llais y sir

Sir Ddinbych yn Gweithio

Cymunedau am Waith: Astudiaeth Achos

Mae Cymunedau am Waith (CaW) yn rhaglen bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau, gyda chefnogaeth gan Cronfa Gymdeithasol Ewrop, i ddarparu gwasanaethau cymorth cyflogaeth ym mhob un o'r 52 o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru.

Dyma stori Mr F am sut mae Cymunedau am Waith wedi ei helpu:

Mae Mr F wedi bod â pherthynas wael ag alcohol ers dros 10 mlynedd ac mae hyn wedi effeithio ar sawl agwedd o’i fywyd, yn cynnwys tai, iechyd meddwl ac mae hefyd wedi bod mewn trafferth â’r heddlu. Dros y 12 mis diwethaf, mae Mr F wedi derbyn llety â chymorth o ganlyniad i’w ymgysylltiad cadarnhaol gyda’r gwasanaethau ac mae wedi bod yn derbyn cymorth tenantiaeth, cymorth i helpu â’i ddefnydd o alcohol ac mae hefyd wedi derbyn sesiynau cwnsela ac mae ansawdd ei fywyd wedi gwella’n sylweddol.

Roedd Mr F yn teimlo’n barod am gymorth pellach, ac felly bu i Heddlu Gogledd Cymru ei atgyfeirio at Cymunedau am Waith Sir Ddinbych, er mwyn derbyn cymorth mentora un i un i ganfod cyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli a’i arwain yn nes at y farchnad lafur. Cafodd Fentor Cyflogaeth ers y cyfarfod cyntaf maent wedi cwrdd yn rheolaidd i drafod sgiliau presennol Mr F a sut y gellir eu datblygu. Arferai Mr weithio fel meddyg coed am flynyddoedd ac mae ganddo lawer iawn o sgiliau creadigol, mae’n mwynhau braslunio a chreu eitemau o bren. Trafodwyd dyheadau Mr F ar gyfer y dyfodol gyda'i fentor a dywedodd yr hoffai gael swydd sy’n caniatáu iddo fod allan yn yr awyr agored. Mae Mr F wedi treulio blynyddoedd lawer yn y byd gwaith ac mae wedi nodi’n glir y buasai wrth ei fodd petai’n gallu cael swydd eto yn y dyfodol. Nid yw Mr F yn teimlo’n barod am swydd ar hyn o bryd gan ei fod yn dal i ganolbwyntio ar fyw bywyd iachach a gwella ei iechyd meddwl. Felly, datblygwyd cynllun gweithredu i gynyddu sgiliau a phrofiadau Mr F.

Roedd Mr F eisiau gwella ei sgiliau TG gan fod yn y maes hwn yn weddol ddiarth iddo, felly derbyniodd gefnogaeth gan ei fentor i fynychu sesiynau cychwynnol o gwrs TG. Ers hynny, mae Mr F wedi bod yn bresennol bob wythnos ac mae bellach wedi cwblhau sawl modiwl a bydd yn dychwelyd ym mis Medi i barhau â’i addysg. Mae Mr F wedi nodi ei fod “wedi mwynhau’r cwrs hwn yn arw, yn llawer mwy na beth oedd yn tybio y byddai’n ei wneud.” Canfuwyd cyrsiau eraill ar gyfer Mr F, i wella ei sgiliau er mwyn ceisio am swyddi ymarferol yn yr awyr agored, megis Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle, Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd ac mae hefyd yn aros i fynychu cwrs Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu sy’n galluogi iddo gael asesiad i gael cerdyn CSCS.

Yn ogystal â hynny, canfuwyd cyfle i wirfoddoli yn yr awyr agored ar gyfer Mr F. Mae gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych raglen wirfoddoli Natur er budd Iechyd sydd yn annog dinasyddion i gamu i'r awyr agored a gwirfoddoli yn eu hardaloedd lleol i gwblhau tasgau amrywiol megis cadwraeth ac adeiladu meinciau. Mae Mr F bellach yn mynychu’r rhaglen yn rheolaidd ac mae hefyd wedi cynyddu nifer y dyddiau y mae’n mynychu'r rhaglen o un i ddau ddiwrnod gan ei fod yn ei mwynhau. Bydd y gwaith gwirfoddol hwn yn gwella hyder Mr F a’i sgiliau cymdeithasol wrth weithio mewn grŵp a hefyd ei sgiliau ymarferol.

Yn gryno, ers i Mr F ymgysylltu â Chymunedau am Waith, mae wedi mynychu sawl cwrs hyfforddiant ac mae hefyd yn gwirfoddoli’n rheolaidd, golyga hyn ei fod yn gwella ei sgiliau’n barhaus sydd yn ei baratoi ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy unwaith eto. Mae cyswllt Mr F â’r heddlu wedi lleihau’n sylweddol sy’n dangos y cynnydd cadarnhaol y mae Mr F wedi’i wneud hyd yma. Mae Mr F yn obeithiol iawn am ei gynnydd ac mae’n mwynhau’r ffaith bod ei wythnosau’n fwy prysur o ganlyniad i weithgareddau cadarnhaol i gynyddu ei sgiliau a gwella ei iechyd meddwl. Bydd y gwaith mentora gyda’r Mentor Cyflogaeth yn parhau a bydd cynllun gweithredu Mr F yn cael ei adolygu’r rheolaidd i sicrhau ei fod yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni ei nod o gael cyflogaeth yn y dyfodol.

Meddai Mr F: “Ers derbyn cefnogaeth gan Gymunedau am Waith, rwyf wedi mynychu llawer o gyrsiau ac rwyf hefyd wedi bod yn gwirfoddoli. Mae Cymunedau am Waith yn wir wedi fy helpu ac rwyf yn falch iawn fy mod wedi ymgysylltu â’r prosiect.”

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â Cerian Phoenix, Mentor Cyflogaeth Oedolion Cymunedau am Waith, Sir Ddinbych yn Gweithio drwy e-bost cerian.phoenix@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch ar 01824 706491.

Gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau ar Ganolfan Byd Gwaith

ADTRAC Sir Ddinbych: Diwrnod lles a bwyd

Bu i gyfranogwyr prosiect a thîm ADTRAC Sir Ddinbych gymryd rhan mewn diwrnod lles – bwyd a hwyliau - fel rhan o wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn gynharach yn y flwyddyn.

I nodi wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, penderfynon nhw gynnal diwrnod lles – bwyd a hwyliau - yn yr Hwb yn Ninbych. Y diben oedd mynd i’r afael â materion a oedd wedi codi, megis delwedd negyddol o’r corff, ddim yn bwyta oherwydd cost bwyd, dietau gwael a hwyliau isel. Roedd pump o gyfranogwyr yn bresennol ac fe ddechreuon nhw drwy drafod sut all diet iach gael effaith cadarnhaol ar eich iechyd meddwl ac fe ddarparwyd taflenni ffeithiol i gyd-fynd â’r drafodaeth. Yna, fe aethant am dro at Castell Dinbych a chwblhau sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar yn yr haul ar lethr y tu allan i’r castell.

Dysgon nhw lawer iawn o bethau newydd am fwyta’n iach ac y gallwch fwyta’n iach ar gyllideb.

Yna, aethant yn ôl i’r Hwb a cael cyfle i flasu byrbrydau iach eraill a fajitas cyw iâr. Yn ogystal â’r wybodaeth ddietegol ac ymwybyddiaeth ofalgar, ffurfiwyd cyfeillgarwch ac fe godwyd hwyliau a gobaith pawb.

Aeth pawb adref â bag bychan o fwyd, taflenni ffeithiau ( yn cynnwys taflen yn cymharu prisiau a nodiadur bwyd / bwydlen) a photel ddŵr ailddefnyddiadwy.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid