Cynllun parcio am ddim
Mae cynllun parcio am ddim y Cyngor wedi dychwelyd dros gyfnod y Nadolig tan 31 Rhagfyr.
Er mwyn annog mwy o bobl i siopa yn eu siopau stryd fawr lleol, bydd modd i bobl barcio am ddim ar ôl 3pm ym meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Bydd y fenter Am Ddim Ar ôl Tri yn gweithredu yn y meysydd parcio canlynol:
- Corwen: Lon Las
- Dinbych: Maes Parcio Aml-lawr; Lôn Crown, Factory Ward, Lôn y Post; Stryd y Dyffryn
- Llangollen: Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd; Heol y Farchnad; Heol y Felin
- Prestatyn: Stryd Fawr Isaf; Rhodfa’r Brenin; yr Orsaf Drenau
- Rhuddlan: Stryd y Senedd
- Y Rhyl: Canolog; Ffordd Morley; Heol y Frenhines; Tŵr Awyr; Stryd Gorllewin Kinmel, Gorsaf Drenau y Rhyl; Llyfrgell y Rhyl (lleoedd parcio i’r anabl yn unig)
- Rhuthun: Iard Crispin; Dog Lane; Stryd y Farchnad; Heol y Parc; Stryd y Rhos; Sgwâr Sant Pedr; Troed y Rhiw
- Llanelwy: Lawntiau Bowlio
- Nid yw maes parcio preifat Neuadd Y Morfa, Y Rhyl yn gynwysedig yn y fenter
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor: “Mae’r fenter parcio Am Ddim ar ôl Tri wedi’i sefydlu ers sawl blwyddyn bellach ac mae’n cyd-fynd â’r ymgyrch barhaus #CaruBusnesauLleol i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r stryd fawr i wneud eu siopa Nadolig.
“Rydym yn hynod falch o allu cynnig y cyfle hwn fel Cyngor eto eleni a gobeithiwn y bydd pobl yn gweld manteision defnyddio meysydd parcio canol y dref ac y byddant yn dychwelyd.
“Mae cyfoeth o siopau a busnesau annibynnol ar gael ledled y sir sy’n cynnig ystod eang o nwyddau a gwasanaethau. Gyda’n menter parcio am ddim ar ôl 3pm, gobeithiwn y bydd mwy o bobl yn dod i mewn i’n prif drefi i weld beth sydd ganddyn nhw i'w gynnig. Rwy’n siŵr na chânt eu siomi.”