llais y sir

Newyddion

Trefniadau'r Cyngor dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gallwch ddarganfod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am drefniadau'r Cyngor dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd ar ein gwefan:

  • Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
  • Casgliadau gwastraff gardd
  • Amseroedd agor parciau ailgylchu
  • Unrhyw ddigwyddiadau sydd ymlaen dros gyfnod y Nadolig
  • Gwybodaeth am y fenter parcio am ddim ar ôl 3
  • Llyfrgelloedd - cofiwch fod ein gwasanaeth llyfrgell ar-lein ar gael 24/7
  • Gwyliau ysgol
  • Amseroedd agor ar gyfer ein hadeiladau/gwasanaethau

Cynllun parcio am ddim

Mae cynllun parcio am ddim y Cyngor wedi dychwelyd dros gyfnod y Nadolig tan 31 Rhagfyr.

Er mwyn annog mwy o bobl i siopa yn eu siopau stryd fawr lleol, bydd modd i bobl barcio am ddim ar ôl 3pm ym meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Bydd y fenter Am Ddim Ar ôl Tri yn gweithredu yn y meysydd parcio canlynol:

  • Corwen: Lon Las
  • Dinbych: Maes Parcio Aml-lawr; Lôn Crown, Factory Ward, Lôn y Post; Stryd y Dyffryn
  • Llangollen: Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd; Heol y Farchnad; Heol y Felin
  • Prestatyn: Stryd Fawr Isaf; Rhodfa’r Brenin; yr Orsaf Drenau
  • Rhuddlan: Stryd y Senedd
  • Y Rhyl: Canolog; Ffordd Morley; Heol y Frenhines; Tŵr Awyr; Stryd Gorllewin Kinmel, Gorsaf Drenau y Rhyl; Llyfrgell y Rhyl (lleoedd parcio i’r anabl yn unig)
  • Rhuthun: Iard Crispin; Dog Lane; Stryd y Farchnad; Heol y Parc; Stryd y Rhos; Sgwâr Sant Pedr; Troed y Rhiw
  • Llanelwy: Lawntiau Bowlio
  • Nid yw maes parcio preifat Neuadd Y Morfa, Y Rhyl yn gynwysedig yn y fenter

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor: “Mae’r fenter parcio Am Ddim ar ôl Tri wedi’i sefydlu ers sawl blwyddyn bellach ac mae’n cyd-fynd â’r ymgyrch barhaus #CaruBusnesauLleol i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r stryd fawr i wneud eu siopa Nadolig.

“Rydym yn hynod falch o allu cynnig y cyfle hwn fel Cyngor eto eleni a gobeithiwn y bydd pobl yn gweld manteision defnyddio meysydd parcio canol y dref ac y byddant yn dychwelyd.

“Mae cyfoeth o siopau a busnesau annibynnol ar gael ledled y sir sy’n cynnig ystod eang o nwyddau a gwasanaethau. Gyda’n menter parcio am ddim ar ôl 3pm, gobeithiwn y bydd mwy o bobl yn dod i mewn i’n prif drefi i weld beth sydd ganddyn nhw i'w gynnig. Rwy’n siŵr na chânt eu siomi.”

Arian ar gael ar gyfer mannau agored ac ardaloedd chwarae yn Sir Ddinbych

Mae cyfanswm o £200,000 o gyllid ar gael i wella mannau agored ac ardaloedd chwarae yn Sir Ddinbych.

Mae Symiau Cymudol Mannau Agored y Cyngor bellach ar agor i gymunedau ar draws y sir.

Taliad yw Symiau Cymudol gan ddatblygwyr i awdurdod lleol pan nad yw'n briodol i ddarparu'r man agored sy'n ofynnol ar gyfer datblygiad. Cedwir y cronfeydd yn benodol i wella mannau agored ac ardaloedd chwarae, a chânt eu defnyddio yn yr un ardal â’r datblygiad.

Mae’r gronfa ar agor i gynghorau tref a chymuned, grwpiau gwirfoddol neu grwpiau gwirfoddol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gyllid yw dydd Gwener, 31 Ionawr, 2020, ac i gael manylion ewch i www.sirddinbych.gov.uk/symiau-cymudol

Gwaith yn dechrau ar ganolfan i entrepreneuriaid

Bydd hen dafarn yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan gydweithio i entrepreneuriaid.

Mae'r Cyngor wedi cael £312,000 trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a gan Lywodraeth Cymru i greu’r swyddfeydd yn hen adeilad Costigans ar Stryd Bodfor, Y Rhyl.

Dechreuodd gwaith ar y safle ar 21 Hydref i greu lle i tua 20 o fusnesau newydd mewn swyddfeydd hyblyg gyda lle i gynnal digwyddiadau a siop goffi ar y safle.

Mae Costigans yn eiddo i’r Cyngor, sydd wedi adnewyddu’r tu allan ar ôl ei brynu yn dilyn difrod a achoswyd gan dân.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Yn rhan o’n gwaith i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer canol tref y Rhyl, bydd yr adeilad yn cael ei droi’n swyddfeydd cydweithio modern efo lle i siop goffi.

“Bydd yn cynnig lle creadigol a hyblyg i weithio gyda band eang cyflym iawn, iawn, i gefnogi ac annog cenhedlaeth newydd o fusnesau bach i sefydlu yng nghanol y dref neu ei ddefnyddio fel eu prif ganolfan.

“Rydyn ni eisiau creu lle i bobl ifanc gymryd eu camau cyntaf fel perchnogion busnes a helpu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i gychwyn. Rydyn ni eisiau cefnogi pob person ifanc i gyflawni eu potensial ac mae’r prosiect yma’n ategu hynny.”

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan y rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Meddai Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol: “Drwy ein rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, rydym yn ymrwymo i sicrhau newid economaidd hirdymor.

“Mae ein cyllid ar gyfer adfywio yn helpu i roi hwb i gyflogaeth leol, yn ogystal â mynd i’r afael â blaenoriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

“Bydd yr hen adeilad eiconig sydd wedi gwasanaethu’r gymuned ers cyhyd yn derbyn gweddnewidiad, ac edrychaf ymlaen at weld y ganolfan hon yn datblygu a thyfu.

“Bydd yn galluogi pobl leol i ddod at ei gilydd a gweithredu fel canolbwynt cymdeithasol y gymuned a denu cenhedlaeth newydd o fusnesau bychain i ganol y dref.”

Bydd y Cyngor yn chwilio am denant i gymryd yr adeilad a rhedeg y swyddfeydd.

Mae’r prosiect yn rhan o’r ddogfen sy’n nodi’r Weledigaeth ar gyfer y Rhyl, sy’n ceisio helpu i greu cyfleoedd i’r gymuned leol siapio eu tref a datblygu uchelgais, gan ddod â busnesau newydd a chwsmeriaid i ganol y dref.

Tai fforddiadwy yn cynyddu yn Sir Ddinbych

Roedd traean y tai a ddarparwyd yn Sir Ddinbych dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dai fforddiadwy.

Ers 2017 mae 30% o'r tai sydd wedi eu darparu yn y sir wedi eu dosbarthu fel rhai fforddiadwy ac maent yn cynnwys tai newydd, tai gwag sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd a chyn dai cyngor sydd wedi eu hail brynu, sy'n gyfanswm o 154 o dai fforddiadwy.

Mae'r Cyngor wedi addo cefnogi datblygu 1000 o dai newydd yn Sir Ddinbych rhwng 2017 a 2022 gyda 260 o’r rhain wedi eu dynodi fel tai fforddiadwy a 170 fel tai cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Roedd y cyngor yn gweld angen i sicrhau fod tai ar gael i ddiwallu anghenion preswylwyr Sir Ddinbych. Fe wnaethom ni dai yn flaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol ac rydym yn cyflawni ein haddewid i ddarparu ystod eang o lety i weddu i anghenion gwahanol ac mae tai fforddiadwy yn rhan bwysig o hyn.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda datblygwyr ac mewn partneriaeth gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau fod y galw yn y sir yn cael ei ddiwallu.

“Drwy adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi digwydd rydym yn disgwyl cynnydd yn lefel y tai fforddiadwy sy’n cael eu cwblhau dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae darparu mwy o dai a mwy o dai fforddiadwy yn benodol ar draws ein cymunedau yn rhan o’n gwaith i sicrhau ein bod yn cadw mwy o bobl ifanc yn y sir.

“Mae hyn hefyd yn rhan o’n hymdrechion i atal digartrefedd a darparu mwy o opsiynau i sicrhau llety hirdymor, cynaliadwy i’r rhai sy’n anffodus wedi canfod eu hunain yn ddigartref.”

Yn ogystal ag eiddo sydd wedi eu hadeiladu yn barod, mae yna 60 o unedau tai fforddiadwy ar hyn o bryd ar safleoedd cymysg sydd yn y broses o gael eu hadeiladu yn Rhewl, Rhuddlan, Llangollen, Rhyl, Llanfair DC a Dyserth.

Mae disgwyl i 156 o unedau eraill ar safleoedd lle mae’r cyfanswm o dai fforddiadwy yn 100% i gael eu cwblhau erbyn 2020, gan gynnwys safleoedd yn Nhrefnant a’r Rhyl.

Ymhlith y safleoedd gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer tai cyngor newydd mae safle cyn Ysgol Bodnant, Prestatyn a The Dell, Prestatyn ac mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer 22 o dai newydd ger Tan y Sgubor, Dinbych Uchaf.

Mae’r holl dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu i'r safon uchaf o ran effeithlonrwydd ynni.

Hefyd, mae eiddo ar Ffordd Brighton, Y Rhyl wedi ei adnewyddu gan y Cyngor i greu tri rhandy newydd.

Partneriaeth cynllun ailgylchu gwisg ysgol yn ennill gwobr anrhydedd genedlaethol

Mae prosiect llwyddiannus yn Sir Ddinbych i ailgylchu gwisg ysgol a chefnogi teuluoedd yn y sir wedi sicrhau bod Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych wedi derbyn anrhydedd cenedlaethol.

Fe wnaethant ennill y wobr Partneriaeth Orau 2019 yng nghynhadledd genedlaethol Cyngor ar Bopeth, i gydnabod y gwaith a wnaed gyda Chyngor Sir Ddinbych a chymunedau lleol.

Mae'r prosiect yn rhoi cyfle i rieni gynnig unrhyw wisg ysgol nad oes ei angen bellach ac mewn cyflwr da,  fel y gellir ei hailgylchu a'i darparu i deuluoedd eraill am ddim neu am rodd mewn siop ailgylchu (mae’r rhoddion yn helpu i dalu am y gost o olchi'r gwisgoedd). Mae nifer o ysgolion wedi cymryd rhan yn y cynllun ers ei lansio yn 2017. Mae'r gwisgoedd hyn wedi'u gwerthu mewn siopau dros dro gafodd eu lleoli mewn nifer o'r prif drefi yn Sir Ddinbych.

Cefnogwyd y cynllun hefyd gan Gyngor Tref Dinbych a Chyngor Tref y Rhyl a'r sefydliad cymunedol yng Nghymru. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych hefyd wedi darparu talebau ar gyfer gwisgoedd ysgol i deuluoedd incwm isel, nad ydynt yn gymwys i gael y grant gwisg ysgol, ar gyfer plant yn ysgol uwchradd Dinbych ac Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl.

Dywedodd Lesley Powell, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych: "Roeddem yn falch iawn o gael y wobr genedlaethol hon. Mae'n anrhydedd mawr i gael ein cydnabod am y gwaith rydym yn ei wneud, ac ni allai dim o hyn fod wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad y Cyngor a'r gymuned leol, yn ogystal â gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y siopau dros dro.

"Rydym yn cydnabod bod llawer o deuluoedd yn cael trafferth prynu gwisgoedd ac roeddem yn awyddus i ddod o hyd i ateb arloesol ac ymarferol i helpu pobl i gael gwisg ysgol am brisiau y gallent eu fforddio.

"Cynigir sesiwn gynghori ddilynol i'r holl deuluoedd sy'n mynychu'r cynllun er mwyn sicrhau bod pawb yn hawlio’r holl fudd-daliadau, credydau a grantiau sydd ar gael iddynt."

Meddai Paul Barnes, Rheolwr Contractau a Pherfformiad Cyngor Sir Ddinbych: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar y fenter arloesol hon, i sicrhau y gall pobl gael gafael ar wasanaethau sy'n eu helpu'n ariannol ac yn ymarferol.

"Mae'r prosiect hwn wedi tyfu o nerth i nerth, gyda mwy o ysgolion yn dod ymlaen bob blwyddyn gan gynnig gwisgoedd ysgol ddiangen o ansawdd uchel a mwy o siopau dros dro yn ymddangos mewn gwahanol gymunedau. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r bartneriaeth ymhellach yn ystod y flwyddyn sydd i ddod a sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosibl yn cael mynediad at y fenter hon sy'n torri tir newydd ".

Cymorth Datblygu Cymunedol Sir Ddinbych

Mae lansiad Cronfa Fferm Wynt Brenig a Chronfa Fferm Wynt Clocaenog wedi creu cyffro mewn cymunedau ar draws y sir sy’n gobeithio gwneud ceisiadau llwyddiannus am gyllid.

Gyda gwerth cyfun o tua £900,000 y flwyddyn, mae’n hawdd deall pam.

Bydd y ddwy gronfa mantais gymunedol newydd yn darparu cyfle gwych i nifer o gymunedau o fewn Sir Ddinbych, yn arbennig rhai o’n hardaloedd mwyaf gwledig.

Yng ngogledd y sir, mae cymunedau eisoes â mynediad at nifer o gronfeydd ffermydd gwynt ar y môr, gyda gwerth cyfun o fwy na £950,000. Mae’r cronfeydd hyn yn cynnwys Cronfa Fferm Wynt Gwynt y Môr, Cronfa Fferm Wynt Burbo Bank, Cronfa Fferm Wynt Gwastadeddau'r Rhyl a Chronfa Fferm Wynt North Hoyle. O’u hystyried ar y cyd â’r rhai newydd a grybwyllwyd uchod, mae’r cronfeydd fferm gwynt yn darparu cyfleoedd cyllid grant cymunedol ar gyfer cyfran sylweddol o Sir Ddinbych.

Gall gymunedau ar draws y sir wneud cais am ystod eang o gronfeydd grant eraill, mae rhai o’r cronfeydd hyn yn rhai ar themâu penodol ac eraill yn fwy hyblyg. Wrth ddatblygu prosiect cymunedol a cheisio am gyllid, mae’n bwysig bod cymunedau’n ystyried holl ddewisiadau cyllido sydd ar gael yn ofalus, a’u bod yn gallu cyflwyno achos cryf i arddangos gwerth eu prosiect. Gall y tîm Datblygu Cymunedol Sir Ddinbych gynorthwyo â hyn:

Gall y Tîm Datblygu Cymunedol gynnig ystod eang o gymorth ac arweiniad i grwpiau ar draws Sir Ddinbych sy’n datblygu eu prosiectau cymunedol eu hunain. Mae hyn yn cynnwys Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Mae’r cymorth a gynigir yn hyblyg i weddu anghenion pob grŵp, ond yn gyffredinol, mae’r tîm yn cynnig arweiniad ar destunau megis argaeledd cyllid, datblygu prosiect a chynllunio cymunedol. Gall y tîm hefyd weithredu fel cyfaill beirniadol, er mwyn helpu i farnu ceisiadau a chynlluniau busnes, a darparu sylwebaeth strategol.

Yn aml, mae’r Tîm Datblygu Cymunedol yn eich atgyfeirio i gysylltiadau allweddol o fewn y Cyngor Sir. Er enghraifft, os ydych angen siarad â rhywun am swyddogaethau’r cyngor, megis cynllunio, parciau, cefnogaeth ar gyfer pobl ddiamddiffyn, datblygu busnes ac ati, gall y tîm eich rhoi chi mewn cyswllt gyda chydweithwyr allweddol yn y cyngor a chydweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus.

Rydym hefyd yn cyfeirio i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, corff aelodaeth ar gyfer y sector wirfoddol a chymunedol yn y Sir. Mae’r Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn darparu cymorth mewn meysydd megis arferion gorau wrth wirfoddoli, canllawiau ar lywodraethu da, gan gynnwys gwiriad iechyd sefydliadol AM DDIM, cyngor ar sut i sefydlu grŵp neu sefydliad a chymorth drwy wefannau Cyllido Cymru a Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych. Lansiodd y Ffair Ariannu Gaeaf y gyfres ddiweddaraf o grantiau cymunedol Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a fydd yn agored i 23ain o Ionawr. Cynhelir eu Ffair Ariannu Gwanwyn ddydd Mercher 25 Mawrth o 10-1pm. Bydd arianwyr wrth law i roi cyngor. I gofrestru eich presenoldeb, dilynwch y ddolen hon bit.ly/SpringFundingFair2020.

Os hoffech gefnogaeth i ddatblygu prosiect cymunedol neu syniad, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol drwy e-bost: communitydevelopment@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch: 01824 706000

I gael rhagor o wybodaeth am argaeledd cyllid a datblygu cymunedol, ymwelwch â’n gwefan cynllunio cymunedol: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preswyliwr/cymunedau-a-byw/community-planning/cynllunio-cymunedol.aspx

I ddarganfod mwy am y cymorth sydd ar gael gan y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, ewch i: https://www.dvsc.co.uk/ neu ffoniwch: 01824 702441

 

Y Cyngor yn penodi cwmni ar gyfer ymgyrch amgylcheddol

Mae'r Cyngor yn ymuno mewn partneriaeth newydd gyda chwmni i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol yn y sir.

Mae District Enforcement yn gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol eraill ar draws y wlad ac maent wedi eu penodi yn Sir Ddinbych i gynorthwyo'r Cyngor i ddelio â materion amgylcheddol, gan ganolbwyntio'n allweddol ar addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o'r materion ynghylch baw cŵn a sbwriel.

Bydd y cwmni'n gweithio'n bennaf mewn ardaloedd lle mae materion allweddol wedi'u nodi a byddant yn weladwy mewn cymunedau. Eu prif orchwyl yw ymgysylltu â chymunedau drwy weithgareddau addysg. Maent yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion a grwpiau cymunedol, yn ogystal â chynorthwyo’r Cyngor i gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth reolaidd.

Mae'n anochel y bydd angen cymryd camau gorfodi a chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, ond nid oes gan drigolion sy'n parchu'r gyfraith unrhyw beth i'w ofni.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd: "Mae trigolion Sir Ddinbych yn dweud wrthym dro ar ôl tro fod materion fel taflu sbwriel a baw cŵn yn fater o bryder. Rydym wedi gwrando ar y preswylwyr ac rydym wedi gwneud hynny'n un o'n prif flaenoriaethau ac rydym wedi bod yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

"Rydym wedi gweld gostyngiad amlwg yn nifer y cwynion sy'n dod i mewn i'r awdurdod yn gyffredinol ac rydym wedi cael ymateb cadarnhaol gan drigolion, ond mae cwynion yn dal i ddod i mewn. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl Sir Ddinbych hefyd yn gwaredu eu sbwriel yn y ffordd gywir ac yn glanhau ar ôl eu cŵn ac rydym yn diolch iddynt am ymddwyn yn gyfrifol.

"Dim ond nifer fach o bobl sy'n credu ei fod yn iawn i sbwriel ein cymunedau. Yn ogystal â bod yn wrthgymdeithasol, mae hefyd yn gwneud i ardal edrych yn hyll ac mae pobl yn dweud ei bod yn effeithio ar ansawdd bywyd. Dyna pam yr ydym o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â'r broblem, ond yn gwneud hynny'n bennaf o safbwynt addysg.

"Rydym yn cydnabod bod yna ganfyddiad ynglŷn â thimau gorfodi ledled y wlad, ond hoffem ail-adrodd y ffocws pennaf yw cael strydoedd glân a thaclus. Bydd y cwmni'n darparu adroddiadau rheolaidd ar ei waith a bydd yn glynu wrth ganllawiau gofal cwsmer caeth, fel y disgwylid gan unrhyw sefydliad sy'n gweithio gyda'r Cyngor.  

"Does gan y rhai sy'n cydymffurfio â'r gyfraith ddim byd i boeni amdano.

Dywedodd Warren Hodson o District Enforcement: "Yn amlwg byddwn yn mynd i ymgysylltu â'r cyhoedd, eu haddysgu yn ogystal ag addysgu'r effaith y mae baw cŵn a sbwriel yn ei gael ar ein plant. Rydyn ni hefyd yn edrych ar wneud cyflwyniadau i ysgolion cynradd, gan eu haddysgu nhw o oedran ifanc, felly pan fyddan nhw'n tyfu, bydd yna ddiwylliant o wybod beth i'w wneud.

"Mae ein swyddogion wedi'u hyfforddi'n drylwyr mewn gwasanaeth cwsmeriaid ac mae'n bwysig iawn i District Enforcement sut rydym yn siarad â phobl ac rydym bob amser yn tawelu unrhyw sefyllfaoedd. Bydd llawer o ganolbwyntio ar gŵn yn baeddu yn y contract hwn rydyn ni'n edrych ar wneud 16 awr yr wythnos ar gŵn yn baeddu mewn mannau poeth a pharciau cyhoeddus.

Cyn hyn roedd trefniant tebyg yn ei le gyda Kingdom Securities, ond cymerodd y cwmni'r penderfyniad i roi'r gorau i weithredu yn y sir yn 2018.

Dyma Emlyn i ddweud ychydig mwy …..

Amser yn prinhau ar gyfer ceisiadau tocynnau bysiau rhatach

Cofiwch fod angen cyflwyno ceisiadau am docynnau bysiau rhatach erbyn 31 Rhagfyr.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n gweithio gyda chynghorau lleol a Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cardiau Teithio Rhatach newydd erbyn diwedd Rhagfyr 2019.

Bydd y cardiau yma’n dod yn lle’r ‘tocynnau bysiau’ gwyrdd sydd ar draws Cymru ar hyn o bryd. Ni fydd y darllenwyr electronig ar fysiau’n gallu adnabod yr hen gardiau ar ôl 31 Rhagfyr 2019.

Mae’r cardiau newydd yn cynnig yr un hawliau a buddion teithio am ddim â’r tocynnau bysiau ar hyn o bryd. Mae’r cardiau newydd wedi’u bwriadu i weithio fel rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol.    

Mae cyngor a chymorth gyda’r broses ymgeisio hefyd ar gael gan eich Cyngor lleol, Age Cymru a sefydliadau cymunedol eraill. Darganfyddwch ble gallwch chi gael help yn eich ardal leol trwy gysylltu â’n desg gymorth ar cardiauteithio@trc.cymru neu ffonio 0300 303 4240.

Rydym yn annog trigolion i wneud cais ar-lein neu ofyn i ffrind, aelod o’r teulu, neu rywun maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw i wneud cais ar-lein ar eu rhan. 

Mae ffurflenni cais papur ar gael yma neu trwy e-bostio eich manylion cyswllt at cardiauteithio@trc.cymru. Maen nhw hefyd ar gael gan eich Cyngor lleol.

Os ydych chi wedi gwneud cais am gerdyn newydd, gallwn eich sicrhau ein bod ni wedi derbyn eich manylion a’n bod yn prosesu eich cais. Fe fyddwch yn derbyn eich cerdyn newydd cyn 31 Rhagfyr 2019.

Os hoffech chi olrhain eich cais, dewiswch “Fy ngherdyn presennol neu gais”. Bydd gofyn i chi nodi eich Rhif Yswiriant Gwladol, eich dyddiad geni a’ch côd post.  Byddwch yn ymwybodol, gall gymryd hyd at wythnos o’r adeg y gwnaethoch chi ymgeisio hyd nes y byddwch chi’n gallu gweld statws eich cais.

Os ydych chi’n gwybod am bobl sydd wedi ymgeisio ar eich ôl chi ond sydd wedi derbyn eu cardiau newydd yn barod, peidiwch â phoeni. Mae achosion lle bydd hyn yn digwydd oherwydd y ffordd rydym ni’n gwirio ac yn cadarnhau ceisiadau.

Yn y cyfamser, mae eich tocyn bysiau gwyrdd yn ddilys i deithio gydag o tan 31 Rhagfyr 2019.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Gwastraff ac Ailgylchu

Gorsaf trosglwyddo gwastraff ac ailgylchu arfaethedig

Cynhaliwyd ymgynghoriad yn ddiweddar ar gynlluniau i gael cyfleuster trosglwyddo gwastraff ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych.

Mae gan y Cyngor ddau ddepo gwastraff ac ailgylchu ar hyn o bryd yn Rhuthun a Pharc Cinmel ym Modelwyddan, ond mae’r ddau gyfleuster yn hen ac mae angen llawer o fuddsoddiad a gwaith gwella mawr.

Erbyn hyn, rydym eisiau darparu lleoliad canolog i’r Cyngor gasglu gwastraff ac ailgylchu a fydd yn galluogi i ni ddidoli eitemau ailgylchadwy.

Mae’r datblygiad yn ffurfio rhan o ddatblygiad mwy ar yr ystâd ddiwydiannol sy’n cael ei gynnig gan gonsortiwm sydd yn cynnwys y Cyngor, Yard Space Wales Ltd, Henllan Bread, Lock Stock ac Emyr Evans. Dan y cynnig byddai’r cwmnïau yma’n ymestyn eu busnesau ar yr ystâd ac yn darparu unedau ychwanegol i gefnogi busnesau presennol a rhai newydd. Bydd y ddatblygiad yn fuddsoddiad sylweddol yn yr Ystâd ac mae’n cynnig posibilrwydd o greu nifer fawr o swyddi.

Yn amodol ar gymeradwyaeth, rydym yn disgwyl cychwyn gweithio ar y safle yn gynnar yn haf 2020 gyda’r bwriad o fod â depo gweithredol erbyn mis Medi 2021.

Mae’r cyfleuster arfaethedig yn ffurfio rhan fawr o’r modd y mae’r Cyngor yn bwriadu darparu a rheoli newidiadau sylweddol i’w gasgliadau gwastraff ac ailgylchu ar draws y Sir. Disgwylir y bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno yn y sir mewn dwy flynedd.

Trwy sefydlu cyfleuster trosglwyddo gwastraff, bydd modd i ni foderneiddio’r gwasanaeth a sicrhau ailgylchu o ansawdd gwell a fydd yn helpu i dalu am gasglu gwastraff gan breswylwyr yn y dyfodol. Mae’n golygu y gallwn wneud y gwaith o wahanu’r ailgylchu a beilio deunyddiau ein hunain heb orfod talu am gwmni allanol i wneud y gwaith.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gael trwydded ar gyfer y cyfleuster. Byddem yn sicrhau fod y cyfleuster wedi’i reoli’n dda, yn cael ei gadw’n lân ac yn cadw’r arogl o fewn y cyfleuster.

Cynllun prawf o ficro-sglodynnu ar waith ar draws y Sir

Mae dros 650 eiddo yn y Sir wedi bod yn rhan o gynllun treialu lle gosodwyd microsgoldion ar gadis gwastraff bwyd.

Bob wythnos, mae’r Cyngor yn casglu gwastraff bwyd trwy’r system casglu cadi oren.  Mae’r gwastraff bwyd y mae Sir Ddinbych yn ei gasglu yn cael ei ddanfon i gyfleuster compostio anaerobig ger Llanelwy ac yn cael ei droi i wrteithiwr pridd defnyddiol i ffermwyr gogledd Cymru.  Mae’r broses hefyd yn cynhyrchu ynni gwyrdd i tua 2000 o gartrefi.

Mae’r cynllun treialu ar waith mewn pedair cymuned (mewn rhannau o Gorwen, Rhuthun, Prestatyn a’r Rhyl) ac mae’n rhan o ymgyrch y Cyngor i wella cyfraddau ailgylchu, cyn i newidiadau mawr i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y Sir ddod i rym yn 2021.

Trwy’r wybodaeth a gesglir bydd modd i’r Cyngor gael gwybod pa eiddo sydd wedi rhoi eu cadi allan neu beidio.   Bydd yn helpu’r Cyngor i gasglu data monitro yn gyflym ac yn effeithlon, ac yn eu galluogi i ymweld â phobl nad ydynt yn defnyddio’r system cadi oren dros gyfnod hir a chynnig cymorth i’w hannog i ailgylchu.  Mae’r Cyngor eisoes yn casglu’r wybodaeth hon â llaw ond mae’n cymryd amser a thrwy ryddhau’r amser yma, gallai staff siarad gyda phobl sydd angen rhagor o gefnogaeth i ailgylchu. Gall yr wybodaeth rydym yn ei chael â llaw fod yn anghywir gan nad yw hi’n bosibl bob tro i wybod i ba eiddo y mae’r cadi’n perthyn.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda chwmni o’r enw Schaefer sydd wedi datblygu’r feddalwedd ac sydd wedi cynnig y cyfnod prawf yn rhad ac am ddim er mwyn i’r Cyngor archwilio manteision y system newydd a chael dealltwriaeth o’r adborth gan breswylwyr, yn ogystal â gweld pa mor dda yw’r feddalwedd. 

Os bydd y system yn ein helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu, bydd y Cyngor yn ystyried ymestyn yr ardaloedd treialu ym mis Ionawr.

Dywedodd Tony Ward, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Sir Ddinbych: “Er bod Sir Ddinbych ymhlith yr uchaf o ran yr ailgylchwyr gorau yn y DU, gwastraff bwyd yw chwarter y gwastraff a deflir yn ein biniau du.  Er mwyn cyrraedd ein targedau ailgylchu sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn ailgylchu’r gwastraff bwyd, nid ei daflu.

“Dros y 6 mis nesaf rydym yn lansio amrywiaeth o brosiectau er mwyn cael pobl i ailgylchu gwastraff bwyd am y tro cyntaf, yn ogystal ag annog rhai sydd eisoes yn ailgylchu i ailgylchu mwy.

“Bydd y prosiect yma yn torri tir newydd a byddwn yn dilyn canlyniadau’r fenter hon yn frwd, er mwyn gweld os bydd yn gwneud gwahaniaeth i gyfraddau ailgylchu ac ymateb y cyhoedd i’r cynllun”. 

Bydd tîm ailgylchu’r Cyngor i’w gweld yn y cymunedau dros yr wythnosau nesaf er mwyn siarad â phreswylwyr. Bydd y preswylwyr sydd yn byw yn yr ardaloedd treialu wedi derbyn llythyr yn eu hysbysu pryd fydd y tîm ailgylchu ar gael.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Edrych ymlaen at wasanaeth llyfrgell Sir Ddinbych

Mae llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych ymysg y rhai sy'n perfformio orau yng Nghymru gyfan, gyda'r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau yn darparu gwasanaethau gwerth am arian da i drigolion lleol.

Mae'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn Strategaeth Llyfrgell newydd sbon Sir Ddinbych, yn dangos:

  • Cymerodd 29.5% o blant 4-12 oed yn Sir Ddinbych ran yn her ddarllen yr haf yn 2019 (1af yng Nghymru)
  • Cafodd 41,225 o bobl gymorth i'w defnyddio ac i fynd ar-lein (1af yng Nghymru)
  • Mae 19.2% o boblogaeth Sir Ddinbych yn aelodau o'r gwasanaeth llyfrgell (y ganran uchaf yng Ngogledd Cymru a'r 5ed uchaf yng Nghymru)
  • 125,454 o ymweliadau rhithwir â'r wefan (6ed yng Nghymru)
  • 401,234 o ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd (8fed yng Nghymru)

Ffeithiau eraill:

  • Benthyciwyd 356,050 o eitemau (gan gynnwys lawrlwythiadau digidol)
  • Defnyddiwyd cyfrifiaduron 53,691 o weithiau
  • Daeth 51,192 o bobl i 4,414 o weithgareddau

Mae'r Cyngor wedi buddsoddi dros £1 miliwn mewn adnewyddu llyfrgelloedd yn Ninbych, Llanelwy, Rhuddlan a'r Rhyl ac mae i hyn fanteision ehangach i'r economi leol.  Cyfartaledd gwariant defnyddwyr llyfrgell mewn siopau a chaffis lleol yw £8.07-Cyfrifir hyn drwy ddefnyddio canfyddiadau astudiaeth a gomisiynwyd gan Gynghrair Amgueddfeydd Archifau Llyfrgelloedd. Yn seiliedig ar hyn, mae'r cyfraniad y mae gwasanaeth llyfrgell Sir Ddinbych yn ei wneud i'r economi stryd fawr leol bron deirgwaith cymaint â chost y gwasanaeth.

Erbyn hyn mae'r Cyngor yn amlinellu sut y mae'n bwriadu datblygu'r gwasanaeth llyfrgell dros y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn golygu edrych ar ffyrdd o foderneiddio llyfrgelloedd nad ydynt wedi cael eu hadnewyddu ers dros 10 mlynedd; cryfhau gweithio mewn partneriaeth i gynnal llyfrgelloedd yn ein cymunedau; rheoli'r casgliadau o lyfrau i alluogi cwsmeriaid i gael gafael ar stoc yn eang;  datblygu gwasanaethau digidol drwy farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol; hyrwyddo cyfleusterau TG i gael gafael ar wasanaethau'r Cyngor ac edrych ar ffyrdd amgen o hyrwyddo'r hyn sydd gan y llyfrgelloedd i'w gynnig.

Meddai Liz Grieve, Pennaeth Cymunedau a Chwsmeriaid: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'n llyfrgelloedd.  Ein llyfrgelloedd yw'r calonnau sy'n curo yn ein cymuned.  Maent yn rhoi cyfleoedd i bobl wella eu lles, eu dysgu a'u ffyniant drwy ddarparu mynediad i'r sgiliau darllen a llythrennedd a'r adnoddau y mae pobl eu heisiau a'u hangen. 

"Yn ogystal â rhoi benthyg llyfrau, mae llyfrgelloedd yn darparu mynediad at wybodaeth drwy lyfrau printiedig, yn ddigidol drwy fynediad am ddim i gyfrifiaduron a thrwy gyswllt dynol gyda'n Llyfrgell a'n timau siop un stop.

"Mae'r gwasanaeth wedi mynd o nerth i nerth ac rydym yn falch iawn o barhau i fuddsoddi mewn llyfrgelloedd gan ein bod yn gweld gwir fudd llyfrgelloedd ar fywydau pobl.

"Nawr rydyn ni'n edrych i'r dyfodol ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gafael ar adnoddau a gwybodaeth ar gyfer eu hiechyd a'u lles; teimlo wedi'u cyfoethogi trwy ddarllen; gallu cael gwasanaethau yn ddigidol a chymryd rhan mewn diwylliant lleol bywiog ".

Twristiaeth

Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych

Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych - Lansio Modiwl Celfyddydau

Rydym yn falch o gyhoeddi bod 9fed modiwl wedi cael ei lansio o Gynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych.

Teitl y modiwl newydd sbon yw ‘Celfyddydau yn Sir Ddinbych’ ac mae’n cynnwys adrannau ar -

  • Celfyddydau yn Sir Ddinbych: Cyflwyniad
  • Gwyliau Diwylliannol o Bwys
  • Celf a Chrefft
  • Cerddoriaeth
  • Theatr, Ffilm ac Adrodd Storïau

Beth yw Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych?

Mae’r cynllun am ddim hwn wedi'i lunio i wella profiad ymwelwyr a phobl lleol ar gyfer bobl sy’n gweithio yn y maes twristiaeth, yn gweithio gydag ymwelwyr, yn byw neu’n astudio yn yr ardal.

Mae cyfres o fodiwlau hyfforddiant rhyngweithiol, ar lein am ddim, gyda phosau wedi eu llunio ar amrywiol themâu fel trefi a dinas Sir Ddinbych, cerdded, beicio, hanes, arfordir, Safle Treftadaeth y Byd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig. 

Mae yna 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur yn dibynnu ar faint o fodiwlau a gwblhawyd.  Bydd bob unigolyn yn derbyn tystysgrif, bathodyn a sticeri ffenestr ar ôl cwblhau’r gwobrau. Mae yna hefyd adnoddau ar-lein i lawrlwytho dogfennau cysylltiol, brandio a chysylltiadau i wefannau perthnasol. 

Bod yn Lysgennad Twristiaeth - ewch i'w gwefan am fwy o wybodaeth.

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

Hoffech chi glywed y newyddion diweddaraf am dwristiaeth yn Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru?

Os felly, mae cofrestru yn syml a hawdd.  Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth.

 

Sir Ddinbych yn Gweithio

Gadewch i ni ddweud wrthych am Julie Bradley

Mae Julie Bradley, sydd â 12 o wyrion ac wyresau, yn hen law ar ofalu am bobl.

Dechreuodd Julie ei gyrfa fel gwniadwraig hunanddysgedig, ac fe roddodd hi’r gorau i'w gwaith i fagu ei phlant cyn symud i'r Rhyl ym 1994.

Wrth i’w phlant fynd yn hŷn, penderfynodd Julie ddychwelyd i’r gwaith a dechreuodd drwy dreulio cyfnod yn gwirfoddoli yn siop YMCA’r Rhyl. Ond bu Julie’n dioddef â sawl cyflwr iechyd, gan gynnwys ffibromyalgia, problemau â’r galon a heintiau, a golygodd hyn nad oedd hi'n gallu gweithio ac felly roedd hi’n ddi-waith am 13 mlynedd.

“Roeddwn i wirioneddol eisiau gweithio,” meddai Julie, “ond roedd magu fy mhlant a’m problemau iechyd parhaus yn golygu fy mod wedi gorfod treulio llawer o amser yn ddi-waith. Pan ddechreuais i weithio, y cwbl yr oedd angen ei wneud oedd curo ar ddrws ffactri a gofyn am swyddi gwag. Erbyn imi ddychwelyd i’r gwaith, roedd popeth wedi newid a doeddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau."

Yn ystod ffair swyddi yn Neuadd y Dref y Rhyl, fe ddaeth Julie ar draws Sir Ddinbych yn Gweithio ac roedd pethau’n dechrau edrych yn well ar ôl hynny. Gweithiodd Julie gyda'r mentor Cerian Asplet - Phoenix, a dechreuodd gymryd y camau cyntaf tuag at gyflogaeth.

Gweithiodd Cerian gyda Julie i benderfynu ar y math o waith fyddai o ddiddordeb iddi, ysgrifennu CV newydd a'i helpu i ddod o hyd i swyddi. Fe wnaeth Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd helpu Julie drwy ddarparu dillad ar gyfer cyfweliadau.

Meddai Cerian: “Mae Julie wedi bod yn ddi-waith ers cryn dipyn o amser bellach, felly roedd yn bwysig ei helpu i fagu hyder a'i rhoi hi ar y trywydd cywir. Weithiau, mae ein cymorth yn golygu llawer mwy na dod o hyd i swydd, mae'n ymwneud â darparu’r cyfarpar hanfodol er mwyn i bobl allu symud ymlaen. Mae Julie’n cyflwyno ei hun yn dda mewn cyfweliadau, ond roedd arni hi angen cymorth i agor y drysau yn y lle cyntaf. Roeddem ni’n gwybod ar ôl treulio amser â Julie ei bod hi'n awyddus i gael swydd yn gofalu am bobl."

Fe ddaeth Julie o hyd i swydd wag yn Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan, yn darparu gwasanaethau manwerthu ar draws y wardiau.

Dewiswyd Julie ar gyfer y cyfweliadau, ac mae hi bellach wedi ymuno â thîm yr ysbyty, yn gwerthu lluniaeth a nwyddau eraill i gleifion. I Julie, sydd wedi astudio astudiaethau busnes yng Ngholeg y Rhyl, dyma oedd ei swydd ddelfrydol.

“Fe wnaeth fy hen nain fyw nes yr oedd hi’n 94 oed ac roeddwn i’n gwrando ar ei straeon ac yn helpu o gwmpas y tŷ. Gwelais yr hysbyseb ar gyfer y swydd yn yr ysbyty ac roeddwn i’n gwybod mai dyma’r swydd ddelfrydol i mi. Rwyf wrth fy modd yn helpu ac yn gofalu am bobl. Rwyf bellach yn fy swydd ddelfrydol ac rwy'n hyfforddi gwirfoddolwyr eraill sy'n gweithio gyda mi ar y wardiau. Mae fy oriau wedi cynyddu hefyd.

“Ni fydd fy mhroblemau iechyd yn diflannu, ond rwy’n gallu eu rheoli mewn modd sy’n gweithio imi. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb Sir Ddinbych yn Gweithio. Nid oeddwn i’n gwybod sut i chwilio am swydd na sut i wneud cais. Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi bod yn hollbwysig imi, er fy mod i bellach mewn cyflogaeth, rwy'n gwybod bod croeso imi gysylltu â nhw os oes arnaf angen unrhyw beth. Nid ydynt yn beirniadu, maent yn y cynnig cymorth, ac ni allaf ddiolch digon i Cerian am hynny” meddai Julie. 

Gyrfa Ffeiriau

Trefnodd a chynhaliodd Sir Ddinbych yn Gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru ffeiriau gyrfa Barod am Waith yng Nghanolfan Hamdden Dinbych a The Nova ym Mhrestatyn. Gwahoddwyd a chefnogwyd myfyrwyr o flwyddyn 9 yn yr Ysgolion Uwchradd lleol i fynychu'r digwyddiadau a roddodd gyfle iddynt siarad â darpar gyflogwyr, archwilio amrywiaeth o opsiynau gyrfa ac ymgysylltu â phobl sy'n gweithio mewn gwahanol ddiwydiannau i gael mewnwelediad i'r hyn mae'r rôl yn cynnwys. Cawsom 69 o gyflogwyr a darparwyr yn mynychu'r digwyddiadau gan gynnig dewis eang o sectorau i helpu i gyfoethogi'r profiad i fyfyrwyr a'u hymestyn y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol.

Roedd y ffeiriau gyrfaoedd eleni yn rhyngweithiol iawn ac roedd myfyrwyr yn gallu siarad â gwahanol gyflogwyr a darparwyr gan gynnwys colegau lleol, Prifysgolion, cyflogwyr a busnesau lleol, entrepreneuriaid, y lluoedd arfog, y GIG, gwasanaethau cyhoeddus a darparwyr prentisiaethau. Cynigiodd pob arddangoswr gyngor, arweiniad a gweithgaredd atyniadol i roi blas i fyfyrwyr o'u maes gwaith. Roedd gan Sw Caer ac Eric and Friends adrannau rhyngweithiol a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr ddarganfod y posibiliadau o weithio gydag anifeiliaid a hefyd yn gyfle i fyfyrwyr archwilio gwahanol rolau sydd ar gael yn y maes gwaith hwn nad oeddent efallai wedi meddwl amdanynt o'r blaen. Mynychodd a darparodd Bakery Henllan samplau o’u cynhyrchion ynghyd â map rhyngweithiol yn dangos llwybr cynhyrchu’r becws ac enghraifft o’r dilyniant gyrfa. Cawsom entrepreneuriaid yn trafod sut y gwnaethant ddatblygu eu cwmnïau o un syniad i fod yn fenter fusnes a Bancwyr Cymunedol Natwest lleol a roddodd gipolwg ar rolau o fewn y diwydiant bancio ynghyd ag addysgu myfyrwyr ar ymwybyddiaeth o sgamiau lleol. Rhoddodd colegau a phrifysgolion lleol gyfle i fyfyrwyr drafod yr ystod eang o gyrsiau a gynigir gan gynnwys peirianneg forol, fforensig, a gwallt a harddwch. Daeth Techniquest â gwyddoniaeth i'r gymysgedd gan ganiatáu i fyfyrwyr ddarganfod pa mor hygyrch yw gwyddoniaeth a sut rydyn ni'n ei ddefnyddio ym mywyd beunyddiol. Defnyddiodd Sir Ddinbych yn Gweithio gêm sgyrsiol Jenga i ysgogi trafodaethau gyda myfyrwyr am eu gyrfaoedd a'u hannog i ystyried yr hyn y gallant ei wneud nawr i'w helpu yn eu gyrfa yn y dyfodol. Rhoddodd clustffonau rhithwir rhyngweithiol a gynigiwyd gan Gyrfa Cymru gipolwg i fyfyrwyr ar fywyd rhai gweithwyr proffesiynol gan gynnwys gofal, yr heddlu, parafeddygon a'r gwasanaeth tân. Gan dynnu ar arbenigedd y cyflogwyr / sefydliadau a'r llu o rai eraill a fynychodd y digwyddiadau, ein nod oedd helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau a chynlluniau gyrfa gwybodus.

Fe wnaeth y 611 o fyfyrwyr blwyddyn 9 o Sir Ddinbych a fynychodd y digwyddiad fwynhau'r diwrnod yn fawr, a llwyddodd y digwyddiadau i annog myfyrwyr i archwilio'r gwahanol lwybrau gyrfa oedd ar gael iddynt, gyda llawer o fyfyrwyr yn ehangu eu dyheadau ac yn ystyried gyrfaoedd nad oeddent wedi'u hystyried o'r blaen. Roedd y digwyddiadau'n caniatáu i fyfyrwyr ryngweithio, datblygu eu sgiliau cyfathrebu a meddwl am yr hyn y gallant ei wneud nawr i'w helpu yn eu dyfodol. Wrth adael y digwyddiad gwahoddwyd pob myfyriwr i roi adborth os oeddent yn credu bod y digwyddiad yn ‘ddefnyddiol iawn’, yn ‘ddefnyddiol’ neu ‘ddim yn ddefnyddiol’. Canfu 75% o fyfyrwyr fod y digwyddiad yn ‘Ddefnyddiol Iawn’, roedd 24% yn ei ystyried yn ‘ddefnyddiol’ a dim ond 1% a oedd o’r farn bod y digwyddiad ‘ddim yn ddefnyddiol’.

Yn gyffredinol, roedd yn fenter lwyddiannus iawn ac yn brofiad gwerthfawr i barhau i symud ymlaen gyda hi ac adeiladu arni i greu cyfleoedd mwy a gwell i bobl ifanc. Hoffem ddiolch i'r holl arddangoswyr a fynychodd ar y diwrnod, gan ganiatáu i bobl ifanc ein Sir gael mewnwelediad i'r gwahanol yrfaoedd a gynigir a gobeithio eu tywys i yrfa hwyliog a boddhaus yn y dyfodol. Byddwn yn cynnal grwpiau ffocws gyda chyflogwyr a myfyrwyr i adeiladu ar lwyddiant y digwyddiadau hyn a llywio ein cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Sir Ddinbych yn Gweithio yng Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio bob amser yn llwyddo i greu perthnasoedd gyda thenantiaid a lleoliadau newydd ar draws Sir Ddinbych. Ar Hydref 8 fe gawsom y cyfle i ymgysylltu gyda staff a rhieni yng Nghanolfan y Dderwen, Ffordd Las, y Rhyl am y tro cyntaf. Rhoddodd staff hyfryd y Dderwen groeso cynnes i Emma Benson ac Alex Peters a’u cefnogi drwy gydol y bore. Gosodwyd stand yn y cyntedd yn cynnwys taflenni Sir Ddinbych yn Gweithio, llyfrynnau cyflwyno, cardiau gwybodaeth, ffurflenni atgyfeirio a llyfrau nodiadau a phinnau ysgrifennu am ddim a banciau trydanu.

Roedd yna niferoedd da o rieni yn galw heibio’r ganolfan drwy gydol y bore gan eu bod yn mynd â'u plant i’r grŵp chwarae gofal plant. Fe gawsom sgwrs dda gyda nifer o’r rhieni a’u plant, ac roedd llawer yn chwilfrydig ynglŷn â’r hyn rydym yn ei gynnig. Fe ddefnyddiom hyn fel cyfle i gynnig cefnogaeth o ran cyflogadwyedd a chwrs cymorth cyntaf pediatrig i bawb oedd â diddordeb.

Yn y prynhawn fe ymunodd Tina gydag Alex yn lle Emma yn barod ar gyfer grŵp yr ‘Anturwyr Bach’. Mae’r grŵp hwn yn y neuadd fawr yn y ganolfan ac mae'r plant ifanc yn rhydd i chwarae gydag ystod eang o deganau sy’n llawn hwyl, ac maent yn cael eu cefnogi gan weithwyr ieuenctid brwdfrydig. Fe gafodd Tina ac Alex sgwrs gyda rhai o’r rhieni yno gan gynnig yr un cymorth ag oedd yn cael ei gynnig yn y sesiwn fore. Roedd yna groeso yn benodol i’r cwrs cymorth cyntaf pediatrig.

Roedd yn hyfryd i gael y cyfle i sgwrsio gyda’r gweithwyr ieuenctid mewn amgylchedd mor hamddenol. Roedd James Salisbury yn awyddus iawn i sicrhau fod cyfathrebu pellach yn digwydd gyda Sir Ddinbych yn Gweithio a chynigodd alw heibio llyfrgell Rhyl ar ryw bwynt i sgwrsio gyda gweddill tîm Sir Ddinbych yn Gweithio.

Roedd y staff yng Nghanolfan y Dderwen yn garedig iawn yn diolch am gael Sir Ddinbych yn Gweithio draw i gynnig cefnogaeth i'r rhieni yn y ganolfan. Rydym yn gobeithio y gallwn ymweld â’r ganolfan eto'n fuan!

Am sesiynau ymgysylltu yng Nghanolfan y Dderwen yn y dyfodol, cadwch lygad ar y dudalen ddigwyddiadau ar wefan y Cyngor Sir.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Hamper Nadolig ar gael

Llecynnau hardd lleol, poblogaidd i gymryd rhan mewn dathliadau cenedlaethol

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn un o 46 Ardal o’r fath yng Nghymru a Lloegr, ac mae’r ‘teulu’ o AHNE yn cynnwys y Cotswolds a’r Chilterns.

Bob blwyddyn mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ledled y DU yn trefnu digwyddiadau arbennig yn ystod wythnos Tirweddau am Oes, ond roedd eleni yn arbennig - roeddem yn dathlu 70 mlynedd ers Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Roedd y ddeddf yn gyfrifol am greu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac roedd yn rhan o ymdrechion ar gyfer setliad democrataidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a welodd y Llywodraeth yn magu synnwyr o hunaniaeth genedlaethol a diolch i ddinasyddion am eu haberth yn ystod y rhyfel. Roedd yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol a ddyrannwyd o ganlyniad i’r ddeddf yn cael eu darlunio fel sefydliadau partner i GIG a grëwyd yn 1948. Roedd rhoi mynediad i gefn gwlad i bobl ar gyfer ymarfer corff, mwynhad a buddion iechyd meddwl yn cael eu hystyried fel mesur ataliol; tra sefydlwyd GIG er mwyn helpu pobl os oeddent yn sâl.

'Gwasanaeth Iechyd Naturiol' oedd thema wythnos Tirweddau am Oes eleni. Roeddem yn annog pobl leol ac ymwelwyr i ddod draw i ddigwyddiad neu fwynhau taith gerdded neu feic yn eu AHNE lleol, a dathlu'r weledigaeth arloesol ar ôl y rhyfel a wnaeth warchod y mannau hynny a drysorir i bawb eu mwynhau.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Cadeirydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mai’r ardal a’r dirwedd hon oedd yr un mwyaf prydferth, hoffus ac arbennig yn y Deyrnas Unedig ac yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i bobl fwynhau cefn gwlad. Mae buddion iechyd a mynd allan i’r awyr agored gan fod yn egnïol yn ein cefn gwlad prydferth wedi cael ei brofi. Trefnodd AHNE gyfres o ddigwyddiadau am ddim yn ystod Wythnos Tirweddau am Oes.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Cysylltiad da a chyfleoedd i bawb – coridor gwyrdd y Rhyl a Phrestatyn

Mae yna brosiect newydd wedi cyrraedd y dref ac mae o’n glamp o un da!

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, ynghyd â phartneriaid fel Cadwch Gymru'n Daclus a Grŵp Cynefin, wedi sicrhau grant o £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gynnal prosiect trawsffiniol sy’n rhedeg ar hyd Ffos y Rhyl/Gwter Prestatyn. Bydd hwn yn cychwyn ym Mae Cinmel yng Nghonwy, yn rhedeg drwy’r Rhyl a Phrestatyn yn Sir Ddinbych ac yn gorffen yn Gronant ar ffin Sir y Fflint. Y nod yw trawsnewid y ffos/gwter yn goridor gwyrdd/glas sy’n cysylltu ein safleoedd ag ymdrechion gwyrddu a chreu a gwella cynefinoedd trefol, gyda chymorth y cymunedau lleol er budd eu hiechyd a'u lles.

Mae hwn yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n para tair blynedd dan eu cynllun grant newydd o’r enw Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru (ENRaW). Mae wedi’i seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf dybryd sy’n ein hwynebu ni heddiw. Mae’r rhain yn cynnwys argyfwng yr hinsawdd, argyfwng yr amgylchedd, tlodi, cynaliadwyedd ariannol ac eithrio cymdeithasol.

Er mai’r brif nod yw creu coridor gwyrdd di-dor, byddwn yn canolbwyntio ar wella cynefinoedd mewn sawl ardal allweddol: Trwyn Horton Bae Cinmel, ardal ffos y Rhyl gyferbyn â phwll Brickfield, Llwybr Prestatyn i Ddyserth a’r Sied, gwlyptir Prestatyn a thwyni Gronant. Ochr yn ochr â hyn, bydd rhaglen addysg amgylcheddol fydd yn cynnwys pob ysgol yn cael ei chyflwyno fesul cam ar draws yr ardal. Bydd yn cynnwys: sesiynau yn y dosbarth, ymweliadau â safleoedd, gwelliannau i diroedd ysgolion a chynnwys ysgolion yn y gwaith o wella cynefinoedd. Ymhellach, bydd y prosiect yn helpu gwella lles cymdeithasol drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli mewn gwella cynefinoedd, fydd yn cynnwys rhagnodi cymdeithasol, sesiynau ymarfer corff wedi’u haddasu ar gyfer pobl llai abl, darparu safleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden, cyfleoedd cymdeithasol a gwyrddu ardaloedd o amddifadedd trefol.

Mae hwn yn brosiect sylweddol yr ydym wir eisiau i’r gymuned ei fabwysiadu, ei berchenogi a’n helpu ni ei wireddu. Byddwn yn sefydlu cyfarfodydd cymunedol ym mhob un o ardaloedd y prosiect: Y Rhyl, Prestatyn a Gallt Melyd, er mwyn darparu llwyfan i gynrychiolwyr grwpiau lleol fod yn rhan o’r broses gynllunio o’r cychwyn hyd at ei gyflawni, er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i fodloni anghenion y gymuned yn ogystal â’r amgylchedd yn effeithiol. Os oes unrhyw un yn gwybod am unrhyw grwpiau cymunedol allai elwa o hyn, neu sydd â chysylltiad â’r ardal, neu os hoffech chi gymryd rhan yn bersonol, cysylltwch â Amy.Trower@sirddinbych.gov.uk.

Priffyrdd

Greanu drwy'r Sir

Paratoi ar gyfer argyfyngau

Mae gan y Cyngor gynlluniau mewn lle i ddelio â thywydd difrifol dros y misoedd nesaf.

Maent yn cynnwys gweithredu polisi ar gyfer graeanu ffyrdd, yn ogystal â rhagolygon tywydd pwrpasol ar gyfer Sir Ddinbych sy’n ein hysbysu ni os allwn ddisgwyl tymereddau isel.

Gallwn hefyd fonitro glawiad a derbyn diweddariadau rheolaidd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’r Swyddfa Dywydd.

Yma, mewn cyfres o fideos, mae Tim Towers o’n Tîm Priffyrdd yn egluro’r prosesau a sut ydym yn paratoi.

Adran Busnes

Cracer o ymgyrch Nadolig i siopau stryd fawr Sir Ddinbych

Mae ymgyrch wedi cael ei lansio i annog pobl yn Sir Ddinbych i siopa’n lleol y Nadolig yma gan roi hwb gwerth £2.5 miliwn i fasnachwyr stryd fawr y sir yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.

Ar gyfartaledd ym Mhrydain mae pob aelwyd yn gwario £500 ar anrhegion, addurniadau a bwyd ac mae Cyngor Sir Ddinbych am weld siopau lleol yn elwa eu siâr o weithgareddau’r Ŵyl.

Maen nhw’n gobeithio annog o leiaf traean o’r 30,000 o aelwydydd sydd yn y sir i wario hanner eu harian Nadolig gyda’u manwerthwyr lleol yn hytrach na phrynu ar-lein neu deithio i’r canolfannau siopa mawrion.

Trwy wario’u harian yn lleol bydd trigolion yn sicrhau bod eu harian yn rhoi hwb i’r economi leol – dywed arbenigwyr bod pob £1 sy’n cael ei wario yn lleol yn debygol o gael ei ail-wario 2.3 o weithiau sy’n golygu bod bron i £6 miliwn yn aros yn y sir.

Mae’r Cyngor yn annog pobl i siopa’n lleol trwy’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir Ddinbych, sy’n goruchwylio Tîm Economaidd a Datblygu Busnes y Sir: "Mae gennym ddetholiad hyfryd o siopau a busnesau annibynnol yng nghanol ein strydoedd mawr a hoffem annog mwy o bobl leol i ddewis gwario eu harian yn lleol a chyfrannu at yr economi leol.

“Mae siopau, bwytai, caffis a thafarndai lleol yn ganolbwynt i’n trefi ac yn chwarae rhan hanfodol wrth greu swyddi newydd a gwella ffyniant a dyna pam yr ydym yn annog pobl i siopa’n lleol y Nadolig yma.

“Bydd yn well i’r siopwyr hefyd gan y byddant yn prynu’n fwy lleol sy’n golygu llai o gostau teithio, profiad llawer mwy hamddenol a gallant ddod o hyd i rywbeth ychydig yn wahanol i’w roi o dan y goeden i’w hanwyliaid.

“Pe bai hanner y gwariant cyfartalog o £500 ar y Nadolig yn cael ei wario gan draean o’n haelwydydd gyda masnachwyr lleol, byddai economi'r sir yn ogystal â’n manwerthwyr yn cael hwb o £2.5 miliwn.

“Y peth arall yr hoffwn ei bwysleisio yw y dylai pobl siopa’n lleol weddill y flwyddyn hefyd. Pe bai pob oedolyn yn Sir Ddinbych yn gwario £5 yn ychwanegol yr wythnos yn lleol yn hytrach nag ar-lein neu mewn siop gadwyn yn ystod gweddill y flwyddyn, byddai hynny’n creu cyfanswm o £300,000 yn ychwanegol yr wythnos i gadwyr siopau’r sir. Ar adeg pan fo terfynau elw yn gaeth, gallai hynny wneud gwahaniaeth mawr.

“Mae’n golygu hyrwyddo’r profiadau siopa amrywiol a bywiog sydd gennym yn Sir Ddinbych a, p’un a ydych yn prynu twrci gan eich cigydd neu bâr o sanau o siop y stryd fawr, byddwch bron yn sicr o gael gwell ansawdd nag y byddech gan y siopau cadwyn mawr a byddwch yn cyfrannu at les eich tref neu bentref hefyd.

“Mae ein busnesau yn cynnig gwerth gwych am arian, amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog ac rydym am chwarae ein rhan i arddangos beth sy’n gwneud ein trefi yn arbennig.”

Yn y cyfamser, mae gan yr arbenigwraig fanwerthu Helen Hodgkinson o Ddyserth sydd wedi cydweithio’n agos â busnesau lleol, gyngor ynglŷn â sut i wneud y gorau o'r Nadolig sef y cyfnod pwysicaf o'r flwyddyn werthu.

Mae ymgyrch #CaruBusnesauLleol Cyngor Sir Ddinbych yn annog pobl i ddefnyddio eu siopau a’u gwasanaethau lleol ac i fusnesau hyrwyddo eu hunain ac i bawb ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Twitter a Facebook i rannu eu profiadau cadarnhaol o Sir Ddinbych fel lle gwych i siopa.

Mae mynd ar-lein yn hollbwysig yn ôl Helen, sy’n gyn-fanwerthwr ffasiwn a darlithydd coleg, a dywedodd: “Mae’n rhaid i chi siarad am yr hyn yr ydych yn ei gynnig a'i hyrwyddo i’r eithaf ar gyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan – yn aml mae pobl yn dewis peidio â siopa’n lleol gan nad ydynt yn gwybod beth sydd ar gael.

“Mae angen i chi wthio’ch nwyddau a manteision siopa'n lleol megis arbed amser teithio a'r ffaith bod y nwyddau yn aml yn arbenigol, gwahanol ac unigryw ac mae angen gwneud yn siŵr bod pawb yn cael gwybod hynny.

“Mae’r trefi’n cael nosweithiau siopa hwyr felly gwnewch y gorau o hynny, rhowch wybod i bobl pa noson yw hi a beth fyddwch yn ei wneud – mae’n syniad gwahodd pobl eraill fel crefftwyr ac artistiaid i arddangos yn eich siop.

“Er enghraifft mae siop Snow in Summer yn Ninbych wedi gwneud hynny'n dda iawn felly mae'n bwysig gweithio gyda phobl eraill ar eich stryd fawr a dweud wrth y byd pam y dylent siopa yn eich tref.

“Mae angen i gadwyr siopau gymryd rhan mewn digwyddiadau, ffeiriau a marchnadoedd Nadolig – mae The Little Cheesemonger yn Rhuddlan yn gwneud hynny a gall hynny ddenu pobl i’ch stryd fawr ac i’ch siop.”

Roedd Helen o Dyserth yn gweithio i Fine Fare a Holland and Barrat cyn iddi agor ei busnes dillad moesegol yn Llandudno ac mae wedi bod yn dysgu yng Ngholeg y Rhyl, gan gynnwys cyfres o gyrsiau gan yr arbenigwraig manwerthu, Mary Portas oddi ar y teledu, ar fanwerthu’n llwyddiannus.

Meddai: “Mae arlwy gwych ar gael yn Sir Ddinbych, llawer o siopau annibynnol anarferol, hynod ac arbenigol sy’n cynnig nwyddau gwych ac mae pobl eisiau prynu rhywbeth sydd ychydig yn wahanol, rhywbeth sydd â stori y tu ôl iddo, ond allwn ni ddim disgwyl iddyn nhw droi i fyny, mae’n rhaid i chi ennyn eu diddordeb.”

Fel rhan o ymgyrch #CaruBusnesauLleol y Nadolig, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dangos fideo sy’n tynnu sylw at yr hyn sydd gan y sir i’w gynnig a bydd yr ymgyrch yn annog pobl i gefnogi busnesau annibynnol lleol trwy ddefnyddio hashnod yr ymgyrch ar Twitter a Facebook i rannu eu profiadau da yn ogystal â hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau sydd wedi creu argraff arnyn nhw yn lleol.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cyngor-a-chymorth-busnes/CaruBusnesauLleol-LoveLiveLocal.aspx a gall busnesau a chwsmeriaid gymryd rhan trwy gynnwys #CaruBusnesauLleol yn eu negeseuon Twitter ac ymuno â’r grŵp #CaruBusnesauLleol ar Facebook.

Ein Tirlun Darluniaidd

Edrych yn ôl ar y flwyddyn gyntaf

Mae ein Prosiect Tirlun Darluniadwy yn brosiect partneriaeth 5 mlynedd gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n canolbwyntio ar dirlun Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.

Mae’n defnyddio’r thema teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn nodwedd o'r ardal sy’n cynnwys y Gamlas, Ffordd A5 Telford ac Afon Dyfrdwy. Mae ymwelwyr wedi’u hysbrydoli gan y dyffryn prydferth hwn ar ffurf celf a barddoniaeth ers y 18fed ganrif, ac mae’n parhau i ddenu twristiaid sy'n chwilio am yr aruchel. Mae’r dirwedd hon o dan bwysau mawr, gyda nifer uchel o ymwelwyr yn cael eu denu at yr hyn sy’n aml yn cynnwys ein safleoedd mwyaf bregus.

Mae prosiectau wedi cael eu datblygu o dan 3 thema – Gwarchod y Dirwedd Hardd, Cael Mynediad at y Dirwedd Hardd, Pobl a’r Dirwedd Hardd.

Rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn gyntaf oedd creu Llwybr Clincer, Trefor. Roedd cymuned Trefor wedi nodi’r dymuniad i greu llwybr newydd drwy Rhos y Coed i greu cyswllt o’r Ganolfan Gymunedol i lwybr llusgo’r Gamlas. Mae’r prosiect wedi darparu cyswllt uniongyrchol i’r gymuned i Safle Treftadaeth y Byd drwy hen ardal ddiwydiannol sydd bellach yn goetir. Mae’n cynnwys clogfaen clincer mawr sy’n sefyll yn y coed fel nodwedd ddramatig o’r gorffennol diwydiannol. Bydd y prosiect yn darparu dehongliad o’r dreftadaeth ddiwydiannol yn ogystal â mainc yn y gwanwyn. Mae’r llwybr wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Cymdeithas Sifil Ardal Wrecsam 2019 yn y categori ‘Gwella Tirlun neu’r Amgylchedd’ gan Gyngor Cymuned Wledig Llangollen. Mae’r prosiect wedi galluogi ymgysylltu â'r gymuned gyda phobl leol gan gynnwys Cybiau ac Afancod yn helpu i blannu coed a chasglu sbwriel yn y gymuned.

Mae Adfer y Glyn ym Mhlas Newydd yn brosiect a ddyluniwyd i ddod â’r “teimlad” darluniadwy o ddyffryn y Cyflymen, a wnaed yn adnabyddus gan Ferched Llangollen. Mae’r prosiect wedi cymryd lle’r fynedfa i’r Glyn i wneud mynediad yn haws ac yn haws archwilio ac mae 24 o goed bedw wedi eu plannu i ailgreu rhodfa bedwen gyda miloedd o fylbiau brodorol y gwanwyn.

Mae rhaglen gwaith adfer y wal gerrig yn y Glyn gyda gwirfoddolwyr yn defnyddio sgiliau gwledig traddodiadol wedi creu 36 metr o wal gyda mwy wedi’i drefnu yn ystod y gaeaf. Mae yna hefyd gynlluniau ar gyfer wal gynnal, creu platfform, teras, pafin a gwaith draenio.

‘Gwirioni yn y Glyn’ digwyddiadau ar ôl ysgol am ddim i blant a theuluoedd bob mis yn y Glyn ym Mhlas Newydd yn cynnig gweithgareddau natur awyr agored llawn hwyl.

Mae llawer o brosiectau celf wedi eu cynnal eleni i gefnogi dathlu 10 mlynedd ers arysgrif Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r prosiect wedi bod yn gweithio gyda nifer o grwpiau ar draws ardal y Prosiect yn rhoi cyfleoedd i bob oed a phob cymuned i gyfrannu at gelf i ddathlu’r tirlun darluniadwy, dysgu technegau gwahanol ac yna arddangos gwaith. Cafodd y gwaith hwn ei arddangos yng nghynhadledd Safle Treftadaeth y Byd yn Llangollen ac Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ac ar hyn o bryd mae’n cael ei arddangos yn Tŷ Pawb tan Ionawr 2020.

Mae’r prosiect yn ariannu cyfres o farciau cylchol efydd i’w gosod yn y llwybr i arwain ymwelwyr o’r maes parcio newydd ym Masn Trefor i’r dyfrbont yn atgyfnerthu’r logo Safle Treftadaeth y Byd a gynhyrchwyd.

Edrychwch allan am y marc cylchol a osodwyd ar bont Gledrid yn nodi dechrau Safle Treftadaeth Y Byd ar ochr Swydd Amwythig.

Mae’r prosiect yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â lledaeniad rhywogaeth oresgynnol nad yw’n gynhenid yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae arolwg wedi’i gynnal ac wedi helpu i fapio lledaeniad Jac y Neidiwr a Llysiau’r Dial gan ddarparu data defnyddiol i’n hysbysu am y dulliau a’r lleoliadau gorau ar gyfer ei reoli.

Mae’r Llwybr Cylchol Darluniadwy Ysbrydoledig cyntaf wedi’i ddatblygu ac mae’n dilyn llwybr o amgylch Bro Pengwern, a leolwyd yng nghanol y tirlun darluniadwy y cerddodd Merched Llangollen arno. Gwella draenio a giatiau mochyn yn lle camfeydd wedi sicrhau ei fod yn hygyrch i feiciau, bygis a chadeiriau olwyn.

Mae’r deg peth yn her Haf Dyffryn Dyfrdwy i annog ymwelwyr i ymweld â gwahanol rannau o Safle Treftadaeth y Byd a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd wedi bod yn llwyddiannus iawn gan ganiatáu i blant gael stampiau gweithgaredd ym mhob lleoliad.

Perfformiad rhyngweithiol am Thomas Telford a’i rôl yn creu Dyfrbont Pontcysyllte a chamlas i ysgolion lleol ym mis Medi fel rhan o ddiwrnod o weithgareddau ym Masn Trefor.

Mae’r prosiect wedi dechrau sesiynau allgymorth misol yn Mharc Gwledig Tŷ Mawr, Cefn Mawr a elwir yn “Tirluniau i’w Byw.” Nod sesiynau Tirluniau i’w Byw yw cael gwared ar y rhwystrau sy’n atal rhai pobl rhag cael mynediad at y tirlun hyfryd sydd ar garreg eu drws ar hyn o bryd. Hoffem gefnogi pobl sy’n cael anhawster neu sy'n ofn treulio amser yng nghefn gwald oherwydd eu hiechyd neu resymau eraill.

Cadwch olwg allan am wefan AHNE ar ei newydd wedd i gael ei lansio ym mis Chwefror 2020.

Os hoffech wybod mwy am ein Prosiect Tirlun Darluniadwy neu gyfrannu drwy wirfoddoli, gallwch gysylltu â’r tîm ar 01824 706163 neu our.picturesque.landscape@dsirddinbych.gov.uk

Addysg

Ysgol Gatholig Crist y Gair

Mae disgyblion a staff wedi mwynhau tymor cyntaf llwyddiannus yn eu hysgol newydd, Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl.  Bu i’r ysgol, a agorodd ym mis Medi, gymryd lle Ysgol Gynradd Mair ac Ysgol Gatholig Bendigaid Edward Jones, yn rhan o ddarpariaeth Esgobaeth Wrecsam ac yn cymhwyso 420 disgybl llawn amser 3-11 oed, a 500 o ddisgyblion 11-16 oed.

Dywedodd y Pennaeth, Amanda Preston “Rydym wedi cael tymor cyntaf gwych yn ein hysgol newydd. Mae’r holl blant yn yr ysgol gynradd ac uwchradd wedi setlo’n dda. Rydym wedi cael nifer o ymwelwyr i’n hysgol a llawer ohonynt yn dweud eu bod wedi cael croeso cynnes ac awyrgylch croesawgar o amgylch yr ysgol. Mae’n braf gweld y plant hŷn yn cefnogi’r rhai iau yn yr ystafell ddosbarth ac ar dripiau’r ysgol”

Mae’r disgyblion hefyd yn mwynhau’r ysgol newydd.  Dywedodd un o ddisgyblion Blwyddyn 11: “Rwyf wrth fy modd yn helpu a chefnogi’r plant iau gan rwyf yn gobeithio gallu gweithio mewn meithrinfa ar ôl gadael yr ysgol” Mae’r ysgol is yn manteisio o’r cyfleusterau newydd gwych ac mae’r disgyblion yn dweud y peth gorau am ein hysgol newydd yw cael gwersi yn yr ysgol uchaf, rwyf wedi mwynhau cael gwersi gwyddoniaeth yn y labordai gwyddoniaeth.”

Mae Ysgol Mair ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones wedi cael eu dymchwel i gyd erbyn hyn, ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y ffocws ar y gwaith tirlunio mannau chwaraeon a chwarae, ynghyd â ffurfio’r maes parcio parhaol ar Ffordd Cefndy. Bydd y cam hwn o’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn mis Ebrill 2020.

Ariennir y prosiect mewn partneriaeth gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain.

Beth sydd ymlaen

Snow White and the Seven Dwarfs

Theatr Pafiliwn Y Rhyl yn cyflwyno …...

Snow White and the Seven Dwarfs

11-31 Rhagfyr 2019

Am fwy o wybodaeth, ewch i'w gwefan.

Nodweddion

Pwyntiau Siarad

20 mlynedd yn ôl ........

RU Y2K OK?

Mae hi'n ugain mlynedd ers Y2K a'r ofnau y byddai safonau cyfrifidadurol yn cael eu effeithio gan y newid y mileniwm.  Yma mae Peter Daniels, o Gymdeithas Ddinesig Rhuthun a'r Cyffiniau, yn edrych yn ol ar foment mewn hanes.

Fel yr oedd 31 Rhagfyr 1999 yn nesáu, credwyd y byddai’r difrod posibl i’r maes blwyddyn 2 ddigid yn hytrach na 4 digid ar system gyfrifiadurol yn arwain at gyfrifiaduron yn ailosod fel 01-01-00, nid yn Ionawr 2000 ond yn Ionawr 1900.

Roedd canlyniadau difrifol bosibl i hyn. Yn hydref 1999, dechreuodd hysbysebion yn y wasg ymddangos yn ceisio annog y cyhoedd amheugar ar y pryd heb wybodaeth manwl am gyfrifiaduron Er mwyn ceisio ein perswadio, bu i Llywodraeth y DU, drwy Action 2000 wario £10miliwn. A oedd hyn i gyd yn wastraff o ran ymdrechion? Neu a oedd yn osgoi trychineb?

Mewn un ymgyrch, dywedasant “Yn y blynyddoedd diwethaf, mae creadur bach pwerus iawn wedi ymddangos, ac yn ôl adroddiadau'r wasg, mae’n gallu achosi i awyrennau ddisgyn lawr o'r awyr, ac ar yr un pryd yn creu difrod gyda'n cofnodion ariannol a chan gynnwys y ficrodon”.

Roedd Llywodraeth y DU yn disgwyl i’r holl sefydliadau cyhoeddus baratoi ar gyfer hyn. Dechreuodd y paratoadau ar gyfer y “byg mileniwm” a oedd yn cael eu galw’n “systemau cysylltiedig â microsglodyn” yn 1997. Roedd y cynghorau i gyd yn ystyried y byg fel rhywbeth difrifol. Er enghraifft, yn ystod 1999, roedd y staff yn Neuadd Y Sir yn Rhuthun yn profi dros 1,300 o gyfrifiaduron bwrdd gwaith mewn swyddfeydd ac ysgolion; 300 system cyfrifiadur; dros 2,500 o fathau eraill o gyfarpar, gan gynnwys systemau gwresogi, larymau, goleuadau traffig, lifftiau a Teledu Cylch Caeedig, a chysylltu â dros 7,000 o gyflenwyr i sicrhau y byddant yn parhau i ddarparu gwasanaethau.

Bu i’r Pennaeth Cyllid ar y pryd rybuddio'r cynghorwyr sir nad oedd datrysiad perffaith. “Byddai arnoch angen cau pob un ysgol a gwasanaethau i gyflawn i hynny", dywedodd Nigel Thomas.

Credyd: Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cyffiniau

Clwb Bowlio Dan Do y Ffrith yn dathlu 30 mlynedd

Deng mlynedd ar hugain yn ôl fe sefydlwyd Clwb Bowls Dan Do y Ffrith, gan ddarparu wyth lawnt o safon bowlio rhyngwladol yng ngogledd Cymru.

Fe lansiwyd y dathliadau gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, ynghyd â gwesteion eraill o’r gymuned leol a Chymdeithas Bowls Dan Do Cymru. Bu dros chwe deg o aelodau’r clwb a thimau o Barthau Bowls Dan Do Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cymryd rhan mewn prynhawn o fowlio.

Wrth lansio’r dathliad, dywedodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies: “Dwi’n llongyfarch Clwb Bowls Dan Do y Ffrith am gyrraedd carreg filltir a hyrwyddo a chymryd rhan ar lefel leol a chenedlaethol yng nghamp bowls dan do. Dros y blynyddoedd mae Cyngor Sir Ddinbych wedi buddsoddi yng Nghanolfan Fowls Gogledd Cymru i sicrhau ei fod ymysg y lleoliadau gorau ar gyfer y gamp yng ngogledd Cymru a’r gororau. Mae’n bleser gen i fod ein partneriaeth weithio gyda Chlwb Bowls Dan Do y Ffrith yn un o gydweithio er mwyn annog bowlwyr o bob gallu ac oedran i fwynhau’r gamp. Mae’n bleser gen i lansio bowlio heddiw a dymuno pob llwyddiant i’r clwb yn y dyfodol.”

Mae Clwb Bowlio dan Do y Ffrith wedi’i leoli yng Nghanolfan Bowlio Gogledd Cymru yn Ferguson Avenue, Prestatyn. Fe agorodd y ganolfan yn 1989 gan ddarparu 8 lawnt bowlio o safon ryngwladol, gan alluogi bowlio cynghrair a chymdeithasol gydol y flwyddyn. Mae’r clwb yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a’r Gymuned i ddarparu hyfforddiant a chymorth i fowlwyr newydd. Gan annog pobl o bob gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon, mae’r clwb yn gweithio gyda nifer o fudiadau lleol i ddarparu cymorth i bobl sydd â chyflyrau meddygol sydd wedi newid eu bywydau, ac i lawer gall bowls fod yn allweddol i’w helpu i wella. Mae nifer o’n bowlwyr cynghrair wedi cynrychioli’r clwb ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae’r lleoliad dan do o’r radd flaenaf mor boblogaidd, mae partïon bowlio yn teithio yma o Lannau Merswy, Manceinion Fwyaf ac Ardal y Crochendai.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi neu’ch sefydliad neu grŵp gymryd rhan, cysylltwch â Roger Guest, Cadeirydd Clwb Bowlio Dan Do y Ffrith, neu dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y clwb www.northwalesbowls.co.uk

Tai Sir Ddinbych

Beth yw 'Tai yn Gyntaf'

Mae ‘Tai yn Gyntaf' yn seiliedig ar adferiad er mwyn dod a digartrefedd i ben gan ganolbwyntio ar symud pobl sydd yn ddigartref yn sydyn i dai annibynnol a pharhaol ac yna’n darparu cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol fel bo angen.

Egwyddorion Tai yn Gyntaf yw:

  • Hawl Dynol yw cael cartref
  • Dylai defnyddwyr y gwasanaeth fod â dewis a rheolaeth
  • Tai ddim yn amodol ar gefnogaeth neu driniaeth
  • Dull yn seiliedig ar adfer
  • Dull o leihau niwed
  • Ymrwymiad gweithgar heb orfodaeth
  • Cynllunio yn canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Cefnogaeth hyblyg ar gael fel bo angen 

Cyfarfod rhai o'r tîm Tai yn Gyntaf newydd

Treftadaeth

Edrych 'nôl ar 2019

Mae Treftadaeth Sir Ddinbych wedi profi tymor gwych arall ar draws ein holl safleoedd eleni, a hynny o ganlyniad i ymdrechion ein gwirfoddolwyr anhygoel a’n haelodau o staff ymroddgar.

Fe dderbyniodd Carchar Rhuthun a Phlas Newydd systemau tywys sain newydd eleni gan Guide ID sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae ymwelwyr â'r ddau safle wedi canmol y system newydd ac rydym wedi gweld y niferoedd uchaf erioed ohonynt yn cael eu defnyddio'n ddyddiol. Llawer o ddiolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr dawnus am fenthyg eu lleisiau ar gyfer y daith glywedol.

Yng Ngharchar Rhuthun cafodd ymwelwyr gamu yn ôl mewn amser gyda ‘Chi yw’r Carcharor’ i weld sut brofiad oedd bod yn garcharor Fictoraidd; roedd ‘Cludwyd!’ yn eich galluogi i brofi straeon go iawn gan garcharorion a gludwyd ar draws y cefnfor i Awstralia ac roedd Llun ar Gamera yn galluogi carcharorion i gymryd eu lluniau erchyll eu hunain i’w rhoi ar boster.

Yn ystod ein digwyddiad olaf, sef Wythnos Calan Gaeaf, cafodd y Carchar ei drawsnewid yn ffau iasol llawn triciau ac arswyd ar gyfer wythnos hanner tymor. Roedd yma ddigon o weithgareddau brawychus ar gyfer y teulu cyfan ac roedd plant oedd yn gwisgo gwisg ffansi yn ennill gwobr!

Cafodd Plas Newydd dipyn o sylw eleni o ganlyniad i gyfres ‘Gentleman Jack’ y BBC, oedd yn clymu i hanes Eleanor a Sarah a’u cyfeillgarwch unigryw. Cafodd y caffi ei adnewyddu cyn y tymor, ac mae'r ymddangosiad newydd wedi bod yn boblogaidd gyda'r trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd! Daeth nifer o bobl i’r teithiau cerdded a’r digwyddiadau a gynhaliwyd ar draws y safle, ac roeddent yn rhoi profiad gwych i ymwelwyr o harddwch naturiol Plas Newydd.

Yn anffodus bu’n rhaid gohirio Diwrnod Natur Nantclwyd y Dre o ganlyniad i dywydd gwael ar y diwrnod, roedd ein digwyddiadau eraill yn fwy lwcus! Yn ein digwyddiad Drysau Agored fe fu band canoloesol rhagorol yn chwarae yn y tŷ a’r ardd, gan gyfleu ymdeimlad hanesyddol Nantclwyd y Dre. Fe gynhaliodd Cyfeillion Nantclwyd barti Diwali a fu’n hynod lwyddiannus ac a oedd yn cynnwys addurniadau a wnaed â llaw a llawer o ddathlu!

Bydd ein safleoedd Treftadaeth yn agor eto yn Ebrill 2020, mae’r amseroedd/dyddiau agor yn amrywio felly ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/ymwelydd/lleoedd-iw-hymweld/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol.aspx i gael manylion unigol. Mae Carchar Rhuthun yn gwbl hygyrch gyda lifftiau ar gyfer cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a phramiau. Mae Nantclwyd y Dre yn hygyrch i’r llawr gwaelod, gydag arddangosfeydd gweledol rhyngweithiol o’r lloriau uchaf ac mae Plas Newydd yn hygyrch i’r llawr gwaelod gyda chaffi hygyrch. Gallwch ymweld ar unrhyw rai o’r dyddiau agor a hysbysebir heb archebu, neu gallwch archebu ymlaen llaw ar gyfer taith grŵp preifat, yn y Gymraeg neu’r Saesneg, a fydd yn cael ei arwain gan un o'n tywyswyr gwych. Ffoniwch 01824 706868 i gael rhagor o fanylion. 

Nodweddion Nadolig

Y Nadolig: amser mwyaf gwastraffus y flwyddyn?

Awgrymiadau Gwych gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Cyngor ar fod yn ‘ddiogel o ran bwyd’ y Nadolig hwn, a hynny wrth leihau gwastraff ac arbed arian ac amser gwerthfawr.

Mae'r Nadolig a bwyd yn mynd law yn llaw. Rydym yn bwyta tua 10 miliwn[1] o dwrcïod bob Nadolig ac yn gwario ychydig dros £20 y pen[2] ar gyfer darparu'r cinio Nadolig hwnnw fydd gobeithio'n berffaith. Ond mae gwastraff bwyd yn rhemp. Yn ôl ymgyrch atal gwastraff bwyd Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff, rydym yn taflu dros 100,000 tunnell o ddofednod bwytadwy bob blwyddyn!

Mewn ymdrech i wneud y Nadolig hwn yn llai gwastraffus ac yn fwy arbennig – a hynny wrth gadw at arferion diogelwch bwyd hanfodol – mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ymuno â Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff i lunio awgrymiadau gwych a ryseitiau dyfeisgar fel y gall gwledd Nadolig defnyddwyr fynd ymhellach heb arwain at salwch annymunol.

“O ran diogelwch bwyd gall coginio, rhewi a dadrewi dofednod fod yn ddryslyd. Adeg y Nadolig twrci yw ein hoff fwyd o hyd, ond mae pobl yn aml yn taflu’r bwyd sydd dros ben yn hytrach na’i ddefnyddio mewn dull diogel,” eglura David Alexander, Pennaeth Polisi Hylendid Bwyd Cyffredinol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dywedodd Helen White o Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff: “Mae gennym ni i gyd lawer ar ein meddwl yn ystod tymor yr ŵyl ac fe all taflu bwyd i ffwrdd gael ei wthio gan bethau eraill i’r naill ochr! Gall y gost o roi bwyd yn y bin gynyddu’n gyflym, yn nhermau’r arian rydych yn ei wastraffu a'r niwed mae hyn yn ei gael ar yr amgylchedd. Gyda’r awgrymiadau gwych hyn ac ychydig o gynllunio medrus fe allwch osgoi taflu gwerth cannoedd o bunnoedd o fwyd da sydd heb ei fwyta – ac nid dim ond adeg y Nadolig.”

AWGRYM UN: CADWCH YN CŴL

Gwiriwch fod eich oergell wedi ei osod ar 5°C neu is a phrofwch hyn gyda thermomedr oergell. Os oes angen cymorth arnoch fe allwch ddefnyddio offer tymheredd oergell Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff . Cyn belled â bod eich bwyd o fewn y dyddiad ‘defnyddio olaf’ ac wedi ei gadw yn unol â’r cyfarwyddiadau storio, bydd yn aros yn ffres yn hirach. Storiwch gig amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta fel ffrwythau ffres a chig wedi ei goginio ar wahân bob amser i osgoi croeshalogi.

AWGRYM DAU: Deall dyddiadau

Mae’n bwysig i ddeall y gwahaniaeth rhwng y dyddiad ‘ar ei orau cyn' a’r dyddiad ‘defnyddio olaf' er mwyn aros yn ddiogel o ran bwyd a sicrhau nad ydych yn taflu bwyd da i ffwrdd yn ddiangen. Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn' yn ymwneud ag ansawdd: bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad yma, ond mae'n bosibl na fydd bellach ar ei orau. Mae’r dyddiad defnyddio olaf yn ymwneud â diogelwch: ni ddylai bwyd gael ei fwyta, ei goginio na'i rewi ar ôl y dyddiad hwn gan y gallai fod yn anniogel - hyd yn oed os yw wedi ei storio'n gywir ac yn edrych ac yn arogli'n iawn.

AWGRYM TRI: Byddwch yn barod i rewi

Mae 80% o ddefnyddwyr wedi taflu bwyd oedd yn agos i’w ddyddiad defnyddio olaf heb sylweddoli y gallant ei rewi a’i gadw. Mae’n ddiogel i rewi bwyd hyd at y dyddiad defnyddio olaf. Mae rhewi yn gweithredu fel ‘botwm oedi' a gallwch rewi bron iawn popeth, gan gynnwys cigoedd amrwd a chigoedd wedi eu coginio, ffrwythau, tatws (ar ôl eu berwi am bum munud gyntaf) a hyd yn oed wyau. Craciwch eich wyau i gynhwysydd y gallwch ei selio a rhewch nhw. Gallwch wahanu’r melynwy oddi wrth y gwynnwy gyntaf os ydych am eu defnyddio ar gyfer seigiau gwahanol. Gall bloc mawr o gaws caled gael ei gratio a’i rewi hefyd.

AWGRYM PEDWAR: Defnyddiwch eich bwyd dros ben

Mae yna ffyrdd diddiwedd o ail ddefnyddio neu ail ddyfeisio'r bwyd Nadolig sydd dros ben, o'r stilton drewllyd a'r ysgewyll i'r Gacen Nadolig a'r saws bara. Oerwch nhw, gorchuddiwch nhw a rhowch nhw yn yr oergell neu’r rhewgell o fewn awr neu ddwy. Bydd rhannu’r bwyd sydd dros ben i ddognau llai yn helpu i oeri’r bwyd yn gynt, yna gallwch rewi a dadrewi'r hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer prydau i'r dyfodol. Mae gan dwrci, conglfaen y cinio Nadolig, lawer i’w gynnig. Ond ar ôl cael brechdan dwrci am y pum canfed tro efallai y byddwch yn teimlo’n barod am newid. Os nad oes gennych lawer o syniadau sut i wneud y gorau o'r bwyd sydd dros ben, cymrwch gipolwg ar y ryseitiau blasus a dyfeisgar hyn yn ymwneud â bwyd Nadolig sydd dros ben gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff.

AWGRYM Pump: BRWYDR Y BACTERIA

Wrth i fwyd ddadrewi mae ei dymheredd craidd yn codi gan ddarparu’r amodau delfrydol i facteria dyfu - dyma pam mae'n well dadrewi bwyd yn araf a diogel, yn ddelfrydol yn yr oergell dros nos. Hefyd gallwch ddadrewi bwyd yn drylwyr yn y microdon – sicrhewch eich bod yn ail gynhesu’r bwyd hyd nes ei fod yn chwilboeth. Unwaith mae’r bwyd wedi dadrewi, mae’r botwm oedi 'i ffwrdd’ felly bydd angen i chi fwyta'r bwyd o fewn 24 awr. Cofiwch mai dim ond unwaith y dylid ail gynhesu cig sydd wedi ei goginio a'i rewi'n flaenorol. Ond fe allwch goginio cig sydd wedi ei ddadrewi yn ddiogel mewn pryd newydd a rhewi'r pryd hwnnw i'w ddefnyddio rhyw ddiwrnod arall. Er enghraifft fe allwch brynu eich twrci wedi ei rewi, ei ddadrewi, ei goginio a defnyddio’r cig sy’n weddill mewn cyri. Gall hwnnw wedyn gael ei rewi i'w fwyta a'i fwynhau ar ddiwrnod arall – gyda’r Nadolig erbyn hynny yn atgof pell!

Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen Nadolig ar-lein yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

[1] BritishTurkey.co.uk

[2] BritishTurkey.co.uk

Cadwch yn Iach, Cadwch yn Gynnes y Gaeaf Hwn

Gyda dyfodiad y gaeaf, rydym yn annog pobl i fod yn gymdogion da a chadw golwg ar yr henoed a phobl sy’n agored i niwed.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Lles ac Annibyniaeth: “Rydyn ni’n gofyn i bobl ofalu am y rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy gadw llygad arnyn nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn.

“Os oes gan bobl gymdogion, ffrindiau neu berthnasau sy'n wael, rydyn ni'n eu hannog i ymweld â nhw, gan ofalu bod ganddyn nhw bopeth maent ei angen a chynnig help gyda phethau fel siopa. Mae hi hefyd yn bwysig gweld a ydyn nhw’n bwyta’n iawn ac yn cadw eu cartref yn gynnes.

“Efallai mai chi fydd yr unig ymwelydd fydd ganddyn nhw, felly mae’n fater o fod yn glên ac ystyriol. Mae'r tywydd garw yn agosáu ac mae'n debygol o bara am ddeuddydd neu dri arall, felly rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo'n agored i niwed nac yn unig.

“Bydd dangos gofal a thrugaredd tuag at yr henoed neu bobl sy’n agored i niwed wir yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.”

“Mae’r neges hon yn ingol iawn yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig wrth i’r Nadolig agosáu, gall fod yn amser unig iawn i’r unigolion hynny sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Os ydych chi’n pryderu am unigolyn sy’n agored i niwed, ffoniwch y Tîm Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1000, neu’r Tîm Dyletswydd Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa ar 0345 0533116. 

Dyma Cynghorydd Bobby Feeley i ddweud mwy wrthym.

 

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda

Hoffwn ddymuno Nadolig llawen iawn i chi i gyd a blwyddyn newydd hapus, iach a heddychlon.  Dyma gôr staff Sir Ddinbych, Côr Sain y Sir, yn canu 'O Sanctaidd Nos'.  Mae aelodaeth y côr yn bennaf yn rhai sy'n dysgu Cymraeg.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid