan o gartrefi nad ydym yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff bwyd iddynt ar hyn o bryd gan eu bod mewn lleoliadau gwledig.  Fodd bynnag, rydym yn ceisio am gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn i ni allu cynnig y gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd i’r lleoliadau hyn yn hwyrach yn y flwyddyn.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Pennod newydd yn hanes cynllun llyfrau ar bresgripsiwn

Mae llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cefnogi cynllun ddwyieithog Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl gafodd ei lansio yn Eisteddfod Sir Conwy yn Llanrwst fis Awst.

Bellach, gall gweithwyr iechyd proffesiynol Cymru roi presgripsiwn am lyfrau llyfrgell am ddim i helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae'r arbenigwyr y tu ôl i'r cynllun yn galw'r dull yn 'bibliotherapi'.

Mae'r cynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl wedi'i ddatblygu gan yr Asiantaeth Ddarllen a llyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau iechyd blaenllaw gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Mind, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Cymdeithas Seicolegol Prydain a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, yn ogystal ag unigolion sydd â phrofiad personol o anghenion iechyd meddwl a'u perthnasau a'u gofalwyr.

Mae copïau o'r llyfrau bellach ar gael i'r cyhoedd i'w benthyg am ddim gan lyfrgelloedd cyhoeddus pob un o'r 22 awdurdod yng Nghymru. Gall y llyfrau gael eu hargymell gan weithiwr iechyd proffesiynol a'u benthyg am ddim gan lyfrgell leol, neu gall defnyddwyr hunanatgyfeirio a benthyg y llyfrau fel y bydden nhw'n benthyg unrhyw lyfr llyfrgell arall.

Meddai Bethan M. Hughes, Prif Lyfrgellydd y Cyngor: "Gall llyfrgelloedd gynnig lle diogel i bobl yn eu cymunedau lleol i fynd a darllen amrywiaeth o lyfrau pwysig, ac mae'r cynllun Darllen yn Well yn enghraifft wych o hyn.

"Cryfder yr ymgyrch yma yw bod cymaint o bartneriaid credadwy yn gefn iddi, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

"Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r casgliad yma'n fwy na rhestr o lyfrau – mae'n cynrychioli'r grym a'r effaith y gall darllen ei chael ar newid bywydau."

Mae'r casgliad yn darparu cymorth a gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae hefyd yn cynnwys straeon personol ysbrydoledig gan bobl sy'n byw gyda rhywun sydd ag anghenion iechyd meddwl neu sy'n gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n cynnwys Reasons to Stay Alive gan yr awdur arobryn Matt Haig, sy'n ymchwilio i'w brofiad personol o ddod yn agos at ladd ei hun pan oedd yn 24 oed, a The Recovery Letters, sef casgliad o lythyrau teimladwy a ysgrifennwyd gan bobl sydd wedi gwella o iselder neu sydd wrthi'n gwella ohono.

Gan fod cyflyrau iechyd meddwl yn cynrychioli'r achos unigol mwyaf o anabledd yng ngwledydd Prydain, mae'r Asiantaeth Ddarllen o'r farn ei bod yn hanfodol bod y cymorth yma ar gael i bawb, ac felly mae'n gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i gyfieithu'r llyfrau i'r Gymraeg.

Nod y cynllun yw sicrhau bod cymorth a gwybodaeth am iechyd meddwl o safon ar gael i'r cyhoedd yn rhwydd. Mae'r cynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl wedi'i lansio gan yr Asiantaeth Ddarllen a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth am Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl ewch i: https://reading-well.org.uk/wales

Twristiaeth

Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Newydd yn Sir Ddinbych

Yn ddiweddar, lansiwyd Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth newydd sbon yn Sir Ddinbych.

Mae'r cynllun rhad ac am ddim hwn wedi'i gynllunio i wella profiad ymwelwyr i bobl sy'n gweithio mewn twristiaeth, gweithio gydag ymwelwyr, sy’n byw neu’n astudio yn yr ardal.

Cynhyrchwyd cyfres o fodiwlau hyfforddi rhyngweithiol ar-lein gyda chwisiau ar wahanol themâu megis trefi a dinasoedd y Sir, cerdded, beicio, hanes, ac iaith a diwylliant Cymru. Mae pob modiwl yn cymryd 30-60 munud i'w gwblhau gyda thestun i'w ddarllen, delweddau a ffilmiau i'w gwylio wrth i bobl ddysgu mewn gwahanol ffyrdd.

Mae 3 lefel o ddyfarniadau - efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar faint o fodiwlau a gwblhawyd. Bydd pob person yn derbyn tystysgrif, bathodyn pin a sticeri ffenestri ar ôl cwblhau'r gwobrau. Mae yna hefyd adnoddau ar-lein i bobl lawrlwytho dogfennau cysylltiedig, brandio a dolenni i wefannau perthnasol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Nod y cynllun yw creu lefel gwybodaeth sylfaenol ac ymdeimlad o le i sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyfleu am yr ardal. Mae'r hyfforddiant ar-lein yn cynnig dull hyblyg ac yn galluogi pawb i ddysgu ar eu cyflymder, eu hwylustod a'u lleoliad eu hunain. Rydym yn gobeithio y bydd llawer o fusnesau yn gwreiddio'r cynllun yn eu rhaglenni sefydlu staff presennol i gynyddu eu dealltwriaeth o'r cynnig twristiaeth lleol ac ymfalchïo mewn bod yn rhan o gymuned â diddordeb cyffredin. Rydym yn gyffrous iawn o fod yn lansio'r cynllun yn Sir Ddinbych gan mai hwn yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.”

Bydd cyfres o deithiau dysgu hefyd yn cael eu cynnig i Lysgenhadon, er mwyn gwella ac ategu at y dysgu ar-lein. Bydd pobl yn cael y cyfle i ymweld ag amrywiaeth o uchafbwyntiau twristiaeth gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Dyffryn Clwyd. Bydd gweithdai i rannu arfer gorau ac annog gweithio mewn partneriaeth hefyd yn cael eu trefnu.

Mae nifer o fusnesau a gymerodd ran yn y profion defnyddwyr wedi cwblhau'r modiwlau ac mae'r adborth cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol iawn -

Dywed Fiona Sayle, o Corwen Holidays, “Rydw i mor falch fy mod wedi ennill fy Ngwobr Arian Llysgennad Sir Ddinbych. Llawer o ddiolch i Dwristiaeth Sir Ddinbych am ddarparu cwrs mor addysgiadol a diddorol. Byddwn yn argymell pawb sy'n angerddol am Dwristiaeth a Sir Ddinbych i gymryd yr her.”

Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych: “Byddwn yn annog busnesau, unigolion a myfyrwyr i ddod yn Llysgenhadon Twristiaeth i ddyfnhau eu gwybodaeth o'r sir a helpu i roi hwb i'n heconomi leol. Y nod yn y tymor hwy yw creu strydoedd mawr, cymunedau a hyd yn oed trefi Llysgennad a chael ein cenhedlaeth iau i gymryd rhan drwy sefydlu Llysgenhadon Twristiaeth Ifanc.”

Am fwy o wybodaeth ynghylch y cynllun ac i gwblhau’r modiwlau, ewch i – www.llysgennadsirddinbych.cymru

Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych

Oes gennych chi ddiddordeb mewn twristiaeth?

Mae Fforwm a sefydlwyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau twristiaeth, myfyrwyr ac unrhyw un â diddordeb mewn twristiaeth ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant yn cael ei gynnal fis Tachwedd.

Cynhelir Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych ar ddydd Mercher 6 Tachwedd yng Ngwesty Oriel House, Llanelwy. Mae’r digwyddiad hwn sydd am ddim yn cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau.

I archebu lle yn y Fforwm Twristiaeth ewch i https://denbighshiretourismforum2019.eventbrite.co.uk/

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

Hoffech chi glywed y newyddion diweddaraf am dwristiaeth yn Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru?

Os felly, mae cofrestru yn syml a hawdd -

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/ymwelydd/pethau-iw-gwneud/be-symlaen/ffurflen-ymaelodi-twristiaeth-sir-ddinbych.aspx

Dosbarthu taflenni a pamffledi

Mae Tîm Twristiaeth Sir Ddinbych yn darparu gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth am ddim ar gyfer busnesau sy’n archebu taflenni a pamffledi. Caiff yr wybodaeth hon ei chynhyrchu i ddenu ymwelwyr i’r ardal a gwella eu profiadau pan fyddant yma.

Mae’r cynnyrch yn cynnwys:

  • Taflenni Llwybrau Tref
  • Taflen y 5 Taith
  • Taflenni SC2 y Rhyl
  • Llyfryn Canolfan Grefft Rhuthun
  • Taflen dreftadaeth

Pwy all archebu?

  • Gallwch archebu gan y gwasanaeth dosbarthu taflenni os yw eich busnes yng ngogledd ddwyrain Cymru ac os ydych chi’n dod i gysylltiad ag ymwelwyr.

Sut i archebu?

  • Gallwch archebu ar-lein a bydd y Gwasanaeth Dosbarth Taflenni Twristiaeth yn eu danfon am ddim. 

Dyddiad cau ar gyfer archebu

  • Archebwch erbyn 17/09/2019 er mwyn i’ch taflenni gyrraedd yr wythnos sy’n dechrau ar 23/09/2019.

Archebwch ar-lein drwy’r Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth. 

Sir Ddinbych yn Gweithio

Cymunedau am Waith: Astudiaeth Achos

Mae Cymunedau am Waith (CaW) yn rhaglen bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau, gyda chefnogaeth gan Cronfa Gymdeithasol Ewrop, i ddarparu gwasanaethau cymorth cyflogaeth ym mhob un o'r 52 o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru.

Dyma stori Mr F am sut mae Cymunedau am Waith wedi ei helpu:

Mae Mr F wedi bod â pherthynas wael ag alcohol ers dros 10 mlynedd ac mae hyn wedi effeithio ar sawl agwedd o’i fywyd, yn cynnwys tai, iechyd meddwl ac mae hefyd wedi bod mewn trafferth â’r heddlu. Dros y 12 mis diwethaf, mae Mr F wedi derbyn llety â chymorth o ganlyniad i’w ymgysylltiad cadarnhaol gyda’r gwasanaethau ac mae wedi bod yn derbyn cymorth tenantiaeth, cymorth i helpu â’i ddefnydd o alcohol ac mae hefyd wedi derbyn sesiynau cwnsela ac mae ansawdd ei fywyd wedi gwella’n sylweddol.

Roedd Mr F yn teimlo’n barod am gymorth pellach, ac felly bu i Heddlu Gogledd Cymru ei atgyfeirio at Cymunedau am Waith Sir Ddinbych, er mwyn derbyn cymorth mentora un i un i ganfod cyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli a’i arwain yn nes at y farchnad lafur. Cafodd Fentor Cyflogaeth ers y cyfarfod cyntaf maent wedi cwrdd yn rheolaidd i drafod sgiliau presennol Mr F a sut y gellir eu datblygu. Arferai Mr weithio fel meddyg coed am flynyddoedd ac mae ganddo lawer iawn o sgiliau creadigol, mae’n mwynhau braslunio a chreu eitemau o bren. Trafodwyd dyheadau Mr F ar gyfer y dyfodol gyda'i fentor a dywedodd yr hoffai gael swydd sy’n caniatáu iddo fod allan yn yr awyr agored. Mae Mr F wedi treulio blynyddoedd lawer yn y byd gwaith ac mae wedi nodi’n glir y buasai wrth ei fodd petai’n gallu cael swydd eto yn y dyfodol. Nid yw Mr F yn teimlo’n barod am swydd ar hyn o bryd gan ei fod yn dal i ganolbwyntio ar fyw bywyd iachach a gwella ei iechyd meddwl. Felly, datblygwyd cynllun gweithredu i gynyddu sgiliau a phrofiadau Mr F.

Roedd Mr F eisiau gwella ei sgiliau TG gan fod yn y maes hwn yn weddol ddiarth iddo, felly derbyniodd gefnogaeth gan ei fentor i fynychu sesiynau cychwynnol o gwrs TG. Ers hynny, mae Mr F wedi bod yn bresennol bob wythnos ac mae bellach wedi cwblhau sawl modiwl a bydd yn dychwelyd ym mis Medi i barhau â’i addysg. Mae Mr F wedi nodi ei fod “wedi mwynhau’r cwrs hwn yn arw, yn llawer mwy na beth oedd yn tybio y byddai’n ei wneud.” Canfuwyd cyrsiau eraill ar gyfer Mr F, i wella ei sgiliau er mwyn ceisio am swyddi ymarferol yn yr awyr agored, megis Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle, Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd ac mae hefyd yn aros i fynychu cwrs Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu sy’n galluogi iddo gael asesiad i gael cerdyn CSCS.

Yn ogystal â hynny, canfuwyd cyfle i wirfoddoli yn yr awyr agored ar gyfer Mr F. Mae gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych raglen wirfoddoli Natur er budd Iechyd sydd yn annog dinasyddion i gamu i'r awyr agored a gwirfoddoli yn eu hardaloedd lleol i gwblhau tasgau amrywiol megis cadwraeth ac adeiladu meinciau. Mae Mr F bellach yn mynychu’r rhaglen yn rheolaidd ac mae hefyd wedi cynyddu nifer y dyddiau y mae’n mynychu'r rhaglen o un i ddau ddiwrnod gan ei fod yn ei mwynhau. Bydd y gwaith gwirfoddol hwn yn gwella hyder Mr F a’i sgiliau cymdeithasol wrth weithio mewn grŵp a hefyd ei sgiliau ymarferol.

Yn gryno, ers i Mr F ymgysylltu â Chymunedau am Waith, mae wedi mynychu sawl cwrs hyfforddiant ac mae hefyd yn gwirfoddoli’n rheolaidd, golyga hyn ei fod yn gwella ei sgiliau’n barhaus sydd yn ei baratoi ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy unwaith eto. Mae cyswllt Mr F â’r heddlu wedi lleihau’n sylweddol sy’n dangos y cynnydd cadarnhaol y mae Mr F wedi’i wneud hyd yma. Mae Mr F yn obeithiol iawn am ei gynnydd ac mae’n mwynhau’r ffaith bod ei wythnosau’n fwy prysur o ganlyniad i weithgareddau cadarnhaol i gynyddu ei sgiliau a gwella ei iechyd meddwl. Bydd y gwaith mentora gyda’r Mentor Cyflogaeth yn parhau a bydd cynllun gweithredu Mr F yn cael ei adolygu’r rheolaidd i sicrhau ei fod yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni ei nod o gael cyflogaeth yn y dyfodol.

Meddai Mr F: “Ers derbyn cefnogaeth gan Gymunedau am Waith, rwyf wedi mynychu llawer o gyrsiau ac rwyf hefyd wedi bod yn gwirfoddoli. Mae Cymunedau am Waith yn wir wedi fy helpu ac rwyf yn falch iawn fy mod wedi ymgysylltu â’r prosiect.”

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â Cerian Phoenix, Mentor Cyflogaeth Oedolion Cymunedau am Waith, Sir Ddinbych yn Gweithio drwy e-bost cerian.phoenix@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch ar 01824 706491.

Gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau ar Ganolfan Byd Gwaith

ADTRAC Sir Ddinbych: Diwrnod lles a bwyd

Bu i gyfranogwyr prosiect a thîm ADTRAC Sir Ddinbych gymryd rhan mewn diwrnod lles – bwyd a hwyliau - fel rhan o wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn gynharach yn y flwyddyn.

I nodi wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, penderfynon nhw gynnal diwrnod lles – bwyd a hwyliau - yn yr Hwb yn Ninbych. Y diben oedd mynd i’r afael â materion a oedd wedi codi, megis delwedd negyddol o’r corff, ddim yn bwyta oherwydd cost bwyd, dietau gwael a hwyliau isel. Roedd pump o gyfranogwyr yn bresennol ac fe ddechreuon nhw drwy drafod sut all diet iach gael effaith cadarnhaol ar eich iechyd meddwl ac fe ddarparwyd taflenni ffeithiol i gyd-fynd â’r drafodaeth. Yna, fe aethant am dro at Castell Dinbych a chwblhau sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar yn yr haul ar lethr y tu allan i’r castell.

Dysgon nhw lawer iawn o bethau newydd am fwyta’n iach ac y gallwch fwyta’n iach ar gyllideb.

Yna, aethant yn ôl i’r Hwb a cael cyfle i flasu byrbrydau iach eraill a fajitas cyw iâr. Yn ogystal â’r wybodaeth ddietegol ac ymwybyddiaeth ofalgar, ffurfiwyd cyfeillgarwch ac fe godwyd hwyliau a gobaith pawb.

Aeth pawb adref â bag bychan o fwyd, taflenni ffeithiau ( yn cynnwys taflen yn cymharu prisiau a nodiadur bwyd / bwydlen) a photel ddŵr ailddefnyddiadwy.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Gentleman Jack a Ladis Llangollen

Daeth Anne Lister (1791–1840), sydd bellach yn cael ei chydnabod fel y ‘lesbiad modern cyntaf’, i ymweld â Sarah Ponsonby wrth deithio Gogledd Cymru ym 1822. Roedd hi’n deithiwr brwd a chofnododd lawer am ei phrofiad ym Mhlas Newydd yn ei dyddiadur.

Mae Ladis Llangollen yn rhan fawr o’r gwaith ymchwil cychwynnol a’r dylanwad ar gyfer drama’r BBC / HBO, Gentleman Jack. Wedi’i gosod yn Ngorllewin Swydd Efrog ym 1832, mae Gentleman Jack wedi’i hysbrydoli gan stori wir a dyddiaduron côd Anne Lister (wedi’i phortreadu gan Suranne Jones), ac mae’n dilyn ei hanes wrth geisio adnewyddu ei chartref etifeddol, Shibden Hall.

Cafodd Ladis Llangollen ddylanwad arbennig ar Tom Pye, dylunydd gwisgoedd y gyfres, wrth iddo ddylunio’r gwisgoedd anhygoel ar gyfer Suranne Jones.

Dywedodd: “Roedd fy ngwaith ymchwil ar Anne Lister yn dweud ei bod hi’n gwisgo cap du bach, meddal, o felfed yn ôl pob tebyg.

"Mi roddais gynnig ar ambell siâp tebyg, ond doedden nhw ddim i’w gweld yn cyfleu i gynulleidfa fodern y pŵer a’r statws y gallai het uchel ei ddangos.

"Roedd Ladis Llangollen, Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, yn ddylanwad penodol arnaf i.

"Fel Anne, roedden nhw hefyd yn gwisgo du i gyd ac yn gwisgo hetiau uchel. Dydi Anne ddim yn sôn am het uchel yn ei dyddiadur, ond dydi hynny ddim yn golygu nad oedd ganddi un.”

Gallwch weld cofnodion dyddiadur Anne Lister, ynghyd â chopïau o frasluniau a byrddau syniadau cychwynnol y gwisgoedd, saith diwrnod yr wythnos yn Nhŷ Hanesyddol Plas Newydd, Llangollen.

 

Mae cogydd o Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn cyflwyno dulliau coginio Cymreig i bobl Siapan

Mae cogydd o Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn cyflwyno dulliau coginio Cymreig i bobl Siapan.

Mae Steve Thomas, sy’n rhedeg yr ystafelloedd te yn amgueddfa Plas Newydd yn Llangollen, wedi cymryd rhan mewn rhaglen deledu deithio yn Siapan sy’n sôn am Gymru.

“Mae’n sioe deledu sefydledig sydd wedi ffilmio ledled y byd dros y blynyddoedd," esboniodd Steve.

“Gan fod cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn cael ei chynnal yn Siapan ym mis Medi, maen nhw wedi bod yn ffilmio atyniadau yng Nghymru ac un o’r pethau yr oedden nhw am eu cynnwys oedd ein bwyd traddodiadol.”

Roedd y criw teledu yn cyfweld â phobl yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac fe gawson nhw argymhelliad i ymweld â Steve wrth ei waith yng ngheginau Plas Newydd.

“Cefais alwad ffôn yn gofyn a fyddai'n bosibl iddyn nhw ddod draw yma. Fe gawson nhw groeso cynnes gennym ac fe gyflwynais i ddau bryd iddyn nhw. Cawl cig oen oedd un a chyw iâr gyda chennin mewn saws taragon oedd y llall,” meddai Steve.

“Blasodd y criw y ddau bryd ac roedden nhw’n frwdfrydig iawn, aeth y prydau i lawr yn dda. Roedden nhw wedi mwynhau cymaint nes iddyn nhw brynu sgons a chacennau cri gennym i'w bwyta ar eu siwrnai yn ôl."

Mae Plas Newydd wedi bod yn fwrlwm o weithgarwch ym mis Gorffennaf. Un o’r prif ddigwyddiadau oedd lansiad ap ffôn symudol newydd i hyrwyddo’r Gymraeg a threftadaeth Cymreig i gerddwyr. Mae’n gweithio trwy dynnu sylw at enwau gwreiddiol lleoedd a hanes yr ardal i berchnogion teclynnau symudol.

Roedd Plas Newydd yn hynod falch o gael bod yn un o’r safleoedd a ddefnyddiwyd gan Ŵyl Fringe Llangollen i berfformio cynhyrchiad llawn hiwmor.

Bu tiroedd prydferth yr amgueddfa hefyd yn gefnlen i ddiwrnod artistig arbennig o dan y teitl Y Darlun Mawr – lle roedd artistiaid newydd yn dod at ei gilydd fel grŵp i roi’r tirlun hardd ar bapur.

Mae nifer o leoliadau lleol, gan gynnwys Plas Newydd, wedi uno i gynnig 10 o bethau i’w gwneud yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae’r prosiect yn dathlu deng mlynedd ers i Draphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte gael eu gwneud yn Safle Treftadaeth Y Byd a bwriad y prosiect yw rhoi digonedd o bethau i deuluoedd eu gwneud wrth iddyn nhw fwynhau’r ardal.

Gall cyfranogwyr gymryd rhan mewn her newydd ym mhob cyrchfan sy’n cymryd rhan. Ym Mhlas Newydd gallant fynd i’r afael â llwybr sydd wedi’i osod yn dra-fanwl, gan ddefnyddio map arbennig i ddod o hyd i gliwiau wrth iddyn nhw olrhain cyfres o wrthrychau sydd wedi'u gosod yma ac acw ar y tiroedd.

Mae Plas Newydd wedi derbyn ymateb gwych i fenter ecogyfeillgar sydd yno hefyd. Mae’r safle wedi dechrau tyfu ei blanhigion ei hun gan ddefnyddio compost organig di-fawn mewn twnnel polythen sydd wedi’i adeiladu’n arbennig.

Bydd rhai o’r planhigion yn cael eu defnyddio ar y tiroedd er mwyn ymestyn y cyfnod blodeuo ond bydd eraill ar gael i’w gwerthu i’r cyhoedd.

“Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn hyn, sydd yn wych,” meddai garddwr Plas Newydd, Neil Rowlands.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Glasdir: dosbarthiadau byw yn ysbrydoli diddordeb plant mewn natur

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi bod yn gweithio ar bartneriaeth ystafell ddosbarth fyw hynod gyffrous gydag Ysgol Stryd y Rhos.

Rhai blynyddoedd yn ôl, bu i Wasanaeth Cefn Gwlad ymgymryd â’r gwaith o reoli Glastir yn Rhuthun, fel tir lliniaru ar gyfer ystâd dai newydd gerllaw, gyda’r bwriad o greu partneriaeth ag ysgol leol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi gweithio’n galed i drawsnewid yr ardal hon, a oedd yn llawn chwyn, i baradwys ar gyfer bywyd gwyllt.

Rydym wedi bod yn gweithio ar ardal o goed helyg gyda ffosydd, sydd wedi’i nodi’n ardal ddelfrydol ar gyfer llygod y dŵr. Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn helpu i frysgoedio’r coed helyg ar hyd ymylon y ffosydd er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o olau’n taro’r dŵr. Ymhellach i mewn i’r safle, rydym yn parhau i wella’r pwll dŵr a gloddiwyd yn 2017. Bu’r disgyblion yn ein helpu i blannu blodau gwyllt brodorol, cymysgedd o flodau a ddewiswyd yn arbennig oherwydd eu bod yn ffynnu mewn tir gwlyb. Mae’r plant yn mwynhau gwylio’r adar o’r guddfan a adeiladwyd yn 2017.

Cuddfan i wylio adar

Yn ddiweddar, plannodd y disgyblion berllan yn cynnwys eirin Dinbych ac afalau Cox Cymreig a Nant Gwytherin. Ar ôl gosod trapiau camera, cafodd y plant fwynhau edrych ar glipiau o famaliaid, yn cynnwys moch daear a llwynogod, yn archwilio’r safle. Maent hefyd wedi bod yn dysgu am bryfed sy’n peillio wedi i ni osod ein blychau gwenyn unig, sydd yn boblogaidd iawn ymysg saerwenyn a gwenyn tor-ddail. Mae’r pridd bywyd gwyllt hefyd wedi profi’n llwyddiannus iawn, gweler y blodau yn y llun isod.       

             

Pridd bywyd gwyllt yn ei flodau.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom gynnal noson agored yng Nglastir i roi cyfle i deuluoedd y disgyblion gael gweld eu gwaith. Roedd y teuluoedd wrth eu boddau’n archwilio’r safle ac fe gawsant roi cynnig ar ddefnyddio'r synwyryddion ystlumod.

 

Synwyryddion ystlumod yn cael eu defnyddio yn ystod y digwyddiad gyda’r nos i’r teulu

Ym mis Mehefin, fe aeth Maria Golightly o ‘Tyfu’n Wyllt Cymru’ i ymweld â’r Ystafell Ddosbarth Fyw, ynghyd ag arweinwyr prosiect o’r Prosiect Porth Morfa ym Mhrestatyn. Roeddent wedi’u plesio’n arw gyda holl ymdrech y Gwasanaeth Cefn Gwlad a’r ysgol. Yn ystod yr ymweliad, bu i’r disgyblion osod arwyddion ar gyfer coed y berllan a dal gwyfynod.

Dal gwyfynod gyda Maria o Tyfu’n Wyllt

Mae’r plant yn edrych ymlaen at gael mynd allan i'r awyr agored, dysgu am natur a gwneud rhywbeth gwahanol i wersi traddodiadol. “Mae Ysgol Stryd y Rhos yn falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth unigryw hon ac yn frwdfrydig iawn yn ei chylch. Mae’r ‘Ystafell Ddosbarth Fyw’ yn ein galluogi ni i ddarparu tasgau a phrofiadau amgylcheddol ystyrlon a dymunol yng nghefn gwlad. Mae’r profiad ymarferol hwn yn hanfodol i’r plant gydnabod a gwerthfawrogi’r rôl y maent yn ei chwarae wrth lunio dyfodol cynaliadwy.” - Joanne Davies, Cydlynydd Eco, Ysgol Stryd y Rhos. Byddwn yn parhau â’n gwaith gydag Ysgol Stryd y Rhos yng Nglastir yn ystod tymor yr hydref, a gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn tanio diddordeb mewn natur ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Polisi ymylon ffyrdd newydd

Mae ymylon ffyrdd wedi dod yn fwy a mwy pwysig, wrth i bobl ddod yn fwyfwy ymwybodol o'u pwysigrwydd fel hafanau i fywyd gwyllt, planhigion a pheillwyr ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn wahanol i lawer o gynefinoedd glaswelltir eraill, mae ymylon ffyrdd gan amlaf yn cael eu gadael heb eu cyffwrdd gan wrteithwyr, plaladdwyr neu chwynladdwyr a all gael effeithiau niweidiol ar ein rhywogaethau gwyllt.

Mae dros 700 o rywogaethau o blanhigion wedi'u cofnodi ym Mhrydain ar ymylon ffyrdd (45% o'n holl rywogaethau fflora). Mae hyn yn cynnwys rhai enghreifftiau prin iawn, fel y ffacbys rhuddlas (Vicia bithynica) sydd wedi'i rhestru fel rhywogaeth flaenoriaethol Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Sir Ddinbych ac fel un sy'n agored i niwed ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur y DU. Trwy reoli ein hymylon ffyrdd yn gywir rydym yn galluogi ystod o fywyd gwyllt i ffynnu; o infertebratau i ymlusgiaid, amffibiaid, adar a mamaliaid bach.

Ers 1930 mae'r DU wedi colli 97% o'i dolydd blodau gwyllt tra bod gan Gymru a Lloegr lai nag 1% o gyfanswm arwynebedd cyn y rhyfel o ddolydd iseldir heb ei wella. Mae'r golled drychinebus hon o gynefin wedi cael effeithiau niweidiol enfawr ar boblogaethau pryfed a phlanhigion ledled y DU. Er enghraifft, mae nifer y rhywogaethau infertebrat fel y glöyn byw, gwyfyn a’r chwilen ddu yn dangos dirywiad o rhwng 65 - 70% dros y degawdau diwethaf, gyda llawer mwy o rywogaethau bellach dan fygythiad mawr.

Nododd adroddiad o’r enw ‘The State of Britain’s Butterflies, 2015’ fod 76% o rywogaethau gloÿnnod byw ymfudol a rheolaidd y DU wedi dirywio naill ai mewn amlder neu helaethrwydd (neu’r ddau) dros y pedwar degawd diwethaf (Fox et al., 2015). Tra nododd astudiaeth gan Goulson et al. yn 2008, fod tair o'r 25 rhywogaeth cacwn yn y DU wedi diflannu, gydag wyth rhywogaeth arall yn dioddef o ddirywiad difrifol yn eu poblogaeth.

Yn anffodus, nid yw'r rhagolygon ar gyfer gwenyn yn well. Nododd Rhestr Goch o Wenyn Ewrop fod diffyg gwybodaeth wedi cyfyngu'n ddifrifol ar sefydlu statws poblogaethau rhywogaethau gwenyn, gyda 79% o'r rhywogaethau â thueddiadau poblogaeth anhysbys. Yn anffodus nid oes data swyddogol ar hyn o bryd ar gyfer tueddiadau ym mhoblogaethau gwenyn gwyllt yng Nghymru, felly gall poblogaethau fod yn nes at ddifodiant yn gyflymach nag yr ydym yn meddwl.

Polisi ymylon ffyrdd newydd y Cyngor

Yr ydym yn edrych i wyrdroi'r dirywiad mewn peillwyr a rhywogaethau infertebratau eraill trwy greu cynefinoedd sy'n llawn blodau gwyllt ar hyd ein rhwydwaith ymylon ffyrdd trwy weithredu ei bolisi ymylon ffyrdd newydd.

Am y tro cyntaf, mae gan Gynllun Corfforaethol y Cyngor adran ar yr amgylchedd sydd wedi cynnwys gwenyn fel rhywogaeth â blaenoriaeth yn y sir. Gyda hyn mewn golwg, bydd polisi ymylon ffyrdd newydd y cyngor yn ceisio cynyddu'r ffynonellau cynefin a bwyd cyffredinol sydd ar gael i wenyn a pheillwyr eraill wrth gynnal diogelwch ei ddefnyddwyr ffyrdd.

Mae'r polisi newydd wedi'i ddatblygu ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Canolfan Sgiliau Coetir Bodfari a grŵp lleol (Life on the Verge) - mae'r cyngor wedi gweithio gyda nhw ers dros 10 mlynedd.

Mae'r polisi ymylon ffyrdd yn canolbwyntio ar ffyrdd y tu allan i'r terfyn 30-40mya a ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd. Bydd y ffyrdd hyn yn cael eu torri unwaith y flwyddyn ar ôl 1 Awst, gyda’r hyn a elwir yn doriad bioamrywiaeth. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cael gwared ar y toriadau (lle bo hynny'n briodol) a fydd yn lleihau'r maetholion sy'n ailymuno â'r pridd ac yn cyfyngu ar dwf mieri, danadl poethion a rhywogaethau eraill sy'n caru maetholion sy'n tyfu'n gyflymach o blaid y rhywogaethau blodau gwyllt sy'n tyfu'n arafach.

Gwneir y toriad hwn ar oddeutu 78% o gyfanswm y rhwydwaith ymylon ffyrdd yn y sir ac mae'n cynnwys dros 1,800km o gynefin blodau gwyllt posibl. Mae'r un toriad bioamrywiaeth yn caniatáu digon o amser i blanhigion flodeuo a hadu wrth sicrhau cyfnod hir o fwydo i beillwyr a phryfed eraill sydd hefyd wedyn yn gallu dodwy eu hwyau mewn cynefinoedd mwy diogel.

Bydd llain ddiogelwch 1m o led yn dal i fod mewn grym (lle bo hynny'n briodol) i sicrhau diogelwch defnyddwyr ffyrdd y Sir tra hefyd yn gwella ac yn datblygu ein hymylon ffyrdd fel coridorau sy'n llawn bywyd gwyllt.

Gofynnwn i holl drigolion y Sir gefnogi'r polisi hwn a'n helpu i gynyddu bioamrywiaeth ein sir trwy beidio â thorri ymylon ffyrdd, hyd yn oed os ydynt yn edrych ychydig yn flêr. Bydd dolydd blodau gwyllt yn edrych yn well ac yn well dros amser wrth iddynt ymsefydlu, felly gallwn ni i gyd edrych ymlaen at gael ymylon ffyrdd hyfryd sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt a pheillwyr ledled ein sir hardd wrth i Sir Ddinbych geisio dod y sir fwyaf ‘Cyfeillgar i Wenyn’ yng Nghymru!

Tymor o lwyddiannau i Gronant a'r môr-wenoliaid bach

“O bosib y diwrnod GORAU ERIOED!”, “Dwi ddim isio gadael!” “Diolch yn fawr i chi am ddod â ni yma!”

Dim ond rhai o’r pethau sydd wedi cael ei ddweud y tymor hwn gan y grwpiau o blant ysgol sydd wedi ymweld â Gronant a’r môr-wenoliaid bach.

Y tymor hwn dechreuodd ffocws newydd ar y nythfeydd môr-wenoliaid yng Ngronant a hynny o ganlyniad i drosglwyddiad cyllid EULife+ i Gynllun Cymunedol Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae hyn yn golygu mai y rôl eleni oedd cyflwyno’r safle hwn a’i holl ryfeddodau i gymunedau lleol Y Rhyl a Phrestatyn i’n helpu ni gyda chadwraeth y môr-wenoliaid bach a rhywogaethau eraill ar y safle.

Er mwyn i’r gymuned allu helpu i ddiogelu twyni Gronant a’r rhywogaethau sy’n byw yno, mae’n rhaid i ni yn gyntaf eu haddysgu amdano. Mae’r safle yn un bach cudd nad ydi hyd yn oed rhai pobl sydd wedi byw yno ar hyd eu hoes yn gwybod amdano. Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy’r ysgolion gan mai nhw yw conglfeini’r gymuned leol gyda’u heffeithiau’n bellgyrhaeddol, oherwydd os gallwch chi ysbrydoli plant a disgyblion, bydd y negeseuon yn cael eu trosglwyddo i’r rhieni a thu hwnt. Cyfrannodd cyfanswm o 5 ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd gyda thri neu bedwar dosbarth o bob un wedi ymweld â’r safle, sef cyfanswm o 450 o blant ac athrawon. I blant yr oed yma mae popeth yn gyffrous ac mae’r brwdfrydedd hwn yn allweddol i ddysgu. Felly yn hytrach na dangos a dweud wrthyn nhw am y môr-wenoliaid, roeddent yn cael eu hannog i ddysgu drwy wneud.

Roedd y dosbarth awyr agored yn canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar y traeth. Rhoddodd y môr-wenoliaid ffocws da i’r diwrnod. Ar ôl dangos y nythfeydd iddyn nhw aethon nhw lawr i’r traeth i wneud gweithgareddau oedd yn caniatáu rhyddid creadigol iddyn nhw ar yr un pryd a gadael iddyn nhw fod yn blant ac i chwarae. Roedd hyn yn cynnwys chwilio am bethau diddorol ar y traeth a gwneud cistiau dal trysor allan o focsys wyau, adeiladu nythod môr-wenoliaid bach, gwneud murluniau o’r mor-wenoliaid ar y tywod, peintio cerrig Gronant, crefftau gwneud creaduriaid y môr a gemau ar y traeth seiliedig ar y mor-wenoliaid bach

Rydym wedi cychwyn effaith ‘tonnau’. Mae mwy a mwy o deuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd allan yn mwynhau’r awyr agored gan annog datblygiad agwedd sy’n dangos mwy o barch tuag at yr amgylchedd o’n cwmpas a’r dymuniad i fod yn rhan o’i gadwraeth.

Ac wrth gwrs, beth am y môr-wenoliaid?

Ydyn nhw wedi cael tymor gystal â ni? Does dim dwywaith mai’r ateb yw ‘do’.   Mae hwn wedi bod yn un o’r tymhorau gorau eto; gyda lefelau da o amddiffyniad gan 3 cilomedr o ffens drydan a osodwyd gan staff y Cyngor a gwirfoddolwyr Grŵp y Fôr-wennol Fach Gogledd Cymru, a wardeinio heb ei ail gan y ddau grŵp, rydym yn awr yn gweld lefelau isel o ysglyfaethu sydd, ochr yn ochr ag amodau tywydd ffafriol, wedi ein rhoi ni ar y trywydd iawn ar gyfer niferoedd mwy nag erioed o’r blaen o adar bach sy’n llwyddo i adael y nyth.

Felly dyna haf llwyddiannus drwyddi draw!

I’r gwaith hwn barhau, y peth pwysig yw hyrwyddo cydberchnogaeth o’n mannau agored naturiol a'r amgylchedd, y rhain yw ein llefydd ni i’w mwynhau a’u diogelu. Nid gwaith awdurdodau lleol, NGOs neu berchnogion tir yn unig yw hyn, mae’n waith i bob un ohonom sy’n defnyddio ac yn mwynhau’r mannau hyn. Mae’r gymuned a’r môr-wenoliaid yn byw mewn symbiosis yng Ngronant, mae manteision i'r naill a’r llall o bresenoldeb ei gilydd, gan wneud y cyllid gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru mor bwysig i’r ddau. Mae’r llefydd naturiol hyn yn perthyn i bob un ohonom, er budd natur a'r gymuned, a dyna’r hyn yr ydym yn gobeithio ei ddangos.

Ein Tirlun Darluniaidd

Corwen yn cofio Eisteddfod Heddwch 1919

Eleni bydd can mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Eisteddfod Heddwch gael ei chynnal yng Nghorwen yn 1919.

Roedd yn achlysur arbennig iawn gan mai hon oedd yr Eisteddfod gyntaf i gael ei chynnal ar ôl y Rhyfel Mawr ac roedd yn arbennig o bwysig i dref Corwen gael bod yn gartref i’r digwyddiad arbennig hwn. I nodi’r achlysur, ariannodd y Loteri Genedlaethol y prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, a fu’n gweithio’n galed gydag artistiaid lleol i gefnogi'r gymuned mewn digwyddiad coffaol.

Bu disgyblion Ysgol Caer Drewyn yn dysgu am draddodiadau’r Eisteddfod a’r hyn a ddigwyddodd yng Nghorwen yn 1919. Er enghraifft:

  • cafodd ffordd yr A5 ei chau am wythnos yr Eisteddfod;
  • codwyd 4 platfform yng ngorsaf drenau Corwen; ac
  • ar ôl deffro’n hwyr fe gyrhaeddodd y delynores Nansi Richards yn ei choban a'i chôt fawr i chwarae'r delyn a bu'n gwisgo'r dillad hynny trwy'r dydd a hithau’n ddiwrnod poeth o fis Awst!

Roedd y plant wedi mwynhau defnyddio eu dychymyg i ddyfalu beth ddigwyddodd i Gadair Eisteddfod Genedlaethol Corwen 1919 gan nad oes unrhyw un yn gwybod ble mae hi hyd heddiw.

Cafwyd digwyddiad coffaol cymunedol ar ddydd Mercher 10fed Gorffennaf lle cafodd gorymdaith ei harwain gan y disgyblion yn dechrau o Ganolfan Ni i gylch yr Orsedd yng Nghoed Pen y Pigyn. Daeth aelodau o’r gymuned i ymuno a’r plant i gofio am Eisteddfod Corwen 1919.

Creuwyd pypedau enfawr o’r Derwyddion gan ddisgybion Ysgol Caer Drewyn a rhai o’r rhieni. Fe wnaeth plant 7-11 oed, ffurfio band offerynnau taro i greu awyrgylch dathliadol ar gyfer yr orymdaith yn ogystal â pherfformiadau drama yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn yn Eisteddfod 1919, a chafodd ei pherfformio yn yr Orsedd ym Mhen y Pigyn. Daeth y gymuned leol i gymryd rhan hefyd gyda grŵp MIND Dyffryn Clwyd a’r clwb cinio ynghyd â phlant yr ysgol feithrin, a oedd wedi bod yn defnyddio technegau printio i greu baneri a fflagiau i addurno’r orymdaith. A’r ddiwedd y dathliad cafodd y gymuned luniaeth ac amser i fwynhau yr arddangosfeydd yn Amgueddfa Corwen.

Cafodd y digwyddiad ei ffilmio er mwyn atgoffa pobl ymhen 100 mlynedd sut y cafodd y canmlwyddiant pwysig hwn ei ddathlu yng Nghorwen. Cewch weld y ffilm ar dudalen Facebook Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy AHNE.

Ar ôl y digwyddiad ym mis Gorffennaf, aeth aelodau o'r gymuned a gymerodd ran yn y prosiect a phypedau’r Derwyddon i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst i atgoffa pobl o ganmlwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Heddwch 1919 ac i annog pobl i ddod i ymweld â Chorwen.

Dathlu 10 mlynedd fel safle Treftadaeth

10 mlynedd yn ôl, yn Seville, bu 33ain sesiwn Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn ystyried enwebiad Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas a phenderfynwyd cynnwys y strwythur ar Restr Treftadaeth y Byd.  

Mae ein safle yn sicr yn un arbennig – yn brawf 11 milltir o hyd o allu peirianwyr yr oes, sy’n enghraifft o ddulliau peirianyddol newydd a ddatblygwyd yn y chwyldro diwydiannol ac a ddefnyddiwyd wedyn wrth adeiladu dyfrffyrdd, rheilffyrdd a ffyrdd ar draws y byd.  

Rydyn ni ar y rhestr o 1092 o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Rydyn ni’n un o’r 31 sydd yn y DU ac yn un o’r 3 yng Nghymru.

I ddathlu’r 10 mlwyddiant, mae llu o weithgareddau’n cael eu cynnal eleni. Trefnwyd taith ar y gamlas ar 27 Mehefin, ar ddyddiad y cyhoeddi 10 mlynedd yn ôl, i’r rhai a oedd yn rhan o’r broses yn y lle cyntaf ac i’r rhai sydd ynghlwm â rheoli’r safle heddiw.

Cynhaliwyd diwrnod hwyl Safle Treftadaeth y Byd yn Nhrefor ar 29 Mehefin, a oedd yn ddiwrnod gwych gyda’r gymuned leol a stondinau, a gweithgareddau yn arwain at y digwyddiad fel rhai i greu baneri a bynting trawiadol iawn, yn ogystal chomisiynu perfformiad o ddawns i’w gyflwyno yn y digwyddiad.

Roedd gennym stondin yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a oedd yn lliwgar iawn ac a ddenodd lawer o ddiddordeb. Roedd yn ffordd ddefnyddiol iawn o hyrwyddo bod y safle’n un 11 milltir o hyd ac nad yw’n canolbwyntio’n llwyr ar y Draphont Ddŵr.

Mae wedi bod yn enghraifft wych o gydweithio gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Techniquest Glyndŵr.

Mae llawer mwy o weithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn a bydd popeth yn arwain at gynhadledd Treftadaeth y Byd y DU ym Mhafiliwn Llangollen fis Hydref.

Bydd arddangosfa o’r holl waith celf sydd wedi’i greu gan y gwahanol grwpiau ar gyfer hyn yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam ym mis Tachwedd ac mewn digwyddiad cerddorol unigryw yn Nhŷ Pawb ar 14 Tachwedd, a fydd yn cynnwys barddoniaeth a cherddoriaeth wedi’u comisiynu’n arbennig, wedi’u hysbrydoli gan y Ddyfrbont a’r Gamlas.

Gwyliwch dudalennau cyfryngau cymdeithasol Pontcysyllte am y wybodaeth ddiweddaraf.

Addysg

Mae disgyblion Ysgol Carreg Emlyn yn elwa o eu hadeilad ysgol newydd

Mae disgyblion Ysgol Carreg Emlyn yn elwa o eu hadeilad ysgol newydd, ar ôl symud i mewn i'r safle newydd ym mis Mehefin.

Yn flaenorol roedd yr ysgol gymunedol Gymraeg wedi gweithredu ar safleoedd Clocaenog a Cyffylliog ers uno Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog yn 2014.

Mae'r safle newydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth newydd, ardaloedd dysgu ychwanegol, neuadd, ystafell gymunedol, ardaloedd chwarae allanol, mynediad newydd i gerbydau a maes parcio  gydag ardal gollwng.

Bydd yr adeilad newydd yn darparu ar gyfer hyd at 95 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed o rwydwaith o bentrefi o amgylch Clocaenog, bum milltir i'r de-orllewin o Rhuthun, gan gynnwys Cyffylliog, Bontuchel, Clawddnewydd a Derwen.

Ariannwyd y prosiect gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.

Dechreuodd y prif gontractwr Wynne Construction ar y safle ym mis Mai 2018 ac yn ystod y cyfnod adeiladu ymwelodd staff a disgyblion a’r safle ar gerrig milltir allweddol yn ystod y prosiect i weld y cynnydd. Mae'r dyluniad yn cynnwys nodweddion eco-gyfeillgar fel system rheoli adeiladau electronig, awyru di-ynni, goleuo naturiol a ffram pren, sy'n darparu deunydd inswleiddio ychwanegol.

Dywedodd Einir Wynne Jones, Pennaeth Ysgol Carreg Emlyn: “Rydyn wedi aros yn hir am ysgol newydd ac rydym ni'n credu ei bod hi'n wych.

“Mae gan y disgyblion gymaint o le - bydd gan flynyddoedd pump a chwech ystafell ddosbarth fwy lle o'r blaen roedd gofyn i ni wneud y gorau o'r ystafell rydyn ni wedi'i chael. Mae'r neuadd yn golygu y gallwn nawr lwyfannu gwahanol ddigwyddiadau ar y safle. ”

“Mae mwy o le ar gyfer gweithgareddau awyr agored hefyd gydag ardal chwarae fodern, cae pêl-droed a chwrt Gemau.”

“Rydyn ni’n teimlo mor ffodus ein bod ni wedi derbyn y buddsoddiad hwn. Mae'r ysgol mewn lleoliad delfrydol gan fod Clocaenog yn bentref canolog a bydd plant o'r ardaloedd cyfagos yn gallu mynychu. "

Ysgol Crist y Gair yn paratoi i agor

Mae'r cyffyrddiadau gorffen yn cael eu gwneud i Ysgol Gatholig Christ the Word a fydd yn agor i ddisgyblion ym mis Medi, y prosiect diweddaraf a ddatblygwyd gan y Cyngor mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru fel rhan o'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd Ysgol Gatholig Crist y Gair, a fydd yn rhan o Esgobaeth Wrecsam, yn disodli Ysgol  Mair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Bendigedig Edward Jones a Kier Construction yw'r prif gontractwr.

Cwblhawyd y gwaith adeiladu ar gyfer yr ysgol newydd ym mis Awst ac mae'r broses o ymgartrefu yn y gymuned ddysgu newydd ar y gweill ar gyfer y staff addysgu.

Bydd yr ysgol yn rhannol agored i ddisgyblion ddydd Gwener 6 Medi ar natur raddol gyda'r holl ddisgyblion yn yr ysgol erbyn 10 Medi.

Mae'r Pennaeth newydd Amanda Preston yn edrych ymlaen at weld y tymor newydd ac yn nodi “mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn brysur yn paratoi'r amgylchedd dysgu ar gyfer mis Medi, mae'n amser cyffrous i bawb yn yr ysgol ac ni allwn aros i groesawu'r plant i'n cartref newydd gwych.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: “Rwy'n falch iawn o weld yr ysgol newydd sbon hon wedi'i chwblhau.

“Bydd Crist y Gair yn darparu amgylchedd dysgu gwych i ddisgyblion â staff yr ysgol, bydd y cyfleuster modern hwn yn gwella dysgu disgyblion ymhellach.

“Mae cefnogi pobl ifanc yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae’r ysgol hon yn rhan o’r £90miliwn sydd wedi’i fuddsoddi yn ysgolion y sir hyd yn hyn gan gynnwys yr adeilad ysgol newydd gwerth £25miliwn ar gyfer Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa.”

Nodweddion

Pwyntiau Siarad: Mae’r hyn sy’n bwysig i chi yn bwysig i ni!

Mae Pwyntiau Siarad yn ffordd wych i gyfarfod a sgwrsio am yr holl wasanaethau gwirfoddol, statudol a lles sydd ar gael yn Sir Ddinbych.

Mae’r staff yn defnyddio dulliau holistaidd i fynd i’r afael ag iechyd a lles er mwyn eich annog a'ch galluogi i gymryd mewn gweithgareddau a grwpiau a derbyn gwasanaethau fydd yn eich helpu i gyrraedd eich canlyniadau lles. Fe all y rhain gynnwys cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a gwella rhwydweithiau cymdeithasol yn eich cymuned.

Mae Pwyntiau Siarad yn ganolfannau lles cymunedol sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth. Byddwch yn cael gwybod am yr holl wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol sydd ar gael i chi’n lleol, yn dibynnu ar yr hyn yr hoffech chi gyflawni.  

Gallwch alw heibio un o’r Pwyntiau Siarad neu, os yw’n well gennych chi, fe allwch chi drefnu apwyntiad drwy gysylltu â’r Tîm Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1000

Cynhelir y sysiynau yn wythnosol (onibai y nodir yn wahanol) yn:

  • Llyfrgell Llanelwy (dydd Llun 9.30am – 11.45am)
  • Llyfrgell y Rhyl (dydd Mawrth 9.30am – 3.30pm)
  • Canolfan Iechyd Llangollen (dydd Mawrth 9.30am – 12.30pm)
  • Llyfrgell Corwen (dydd Mawrth cyntaf y mis 2.00pm – 4.00pm)
  • Llyfrgell Dinbych (dydd Mercher 2.00pm – 4.30pm)
  • Llyfrgell Rhuddlan (dydd Iau 2.00pm – 4.30pm)
  • Llyfrgell Prestatyn (dydd Gwener 9.30am – 1.00pm)
  • Llyfrgell Rhuthun (dydd Gwener 9.30am – 1.00pm)

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jason Haycocks, Cydlynydd Pwyntiau Siarad a Rhagnodi Cymdeithasol ar 01824 712937 neu drwy e-bost jason.haycocks@sirddinbych.gov.uk

Cyflwynwch gais am Pass Plus Cymru

Mae Plus Cymru yn rhoi hyfforddiant ychwanegol i yrwyr ifanc i'w helpu i leihau'r risg o ddamweiniau.

Mae’r cwrs yn costio £20 ac i ymuno mae’n rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • bod yn 17 i 25 oed
  • yn meddu ar drwydded yrru lawn
  • wedi pasio'ch prawf o fewn y 12 mis diwethaf
  • byw yng Nghymru

Mae'r sesiwn hyfforddi nesaf ar gyfer Sir Ddinbych ar ddydd Iau 10 Hydref yng Ngorsaf Dân Y Rhyl, Ffordd yr Arfordir, Y Rhyl LL18 3PL. 5.30pm - 8.00pm.

Ewch i Pass Plus Cymru am fwy o wybodaeth.

Asesiadau gyrru am ddim i yrwyr hŷn

Ydych chi'n byw yn Sir Ddinbych ac yn 65 oed a throsodd?

Mae gennych hawl i gael asesiad gyrru am ddim a gynhelir gan Gwasanaeth Asesu Gyrru a Symudedd Cymru.

Os oes diddordeb gennych ac ishio rhagor o wybodaeth, ffoniwch yr adran diogelwch ffyrdd ar 01824 706946

Trafnidiaeth i Wasanaethau Iechyd

Annwyl Gyfaill,

Mae llawer o’r bobl hŷn rwyf i a fy nhîm wedi siarad â nhw ledled Cymru wedi bod yn rhannu eu profiadau o deithio yn ôl ac ymlaen o wasanaethau ac apwyntiadau gofal iechyd.

Yn ogystal â rhannu eu profiadau cadarnhaol, roedd llawer yn tynnu sylw at yr heriau maen nhw’n eu hwynebu weithiau wrth deithio yn ôl ac ymlaen o wasanaethau iechyd – yn enwedig pan nad yw’n ymddangos bod gwasanaethau iechyd a thrafnidiaeth yn gweithio gyda’i gilydd i hwyluso mynediad.

Felly, rwyf yn gwneud gwaith ymchwil sydd yn edrych ar brofiadau pobl hŷn, a fydd yn tynnu sylw at feysydd i'w gwella ac yn nodi arferion da a allai gael eu mabwysiadu’n ehangach. Yn ddiweddar rwyf wedi cynnal nifer o grwpiau ffocws, ac wedi lansio arolwg sydd ar gael mewn copi papur yn ogystal ag ar-lein.

Rwy’n rhagweld y bydd yr ymchwil hwn yn gyfraniad gwerthfawr at y Bil Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus sydd i ddod, a’r gwaith parhaus i ddatblygu model trafnidiaeth integredig ac ymatebol ar gyfer Cymru.

Byddwn yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i’r gwaith ymchwil hwn yn fawr, safbwynt eich sefydliad, ac unrhyw arferion da rydych chi’n ymwybodol ohonynt o ran yr heriau sy’n wynebu pobl hŷn.

Os hoffech chi, neu gynrychiolydd priodol yn eich sefydliad, gyfrannu at y gwaith hwn, naill ai drwy gyfarfod, galwad ffôn neu drwy gyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig, yna cysylltwch â George Jones, Arweinydd Gwasanaethau Cymunedol a Chynhwysiant, yn george.jones@olderpeoplewales.com.  

Yn olaf, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn gallu rhoi cyhoeddusrwydd i’r arolwg ymysg eich rhwydweithiau; gallaf hefyd ddarparu copïau papur, dim ond i chi ofyn.

Mae'r arolwg ar agor tan 27 Medi 2019.

Cofion gorau,

Heléna Herklots CBE

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Treftadaeth

Wythnos Calan Gaeaf yng Ngharchar Rhuthun: 26 Hydref– 1 Tachwedd

Mae ysbrydion yn yr awyr nos, a chreaduriaid arswyd yn y cysgodion... mae hi’n adeg honno’r flwyddyn – Wythnos Calan Gaeaf!

Mae Carchar Rhuthun yn agor ei ddrysau i bobl o bob oed gael mwynhau gweithgareddau ysbrydol o fewn waliau iasol y Carchar.

Cymrwch ran yn y gweithgareddau crefft dymhorol a llwybr Calan Gaeaf o amgylch y celloedd ac islawr y carchar Fictoraidd.

Dewch yn gwisgo eich gwisg Calan Gaeaf mwyaf ofnus i deimlo'n rhan o bethau, dewch os ydych yn mentro!

Mae’r holl weithgareddau yn cael eu cynnwys yn y pris mynediad. Dim angen archebu lle. Ar agor rhwng 10am a 5pm rhwng 26 Hydref a 1 Tachwedd (Mynediad olaf am 4pm).

Sylwch y cynghorir i chi wisgo dillad cynnes.

Ymweliadau grŵp ar adeg dawel i Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre

Bydd Amgueddfa Carchar Rhuthun a Thŷ a Gerddi Nantclwyd y Dre (Rhuthun) yn cau i ymwelwyr cyffredinol ar 30 Medi, ond ar agor ar gyfer ymweliadau yn ystod adegau tawel yn y gaeaf drwy archebu ymlaen llaw.

Gallwch archebu eich taith grŵp preifat, wedi’i arwain gan un o’n harweinwyr gwych, rhan fwyaf o ddiwrnodau yn ystod misoedd y gaeaf ar amser sydd yn gweddu chi (yn ddibynnol ar argaeledd, ffioedd yn berthnasol). Gallwch hefyd hurio ein ystafelloedd cyfnodol (ac arweinwyr) ar gyfer digwyddiadau arbennig.

I drefnu eich ymweliad preifat/ grŵp neu i ymholi ynghylch hurio ar gyfer digwyddiad, cysylltwch â ni ar: heritage@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706868.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid