llais y sir

Y Cyngor yn penodi cwmni ar gyfer ymgyrch amgylcheddol

Mae'r Cyngor yn ymuno mewn partneriaeth newydd gyda chwmni i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol yn y sir.

Mae District Enforcement yn gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol eraill ar draws y wlad ac maent wedi eu penodi yn Sir Ddinbych i gynorthwyo'r Cyngor i ddelio â materion amgylcheddol, gan ganolbwyntio'n allweddol ar addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o'r materion ynghylch baw cŵn a sbwriel.

Bydd y cwmni'n gweithio'n bennaf mewn ardaloedd lle mae materion allweddol wedi'u nodi a byddant yn weladwy mewn cymunedau. Eu prif orchwyl yw ymgysylltu â chymunedau drwy weithgareddau addysg. Maent yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion a grwpiau cymunedol, yn ogystal â chynorthwyo’r Cyngor i gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth reolaidd.

Mae'n anochel y bydd angen cymryd camau gorfodi a chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, ond nid oes gan drigolion sy'n parchu'r gyfraith unrhyw beth i'w ofni.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd: "Mae trigolion Sir Ddinbych yn dweud wrthym dro ar ôl tro fod materion fel taflu sbwriel a baw cŵn yn fater o bryder. Rydym wedi gwrando ar y preswylwyr ac rydym wedi gwneud hynny'n un o'n prif flaenoriaethau ac rydym wedi bod yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

"Rydym wedi gweld gostyngiad amlwg yn nifer y cwynion sy'n dod i mewn i'r awdurdod yn gyffredinol ac rydym wedi cael ymateb cadarnhaol gan drigolion, ond mae cwynion yn dal i ddod i mewn. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl Sir Ddinbych hefyd yn gwaredu eu sbwriel yn y ffordd gywir ac yn glanhau ar ôl eu cŵn ac rydym yn diolch iddynt am ymddwyn yn gyfrifol.

"Dim ond nifer fach o bobl sy'n credu ei fod yn iawn i sbwriel ein cymunedau. Yn ogystal â bod yn wrthgymdeithasol, mae hefyd yn gwneud i ardal edrych yn hyll ac mae pobl yn dweud ei bod yn effeithio ar ansawdd bywyd. Dyna pam yr ydym o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r broblem, ond yn gwneud hynny'n bennaf o safbwynt addysg.

"Rydym yn cydnabod bod yna ganfyddiad ynglŷn â thimau gorfodi ledled y wlad, ond hoffem ail-adrodd y ffocws pennaf yw cael strydoedd glân a thaclus. Bydd y cwmni'n darparu adroddiadau rheolaidd ar ei waith a bydd yn glynu wrth ganllawiau gofal cwsmer caeth, fel y disgwylid gan unrhyw sefydliad sy'n gweithio gyda'r Cyngor.  

"Does gan y rhai sy'n cydymffurfio â'r gyfraith ddim byd i boeni amdano.

Dywedodd Warren Hodson o District Enforcement: "Yn amlwg byddwn yn mynd i ymgysylltu â'r cyhoedd, eu haddysgu yn ogystal ag addysgu'r effaith y mae baw cŵn a sbwriel yn ei gael ar ein plant. Rydyn ni hefyd yn edrych ar wneud cyflwyniadau i ysgolion cynradd, gan eu haddysgu nhw o oedran ifanc, felly pan fyddan nhw'n tyfu, bydd yna ddiwylliant o wybod beth i'w wneud.

"Mae ein swyddogion wedi'u hyfforddi'n drylwyr mewn gwasanaeth cwsmeriaid ac mae'n bwysig iawn i District Enforcement sut rydym yn siarad â phobl ac rydym bob amser yn tawelu unrhyw sefyllfaoedd. Bydd llawer o ganolbwyntio ar gŵn yn baeddu yn y contract hwn rydyn ni'n edrych ar wneud 16 awr yr wythnos ar gŵn yn baeddu mewn mannau poeth a pharciau cyhoeddus.

Cyn hyn roedd trefniant tebyg yn ei le gyda Kingdom Securities, ond cymerodd y cwmni'r penderfyniad i roi'r gorau i weithredu yn y sir yn 2018.

Dyma Emlyn i ddweud ychydig mwy …..

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid