llais y sir

Cyllideb

Cyngor yn pennu ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf

Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/2021, gyda chynnydd o 4.3% yn y dreth gyngor ar gyfer trigolion y sir.

Roedd y setliad drafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fis Rhagfyr diwethaf yn dangos cynnydd o 4.3% yn y gyllideb ar gyfer Sir Ddinbych a dyma un o'r cynnydd mwyaf a welwyd ar gyfer y Cyngor ers 2007/2008. Mewn termau arian parod mae hyn yn golygu cynnydd o £6.2 miliwn.

Fodd bynnag, wrth bennu'r gyllideb, mae cynghorwyr wedi ystyried y ffaith bod £12,410,000 o bwysau ar y gyllideb sy'n wynebu'r awdurdod, gan gynnwys pwysau parhaus ar wasanaethau cymdeithasol, addysg, cludiant ysgol, gwasanaethau gwastraff a chodiadau cyflog. Byddai angen i'r setliad gan Lywodraeth Cymru fod yn gynnydd o 10% i dalu am y pwysau hyn.

Yn sgil y setliad gwell, mae'r Cyngor wedi gallu cadw'r cynnydd yn y dreth gyngor mor isel â phosibl, gyda chynnydd eleni o 4.3%. sy'n is na chynnydd y llynedd o 6.35%.

Y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21 yw £208,000,000. Mae hwn yn cynnwys £1.5 miliwn o gynnydd ar gyfer addysg a gwasanaethau plant; £2.9 miliwn ar gyfer ysgolion; £2.6 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol I oedolion; £1.4 miliwn ar gyfer gwastraff; £600,00 ar gyfer cludiant ysgol a £200,000 ar gyfer newid hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, aelod arweiniol y Cabinet dros Gyllid: "Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i bennu cyllideb fantoledig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod a rhaid i mi ganmol y cynghorwyr a'r staff sydd wedi gweithio'n ddiflino i'n cael ni i'r sefyllfa hon heddiw lle gallwn osod y gyllideb yn swyddogol. Maent wedi llunio cynigion i fantoli'r cyfrifon ac wedi craffu ar y ffigyrau a'u trafod cyn cyflwyno'r gyllideb y cytunwyd arni yn y cyngor llawn.

"Mae llawer o waith wedi mynd ymlaen yn y cefndir i ganfod ffyrdd mwy effeithlon ac effeithiol o weithio o fewn y Cyngor ac mae'r arbedion a nodwyd gennym, ynghyd â'r setliad gwell na'r disgwyl, yn golygu ein bod wedi gallu cadw lefelau'r dreth gyngor yn isel.  Mae'r cyhoedd wedi dweud wrthym nad oeddent am weld cynnydd mawr ac rydym wedi gwrando ar eu pryderon ac wedi gweithio i ddod o hyd i ffyrdd amgen o ddod o hyd i arbedion.

"Y newyddion da arall yw ein bod wedi gallu amddiffyn gwasanaethau rheng flaen hanfodol y mae pobl yn eu dymuno ac yn eu disgwyl gan y Cyngor.   Ni fydd y toriadau yr ydym yn eu dwyn ymlaen eleni yn cael fawr ddim effaith ar y cyhoedd ac mae hynny wedi bod yn rhan hanfodol o'n meddylfryd o'r dechrau. Mae gan y cyngor hanes cryf o wneud hyn ac rydym wedi ceisio arwain drwy esiampl drwy fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, lleihau ein cyllidebau a gwneud arbedion drwy beidio â disodli rhai swyddi a nodi ffyrdd gwell o weithio neu atal rhai pethau'n gyfan gwbl.

"Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru er mwyn darparu sail fwy cynaliadwy ar gyfer cyllid awdurdodau lleol yn y dyfodol".

Bydd eich biliau treth y cyngor ar gyfer y flwyddyn I ddod yn cyrraedd eich cartrefi yn ystod yr wythnosau nesaf.

I gael gwybodaeth ynghylch a ydych yn gymwys i gael gostyngiad yn eich treth gyngor, ewch i'n gwefan.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid