llais y sir

Newyddion

Trefniadau'r Cyngor dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gallwch ddarganfod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am drefniadau'r Cyngor dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd ar ein gwefan:

  • Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
  • Casgliadau gwastraff gardd
  • Amseroedd agor parciau ailgylchu
  • Unrhyw ddigwyddiadau sydd ymlaen dros gyfnod y Nadolig
  • Gwybodaeth am y fenter parcio am ddim ar ôl 3
  • Llyfrgelloedd - cofiwch fod ein gwasanaeth llyfrgell ar-lein ar gael 24/7
  • Gwyliau ysgol
  • Amseroedd agor ar gyfer ein hadeiladau/gwasanaethau

Cynllun parcio am ddim

Mae cynllun parcio am ddim y Cyngor wedi dychwelyd dros gyfnod y Nadolig tan 31 Rhagfyr.

Er mwyn annog mwy o bobl i siopa yn eu siopau stryd fawr lleol, bydd modd i bobl barcio am ddim ar ôl 3pm ym meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Bydd y fenter Am Ddim Ar ôl Tri yn gweithredu yn y meysydd parcio canlynol:

  • Corwen: Lon Las
  • Dinbych: Maes Parcio Aml-lawr; Lôn Crown, Factory Ward, Lôn y Post; Stryd y Dyffryn
  • Llangollen: Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd; Heol y Farchnad; Heol y Felin
  • Prestatyn: Stryd Fawr Isaf; Rhodfa’r Brenin; yr Orsaf Drenau
  • Rhuddlan: Stryd y Senedd
  • Y Rhyl: Canolog; Ffordd Morley; Heol y Frenhines; Tŵr Awyr; Stryd Gorllewin Kinmel, Gorsaf Drenau y Rhyl; Llyfrgell y Rhyl (lleoedd parcio i’r anabl yn unig)
  • Rhuthun: Iard Crispin; Dog Lane; Stryd y Farchnad; Heol y Parc; Stryd y Rhos; Sgwâr Sant Pedr; Troed y Rhiw
  • Llanelwy: Lawntiau Bowlio
  • Nid yw maes parcio preifat Neuadd Y Morfa, Y Rhyl yn gynwysedig yn y fenter

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor: “Mae’r fenter parcio Am Ddim ar ôl Tri wedi’i sefydlu ers sawl blwyddyn bellach ac mae’n cyd-fynd â’r ymgyrch barhaus #CaruBusnesauLleol i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r stryd fawr i wneud eu siopa Nadolig.

“Rydym yn hynod falch o allu cynnig y cyfle hwn fel Cyngor eto eleni a gobeithiwn y bydd pobl yn gweld manteision defnyddio meysydd parcio canol y dref ac y byddant yn dychwelyd.

“Mae cyfoeth o siopau a busnesau annibynnol ar gael ledled y sir sy’n cynnig ystod eang o nwyddau a gwasanaethau. Gyda’n menter parcio am ddim ar ôl 3pm, gobeithiwn y bydd mwy o bobl yn dod i mewn i’n prif drefi i weld beth sydd ganddyn nhw i'w gynnig. Rwy’n siŵr na chânt eu siomi.”

Arian ar gael ar gyfer mannau agored ac ardaloedd chwarae yn Sir Ddinbych

Mae cyfanswm o £200,000 o gyllid ar gael i wella mannau agored ac ardaloedd chwarae yn Sir Ddinbych.

Mae Symiau Cymudol Mannau Agored y Cyngor bellach ar agor i gymunedau ar draws y sir.

Taliad yw Symiau Cymudol gan ddatblygwyr i awdurdod lleol pan nad yw'n briodol i ddarparu'r man agored sy'n ofynnol ar gyfer datblygiad. Cedwir y cronfeydd yn benodol i wella mannau agored ac ardaloedd chwarae, a chânt eu defnyddio yn yr un ardal â’r datblygiad.

Mae’r gronfa ar agor i gynghorau tref a chymuned, grwpiau gwirfoddol neu grwpiau gwirfoddol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gyllid yw dydd Gwener, 31 Ionawr, 2020, ac i gael manylion ewch i www.sirddinbych.gov.uk/symiau-cymudol

Gwaith yn dechrau ar ganolfan i entrepreneuriaid

Bydd hen dafarn yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan gydweithio i entrepreneuriaid.

Mae'r Cyngor wedi cael £312,000 trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a gan Lywodraeth Cymru i greu’r swyddfeydd yn hen adeilad Costigans ar Stryd Bodfor, Y Rhyl.

Dechreuodd gwaith ar y safle ar 21 Hydref i greu lle i tua 20 o fusnesau newydd mewn swyddfeydd hyblyg gyda lle i gynnal digwyddiadau a siop goffi ar y safle.

Mae Costigans yn eiddo i’r Cyngor, sydd wedi adnewyddu’r tu allan ar ôl ei brynu yn dilyn difrod a achoswyd gan dân.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Yn rhan o’n gwaith i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer canol tref y Rhyl, bydd yr adeilad yn cael ei droi’n swyddfeydd cydweithio modern efo lle i siop goffi.

“Bydd yn cynnig lle creadigol a hyblyg i weithio gyda band eang cyflym iawn, iawn, i gefnogi ac annog cenhedlaeth newydd o fusnesau bach i sefydlu yng nghanol y dref neu ei ddefnyddio fel eu prif ganolfan.

“Rydyn ni eisiau creu lle i bobl ifanc gymryd eu camau cyntaf fel perchnogion busnes a helpu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i gychwyn. Rydyn ni eisiau cefnogi pob person ifanc i gyflawni eu potensial ac mae’r prosiect yma’n ategu hynny.”

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan y rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Meddai Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol: “Drwy ein rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, rydym yn ymrwymo i sicrhau newid economaidd hirdymor.

“Mae ein cyllid ar gyfer adfywio yn helpu i roi hwb i gyflogaeth leol, yn ogystal â mynd i’r afael â blaenoriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

“Bydd yr hen adeilad eiconig sydd wedi gwasanaethu’r gymuned ers cyhyd yn derbyn gweddnewidiad, ac edrychaf ymlaen at weld y ganolfan hon yn datblygu a thyfu.

“Bydd yn galluogi pobl leol i ddod at ei gilydd a gweithredu fel canolbwynt cymdeithasol y gymuned a denu cenhedlaeth newydd o fusnesau bychain i ganol y dref.”

Bydd y Cyngor yn chwilio am denant i gymryd yr adeilad a rhedeg y swyddfeydd.

Mae’r prosiect yn rhan o’r ddogfen sy’n nodi’r Weledigaeth ar gyfer y Rhyl, sy’n ceisio helpu i greu cyfleoedd i’r gymuned leol siapio eu tref a datblygu uchelgais, gan ddod â busnesau newydd a chwsmeriaid i ganol y dref.

Tai fforddiadwy yn cynyddu yn Sir Ddinbych

Roedd traean y tai a ddarparwyd yn Sir Ddinbych dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dai fforddiadwy.

Ers 2017 mae 30% o'r tai sydd wedi eu darparu yn y sir wedi eu dosbarthu fel rhai fforddiadwy ac maent yn cynnwys tai newydd, tai gwag sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd a chyn dai cyngor sydd wedi eu hail brynu, sy'n gyfanswm o 154 o dai fforddiadwy.

Mae'r Cyngor wedi addo cefnogi datblygu 1000 o dai newydd yn Sir Ddinbych rhwng 2017 a 2022 gyda 260 o’r rhain wedi eu dynodi fel tai fforddiadwy a 170 fel tai cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Roedd y cyngor yn gweld angen i sicrhau fod tai ar gael i ddiwallu anghenion preswylwyr Sir Ddinbych. Fe wnaethom ni dai yn flaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol ac rydym yn cyflawni ein haddewid i ddarparu ystod eang o lety i weddu i anghenion gwahanol ac mae tai fforddiadwy yn rhan bwysig o hyn.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda datblygwyr ac mewn partneriaeth gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau fod y galw yn y sir yn cael ei ddiwallu.

“Drwy adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi digwydd rydym yn disgwyl cynnydd yn lefel y tai fforddiadwy sy’n cael eu cwblhau dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae darparu mwy o dai a mwy o dai fforddiadwy yn benodol ar draws ein cymunedau yn rhan o’n gwaith i sicrhau ein bod yn cadw mwy o bobl ifanc yn y sir.

“Mae hyn hefyd yn rhan o’n hymdrechion i atal digartrefedd a darparu mwy o opsiynau i sicrhau llety hirdymor, cynaliadwy i’r rhai sy’n anffodus wedi canfod eu hunain yn ddigartref.”

Yn ogystal ag eiddo sydd wedi eu hadeiladu yn barod, mae yna 60 o unedau tai fforddiadwy ar hyn o bryd ar safleoedd cymysg sydd yn y broses o gael eu hadeiladu yn Rhewl, Rhuddlan, Llangollen, Rhyl, Llanfair DC a Dyserth.

Mae disgwyl i 156 o unedau eraill ar safleoedd lle mae’r cyfanswm o dai fforddiadwy yn 100% i gael eu cwblhau erbyn 2020, gan gynnwys safleoedd yn Nhrefnant a’r Rhyl.

Ymhlith y safleoedd gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer tai cyngor newydd mae safle cyn Ysgol Bodnant, Prestatyn a The Dell, Prestatyn ac mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer 22 o dai newydd ger Tan y Sgubor, Dinbych Uchaf.

Mae’r holl dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu i'r safon uchaf o ran effeithlonrwydd ynni.

Hefyd, mae eiddo ar Ffordd Brighton, Y Rhyl wedi ei adnewyddu gan y Cyngor i greu tri rhandy newydd.

Partneriaeth cynllun ailgylchu gwisg ysgol yn ennill gwobr anrhydedd genedlaethol

Mae prosiect llwyddiannus yn Sir Ddinbych i ailgylchu gwisg ysgol a chefnogi teuluoedd yn y sir wedi sicrhau bod Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych wedi derbyn anrhydedd cenedlaethol.

Fe wnaethant ennill y wobr Partneriaeth Orau 2019 yng nghynhadledd genedlaethol Cyngor ar Bopeth, i gydnabod y gwaith a wnaed gyda Chyngor Sir Ddinbych a chymunedau lleol.

Mae'r prosiect yn rhoi cyfle i rieni gynnig unrhyw wisg ysgol nad oes ei angen bellach ac mewn cyflwr da,  fel y gellir ei hailgylchu a'i darparu i deuluoedd eraill am ddim neu am rodd mewn siop ailgylchu (mae’r rhoddion yn helpu i dalu am y gost o olchi'r gwisgoedd). Mae nifer o ysgolion wedi cymryd rhan yn y cynllun ers ei lansio yn 2017. Mae'r gwisgoedd hyn wedi'u gwerthu mewn siopau dros dro gafodd eu lleoli mewn nifer o'r prif drefi yn Sir Ddinbych.

Cefnogwyd y cynllun hefyd gan Gyngor Tref Dinbych a Chyngor Tref y Rhyl a'r sefydliad cymunedol yng Nghymru. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych hefyd wedi darparu talebau ar gyfer gwisgoedd ysgol i deuluoedd incwm isel, nad ydynt yn gymwys i gael y grant gwisg ysgol, ar gyfer plant yn ysgol uwchradd Dinbych ac Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl.

Dywedodd Lesley Powell, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych: "Roeddem yn falch iawn o gael y wobr genedlaethol hon. Mae'n anrhydedd mawr i gael ein cydnabod am y gwaith rydym yn ei wneud, ac ni allai dim o hyn fod wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad y Cyngor a'r gymuned leol, yn ogystal â gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y siopau dros dro.

"Rydym yn cydnabod bod llawer o deuluoedd yn cael trafferth prynu gwisgoedd ac roeddem yn awyddus i ddod o hyd i ateb arloesol ac ymarferol i helpu pobl i gael gwisg ysgol am brisiau y gallent eu fforddio.

"Cynigir sesiwn gynghori ddilynol i'r holl deuluoedd sy'n mynychu'r cynllun er mwyn sicrhau bod pawb yn hawlio’r holl fudd-daliadau, credydau a grantiau sydd ar gael iddynt."

Meddai Paul Barnes, Rheolwr Contractau a Pherfformiad Cyngor Sir Ddinbych: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar y fenter arloesol hon, i sicrhau y gall pobl gael gafael ar wasanaethau sy'n eu helpu'n ariannol ac yn ymarferol.

"Mae'r prosiect hwn wedi tyfu o nerth i nerth, gyda mwy o ysgolion yn dod ymlaen bob blwyddyn gan gynnig gwisgoedd ysgol ddiangen o ansawdd uchel a mwy o siopau dros dro yn ymddangos mewn gwahanol gymunedau. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r bartneriaeth ymhellach yn ystod y flwyddyn sydd i ddod a sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosibl yn cael mynediad at y fenter hon sy'n torri tir newydd ".

Cymorth Datblygu Cymunedol Sir Ddinbych

Mae lansiad Cronfa Fferm Wynt Brenig a Chronfa Fferm Wynt Clocaenog wedi creu cyffro mewn cymunedau ar draws y sir sy’n gobeithio gwneud ceisiadau llwyddiannus am gyllid.

Gyda gwerth cyfun o tua £900,000 y flwyddyn, mae’n hawdd deall pam.

Bydd y ddwy gronfa mantais gymunedol newydd yn darparu cyfle gwych i nifer o gymunedau o fewn Sir Ddinbych, yn arbennig rhai o’n hardaloedd mwyaf gwledig.

Yng ngogledd y sir, mae cymunedau eisoes â mynediad at nifer o gronfeydd ffermydd gwynt ar y môr, gyda gwerth cyfun o fwy na £950,000. Mae’r cronfeydd hyn yn cynnwys Cronfa Fferm Wynt Gwynt y Môr, Cronfa Fferm Wynt Burbo Bank, Cronfa Fferm Wynt Gwastadeddau'r Rhyl a Chronfa Fferm Wynt North Hoyle. O’u hystyried ar y cyd â’r rhai newydd a grybwyllwyd uchod, mae’r cronfeydd fferm gwynt yn darparu cyfleoedd cyllid grant cymunedol ar gyfer cyfran sylweddol o Sir Ddinbych.

Gall gymunedau ar draws y sir wneud cais am ystod eang o gronfeydd grant eraill, mae rhai o’r cronfeydd hyn yn rhai ar themâu penodol ac eraill yn fwy hyblyg. Wrth ddatblygu prosiect cymunedol a cheisio am gyllid, mae’n bwysig bod cymunedau’n ystyried holl ddewisiadau cyllido sydd ar gael yn ofalus, a’u bod yn gallu cyflwyno achos cryf i arddangos gwerth eu prosiect. Gall y tîm Datblygu Cymunedol Sir Ddinbych gynorthwyo â hyn:

Gall y Tîm Datblygu Cymunedol gynnig ystod eang o gymorth ac arweiniad i grwpiau ar draws Sir Ddinbych sy’n datblygu eu prosiectau cymunedol eu hunain. Mae hyn yn cynnwys Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Mae’r cymorth a gynigir yn hyblyg i weddu anghenion pob grŵp, ond yn gyffredinol, mae’r tîm yn cynnig arweiniad ar destunau megis argaeledd cyllid, datblygu prosiect a chynllunio cymunedol. Gall y tîm hefyd weithredu fel cyfaill beirniadol, er mwyn helpu i farnu ceisiadau a chynlluniau busnes, a darparu sylwebaeth strategol.

Yn aml, mae’r Tîm Datblygu Cymunedol yn eich atgyfeirio i gysylltiadau allweddol o fewn y Cyngor Sir. Er enghraifft, os ydych angen siarad â rhywun am swyddogaethau’r cyngor, megis cynllunio, parciau, cefnogaeth ar gyfer pobl ddiamddiffyn, datblygu busnes ac ati, gall y tîm eich rhoi chi mewn cyswllt gyda chydweithwyr allweddol yn y cyngor a chydweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus.

Rydym hefyd yn cyfeirio i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, corff aelodaeth ar gyfer y sector wirfoddol a chymunedol yn y Sir. Mae’r Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn darparu cymorth mewn meysydd megis arferion gorau wrth wirfoddoli, canllawiau ar lywodraethu da, gan gynnwys gwiriad iechyd sefydliadol AM DDIM, cyngor ar sut i sefydlu grŵp neu sefydliad a chymorth drwy wefannau Cyllido Cymru a Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych. Lansiodd y Ffair Ariannu Gaeaf y gyfres ddiweddaraf o grantiau cymunedol Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a fydd yn agored i 23ain o Ionawr. Cynhelir eu Ffair Ariannu Gwanwyn ddydd Mercher 25 Mawrth o 10-1pm. Bydd arianwyr wrth law i roi cyngor. I gofrestru eich presenoldeb, dilynwch y ddolen hon bit.ly/SpringFundingFair2020.

Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: communitydevelopment@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch: 01824 706000

I gael rhagor o wybodaeth am argaeledd cyllid a datblygu cymunedol, ymwelwch â’n gwefan cynllunio cymunedol: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preswyliwr/cymunedau-a-byw/community-planning/cynllunio-cymunedol.aspx

I ddarganfod mwy am y cymorth sydd ar gael gan y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, ewch i: https://www.dvsc.co.uk/ neu ffoniwch: 01824 702441

 

Y Cyngor yn penodi cwmni ar gyfer ymgyrch amgylcheddol

Mae'r Cyngor yn ymuno mewn partneriaeth newydd gyda chwmni i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol yn y sir.

Mae District Enforcement yn gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol eraill ar draws y wlad ac maent wedi eu penodi yn Sir Ddinbych i gynorthwyo'r Cyngor i ddelio â materion amgylcheddol, gan ganolbwyntio'n allweddol ar addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o'r materion ynghylch baw cŵn a sbwriel.

Bydd y cwmni'n gweithio'n bennaf mewn ardaloedd lle mae materion allweddol wedi'u nodi a byddant yn weladwy mewn cymunedau. Eu prif orchwyl yw ymgysylltu â chymunedau drwy weithgareddau addysg. Maent yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion a grwpiau cymunedol, yn ogystal â chynorthwyo’r Cyngor i gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth reolaidd.

Mae'n anochel y bydd angen cymryd camau gorfodi a chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, ond nid oes gan drigolion sy'n parchu'r gyfraith unrhyw beth i'w ofni.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd: "Mae trigolion Sir Ddinbych yn dweud wrthym dro ar ôl tro fod materion fel taflu sbwriel a baw cŵn yn fater o bryder. Rydym wedi gwrando ar y preswylwyr ac rydym wedi gwneud hynny'n un o'n prif flaenoriaethau ac rydym wedi bod yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

"Rydym wedi gweld gostyngiad amlwg yn nifer y cwynion sy'n dod i mewn i'r awdurdod yn gyffredinol ac rydym wedi cael ymateb cadarnhaol gan drigolion, ond mae cwynion yn dal i ddod i mewn. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl Sir Ddinbych hefyd yn gwaredu eu sbwriel yn y ffordd gywir ac yn glanhau ar ôl eu cŵn ac rydym yn diolch iddynt am ymddwyn yn gyfrifol.

"Dim ond nifer fach o bobl sy'n credu ei fod yn iawn i sbwriel ein cymunedau. Yn ogystal â bod yn wrthgymdeithasol, mae hefyd yn gwneud i ardal edrych yn hyll ac mae pobl yn dweud ei bod yn effeithio ar ansawdd bywyd. Dyna pam yr ydym o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r broblem, ond yn gwneud hynny'n bennaf o safbwynt addysg.

"Rydym yn cydnabod bod yna ganfyddiad ynglŷn â thimau gorfodi ledled y wlad, ond hoffem ail-adrodd y ffocws pennaf yw cael strydoedd glân a thaclus. Bydd y cwmni'n darparu adroddiadau rheolaidd ar ei waith a bydd yn glynu wrth ganllawiau gofal cwsmer caeth, fel y disgwylid gan unrhyw sefydliad sy'n gweithio gyda'r Cyngor.  

"Does gan y rhai sy'n cydymffurfio â'r gyfraith ddim byd i boeni amdano.

Dywedodd Warren Hodson o District Enforcement: "Yn amlwg byddwn yn mynd i ymgysylltu â'r cyhoedd, eu haddysgu yn ogystal ag addysgu'r effaith y mae baw cŵn a sbwriel yn ei gael ar ein plant. Rydyn ni hefyd yn edrych ar wneud cyflwyniadau i ysgolion cynradd, gan eu haddysgu nhw o oedran ifanc, felly pan fyddan nhw'n tyfu, bydd yna ddiwylliant o wybod beth i'w wneud.

"Mae ein swyddogion wedi'u hyfforddi'n drylwyr mewn gwasanaeth cwsmeriaid ac mae'n bwysig iawn i District Enforcement sut rydym yn siarad â phobl ac rydym bob amser yn tawelu unrhyw sefyllfaoedd. Bydd llawer o ganolbwyntio ar gŵn yn baeddu yn y contract hwn rydyn ni'n edrych ar wneud 16 awr yr wythnos ar gŵn yn baeddu mewn mannau poeth a pharciau cyhoeddus.

Cyn hyn roedd trefniant tebyg yn ei le gyda Kingdom Securities, ond cymerodd y cwmni'r penderfyniad i roi'r gorau i weithredu yn y sir yn 2018.

Dyma Emlyn i ddweud ychydig mwy …..

Amser yn prinhau ar gyfer ceisiadau tocynnau bysiau rhatach

Cofiwch fod angen cyflwyno ceisiadau am docynnau bysiau rhatach erbyn 31 Rhagfyr.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n gweithio gyda chynghorau lleol a Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cardiau Teithio Rhatach newydd erbyn diwedd Rhagfyr 2019.

Bydd y cardiau yma’n dod yn lle’r ‘tocynnau bysiau’ gwyrdd sydd ar draws Cymru ar hyn o bryd. Ni fydd y darllenwyr electronig ar fysiau’n gallu adnabod yr hen gardiau ar ôl 31 Rhagfyr 2019.

Mae’r cardiau newydd yn cynnig yr un hawliau a buddion teithio am ddim â’r tocynnau bysiau ar hyn o bryd. Mae’r cardiau newydd wedi’u bwriadu i weithio fel rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol.    

Mae cyngor a chymorth gyda’r broses ymgeisio hefyd ar gael gan eich Cyngor lleol, Age Cymru a sefydliadau cymunedol eraill. Darganfyddwch ble gallwch chi gael help yn eich ardal leol trwy gysylltu â’n desg gymorth ar cardiauteithio@trc.cymru neu ffonio 0300 303 4240.

Rydym yn annog trigolion i wneud cais ar-lein neu ofyn i ffrind, aelod o’r teulu, neu rywun maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw i wneud cais ar-lein ar eu rhan. 

Mae ffurflenni cais papur ar gael yma neu trwy e-bostio eich manylion cyswllt at cardiauteithio@trc.cymru. Maen nhw hefyd ar gael gan eich Cyngor lleol.

Os ydych chi wedi gwneud cais am gerdyn newydd, gallwn eich sicrhau ein bod ni wedi derbyn eich manylion a’n bod yn prosesu eich cais. Fe fyddwch yn derbyn eich cerdyn newydd cyn 31 Rhagfyr 2019.

Os hoffech chi olrhain eich cais, dewiswch “Fy ngherdyn presennol neu gais”. Bydd gofyn i chi nodi eich Rhif Yswiriant Gwladol, eich dyddiad geni a’ch côd post.  Byddwch yn ymwybodol, gall gymryd hyd at wythnos o’r adeg y gwnaethoch chi ymgeisio hyd nes y byddwch chi’n gallu gweld statws eich cais.

Os ydych chi’n gwybod am bobl sydd wedi ymgeisio ar eich ôl chi ond sydd wedi derbyn eu cardiau newydd yn barod, peidiwch â phoeni. Mae achosion lle bydd hyn yn digwydd oherwydd y ffordd rydym ni’n gwirio ac yn cadarnhau ceisiadau.

Yn y cyfamser, mae eich tocyn bysiau gwyrdd yn ddilys i deithio gydag o tan 31 Rhagfyr 2019.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid