Partneriaeth cynllun ailgylchu gwisg ysgol yn ennill gwobr anrhydedd genedlaethol
Mae prosiect llwyddiannus yn Sir Ddinbych i ailgylchu gwisg ysgol a chefnogi teuluoedd yn y sir wedi sicrhau bod Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych wedi derbyn anrhydedd cenedlaethol.
Fe wnaethant ennill y wobr Partneriaeth Orau 2019 yng nghynhadledd genedlaethol Cyngor ar Bopeth, i gydnabod y gwaith a wnaed gyda Chyngor Sir Ddinbych a chymunedau lleol.
Mae'r prosiect yn rhoi cyfle i rieni gynnig unrhyw wisg ysgol nad oes ei angen bellach ac mewn cyflwr da, fel y gellir ei hailgylchu a'i darparu i deuluoedd eraill am ddim neu am rodd mewn siop ailgylchu (mae’r rhoddion yn helpu i dalu am y gost o olchi'r gwisgoedd). Mae nifer o ysgolion wedi cymryd rhan yn y cynllun ers ei lansio yn 2017. Mae'r gwisgoedd hyn wedi'u gwerthu mewn siopau dros dro gafodd eu lleoli mewn nifer o'r prif drefi yn Sir Ddinbych.
Cefnogwyd y cynllun hefyd gan Gyngor Tref Dinbych a Chyngor Tref y Rhyl a'r sefydliad cymunedol yng Nghymru. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych hefyd wedi darparu talebau ar gyfer gwisgoedd ysgol i deuluoedd incwm isel, nad ydynt yn gymwys i gael y grant gwisg ysgol, ar gyfer plant yn ysgol uwchradd Dinbych ac Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl.
Dywedodd Lesley Powell, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych: "Roeddem yn falch iawn o gael y wobr genedlaethol hon. Mae'n anrhydedd mawr i gael ein cydnabod am y gwaith rydym yn ei wneud, ac ni allai dim o hyn fod wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad y Cyngor a'r gymuned leol, yn ogystal â gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y siopau dros dro.
"Rydym yn cydnabod bod llawer o deuluoedd yn cael trafferth prynu gwisgoedd ac roeddem yn awyddus i ddod o hyd i ateb arloesol ac ymarferol i helpu pobl i gael gwisg ysgol am brisiau y gallent eu fforddio.
"Cynigir sesiwn gynghori ddilynol i'r holl deuluoedd sy'n mynychu'r cynllun er mwyn sicrhau bod pawb yn hawlio’r holl fudd-daliadau, credydau a grantiau sydd ar gael iddynt."
Meddai Paul Barnes, Rheolwr Contractau a Pherfformiad Cyngor Sir Ddinbych: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar y fenter arloesol hon, i sicrhau y gall pobl gael gafael ar wasanaethau sy'n eu helpu'n ariannol ac yn ymarferol.
"Mae'r prosiect hwn wedi tyfu o nerth i nerth, gyda mwy o ysgolion yn dod ymlaen bob blwyddyn gan gynnig gwisgoedd ysgol ddiangen o ansawdd uchel a mwy o siopau dros dro yn ymddangos mewn gwahanol gymunedau. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r bartneriaeth ymhellach yn ystod y flwyddyn sydd i ddod a sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosibl yn cael mynediad at y fenter hon sy'n torri tir newydd ".