llais y sir

Treftadaeth

Edrych 'nôl ar 2019

Mae Treftadaeth Sir Ddinbych wedi profi tymor gwych arall ar draws ein holl safleoedd eleni, a hynny o ganlyniad i ymdrechion ein gwirfoddolwyr anhygoel a’n haelodau o staff ymroddgar.

Fe dderbyniodd Carchar Rhuthun a Phlas Newydd systemau tywys sain newydd eleni gan Guide ID sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae ymwelwyr â'r ddau safle wedi canmol y system newydd ac rydym wedi gweld y niferoedd uchaf erioed ohonynt yn cael eu defnyddio'n ddyddiol. Llawer o ddiolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr dawnus am fenthyg eu lleisiau ar gyfer y daith glywedol.

Yng Ngharchar Rhuthun cafodd ymwelwyr gamu yn ôl mewn amser gyda ‘Chi yw’r Carcharor’ i weld sut brofiad oedd bod yn garcharor Fictoraidd; roedd ‘Cludwyd!’ yn eich galluogi i brofi straeon go iawn gan garcharorion a gludwyd ar draws y cefnfor i Awstralia ac roedd Llun ar Gamera yn galluogi carcharorion i gymryd eu lluniau erchyll eu hunain i’w rhoi ar boster.

Yn ystod ein digwyddiad olaf, sef Wythnos Calan Gaeaf, cafodd y Carchar ei drawsnewid yn ffau iasol llawn triciau ac arswyd ar gyfer wythnos hanner tymor. Roedd yma ddigon o weithgareddau brawychus ar gyfer y teulu cyfan ac roedd plant oedd yn gwisgo gwisg ffansi yn ennill gwobr!

Cafodd Plas Newydd dipyn o sylw eleni o ganlyniad i gyfres ‘Gentleman Jack’ y BBC, oedd yn clymu i hanes Eleanor a Sarah a’u cyfeillgarwch unigryw. Cafodd y caffi ei adnewyddu cyn y tymor, ac mae'r ymddangosiad newydd wedi bod yn boblogaidd gyda'r trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd! Daeth nifer o bobl i’r teithiau cerdded a’r digwyddiadau a gynhaliwyd ar draws y safle, ac roeddent yn rhoi profiad gwych i ymwelwyr o harddwch naturiol Plas Newydd.

Yn anffodus bu’n rhaid gohirio Diwrnod Natur Nantclwyd y Dre o ganlyniad i dywydd gwael ar y diwrnod, roedd ein digwyddiadau eraill yn fwy lwcus! Yn ein digwyddiad Drysau Agored fe fu band canoloesol rhagorol yn chwarae yn y tŷ a’r ardd, gan gyfleu ymdeimlad hanesyddol Nantclwyd y Dre. Fe gynhaliodd Cyfeillion Nantclwyd barti Diwali a fu’n hynod lwyddiannus ac a oedd yn cynnwys addurniadau a wnaed â llaw a llawer o ddathlu!

Bydd ein safleoedd Treftadaeth yn agor eto yn Ebrill 2020, mae’r amseroedd/dyddiau agor yn amrywio felly ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/ymwelydd/lleoedd-iw-hymweld/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol.aspx i gael manylion unigol. Mae Carchar Rhuthun yn gwbl hygyrch gyda lifftiau ar gyfer cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a phramiau. Mae Nantclwyd y Dre yn hygyrch i’r llawr gwaelod, gydag arddangosfeydd gweledol rhyngweithiol o’r lloriau uchaf ac mae Plas Newydd yn hygyrch i’r llawr gwaelod gyda chaffi hygyrch. Gallwch ymweld ar unrhyw rai o’r dyddiau agor a hysbysebir heb archebu, neu gallwch archebu ymlaen llaw ar gyfer taith grŵp preifat, yn y Gymraeg neu’r Saesneg, a fydd yn cael ei arwain gan un o'n tywyswyr gwych. Ffoniwch 01824 706868 i gael rhagor o fanylion. 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid