llais y sir

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Cysylltiad da a chyfleoedd i bawb – coridor gwyrdd y Rhyl a Phrestatyn

Mae yna brosiect newydd wedi cyrraedd y dref ac mae o’n glamp o un da!

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, ynghyd â phartneriaid fel Cadwch Gymru'n Daclus a Grŵp Cynefin, wedi sicrhau grant o £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gynnal prosiect trawsffiniol sy’n rhedeg ar hyd Ffos y Rhyl/Gwter Prestatyn. Bydd hwn yn cychwyn ym Mae Cinmel yng Nghonwy, yn rhedeg drwy’r Rhyl a Phrestatyn yn Sir Ddinbych ac yn gorffen yn Gronant ar ffin Sir y Fflint. Y nod yw trawsnewid y ffos/gwter yn goridor gwyrdd/glas sy’n cysylltu ein safleoedd ag ymdrechion gwyrddu a chreu a gwella cynefinoedd trefol, gyda chymorth y cymunedau lleol er budd eu hiechyd a'u lles.

Mae hwn yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n para tair blynedd dan eu cynllun grant newydd o’r enw Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru (ENRaW). Mae wedi’i seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf dybryd sy’n ein hwynebu ni heddiw. Mae’r rhain yn cynnwys argyfwng yr hinsawdd, argyfwng yr amgylchedd, tlodi, cynaliadwyedd ariannol ac eithrio cymdeithasol.

Er mai’r brif nod yw creu coridor gwyrdd di-dor, byddwn yn canolbwyntio ar wella cynefinoedd mewn sawl ardal allweddol: Trwyn Horton Bae Cinmel, ardal ffos y Rhyl gyferbyn â phwll Brickfield, Llwybr Prestatyn i Ddyserth a’r Sied, gwlyptir Prestatyn a thwyni Gronant. Ochr yn ochr â hyn, bydd rhaglen addysg amgylcheddol fydd yn cynnwys pob ysgol yn cael ei chyflwyno fesul cam ar draws yr ardal. Bydd yn cynnwys: sesiynau yn y dosbarth, ymweliadau â safleoedd, gwelliannau i diroedd ysgolion a chynnwys ysgolion yn y gwaith o wella cynefinoedd. Ymhellach, bydd y prosiect yn helpu gwella lles cymdeithasol drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli mewn gwella cynefinoedd, fydd yn cynnwys rhagnodi cymdeithasol, sesiynau ymarfer corff wedi’u haddasu ar gyfer pobl llai abl, darparu safleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden, cyfleoedd cymdeithasol a gwyrddu ardaloedd o amddifadedd trefol.

Mae hwn yn brosiect sylweddol yr ydym wir eisiau i’r gymuned ei fabwysiadu, ei berchenogi a’n helpu ni ei wireddu. Byddwn yn sefydlu cyfarfodydd cymunedol ym mhob un o ardaloedd y prosiect: Y Rhyl, Prestatyn a Gallt Melyd, er mwyn darparu llwyfan i gynrychiolwyr grwpiau lleol fod yn rhan o’r broses gynllunio o’r cychwyn hyd at ei gyflawni, er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i fodloni anghenion y gymuned yn ogystal â’r amgylchedd yn effeithiol. Os oes unrhyw un yn gwybod am unrhyw grwpiau cymunedol allai elwa o hyn, neu sydd â chysylltiad â’r ardal, neu os hoffech chi gymryd rhan yn bersonol, cysylltwch â Amy.Trower@sirddinbych.gov.uk.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid