llais y sir

Gyrfa Ffeiriau

Trefnodd a chynhaliodd Sir Ddinbych yn Gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru ffeiriau gyrfa Barod am Waith yng Nghanolfan Hamdden Dinbych a The Nova ym Mhrestatyn. Gwahoddwyd a chefnogwyd myfyrwyr o flwyddyn 9 yn yr Ysgolion Uwchradd lleol i fynychu'r digwyddiadau a roddodd gyfle iddynt siarad â darpar gyflogwyr, archwilio amrywiaeth o opsiynau gyrfa ac ymgysylltu â phobl sy'n gweithio mewn gwahanol ddiwydiannau i gael mewnwelediad i'r hyn mae'r rôl yn cynnwys. Cawsom 69 o gyflogwyr a darparwyr yn mynychu'r digwyddiadau gan gynnig dewis eang o sectorau i helpu i gyfoethogi'r profiad i fyfyrwyr a'u hymestyn y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol.

Roedd y ffeiriau gyrfaoedd eleni yn rhyngweithiol iawn ac roedd myfyrwyr yn gallu siarad â gwahanol gyflogwyr a darparwyr gan gynnwys colegau lleol, Prifysgolion, cyflogwyr a busnesau lleol, entrepreneuriaid, y lluoedd arfog, y GIG, gwasanaethau cyhoeddus a darparwyr prentisiaethau. Cynigiodd pob arddangoswr gyngor, arweiniad a gweithgaredd atyniadol i roi blas i fyfyrwyr o'u maes gwaith. Roedd gan Sw Caer ac Eric and Friends adrannau rhyngweithiol a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr ddarganfod y posibiliadau o weithio gydag anifeiliaid a hefyd yn gyfle i fyfyrwyr archwilio gwahanol rolau sydd ar gael yn y maes gwaith hwn nad oeddent efallai wedi meddwl amdanynt o'r blaen. Mynychodd a darparodd Bakery Henllan samplau o’u cynhyrchion ynghyd â map rhyngweithiol yn dangos llwybr cynhyrchu’r becws ac enghraifft o’r dilyniant gyrfa. Cawsom entrepreneuriaid yn trafod sut y gwnaethant ddatblygu eu cwmnïau o un syniad i fod yn fenter fusnes a Bancwyr Cymunedol Natwest lleol a roddodd gipolwg ar rolau o fewn y diwydiant bancio ynghyd ag addysgu myfyrwyr ar ymwybyddiaeth o sgamiau lleol. Rhoddodd colegau a phrifysgolion lleol gyfle i fyfyrwyr drafod yr ystod eang o gyrsiau a gynigir gan gynnwys peirianneg forol, fforensig, a gwallt a harddwch. Daeth Techniquest â gwyddoniaeth i'r gymysgedd gan ganiatáu i fyfyrwyr ddarganfod pa mor hygyrch yw gwyddoniaeth a sut rydyn ni'n ei ddefnyddio ym mywyd beunyddiol. Defnyddiodd Sir Ddinbych yn Gweithio gêm sgyrsiol Jenga i ysgogi trafodaethau gyda myfyrwyr am eu gyrfaoedd a'u hannog i ystyried yr hyn y gallant ei wneud nawr i'w helpu yn eu gyrfa yn y dyfodol. Rhoddodd clustffonau rhithwir rhyngweithiol a gynigiwyd gan Gyrfa Cymru gipolwg i fyfyrwyr ar fywyd rhai gweithwyr proffesiynol gan gynnwys gofal, yr heddlu, parafeddygon a'r gwasanaeth tân. Gan dynnu ar arbenigedd y cyflogwyr / sefydliadau a'r llu o rai eraill a fynychodd y digwyddiadau, ein nod oedd helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau a chynlluniau gyrfa gwybodus.

Fe wnaeth y 611 o fyfyrwyr blwyddyn 9 o Sir Ddinbych a fynychodd y digwyddiad fwynhau'r diwrnod yn fawr, a llwyddodd y digwyddiadau i annog myfyrwyr i archwilio'r gwahanol lwybrau gyrfa oedd ar gael iddynt, gyda llawer o fyfyrwyr yn ehangu eu dyheadau ac yn ystyried gyrfaoedd nad oeddent wedi'u hystyried o'r blaen. Roedd y digwyddiadau'n caniatáu i fyfyrwyr ryngweithio, datblygu eu sgiliau cyfathrebu a meddwl am yr hyn y gallant ei wneud nawr i'w helpu yn eu dyfodol. Wrth adael y digwyddiad gwahoddwyd pob myfyriwr i roi adborth os oeddent yn credu bod y digwyddiad yn ‘ddefnyddiol iawn’, yn ‘ddefnyddiol’ neu ‘ddim yn ddefnyddiol’. Canfu 75% o fyfyrwyr fod y digwyddiad yn ‘Ddefnyddiol Iawn’, roedd 24% yn ei ystyried yn ‘ddefnyddiol’ a dim ond 1% a oedd o’r farn bod y digwyddiad ‘ddim yn ddefnyddiol’.

Yn gyffredinol, roedd yn fenter lwyddiannus iawn ac yn brofiad gwerthfawr i barhau i symud ymlaen gyda hi ac adeiladu arni i greu cyfleoedd mwy a gwell i bobl ifanc. Hoffem ddiolch i'r holl arddangoswyr a fynychodd ar y diwrnod, gan ganiatáu i bobl ifanc ein Sir gael mewnwelediad i'r gwahanol yrfaoedd a gynigir a gobeithio eu tywys i yrfa hwyliog a boddhaus yn y dyfodol. Byddwn yn cynnal grwpiau ffocws gyda chyflogwyr a myfyrwyr i adeiladu ar lwyddiant y digwyddiadau hyn a llywio ein cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid