llais y sir

Sir Ddinbych yn Gweithio

Gadewch i ni ddweud wrthych am Julie Bradley

Mae Julie Bradley, sydd â 12 o wyrion ac wyresau, yn hen law ar ofalu am bobl.

Dechreuodd Julie ei gyrfa fel gwniadwraig hunanddysgedig, ac fe roddodd hi’r gorau i'w gwaith i fagu ei phlant cyn symud i'r Rhyl ym 1994.

Wrth i’w phlant fynd yn hŷn, penderfynodd Julie ddychwelyd i’r gwaith a dechreuodd drwy dreulio cyfnod yn gwirfoddoli yn siop YMCA’r Rhyl. Ond bu Julie’n dioddef â sawl cyflwr iechyd, gan gynnwys ffibromyalgia, problemau â’r galon a heintiau, a golygodd hyn nad oedd hi'n gallu gweithio ac felly roedd hi’n ddi-waith am 13 mlynedd.

“Roeddwn i wirioneddol eisiau gweithio,” meddai Julie, “ond roedd magu fy mhlant a’m problemau iechyd parhaus yn golygu fy mod wedi gorfod treulio llawer o amser yn ddi-waith. Pan ddechreuais i weithio, y cwbl yr oedd angen ei wneud oedd curo ar ddrws ffactri a gofyn am swyddi gwag. Erbyn imi ddychwelyd i’r gwaith, roedd popeth wedi newid a doeddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau."

Yn ystod ffair swyddi yn Neuadd y Dref y Rhyl, fe ddaeth Julie ar draws Sir Ddinbych yn Gweithio ac roedd pethau’n dechrau edrych yn well ar ôl hynny. Gweithiodd Julie gyda'r mentor Cerian Asplet - Phoenix, a dechreuodd gymryd y camau cyntaf tuag at gyflogaeth.

Gweithiodd Cerian gyda Julie i benderfynu ar y math o waith fyddai o ddiddordeb iddi, ysgrifennu CV newydd a'i helpu i ddod o hyd i swyddi. Fe wnaeth Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd helpu Julie drwy ddarparu dillad ar gyfer cyfweliadau.

Meddai Cerian: “Mae Julie wedi bod yn ddi-waith ers cryn dipyn o amser bellach, felly roedd yn bwysig ei helpu i fagu hyder a'i rhoi hi ar y trywydd cywir. Weithiau, mae ein cymorth yn golygu llawer mwy na dod o hyd i swydd, mae'n ymwneud â darparu’r cyfarpar hanfodol er mwyn i bobl allu symud ymlaen. Mae Julie’n cyflwyno ei hun yn dda mewn cyfweliadau, ond roedd arni hi angen cymorth i agor y drysau yn y lle cyntaf. Roeddem ni’n gwybod ar ôl treulio amser â Julie ei bod hi'n awyddus i gael swydd yn gofalu am bobl."

Fe ddaeth Julie o hyd i swydd wag yn Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan, yn darparu gwasanaethau manwerthu ar draws y wardiau.

Dewiswyd Julie ar gyfer y cyfweliadau, ac mae hi bellach wedi ymuno â thîm yr ysbyty, yn gwerthu lluniaeth a nwyddau eraill i gleifion. I Julie, sydd wedi astudio astudiaethau busnes yng Ngholeg y Rhyl, dyma oedd ei swydd ddelfrydol.

“Fe wnaeth fy hen nain fyw nes yr oedd hi’n 94 oed ac roeddwn i’n gwrando ar ei straeon ac yn helpu o gwmpas y tŷ. Gwelais yr hysbyseb ar gyfer y swydd yn yr ysbyty ac roeddwn i’n gwybod mai dyma’r swydd ddelfrydol i mi. Rwyf wrth fy modd yn helpu ac yn gofalu am bobl. Rwyf bellach yn fy swydd ddelfrydol ac rwy'n hyfforddi gwirfoddolwyr eraill sy'n gweithio gyda mi ar y wardiau. Mae fy oriau wedi cynyddu hefyd.

“Ni fydd fy mhroblemau iechyd yn diflannu, ond rwy’n gallu eu rheoli mewn modd sy’n gweithio imi. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb Sir Ddinbych yn Gweithio. Nid oeddwn i’n gwybod sut i chwilio am swydd na sut i wneud cais. Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi bod yn hollbwysig imi, er fy mod i bellach mewn cyflogaeth, rwy'n gwybod bod croeso imi gysylltu â nhw os oes arnaf angen unrhyw beth. Nid ydynt yn beirniadu, maent yn y cynnig cymorth, ac ni allaf ddiolch digon i Cerian am hynny” meddai Julie. 

Gyrfa Ffeiriau

Trefnodd a chynhaliodd Sir Ddinbych yn Gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru ffeiriau gyrfa Barod am Waith yng Nghanolfan Hamdden Dinbych a The Nova ym Mhrestatyn. Gwahoddwyd a chefnogwyd myfyrwyr o flwyddyn 9 yn yr Ysgolion Uwchradd lleol i fynychu'r digwyddiadau a roddodd gyfle iddynt siarad â darpar gyflogwyr, archwilio amrywiaeth o opsiynau gyrfa ac ymgysylltu â phobl sy'n gweithio mewn gwahanol ddiwydiannau i gael mewnwelediad i'r hyn mae'r rôl yn cynnwys. Cawsom 69 o gyflogwyr a darparwyr yn mynychu'r digwyddiadau gan gynnig dewis eang o sectorau i helpu i gyfoethogi'r profiad i fyfyrwyr a'u hymestyn y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol.

Roedd y ffeiriau gyrfaoedd eleni yn rhyngweithiol iawn ac roedd myfyrwyr yn gallu siarad â gwahanol gyflogwyr a darparwyr gan gynnwys colegau lleol, Prifysgolion, cyflogwyr a busnesau lleol, entrepreneuriaid, y lluoedd arfog, y GIG, gwasanaethau cyhoeddus a darparwyr prentisiaethau. Cynigiodd pob arddangoswr gyngor, arweiniad a gweithgaredd atyniadol i roi blas i fyfyrwyr o'u maes gwaith. Roedd gan Sw Caer ac Eric and Friends adrannau rhyngweithiol a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr ddarganfod y posibiliadau o weithio gydag anifeiliaid a hefyd yn gyfle i fyfyrwyr archwilio gwahanol rolau sydd ar gael yn y maes gwaith hwn nad oeddent efallai wedi meddwl amdanynt o'r blaen. Mynychodd a darparodd Bakery Henllan samplau o’u cynhyrchion ynghyd â map rhyngweithiol yn dangos llwybr cynhyrchu’r becws ac enghraifft o’r dilyniant gyrfa. Cawsom entrepreneuriaid yn trafod sut y gwnaethant ddatblygu eu cwmnïau o un syniad i fod yn fenter fusnes a Bancwyr Cymunedol Natwest lleol a roddodd gipolwg ar rolau o fewn y diwydiant bancio ynghyd ag addysgu myfyrwyr ar ymwybyddiaeth o sgamiau lleol. Rhoddodd colegau a phrifysgolion lleol gyfle i fyfyrwyr drafod yr ystod eang o gyrsiau a gynigir gan gynnwys peirianneg forol, fforensig, a gwallt a harddwch. Daeth Techniquest â gwyddoniaeth i'r gymysgedd gan ganiatáu i fyfyrwyr ddarganfod pa mor hygyrch yw gwyddoniaeth a sut rydyn ni'n ei ddefnyddio ym mywyd beunyddiol. Defnyddiodd Sir Ddinbych yn Gweithio gêm sgyrsiol Jenga i ysgogi trafodaethau gyda myfyrwyr am eu gyrfaoedd a'u hannog i ystyried yr hyn y gallant ei wneud nawr i'w helpu yn eu gyrfa yn y dyfodol. Rhoddodd clustffonau rhithwir rhyngweithiol a gynigiwyd gan Gyrfa Cymru gipolwg i fyfyrwyr ar fywyd rhai gweithwyr proffesiynol gan gynnwys gofal, yr heddlu, parafeddygon a'r gwasanaeth tân. Gan dynnu ar arbenigedd y cyflogwyr / sefydliadau a'r llu o rai eraill a fynychodd y digwyddiadau, ein nod oedd helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau a chynlluniau gyrfa gwybodus.

Fe wnaeth y 611 o fyfyrwyr blwyddyn 9 o Sir Ddinbych a fynychodd y digwyddiad fwynhau'r diwrnod yn fawr, a llwyddodd y digwyddiadau i annog myfyrwyr i archwilio'r gwahanol lwybrau gyrfa oedd ar gael iddynt, gyda llawer o fyfyrwyr yn ehangu eu dyheadau ac yn ystyried gyrfaoedd nad oeddent wedi'u hystyried o'r blaen. Roedd y digwyddiadau'n caniatáu i fyfyrwyr ryngweithio, datblygu eu sgiliau cyfathrebu a meddwl am yr hyn y gallant ei wneud nawr i'w helpu yn eu dyfodol. Wrth adael y digwyddiad gwahoddwyd pob myfyriwr i roi adborth os oeddent yn credu bod y digwyddiad yn ‘ddefnyddiol iawn’, yn ‘ddefnyddiol’ neu ‘ddim yn ddefnyddiol’. Canfu 75% o fyfyrwyr fod y digwyddiad yn ‘Ddefnyddiol Iawn’, roedd 24% yn ei ystyried yn ‘ddefnyddiol’ a dim ond 1% a oedd o’r farn bod y digwyddiad ‘ddim yn ddefnyddiol’.

Yn gyffredinol, roedd yn fenter lwyddiannus iawn ac yn brofiad gwerthfawr i barhau i symud ymlaen gyda hi ac adeiladu arni i greu cyfleoedd mwy a gwell i bobl ifanc. Hoffem ddiolch i'r holl arddangoswyr a fynychodd ar y diwrnod, gan ganiatáu i bobl ifanc ein Sir gael mewnwelediad i'r gwahanol yrfaoedd a gynigir a gobeithio eu tywys i yrfa hwyliog a boddhaus yn y dyfodol. Byddwn yn cynnal grwpiau ffocws gyda chyflogwyr a myfyrwyr i adeiladu ar lwyddiant y digwyddiadau hyn a llywio ein cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Sir Ddinbych yn Gweithio yng Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio bob amser yn llwyddo i greu perthnasoedd gyda thenantiaid a lleoliadau newydd ar draws Sir Ddinbych. Ar Hydref 8 fe gawsom y cyfle i ymgysylltu gyda staff a rhieni yng Nghanolfan y Dderwen, Ffordd Las, y Rhyl am y tro cyntaf. Rhoddodd staff hyfryd y Dderwen groeso cynnes i Emma Benson ac Alex Peters a’u cefnogi drwy gydol y bore. Gosodwyd stand yn y cyntedd yn cynnwys taflenni Sir Ddinbych yn Gweithio, llyfrynnau cyflwyno, cardiau gwybodaeth, ffurflenni atgyfeirio a llyfrau nodiadau a phinnau ysgrifennu am ddim a banciau trydanu.

Roedd yna niferoedd da o rieni yn galw heibio’r ganolfan drwy gydol y bore gan eu bod yn mynd â'u plant i’r grŵp chwarae gofal plant. Fe gawsom sgwrs dda gyda nifer o’r rhieni a’u plant, ac roedd llawer yn chwilfrydig ynglŷn â’r hyn rydym yn ei gynnig. Fe ddefnyddiom hyn fel cyfle i gynnig cefnogaeth o ran cyflogadwyedd a chwrs cymorth cyntaf pediatrig i bawb oedd â diddordeb.

Yn y prynhawn fe ymunodd Tina gydag Alex yn lle Emma yn barod ar gyfer grŵp yr ‘Anturwyr Bach’. Mae’r grŵp hwn yn y neuadd fawr yn y ganolfan ac mae'r plant ifanc yn rhydd i chwarae gydag ystod eang o deganau sy’n llawn hwyl, ac maent yn cael eu cefnogi gan weithwyr ieuenctid brwdfrydig. Fe gafodd Tina ac Alex sgwrs gyda rhai o’r rhieni yno gan gynnig yr un cymorth ag oedd yn cael ei gynnig yn y sesiwn fore. Roedd yna groeso yn benodol i’r cwrs cymorth cyntaf pediatrig.

Roedd yn hyfryd i gael y cyfle i sgwrsio gyda’r gweithwyr ieuenctid mewn amgylchedd mor hamddenol. Roedd James Salisbury yn awyddus iawn i sicrhau fod cyfathrebu pellach yn digwydd gyda Sir Ddinbych yn Gweithio a chynigodd alw heibio llyfrgell Rhyl ar ryw bwynt i sgwrsio gyda gweddill tîm Sir Ddinbych yn Gweithio.

Roedd y staff yng Nghanolfan y Dderwen yn garedig iawn yn diolch am gael Sir Ddinbych yn Gweithio draw i gynnig cefnogaeth i'r rhieni yn y ganolfan. Rydym yn gobeithio y gallwn ymweld â’r ganolfan eto'n fuan!

Am sesiynau ymgysylltu yng Nghanolfan y Dderwen yn y dyfodol, cadwch lygad ar y dudalen ddigwyddiadau ar wefan y Cyngor Sir.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid